Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Yn ein Strategaeth Trawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cleifion allanol yng Nghymru: strategaeth a chynllun gweithredu tair blynedd 2020 i 2023 fe wnaeth GIG Cymru a Llywodraeth Cymru gydnabod yr angen i foderneiddio gwasanaethau cleifion allanol, gan sicrhau'r gofal gorau posibl i gleifion.

  • Darparu gwasanaethau gwell a mwy effeithlon i gleifion - gyda chyngor meddygol arbenigol a mynediad at yr wybodaeth gywir.
  • Galluogi cleifion i gael eu gweld yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, a chan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol.
  • Sicrhau bod pob cyswllt yn ychwanegu gwerth a dealltwriaeth i'r claf a'r clinigwr.

Er bod rhywfaint o gynnydd da wedi'i wneud, cafodd dyfodiad pandemig y coronafeirws effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau gofal a gynlluniwyd. Gohiriwyd rhai gwasanaethau er mwyn galluogi’r GIG i ymateb i ofynion a heriau uniongyrchol y pandemig. O ganlyniad, mae rhestrau aros wedi cynyddu, ac yn ôl pob tebyg byddant yn parhau i gynyddu dros y misoedd nesaf wrth i unigolion a ohiriodd gael eu gweld pan oedd y pandemig ar ei anterth geisio sylw, diagnosis a thriniaeth. Mae hyn wedi arwain at fwy o bobl yn aros yn hirach nag erioed o'r blaen am driniaeth ac adolygiadau dilynol.

Mae ein rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2022 yn nodi nifer o flaenoriaethau clir i’w gweithredu hyd at 2026 ac mae'r strategaeth hon wedi'i datblygu i gyflawni'r blaenoriaethau hynny drwy drawsnewid gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yn unol â’r strategaeth Cymru Iachach. Mae'r strategaeth hon wedi ymrwymo i helpu pobl yng Nghymru i gael gafael ar gyngor iechyd a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt fel y nodir yn y cynllun adfer:

  • byddwn yn cynyddu capasiti’r gwasanaeth iechyd
  • byddwn yn blaenoriaethu eich diagnosis a’ch triniaeth
  • byddwn yn trawsnewid y ffordd rydym yn darparu gofal a gynlluniwyd
  • byddwn yn darparu gwell gwybodaeth a chymorth i gleifion

Mae'r strategaeth a'r cynllun gweithredu hwn yn nodi ein bwriad i adfer, ailosod a thrawsnewid gwasanaethau gofal a gynlluniwyd tra'n lleihau amrywiadau ar draws byrddau iechyd a darparu gwasanaethau cyson a theg i bawb. Fe'i datblygwyd i gefnogi timau clinigol o fewn y GIG yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau cleifion allanol cynaliadwy, modern, ymatebol a theg fel rhan o ofal a gynlluniwyd i bobl Cymru.

  • Canolbwyntio ar gael gwared â’r ôl-groniad o bobl sy’n aros am driniaeth drwy greu gweithgarwch ychwanegol.
  • Ailosod y gwasanaeth, gyda phwyslais ar fodel gwasanaeth effeithlon a gaiff ei arwain gan werth.
  • Ysgogi trawsnewid drwy wreiddio newid cynaliadwy.

Cyflwyniad a chefndir

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd cynnydd mewn amseroedd aros ac oedi wrth gael gafael ar ofal, gan ddangos yn glir pa mor anghynaliadwy a bregus yw’r model traddodiadol ar gyfer gofal a gynlluniwyd. Gwaethygwyd y sefyllfa hon gan y pandemig, gyda'r angen i atal gofal a gynlluniwyd o bryd i'w gilydd i ddefnyddio’r adnoddau i ymateb i heriau'r pandemig. Golygodd hyn fod mwy o bobl yn aros yn hirach am ofal nag erioed o'r blaen.

Mae ein rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru yn nodi'n glir ein huchelgais i wella'r ffordd y bydd gofal a gynlluniwyd yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. Bydd hyn yn gofyn am atebion newydd a'r angen i ymgorffori ffyrdd newydd o weithio, gan sicrhau bod cymorth lles i'r rhai sy'n aros, gan wreiddio cynaliadwyedd a gwytnwch yn y system.

