Dylai awdurdodau lleol ddilyn y canllawiau hyn wrth weinyddu rhyddhad cyfraddau parthau buddsoddi.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae Investment Zones in Wales: technical document (dogfen Saesneg yn unig) yn nodi polisi rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer ‘safleoedd treth’ dynodedig mewn Parthau Buddsoddi. Bydd busnesau yn gymwys i gael hyd at 100% o ryddhad ardrethi Parthau Buddsoddi ar gyfer mathau penodol o eiddo a gwelliannau i eiddo o fewn y safleoedd treth hyn. Y nod yw y bydd y rhyddhad hwn yn helpu busnesau newydd a busnesau presennol pan fyddant yn ehangu i le newydd neu le nad yw’n cael ei ddefnyddio wedi i’r safle gael ei ddynodi.
Bydd y rhyddhad ar gael am hyd at bum mlynedd o’r adeg y daw’r buddiolwr yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi. Bydd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais i’r awdurdod lleol perthnasol i gael y rhyddhad hwn. Rhaid ymgeisio amdano erbyn 30 Medi 2034. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys i gael unrhyw ryddhad ardrethi Parthau Buddsoddi.
Bwriad y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol i weinyddu rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi. Nid ydynt yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud ag ardrethi annomestig.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn i: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru
Sut y bydd y rhyddhad yn cael ei roi?
Nid yw Llywodraeth Cymru yn newid y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â rhyddhadau ardrethi annomestig. Yn hytrach, bydd awdurdodau lleol yn defnyddio eu pwerau disgresiwn, o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i roi rhyddhad yn unol â’r meini prawf cymhwystra a nodir yn y canllawiau hyn.
Mater i’r awdurdodau lleol unigol a fydd yn gweinyddu rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi fydd mabwysiadu cynllun lleol a phenderfynu, ym mhob achos unigol, a ddylid rhoi rhyddhad ai peidio, yn unol â’r canllawiau hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i’r awdurdodau lleol drwy daliadau grant blynyddol ar gyfer dyraniadau cyffredinol y Parth Buddsoddi o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Bydd y Llythyr Cynnig Grant blynyddol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer costau amcangyfrifedig rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi a dyraniad gwariant hyblyg. Bydd hyn yn caniatáu i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig cyfrifol reoli taliadau’r rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi gyda’r awdurdodau lleol perthnasol, a fydd yn hawlio cost y rhyddhadau a ddyfarnwyd yn eu safleoedd treth yn ystod y flwyddyn. Os bydd y costau’n uwch na’r symiau amcangyfrifedig, yna bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y costau hyn yn cael eu cysoni yn y flwyddyn ariannol ganlynol, drwy addasu swm y grant. Os bydd y gost o ddarparu rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi yn y pen draw yn uwch na’r dyraniad trethi datganoledig cyffredinol, yna bydd yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac awdurdodau lleol ariannu’r costau ychwanegol hyn drwy eu hincwm gwariant hyblyg neu incwm ardrethi annomestig a gedwir yn ôl ar gyfer y Parthau Buddsoddi. Bydd hyn yn sicrhau bod costau trethi datganoledig ar gyfer y Parth Buddsoddi o fewn yr amlen gyllido gyffredinol a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn talu am unrhyw gostau gweinyddol a fydd yn gysylltiedig â rhoi’r rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi ar waith.
Egwyddorion cymhwystra: pa eiddo fydd yn elwa ar y rhyddhad?
Llinell amser a chymhwystra
Bydd rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi ar gael am hyd at bum mlynedd o’r adeg y daw’r buddiolwr yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi, hyd yn oed os dyfernir rhyddhad arall yn lle rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi am rywfaint neu’r cyfan o’r cyfnod hwnnw. Rhaid gwneud cais am y rhyddhad erbyn 30 Medi 2034. Ar ôl hynny, ni fydd y rhyddhad ar gael i fuddiolwyr newydd.
Dim ond ar ôl i’r safle treth perthnasol gael ei sefydlu a’i ddynodi y bydd y rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi ar gael. Y trothwy o ran cymhwystra ar gyfer rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi yw’r adeg pan fydd un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn y ddwy adran nesaf yn cael effaith.
Adeiladau newydd a meddiannaeth newydd
Mae rhyddhad llawn (100%) ar gael ar gyfer eiddo sy’n cael ei feddiannu am y tro cyntaf, o fewn yr amserlen a nodir uchod, ni waeth a yw’n cael ei feddiannu gan fusnes newydd neu fusnes presennol. Bydd busnes presennol yn gymwys os yw’n ehangu i eiddo arall. Mae hyn yn cynnwys adeiladau newydd sydd newydd eu meddiannu ac eiddo presennol sydd newydd ei feddiannu.
Meddiannaeth newydd mewn rhan o eiddo a gwelliannau i eiddo
Mae rhyddhad llawn (100%) ar gael ar gyfer yr atebolrwydd sy’n gysylltiedig â gwerth ardrethol rhan o eiddo sydd newydd gael ei hadeiladu a/neu ei meddiannu, neu’r cynnydd yng ngwerth ardrethol eiddo y gellir ei briodoli i’r gwelliannau i le sydd wedi’i feddiannu eisoes.
