Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i beidio â theithio os nad yw’n hollol hanfodol i wneud hynny, gan bod disgwyl i eira trwm a lluwchfeydd gyrraedd y De a’r Canolbarth yn ystod y prynhawn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch ar gyfer ‘tywydd eithafol’.  

Y cyngor yw ei bod yn debygol iawn y gwelwn oedi hir a nifer o’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu canslo. Gallai rhai ffyrdd gau oherwydd eira mawr, allai olygu bod cerbydau a theithwyr yn methu gadael. Mae’n debygol iawn y bydd tarfu ar gyflenwadau pŵer a chyfleustodau eraill am gyfnodau maith, yn ogystal â difrod i goed ac adeileddau eraill oherwydd eira trwm neu rew.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth:

“Rwy’n bryderus o’r adroddiadau y bydd gwyntoedd cryfion iawn o’r dwyrain yn dod gyda’r eira, allai olygu lluwchio difrifol. Gallai rhai mannau weld llawer o rew hefyd oherwydd y bydd y glaw yn rhewi ac yn creu haenau o rew yn hwyrach heno, yn fwyaf tebogol o’r de.  

“Y neges gan Lywodraeth Cymru yw i gynllunio ymlaen, i gymryd gofal ac i beidio â theithio os nad oes gwirioneddol raid. Os oes rhaid i chi fynd allan – boed ar y ffordd, ar y rheilffordd, ar droed, beic neu mewn awyren – gwrandewch ar y cyngor swyddogol cyn teithio a gwneud yn siŵr bod ffrind, aelod o’r teulu neu gymydog yn gwybod ble rydych.  

“Unwaith eto, hoffwn nodi fy niolch i asiantaethau’r cefnffyrdd, staff yr awdurdodau lleol, contracwyr, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, y gwasanaethau brys, cwmnïau rheilffyrdd a nifer o bobl eraill sy’n gweithio’n ddi-flino i sicrhau ein diogelwch.”