Yn dilyn cyhoeddi'r strategaeth cleifion allanol yn 2020, dangosodd y dystiolaeth fod cynnydd yn cael ei wneud i drawsnewid cyn dyfodiad COVID-19. Drwy weithredu dulliau amgen sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn llwyddwyd i gyrraedd y targedau lleihau dilynol, gan ryddhau gallu i weld y rhai yr oedd angen eu gweld yn gynt.

Yn ystod COVID-19, dangosodd byrddau iechyd eu gallu i weithredu'r ffyrdd newydd hyn o weithio yn gyflymach. Gyda chefnogaeth dulliau gweithredu a gwefan genedlaethol, gwnaed cynnydd o ran darparu apwyntiadau ac adolygiadau rhithwir, a chefnogi modelau hunanreolaeth. Er gwaethaf hyn, mae gofal yn parhau i fod yn seiliedig i raddau helaeth ar ymweliadau ag ysbytai. Mae angen i ni gyflymu'r newid hwn i ddatblygu gofal cleifion wedi'i deilwra ar sail gwerth gyda'r nod o leihau’r tarfu ar fywydau cleifion a gofalwyr, gwella profiad y claf a sicrhau bod y rhan fwyaf o'r gofal yn cael ei ddarparu'n nes at y cartref. 

Er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan COVID-19, ar anterth y pandemig roedd hyd at 54% o apwyntiadau ac adolygiadau ysbytai yn cael eu cynnal yn rhithiol i ddarparu parhad gofal ar draws Cymru. Datblygwyd y model clinig grŵp fideo hefyd.

Nawr mae angen inni gynnal a chyflymu cyfradd y newid hwn ymhellach a datblygu mwy o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n grymuso pobl i hunanreoli eu cyflwr yn well mewn partneriaeth â gwasanaethau clinigol. Mae angen inni gyfathrebu'n well â chleifion a'r cyhoedd, gan ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth ar sail tystiolaeth i wneud dewisiadau iach o ran ffordd o fyw, atal dirywiad a bod yn fwy parod ar gyfer triniaeth ac adferiad. Ac mae angen i ni wneud hyn mewn cydweithrediad â meysydd polisi eraill i sicrhau aliniad strategol sy'n cefnogi gofal mwy integredig a di-dor.

Trwy'r strategaeth hon, a'r byrddau trawsnewid iechyd, byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i drawsnewid yn unol â'r blaenoriaethau a nodwyd gan y Gweinidog ac yn ymdrechu gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad drwy drawsnewid gwasanaethau cleifion allanol i ddarparu gwasanaethau gofal a gynlluniwyd o ansawdd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl Cymru.

Ein gweledigaeth

Galluogi pobl i gael y gofal iawn, yr wybodaeth iawn, gan y person iawn, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, fel y gallant sicrhau'r statws iechyd a lles gorau posibl a bod yn annibynnol cyhyd ag y bo modd.

Byddwn yn cefnogi hyn drwy sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyflym at gyngor, gwybodaeth a chymorth, yn datblygu systemau hunanreoli, yn cael rhith-adolygiadau a, lle bo angen, sicrhau bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol ar gael yn brydlon mor agos â phosibl at y cartref.

Ymgysylltu â chleifion – beth ddysgom ni?

Mae pobl wedi dweud wrthym beth all fynd o'i le iddyn nhw pan maen nhw’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau cleifion allanol:

  • cymryd amser hir i gael apwyntiad i weld meddyg ymgynghorol
  • ddim yn gwybod pa mor hir y bydd yn rhaid iddyn nhw aros i gael apwyntiad i weld meddyg ymgynghorol
  • dim cefnogaeth na chyngor wrth aros i gael eu gweld/trin.
  • canslo neu aildrefnu apwyntiadau - weithiau ar y funud olaf
  • yn aml yn methu parcio neu ddod o hyd i'w ffordd o amgylch yr ysbyty
  • nid yw proses y driniaeth na'r llwybr yn cael ei esbonio'n dda iawn
  • ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl o’r apwyntiad - na pham eu bod yno
  • dim arweiniad clir ar beth i'w wneud mewn argyfwng
  • gorfod ailadrodd / darparu manylion personol a chlinigol droeon
  • cyfathrebu ac esboniadau gwael
  • teimlo dan bwysau i ddweud 'na' pan gysylltir â nhw i ofyn a ydyn nhw am aros ar restr aros
  • heb sylweddoli eu bod ar restr aros
  • dryswch pan fyddant ar restrau aros a llwybrau lluosog

Y sefyllfa ar hyn o bryd. Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym.

