Yn ystod chwe mis cyntaf Rhwydwaith Gogledd Cymru mae gwasanaethau trên a bysiau newydd wedi cael eu cyflwyno, ynghyd â gwelliannau i seilwaith gorsafoedd a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn yr arfaeth.
Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn weledigaeth hirdymor i sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn y rhanbarth, sy'n darparu gwasanaethau rheolaidd iawn.
I nodi'r chwe mis cyntaf, teithiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar drên newydd ei lapio ar y llinell a elwir bellach yn llinell Wrecsam i Lerpwl. Mae'r dyluniad yn adlewyrchu'r ardaloedd ar lwybr y trên, gyda lleoedd wedi'u cynnwys ar ôl ymgynghori â theithwyr.
Ym mis Medi cafodd gwasanaeth bws newydd ei gyflwyno rhwng y Rhyl a Wrecsam, sef y T51, sy'n darparu gwasanaeth bob awr, ac a fydd â fflyd o fysiau deulawr newydd yn y flwyddyn newydd.
Bu gwelliannau i seilwaith y gorsafoedd, fel cysgodfannau, ar hyd llinell Wrecsam i Lerpwl, a diolch i Network Rail mae'r orsaf newydd ei hailwampio yn y Fflint wedi cael ei hagor.
O ddydd Sul, gyda chyflwyno'r amserlen newydd, mae gwasanaethau trên ar linell Wrecsam i Gaer wedi dyblu, gyda dau drên bob awr, a bydd trenau ychwanegol ar linell Wrecsam i Lerpwl, gan gynnwys trên yn gynnar yn y bore o Bidston a thrên diweddarach o Wrecsam.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae'n wych cael teithio ar hyd llinell Wrecsam i Lerpwl, ac wedyn ymlaen i Gaer heddiw i weld y gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud, a beth sydd yn yr arfaeth.
"Drwy ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd rydyn ni'n gallu gweld cynnydd yn nifer y gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu darparu yn y newid i'r amserlen y mis Rhagfyr hwn, a byddwn ni'n gweld newidiadau pellach ym mis Mai gyda chynnydd o 50 y cant yn nifer y gwasanaethau ar hyd prif linell arfordir Gogledd Cymru.
"Gyda gwasanaeth bysiau newydd ar waith, a gwelliannau wedi cael eu gwneud i seilwaith y gorsafoedd, rydyn ni eisoes yn cyflawni ar gyflymder."Y flwyddyn nesaf byddwn ni hefyd yn dechrau gweld cyflwyno Talu Wrth Fynd yn y gogledd-ddwyrain, a fydd yn gwneud defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfleus byth.
"Mae rhan allweddol o Rwydwaith Gogledd Cymru yn cysylltu â rhanbarth ehangach Gogledd Orllewin Lloegr a'r tu hwnt, a heddiw byddaf hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r rhanbarth wrth inni drafod sut gallwn ni wneud cynnydd pellach er budd ein gwahanol ardaloedd.
"Gweledigaeth oedd Rhwydwaith Gogledd Cymru i ddechrau – sydd bellach yn cael ei gwireddu, gyda mwy i ddod dros y misoedd nesaf."
Dywedodd Steve Rotheram, Maer Rhanbarth Dinas Lerpwl:
“Mae cysylltiad wedi bod rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl ers amser maith – mae ein dwy ranbarth wedi rhannu cysylltiadau hanesyddol, economaidd a diwylliannol dwfn ers cenedlaethau. Rydym yn wir eneidiau hoff gytûn Celtaidd, gyda theuluoedd, busnesau a chymunedau wedi’u cydblethu ar draws y ffin, ac yn rhannu’r un cariad at gerddoriaeth, chwaraeon, a’r cynhesrwydd a’r ysbryd diamheuol hwnnw sy’n ein diffinio ni.
“Bydd y cysylltiadau trafnidiaeth yn cryfhau’r cysylltiadau hyn ymhellach fyth, gan ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl deithio, gweithio, ymweld â theulu neu fwynhau popeth sydd gan ein rhanbarthau i’w gynnig.”
