Rhyddhad ardrethi ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11585 - Rhyddhad i oedi dechrau'r atebolrwydd am ardrethi annomestig nad oedd gweithredwyr mannau gwefru cerbydau trydan wedi'i rag-weld.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Rhyddhad ardrethi ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan
3. Y sail gyfreithiol
Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (‘y Ddeddf’) yn nodi'r sail gyfreithlon ar gyfer ardrethi annomestig. O dan adran 47 o'r Ddeddf, mae pwerau eang yn bodoli i awdurdodau lleol ddarparu rhyddhad yn ôl disgresiwn i dalwyr ardrethi, wedi'i ôl-ddyddio cyn belled â 1 Ebrill 2024. Dibynnir ar y pwerau hyn i ddechrau i alluogi darparu'r rhyddhad yn ystod blwyddyn ariannol 2026-27.
O dan baragraff 8B o Atodlen 4ZA a pharagraff 2B o Atodlen 4ZB i'r Ddeddf, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n rhoi rhyddhad llawn rhag ardrethi annomestig. Ar gyfer y blynyddoedd ariannol rhwng 2027-2028 a 2035-2036, bwriedir darparu ar gyfer y rhyddhad mewn rheoliadau.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Amcan polisi penodol y rhyddhad yw gohirio dechrau'r atebolrwydd am ardrethi annomestig nad oedd gweithredwyr mannau gwefru cerbydau trydan wedi'i rag-weld. Bwriad hyn yw cefnogi'r broses barhaus o gyflwyno'r seilwaith gwefru sydd ei angen dros y degawd nesaf ac, yn ei dro, y broses o drawsnewid i ofynion allyriadau sero ar gyfer pob car a fan newydd erbyn 2035.
5. Diben y cynllun
Mae'r newid i gerbydau trydan yn gofyn am rwydwaith gwefru cyhoeddus. Busnesau preifat yw gweithredwyr mannau gwefru cyhoeddus, sy'n dibynnu ar ddigon o bobl yn defnyddio cerbydau trydan mewn ardal, er mwyn i osod a gweithredu seilwaith gwefru fod yn werth chweil. Fodd bynnag, er mwyn rhoi'r hyder i yrwyr newid i gerbydau trydan, mae angen sefydlu'r cyflenwad o seilwaith gwefru cyn y galw, a fydd yn gwneud y cyfan yn fasnachol hyfyw i weithredwyr. Gan y bydd lleoedd parcio sy'n fannau gwefru cerbydau trydan bellach yn cael eu hasesu ar gyfer ardrethi annomestig o dan amgylchiadau penodol, bydd y rhyddhad yn gohirio dechrau'r atebolrwydd ac yn atal rhwystr ariannol posibl i'r broses barhaus o gyflwyno seilwaith gwefru ledled Cymru. Bwriad hyn yw helpu i gefnogi'r gwaith o osod mannau gwefru cerbydau trydan ar y cyflymder gofynnol ac ym mhob un o'r lleoliadau sydd eu hangen, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig lle mae'r galw yn is.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Dyma gynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei weinyddu gan yr holl awdurdodau lleol (y 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) yng Nghymru.
7. Categorïau o fentrau cymwys
Mae'r rhyddhad yn gymwys i leoedd parcio a blaengyrtiau cyhoeddus sy'n fannau gwefru cerbydau trydan. Y rheini y bwriedir iddynt elwa ar hyn yw gweithredwyr rhwydwaith hereditamentau cymwys (unedau eiddo annomestig gydag asesiadau ardrethu ar wahân).
8. Sectorau i’w cefnogi
Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
9. Hyd cyfnod y cynllun
11 Awst 2026 hyd at 31 Mawrth 2036.
Mae'r cynllun hwn wedi'i gofrestru am gyfnod o ddeng mlynedd.
10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun
£26,000,000
11. Ffurf y cymorth
Rhyddhad llawn rhag atebolrwydd am ardrethi annomestig ar gyfer lleoedd parcio a blaengyrtiau sy'n fannau gwefru cerbydau trydan.
12. Telerau ac amodau cymhwysed
Mae'r rhyddhad yn gymwys i bob hereditament sy'n cynnwys yn gyfan gwbl neu'n bennaf fan gwefru cerbydau trydan, ynghyd â lle parcio cysylltiedig, neu flaengwrt man gwefru cerbydau trydan. Mae hyn yn golygu bod lle parcio neu flaengwrt cymwys yn cael ei asesu yn hereditament annibynnol at ddibenion ardrethi annomestig. Er mwyn bod yn gymwys i gael y rhyddhad, rhaid i'r mannau gwefru fod wedi'u bwriadu i'w defnyddio'n bennaf gan aelodau o'r cyhoedd.
Nid yw eiddo sy'n cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, ond sy'n cael eu defnyddio at ddiben ehangach, yn gymwys. Mae enghreifftiau'n cynnwys maes parcio sy'n cynnwys rhai mannau gwefru cerbydau trydan o dan un asesiad neu flaengwrt cymysg sy'n darparu mannau gwefru cerbydau trydan ochr yn ochr â thanwyddau eraill (e.e. petrol a disel). Ni fyddai eiddo o'r fath yn bodloni'r meini prawf cymhwystra a ddisgrifir uchod.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Gwerth y budd yw 100% o'r atebolrwydd a fyddai wedi bod yn ddyledus yn absenoldeb y rhyddhad.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£3,600,000
Ni ddisgwylir i'r budd uchaf fod yn fwy na £1,200,000 y flwyddyn, erbyn diwedd y cynllun. Mae hyn yn gyfystyr â chyfanswm budd uchaf o £3,600,000 i fuddiolwr unigol dros gyfnod o dair blynedd. Mae hyn yn ystyried cyfrannau gyfredol o’r farchnad y gweithredwyr mannau gwefru cyhoeddus ac amcangyfrif o’r twf sydd ei angen dros gyfnod y cynllun.
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