Siart 1: Cyfeiriadau blynyddol o 2018/19 i 2022/23 Cymru gyfan.

Image
Mae'r patrwm y siart yn dangos lefelau o gyfeiriadau blynyddol eithaf tebyg i'w gilydd ond roedd y flwyddyn 2020 i 2021 y flwyddyn isaf gyda thua 200,000 o gyfeiriadau llai nag y flwyddyn nesaf neu o flaen.

Atgyfeiriadau

  • Yn 2018/19 (cyn COVID-19) cafwyd 1.35 miliwn o atgyfeiriadau o ofal sylfaenol (e.e. meddygon teulu, optometryddion) am apwyntiad claf allanol newydd. 
  • Yn 2022/23 cynyddodd nifer yr atgyfeiriadau 5% i 1.42 miliwn.
  • Cafwyd 134,150 o atgyfeiriadau i ofal arbenigol ym mis Mawrth 2023 – cyfartaledd o 4,328 am bob diwrnod gwaith. 

Dyma'r gyfradd uchaf erioed a gofnodwyd yng Nghymru.

Llwybrau agored rhwng atgyfeirio a thriniaeth

  • Ym mis Mawrth 2022, nifer y bobl yng Nghymru ar lwybr agored rhwng atgyfeirio a thriniaeth oedd 701,411.
  • Ym mis Mawrth 2023, roedd hyn wedi cynyddu 4.75% i 734,721.

Siart 2: Nifer yn aros ar lwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn yr arbenigeddau gofal a gynlluniwyd: Mawrth 2023

Image
Yn gyffredinol, mae'r siart yn dangos pattrwm lle mae'r mwyaf o bobl yn y cam cyntaf dros arbenigeddau, ac wedyn y cam pedwerydd. Mae e'n fwy agos rhwng yr ail gam a'r cam trydydd sy'n llawer llai nag y niferoedd yn y ddau gam arall.

Cleifion allanol newydd

  • Ym mis Mawrth 2022, y nifer a oedd wedi bod yn aros dros 52 wythnos am apwyntiad cyntaf yn y 7 arbenigedd clinigol gofal a gynlluniwyd oedd 76,396. 
  • Ym mis Mawrth 2023, roedd y nifer hwn wedi gostwng 40% i 45,792.
Cleifion allanol
Adran Mawrth 2022 Mawrth 2023
Offthalmoleg 16,911 14,021
Y glust, y trwyn a’r gwddf 15,481 10,145
Orthopedeg 15,802 7,130
Llawdriniaeth gyffredinol 11,441 4,271
Wroleg 8,567 5,789
Dermatoleg 5,026 4,090
Gynaecoleg 3,168 346

Annog, atal ac amser paratoi ar gyfer gofal a gynlluniwyd 

Y polisi 3A

Mae'r polisi hwn yn sicrhau bod cymorth a gwybodaeth ar gael yn rhwydd i'r rhai sy'n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau gofal arbenigol a gynlluniwyd. Rhaid i ni 'newid y naratif' i symud i ffwrdd o'r rhestr aros oddefol i aros yn rhagweithiol drwy rymuso pobl i hunanreoli eu cyflwr yn well, gwneud dewisiadau iach, atal dirywiad yn eu cyflwr a pharatoi ar gyfer canlyniadau cadarnhaol yn dilyn eu triniaeth a'u hadferiad.

Apwyntiadau dilynol

Roedd 790,628 o bobl ar restr aros am apwyntiad dilynol ym mis Mawrth 2022.

Erbyn mis Mawrth 2023, roedd y nifer hwn wedi cynyddu 14.7% i 906,669.

Siart 3: Rhestr aros ddilynol gan fwrdd iechyd

Image
Roedd y niferoedd mwyaf gyda Betsi Cadwaladr a'r niferoedd lleiaf gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Yn gyffredinol, mae'r niferoedd wedi codi yn 2023.

Mae’r cyfanswm ar y rhestr aros am apwyntiad dilynol wedi cynyddu ym mhob arbenigedd clinigol gofal a gynlluniwyd.

Siart 4: Rhestr aros ddilynol arbennigeddau clinigol gofal wedi'i gynllunio Cymru gyfan.

Image
Mae'r niferoedd pob arbenigedd wedi codi yn 2023.

