Mae y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis Thomas, wedi cyhoeddi heddiw mai Roger Lewis fydd Llywydd newydd Amgueddfa Cymru.
Cyfarfu y Dirprwy Weinidog a‘r Llywydd newydd a Chyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa Genedlaethol, David Anderson, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cawsant gipolwg ymlaen llaw o arddangosfa David Nash wrth i'r paratoadau terfynol gael eu gwneud cyn iddi agor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn, 4 Mai 2019.
Daw y penodiad diweddaraf Mr Lewis yn dilyn gyrfa yn y maes cerddoriaeth, y cyfryngau, chwaraeon, y celfyddydau a busnes. Dros y 40 mlynedd diwethaf, roedd gan Mr Lewis swyddi gweithredol uwch yn y BBC, ITV, Classic FM, EMI, Decca a'r WRU.
Wrth drafod ei benodiad, dywedodd Mr Lewis:
"Mae hyn yn anrhydedd fawr ac rwy'n ymwybodol iawn o gyfrifoldeb mawr y swydd hon.
"Rwy'n teimlo'n gryf iawn am y lle arbennig sydd gan ein sefydliadau diwylliannol mawr ym mywydau pobl Cymru. Mae ganddynt swyddogaeth unigryw i'n hysbrydoli a'n hannog i herio ein canfyddiadau o'r byd o'n hamgylch er lles pawb. Gallant fod yn ddull o ddod â'n cymunedau at ei gilydd.
"Mae safleoedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn leoedd hudol sy'n cynnwys pob un o'r gwerthoedd hyn. Gyda'i gilydd gallant helpu i annog pawb i greu Cymru well, gan ddathlu ein gorffennol ac yn bwysicaf oll helpu i lunio ein dyfodol.
"Byddaf yn gwneud popeth y gallaf i sicrhau bod y sefydliad hynod bwysig hwn yn ffynnu i bawb yng Nghymru. Mae gennym gynulleidfa eang iawn - ond mae sicrhau rhagoriaeth yn rhywbeth y gall Amgueddfa Cymru ei sicrhau i bob cynulleidfa ar raddfa fawr."
Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Rwy’n hapus iawn gyda phenodiad Roger fel Llywydd newydd Amgueddfa Cymru, bydd ei brofiad helaeth yn werthfawr iawn er mwyn parhau gyda gwaith rhagorol y sefydliad cenedlaethol hwn, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddo yn ei swydd newydd."
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:
"Mae'n amlwg bod Roger yn rhannu ein gweledigaeth fel sefydliad. Rydym yn credu bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i weld yr etifeddiaeth ddiwylliannol a'r treftadaeth sy'n cael ei gynnig gan nifer o amgueddfeydd ledled y wlad, gan gynnwys Amgueddfa Cymru. Ein cyfrifoldeb yw dileu y rhwystrau sydd fel y gall ymwelwyr o bob cymuned a chefndir weld y diwylliant a'r treftadaeth yng Nghymru, ar y safleoedd neu ar-lein. Wedi'r cyfan, mae'r casgliadau cenedlaethol yn perthyn i bobl Cymru.
"Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda Roger a'r ymddiriedolwyr newydd i alluogi'r sefydliad i wireddu ei huchelgais. Croeso!"
Y Llywydd newydd fydd cadeirydd Amgueddfa Cymru, ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae’r Llywydd yn atebol yn bersonol i Weinidogion Cymru am y modd yr ymdrinnir â materion Amgueddfa Cymru ac am ymddygiad ei hymddiriedolwyr.
Penodwyd Pedwar ymddiriedolwr newydd - Maria Battle, Gwyneth Hayward, Robert Humphreys, Madeleine Havard a thrysorydd, Hywel John.
O dan Siarter Brenhinol 2006 yr Amgueddfa, mae gan Amgueddfa Cymru 16 o Ymddiriedolwyr. Caiff naw, gan gynnwys y Llywydd a'r Is-lywydd, eu penodi gan Weinidogion Cymru, a saith, gan gynnwys y Trysorydd, eu penodi gan yr Amgueddfa ei hun.
Mae'r rhai sydd wedi'u penodi yn ymuno ag Amgueddfa Cymru wrth iddi ddathlu y nifer fwyaf o ymweliadau erioed i'w saith o amgueddfeydd cenedlaethol. Yn 2018/19, croesawyd 1.89 miliwn, cynnydd o 6.5% o gymharu â llynedd. Mae nifer y bobl sy'n ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn dilyn yr ailddatblygu ar y safle wedi cyfrannu'n sylweddol at y cyfanswm.