Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar Brif Weinidog y DU i ddefnyddio'r Uwchgynhadledd rhwng y DU a'r UE heddiw i bwyso am ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau.
Ar ôl i Andy Burnham ddiystyru ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, anogodd Rhun ap Iorwerth ef i sicrhau'r dyfodol gorau i Gymru drwy ailymuno â'r ddau biler allweddol ar gyfer twf economaidd.
Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd ym Mrwsel, mae'r Prif Weinidog wedi annog Prif Weinidog y DU i fynd "ymhellach ac yn gyflymach", yn dilyn "gwaddol niweidiol" Brexit i Gymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth:
"Dw i bob amser wedi derbyn bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE ddegawd yn ôl, ond wnaethon nhw ddim pleidleisio i wneud eu hunain yn dlotach, nac i gyfyngu ar eu cyfleoedd eu hunain na chyfleoedd i'w cenedl. Mae yna drwch o dystiolaeth bellach fod Brexit wedi gadael gwaddol niweidiol i Gymru.
"Roedd aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn beth da i Gymru, ac mae'n parhau i fod yn beth da i Gymru, a'r hyn sydd er budd pennaf ein cenedl fydd yn fy sbarduno bob amser. I'r gwrthwyneb, mae dod â symudiad rhydd nwyddau, gwasanaethau a phobl i ben wedi bod yn beth gwael i'n cenedl. Mae wedi arwain at brinder staff mewn sectorau allweddol fel gofal, mae wedi arwain at ostyngiad mewn allforion, ac mae wedi gosod cyfyngiadau rhwystredig ar y rhyddid i deithio.
"Fis diwethaf yn Glasgow dywedais i wrth Brif Weinidog y DU y byddwn i'n ei gefnogi i fynd ymhellach ac yn gyflymach o ran perthynas y DU ag Ewrop.
“Rwy’n croesawu’r Uwchgynhadledd heddiw ac yn annog y Prif Weinidog i fanteisio ar y cyfle i sicrhau aliniad agosach â’r UE. Byddai methu â chynnig aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau yn gyfle a gollwyd, er mwyn inni gael gwell siawns o wella ein rhagolygon economaidd a mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw."