Mae hyn yn cynnwys:
- Pan fo meddiannydd eiddo yn creu lle newydd drwy ehangu’r eiddo (er enghraifft, drwy adeiladu estyniad).
- Pan fo meddiannydd eiddo newydd feddiannu rhan o eiddo nad oedd wedi’i meddiannu yn flaenorol (er enghraifft, drwy feddiannu ystafelloedd neu loriau nad oedd wedi’u meddiannu mewn eiddo).
- Pan fo meddiannydd eiddo yn creu lle newydd y gellir ei ddefnyddio drwy ddatblygu neu wella eiddo (er enghraifft, drwy osod mesanîn neu wneud gwelliannau o ran mynediad/mesurau rheoli tân fel bod modd defnyddio lle sy’n bodoli eisoes).
Yn gyffredinol, ni ellir hawlio rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi ar feddiannaeth newydd mewn rhan o eiddo neu welliannau i eiddo os yw’r:
- gwaith ehangu dim ond i ran o eiddo sydd eisoes yn cael ei defnyddio.
- gwelliannau ar gyfer lle a oedd, cyn dynodi’r Parth Buddsoddi, wedi’i feddiannu eisoes ac yn cael ei ddefnyddio (er enghraifft, adnewyddu neu welliannau cyffredinol, gan gynnwys gosod systemau gwresogi ac aerdymheru).
- Mae’r gwaith ehangu wedi’i ddyddio cyn dynodi’r Parth Buddsoddi.
Egwyddorion a dull gweithredu
Caiff awdurdodau lleol ddewis adolygu neu asesu dyfarniadau rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi, a gofyn am unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn rhesymol, er mwyn penderfynu a ydynt am ddyfarnu rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi. Efallai y byddant yn penderfynu peidio â dyfarnu rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi. Mae’r amgylchiadau pan allai cais am ryddhad gael ei wrthod yn cynnwys pan na all talwr ardrethi gadarnhau ei gais, neu pan nad yw’r awdurdod lleol yn gallu canfod, yn rhesymol, y cynnydd mewn gwerth ardrethol a chynnydd cyfatebol mewn atebolrwydd ardrethi annomestig.
Awdurdodau lleol sydd â’r disgresiwn terfynol o ran dyfarnu rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi. Gallant benderfynu rhoi profion ychwanegol ar waith y maent yn ystyried eu bod yn briodol i osgoi ysgogi dadleoli gweithgarwch yn ardal y Parth Buddsoddi o’r ardal gyfagos. Er enghraifft, efallai y byddant yn penderfynu lleihau dyfarniad y rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi mewn achosion pan fo meddiannaeth talwr ardrethi o le yn codi, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, oherwydd ei fod wedi gadael lle arall yn ardal y Parth Buddsoddi, neu o fewn ardal gyfagos.
Mae Investment Zones in Wales: technical document yn nodi’r amcanion cyffredinol ar gyfer Parthau Buddsoddi i gefnogi datblygiad a thwf clystyrau er mwyn cynyddu capasiti arloesi rhanbarthol, denu buddsoddiad a chefnogi twf a chyflogaeth yn y sector preifat, ac yn ei dro, hybu twf economaidd.
Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno rhoi sylw i’r amcanion a’r disgwyliadau hyn wrth ystyried ceisiadau am ryddhad ardrethi Parthau Buddsoddi.
Rhyngweithio â rhyddhadau eraill
Mae’n bosibl y bydd eiddo yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi a rhyddhad arall. Dylid cymhwyso rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi i’r atebolrwydd net sy’n weddill ar ôl rhyddhadau gorfodol (gan gynnwys unrhyw elfennau yn ôl disgresiwn sy’n cael eu hariannu gan awdurdodau lleol yn llawn neu’n rhannol) a rhyddhadau yn ôl disgresiwn eraill a ariennir gan grantiau o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Nid yw’r rhyddhadau sydd i’w cymhwyso cyn rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi yn cynnwys y rhai pan fo awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau ehangach o ran rhyddhadau yn ôl disgresiwn a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ydynt yn cael eu hariannu gan grantiau adran 31 (er enghraifft, i roi rhyddhad a ariennir yn lleol). Bydd yr awdurdod lleol yn cael ei ad-dalu am y gost o ddyfarnu rhyddhadau sy’n cael eu cymhwyso cyn rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi drwy weithdrefnau arferol, yn yr un modd â phe bai y tu allan i’r safle treth.
Pan fo eiddo wedi’i leoli o fewn y safle treth ar gyfer Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi, ac y byddai, mewn egwyddor, yn gymwys i gael y naill ryddhad neu’r llall, dylai cynllun yr awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r talwr ardrethi benderfynu pa ryddhad i’w gymhwyso. Yn ymarferol, ni fydd y talwr ardrethi yn gymwys i gael y ddau ryddhad.
Rheoli cymorthdaliadau
Mae rhyddhad ardrethi Parthau Buddsoddi yn ddarostyngedig i rwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau domestig a rhyngwladol y DU. Mae Cynllun Cymhorthdal Parthau Buddsoddi Cymru wedi’i sefydlu i gynnwys cymorthdaliadau a ddyfernir i fuddiolwyr cymwys mewn safleoedd treth dynodedig. Mae canllawiau’r cynllun ar gyfer cyrff atebol yn darparu rhagor o fanylion.