Gohirio dros 100%

  • Ym mis Mawrth 2022, gohiriwyd apwyntiadau 195,986 o bobl fwy na 100% y tu hwnt i’r dyddiad targed am apwyntiad dilynol.
  • Erbyn mis Mawrth 2023, roedd y nifer hwn wedi cynyddu 25.9% i 246,662.
  • Roedd apwyntiadau dros 27% o'r bobl ar y rhestr aros ddilynol gyfan wedi’u gohirio fwy na 100% y tu hwnt i'w dyddiad targed ym mis Mawrth 2023.

Siart 5: Rhestr aros ddilynol dros 100% arbenigeddau clinigol gofal wedi'i gynllunio, Cymru gyfan.

Image
Yn gyffredinol, mae'r niferoedd pob arbenigedd wedi codi erbyn Mawrth 2023.
  • Mae atgyfeiriadau wedi gwella i lefelau cyn COVID-19, a rhagori ar y lefelau hyn. Fodd bynnag, nid yw'r gallu i gyflawni wedi gwella, gan arwain at ôl-groniadau digynsail.
  • Mae rhestrau aros yn parhau i dyfu.
  • Mae nifer y bobl sydd ar restr aros am apwyntiad dilynol yn cynyddu.

Os na fyddwn ni’n trawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, bydd yr ôl-groniad yn parhau i dyfu. Mae angen gwneud y mwyaf o ddewisiadau amgen i apwyntiadau dilynol arferol. Nid yn unig y bydd hyn yn sicrhau gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, ond bydd hefyd yn rhyddhau gallu i weld y rhai sydd angen cael eu gweld yn gynt.

Dull gweithredu newydd: beth sydd angen newid?

Mae newid yn digwydd yn GIG Cymru, ond mae angen i ni gyflawni’r newid hwn yn gyflymach er mwyn adfer a thrawsnewid. Mae angen i ni barhau i gymryd agwedd fwy cydlynol a chydweithredol i gyflawni newid cynaliadwy.

  • Ni ddylai apwyntiad cleifion allanol, gan gynnwys apwyntiad dilynol rheolaidd, fod y dewis diofyn ar gyfer darparu gofal.
  • Dylai apwyntiad cleifion allanol fod â phwrpas clir i wneud diagnosis neu i ddarparu opsiynau triniaeth ar gyfer claf.
  • Nid oes angen cyfleu gwybodaeth am ganlyniadau profion rheolaidd, adolygu llwybr neu ryddhau o lwybr mewn apwyntiad wyneb yn wyneb, nac ar sail un i un bob amser.
  • Dylai pob rhyngweithiad fod yn seiliedig ar werth.
  • Mae angen defnyddio sgiliau a gallu amlddisgyblaethol yn llawn.

Atgyfeiriadau yn y dyfodol

Mae tystiolaeth dda bod newid yn digwydd yn ein hysbytai. Mae angen i ni gynnal a chyflymu'r newid hwn.

Ni ddylai apwyntiad gael ei gynnig yn awtomatig. Gall y clinigwr:

  • roi cyngor ynghylch y cynllun triniaeth drwy'r platfform e-atgyfeirio integredig
  • anfon yn syth i gael profion er mwyn osgoi oedi ar lwybr y claf
  • anfon yn uniongyrchol i gael rhagasesiad am driniaeth
  • dyrannu i aelod o'r tîm amlddisgyblaethol er enghreifft, nyrs arbenigol, gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd
  • anfon at wasanaeth arall os yw'n briodol
  • derbyn yr atgyfeiriad a blaenoriaethu yn seiliedig ar angen clinigol

Gofal parhaus yn y dyfodol

Cyn cynnig apwyntiad dilynol, ystyriwch:

  1. A fydd yr apwyntiad yn 'ychwanegu gwerth' at ofal y claf?
  2. A oes dewis arall, gwell, yn hytrach nag apwyntiad wyneb yn wyneb?
  3. Pwy yw’r person gorau i'r claf siarad ag ef / ei weld?

Meddyliwch am:

  • rhyddhau yn ôl i’r ymarferydd gofal sylfaenol gyda chynllun rheoli
  • rhyddhau gyda’r opsiwn i gael adolygiad ar sail hunanreoli â chymorth os bydd newid yn ei symptomau (SOS, PIFU, a llwyfannau hunanreoli)
  • adolygiad wedi’i ategu gan hunanasesiad Mesur Canlyniad a Adroddir gan Glaf (PROMs)
  • adolygiadau rhithwir: cydamserol (‘attend anywhere’, ffôn) ac anghydamserol: (adolygiadau desg)
  • adolygiad tîm amlddisgyblaethol a chlinigau ar y cyd
  • cymorth gan gymeriad drwy raglenni cleifion arbenigol
  • clinigau grŵp a chlinigau grŵp fideo

Y cyd-destun polisi a’r fframwaith strategol

Mae'r diagram isod yn dangos y strategaethau a'r rhaglenni sy'n llywio, yn ategu, ac yn cyd-fynd â'r strategaeth cleifion allanol o ran newid system gyfan.

