Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol yn rhoi cyngor i bobl ynghylch sut i gael cyngor safonol am les cymdeithasol.

Cyflwyniad

Sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol ym mis Mawrth 2015. Mae'r Rhwydwaith yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, megis noddwyr, darparwyr cyngor, sefydliadau ymbarél, a phartneriaid eraill.

Gwaith y Rhwydwaith yw rhoi cyngor arbenigol, cymorth, a chefnogaeth i Weinidogion Cymru o ran sut i ddatblygu'r ddarpariaeth o wasanaeth gwybodaeth a chymorth ar les cymdeithasol ledled Cymru mewn ffordd strategol.

Mae'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol yn cymeradwyo'r egwyddorion canlynol ac yn annog pawb sy'n rhan o sector cyfraith lles cymdeithasol yng Nghymru i'w mabwysiadu.

Egwyddorion

1. Mae buddsoddi mewn gwasanaethau cynghori yn sicrhau gwerth da am arian, yn gwella iechyd a lles, cyflogadwyedd, ffyniant, a chadernid ariannol.

  • Golyga hyn y byddwn yn helpu darparwyr i nodi, casglu a chyhoeddi'r holl ganlyniadau cadarnhaol sy'n deillio o ymyriadau cyngor a gwybodaeth llwyddiannus gyda'u noddwyr a'u prif randdeiliaid, gan ddangos sut mae gwasanaethau yn sicrhau'r gwerth gorau i bwrs y wlad.

2. Mae Gwasanaethau Cynghori yn cefnogi'r gwaith o weithredu polisïau allweddol y llywodraeth.

  • Golyga hyn ein bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, ac ati, i dynnu sylw at rôl bwysig gwasanaethau gwybodaeth a chyngor wrth sicrhau gwelliannau cynaliadwy i les a ffyniant pobl Cymru.

3. Mae cydweithredu yn arwain at wneud y mwyaf o adnoddau prin. Byddwn yn annog y gwaith o ddatblygu rhwydweithiau cynghori ledled Cymru i gynllunio gwasanaethau lleol, rhannu arferion da, a datblygu mentrau lleol.

  • Golyga hyn y byddwn yn dysgu arferion gorau gan y Rhwydweithiau sydd wedi magu plwyf, er mwyn paratoi canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau, noddwyr, a chomisiynwyr, ar sut y gallant ddatblygu Rhwydweithiau cryf, cynaliadwy, ac effeithiol o fewn eu hardal.

4. Rhaid i gyllid ar gyfer Gwasanaethau Cynghori, o ble bynnag y daw, gael ei dargedu tuag at wasanaethau safonol, sy'n diwallu anghenion amlwg ac yn hyrwyddo gwelliant parhaus.

  • Golyga hyn ein bod yn hyrwyddo Fframwaith Sicrhau Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru drwy'r sector, gan gynnig ein cymorth a'n cefnogaeth er mwyn i'r Fframwaith fod ar gael i'r gwasanaethau amrywiol sy'n rhan o'r gwaith o roi cyngor a gwybodaeth am les cymdeithasol ledled Cymru.

5. Mae atal problemau yn well na'u datrys. Byddwn yn gweithio tuag at:

  • wella addysg gyfreithiol gyhoeddus i blant ac oedolion
  • rhoi adborth i'r rhai sy'n llunio polisïau am sut mae'r polisïau'n gweithio, a
  • sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud y tro cyntaf.
  • Golyga hyn ein bod eisiau datblygu dull mwy cynaliadwy o drechu tlodi ac allgáu cymdeithasol drwy wella sgiliau, gwybodaeth a gwydnwch pobl Cymru a thrwy sicrhau bod pob corff sy'n gwneud penderfyniadau yn dilyn prosesau tryloyw lle mae modd mesur yn wrthrychol eu cynnydd wrth iddynt wneud penderfyniadau cywir.

6. Byddwn yn creu diwylliant o welliant parhaus ar draws y sector cynghori, gan wella sut mae gwasanaethau cynghori yn cael eu llunio a'u darparu.

  • Golyga hyn y byddwn yn nodi arferion gorau o ran modelau gwasanaeth, dysgu oddi wrthynt a'u rhannu drwy'r sector, yn arbennig pan fo'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn rhan o'r gwaith o lunio'r math o wasanaethau y mae eu hangen arnynt ac y byddant yn eu defnyddio.

7. Byddwn yn datblygu casgliad cyffredin o ffyrdd i fesur canlyniadau y mae modd i ddarparwyr a noddwyr y sector cynghori eu mabwysiadu. Bydd hyn yn arbed amser ac arian o fewn y sector ac yn rhyddhau adnoddau i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau.

  • Golyga hyn y byddwn yn lleihau'r baich gweinyddol ar ddarparwyr fel bod modd canolbwyntio ar sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau rheng flaen, gan arwain at ganlyniadau sy'n dangos yn glir beth yw gwerth llawn eu hymyriadau llwyddiannus i'w noddwyr a rhanddeiliaid eraill.