Mae Rhun ap Iorwerth wedi dod yn Brif Weinidog Cymru, yn dilyn seremoni tyngu llw yng Nghaerdydd y prynhawn yma.
Cafodd Mr ap Iorwerth ei enwebu yn Brif Weinidog mewn pleidlais hanesyddol yn y Senedd yn gynharach heddiw. Ar ôl y bleidlais, fe wnaeth dyngu llw o dan oruchwyliaeth yr Anrhydeddus Mrs Ustus Mary Stacey DBE mewn seremoni ffurfiol o flaen aelodau o’i deulu, gan ddod yn arweinydd Cymru yn ffurfiol.
Ef yw’r Prif Weinidog cyntaf i gynrychioli etholaeth yn y Gogledd, ar ôl cael ei ethol i gynrychioli Bangor Conwy Môn yn etholiad y Senedd ddydd Iau diwethaf.
Yn ei araith i’r Senedd yn dilyn y bleidlais, dywedodd Mr ap Iorwerth:
“Braint fy mywyd i ydy cael fy ethol yn Brif Weinidog ar y genedl sy’n golygu cymaint imi.
“Dw i’n ysu i ad-dalu yr ymddiriedaeth mae pobl Cymru wedi’i rhoi ynom ni ac i wireddu y newid y mae pobl wedi datgan mor glir y maen nhw am ei weld.”
“Mae rhywbeth newydd wedi ei danio yn enaid Cymru. Hyder newydd, gobaith newydd. Gorwel ehangach a newydd, na fydd yn cael ei gulhau byth eto.
“O’r foment hanesyddol hon ymlaen, bydd pob person ym mhob rhan o’n cenedl yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn llywodraeth iddyn nhw.
“Fy addewid i bawb yw y byddaf yn arwain heb ragfarn neu ragdybiaeth. Ni fyddaf byth yn cymryd y fraint hon yn ganiataol.”