Meta-polisi: Cymru iachach

Ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru.

Pwy fydd yn cyflwyno:

  • Llywodraeth Cymru
  • Gweithrediaeth y GIG
  • GIG Cymru
  • y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal a gynlluniwyd
  • rhaglen trawsnewid gwasanaethau cleifion allanol
  • rhaglen llwybrau iechyd a gofal

Strategaethau:

  • Strategaeth 5 nod.
  • Strategaeth cleifion allanol.
  • Strategaeth diagnosteg.
  • Strategaeth ganser.

Egwyddorion sylfaenol / ffactorau dylanwadu:

  • Gofal iechyd darbodus.
  • Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
  • Gwerth mewn iechyd.
  • Gwneud i bob cyswllt gyfrif.
  • Gwasanaethau digidol ar gyfer cleifion a'r cyhoedd.
  • Nod pedwarplyg y GIG.
  • Mesurau’r Gymraeg.
  • Swyddfa Archwilio Cymru - rheoli apwyntiadau cleifion allanol dilynol ar draws Cymru (2018).
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015).
  • Adolygiad GIRFT.
  • Ymhellach, yn gyflymach.

Gyda:

  • fframwaith clinigol cenedlaethol.
  • rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol.
  • 6 nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Y strategaeth 5 nod ar gyfer gofal a gynlluniwyd

Wedi'i gyhoeddi ym mis Medi 2021, mae'r 5 nod ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn darparu gweledigaeth strategol ar gyfer dyfodol gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yng Nghymru. Ei nod yw mynd i'r afael â'r ddwy broblem gysylltiedig sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd hyn o bryd:

  1. cefnogi adferiad yn dilyn y pandemig coronafeirws
  2. datblygu gwasanaethau GIG cynaliadwy sy'n gallu ymateb i'r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y galw am wasanaethau gofal a gynlluniwyd ledled Cymru

Ynghyd â'r blaenoriaethau a nodwyd yn y fframwaith clinigol cenedlaethol, fframwaith cynllunio'r GIG a'r weledigaeth a nodir yn Cymru iachach, mae'r pum nod ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn sail i'r cynllun adfer a thrawsnewid a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ym mis Ebrill 2022 i sicrhau bod gwasanaethau cynaliadwy, darbodus a seiliedig ar werth yn cael eu datblygu a’u darparu mor agos at y cartref â phosibl.

Bydd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gweithredu dulliau newydd, arloesol ac uchelgeisiol o drawsnewid gwasanaethau.

Nod 1: atgyfeirio effeithiol

Sicrhau bod canllawiau a throthwyon atgyfeirio ar waith i sicrhau bod y rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf yn cael eu hatgyfeirio i'r lleoliad priodol.

Nod 2: cyngor ac arweiniad

Sicrhau bod arweiniad a throthwyon atgyfeirio ar waith i sicrhau y gellir atgyfeirio’r rheini sydd â’r anghenion clinigol mwyaf i ofal priodol.

Nod 3: triniaeth briodol

Mynediad at ofal priodol ar yr amser iawn, yn y lle iawn.

Nod 4: apwyntiadau dilynol darbodus

Rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i unigolion dros eu gofal.

Nod 5: mesur beth sy’n bwysig

Trawsnewid gofal i ddiwallu angen clinigol y claf yn well.

Cyflawni'r strategaeth: disgwyliadau a heriau

Nod 1: atgyfeirio effeithiol

Sicrhau bod canllawiau a throthwyon atgyfeirio ar waith i sicrhau bod y rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf yn cael eu hatgyfeirio i'r lleoliad priodol.

Galluogwyr

Y rhaglen llwybrau iechyd a gofal:

  • llwyfan llwybrau digidol 
  • canllawiau atgyfeirio
  • polisïau ymyriadau na chânt eu cynnal fel arfer / peidiwch â
  • llwybrau amgen 
  • cefnogaeth a gwybodaeth i gleifion
  • e-atgyfeirio ac e-gyngor integredig

Nod 2: cyngor ac arweiniad

Datblygu mynediad at gyngor ac arweiniad o ansawdd uchel er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer unigolion yn ogystal â chlinigwyr gofal sylfaenol ac eilaidd.

