Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Ionawr 2015.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar ein cynigion manwl ar gyfer y gweithdrefnau cyn ymgeisio newydd sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Cynllunio (Cymru).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod y gweithdrefnau newydd yw gwneud y system rheoli datblygu (y broses ceisiadau cynllunio) yn fwy effeithiol ac effeithlon drwy roi pwyslais ar brosesau cychwynnol - sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol o unrhyw faterion arwyddocaol cyn cyflwyno cais cynllunio.
Rydym hefyd yn awyddus i gael eich barn ar sut y gall y pwerau a ddarperir yn y Bil Cynllunio (Cymru) a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 helpu i wella'r gwasanaethau a ddarperir gan ymgyngoreion statudol.
Mae'r Bil Cynllunio (Cymru) yn cyflwyno darpariaethau cyn ymgeisio newydd sy'n:
- rhoi dyletswydd ar ymgeiswyr i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio â'r gymuned ac ymgyngoreion statudol ar gyfer datblygiadau sylweddol
- ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol (ACLl) ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio i ymgeiswyr.
Mae darpariaethau eraill yn y Bil Cynllunio (Cymru) a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gosod dyletswyddau ar ymgyngoreion statudol i ddarparu ymatebion ymgynghori "o sylwedd" o fewn amserlenni penodol.
Diben y darpariaethau hyn yw rhoi pwyslais ar brosesau cychwynnol y system rheoli datblygu er mwyn rhoi cyfle i faterion arwyddocaol gael eu codi cyn i geisiadau cynllunio gael eu cyflwyno a rhoi cyfle i aelodau'r gymuned roi eu barn i ddatblygwyr ar gam cynnar yn y broses gynllunio.
