Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben Rhwydwaith Arweinwyr Data Cymru.

Gan gydweithio, bydd aelodau’r rhwydwaith yn:

  • rhoi cyfarwyddyd clir i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar feysydd trawsbynciol megis safonau data, rhannu data, data agored a moeseg data, gan fanteisio ar arbenigwyr lle bydd angen
  • ystyried rhwystrau presennol i ddefnyddio data’n effeithiol, argymell datrysiadau neu nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio i fynd â’r agenda data yn ei blaen
  • cytuno ar ddull gweithredu i gynyddu aeddfedrwydd data ar draws cyrff cyhoeddus yng Nghymru
  • ymgysylltu â’r gymuned data yng Nghymru, gan weithio’n agos gyda’r rhwydwaith o gymunedau ymarfer a diddordeb sy’n gysylltiedig â data
  • helpu i weithredu strategaethau perthnasol, megis cenhadaeth Data a Chydweithredu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru
  • cyfrannu at y gwaith o gynghori Gweinidogion Cymru ar ddatblygiadau rhyngwladol a datblygiadau Llywodraeth y DU
  • gweithredu fel arweinyddion a hyrwyddwyr ar gyfer data ar lefelau uwch yn eu sefydliad