Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Chwefror 2024.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar gynigion i ddarparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau cymwys mewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i ddiwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Bydd y diwygiadau'n rhoi rhyddhad treth ar gyfer trafodiadau tir cymwys mewn safle treth arbennig dynoedig yng Nghymru. Bydd y rhyddhad yn gymwys am gyfnod penodol o amser a bydd yn cynnwys trafodiadau cymwys mewn:
- porthladdoedd rhydd yng Nghymru
- parthau buddsoddi