Roedd yr astudiaeth yn cynnwys asesiad o dystiolaeth, cyfweliadau ansoddol â 18 o weithwyr proffesiynol, a chyflwyniadau ysgrifenedig gan 34 o bobl LGBT ledled Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau
Yn ôl yr ymchwil, mae pobl LGBT sy’n destun cam-drin domestig, stelcian ac aflonyddu a thrais rhywiol yn gallu wynebu rhwystrau penodol rhag cael at wasanaethau.
Roedd y rhain yn cynnwys:
- “rhwystrau unigol” mewn perthynas â’u gwybodaeth a’u canfyddiadau
- “rhwystrau rhyngbersonol” mewn perthynas â phobl eraill yn eu rheoli a’u cam-drin ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth o ran rhywedd
- “rhwystrau strwythurol a diwylliannol” mewn perthynas â’r ffordd y cynlluniwyd gwasanaethau presennol o ystyried anghenion menywod heterorywiol.
Cis-rywiol: pobl nad ydynt yn drawsrywiol - mae eu cyrff, eu hunaniaeth bersonol a’r rhywedd a gawsant drwy enedigaeth yn cydweddu.
Argymhellion
- Mynediad hyblyg a chyfrinachol.
- Gwasanaethau cynhwysol i bobl LGBT.
- Staff gwybodus ac amrywiol.
- Monitro a gwerthuso.
- Ymchwil pellach.
