Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Robert Humphreys CBE FLSW (Cymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru) gefndir mewn addysg oedolion ac uwch arweinyddiaeth mewn addysg uwch.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion yng Nghymru a Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. Roedd yn aelod o Adolygiad Diamond o ffioedd a chyllid addysg uwch, ac roedd yn Gadeirydd yr Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Llywodraethu mewn Addysg Bellach. Rob yw Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru o’r British Council ac roedd yn aelod o Fwrdd y British Council o 2019 i 2021.

Mae wedi cynrychioli partneriaeth Cymru Fyd-eang mewn trafodaethau gyda Gweinidogion ac uwch arweinwyr Addysg Uwch yn Fietnam yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cyfrannu at brosiect Banc y Byd yn cynghori Llywodraeth Fietnam ar ddiwygio Addysg Uwch. Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ers 2018 ac wedi bod yn Gadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ers 2020 - rôl sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2024. Mae Rob yn gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn 2016 dyfarnwyd CBE iddo am ei waith ym maes addysg i oedolion a gwasanaethau i'r gymuned.

Daw’n wreiddiol o Sir Drefaldwyn, ac roedd yn labrwr di-grefft pan adawodd yr ysgol cyn dychwelyd i addysg fel myfyriwr aeddfed yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen. Mae’n byw yn Abertawe nawr.