Galluogwyr

Y rhaglen llwybrau iechyd a gofal:

  • cyngor ac arweiniad o bell
  • e-atgyfeirio ac e-gyngor integredig 
  • brysbennu o bell
  • yn syth i brawf
  • cyngor, arweiniad a chymorth i rymuso cleifion i reoli eu cyflwr eu hunain yn well a pharatoi ar gyfer triniaeth ac adferiad

Nod 3: triniaeth briodol

Mynediad at y gofal priodol ar yr adeg iawn yn y lle iawn.

Galluogwyr

  • deallusrwydd artiffisial (AI)
  • canolfannau diagnostig a thriniaeth
  • canolfannau arbenigol rhanbarthol ac atebion rhanbarthol eraill
  • defnydd effeithlon o adnoddau
  • cefnogaeth i gleifion a chyfathrebu
  • gwasanaethau 3A

Nod 4: apwyntiadau dilynol darbodus

Rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i unigolion dros eu gofal.

Galluogwyr

  • rhyddhau’n ddiofyn
  • sylw yn ôl symptomau ac apwyntiad dilynol ar gais y claf – gan gynnwys dulliau digidol
  • llwybrau hunanreoli â chymorth – gan gynnwys dulliau digidol
  • adolygiadau rhithwir – cydamserol ac anghydamserol
  • mesurau canlyniadau a adroddir gan glaf 
  • canllawiau ar gyfer gofal dilynol

Nod 5: mesur beth sy’n bwysig

Trawsnewid gofal er mwyn diwallu anghenion clinigol y claf yn well.

Galluogwyr

  • Setiau data cleifion allanol wedi'u moderneiddio.
  • Cynllunio’r galw a’r capasiti yn effeithiol.
  • Dilysu.
  • Dangosfyrddau lleol a chenedlaethol.
  • Dull newydd o atgyfeirio i gael triniaeth gan ymgorffori ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.
  • Mewnosod mesurau canlyniadau a adroddir gan glaf a mesurau profiad a adroddir gan glaf yn y llwybrau.

Heriau

Cleifion a'r cyhoedd

  • Iechyd y boblogaeth.
  • Natur wledig / daearyddiaeth / ffiniau.
  • Ddim yn mynd i apwyntiadau - ddim yn gweld gwerth mynd i apwyntiadau.
  • Ddim yn deall sut mae'r system iechyd yn gweithio.
  • Oedi wrth dderbyn gofal a'r risg sy’n gysylltiedig â datgyflyru, niwed clinigol ac effaith ar les ac anghenion ehangach.
  • Teimlo nad ydynt yn cael cefnogaeth ar eu taith gofal iechyd.
  • Ddim yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch eu gofal eu hunain a chynllunio’r system.

Pwysau ar y system

  • Cyfyngiadau amgylcheddol ac ystadau.
  • Prosesau archebu.
  • Blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.
  • Aneffeithlonrwydd y system bresennol – yr ysbyty’n canslo a chleifion ddim yn dod i apwyntiadau.
  • Ansawdd y data.
  • Angen cyflymu'r newid.

Y gweithlu

  • Arweinwyr i ysgogi newid.
  • Ymgysylltiad clinigol i weithio'n wahanol.
  • Graddfa trawsnewid system gyfan.
  • Amser i ymroi i wneud newidiadau.
  • Heriau recriwtio a chadw.
  • Cynllunio swyddi yn anhyblyg.

Y galw am wasanaethau

  • Anghydbwysedd yn y galw / capasiti.
  • Mwy o oedi wrth ddarparu gofal.
  • Darparu gwasanaethau/gweithgarwch.
  • Ôl-groniadau COVID-19.
  • Mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio.
  • Mwy o oedi mewn gofal.
  • Cynyddu dibyniaeth ar gynlluniau’n ymwneud â’r rhestr aros a sesiynau ychwanegol.

Yr hyn rydym am ei gyflawni

Gofal iechyd darbodus

  • Mae pobl yn cael eu gweld yn y lle iawn, gan y person iawn ar yr adeg iawn.
  • Dim ond y rhai sydd angen gofal arbenigol sy'n cael eu gweld mewn gofal eilaidd.

Gofal a chydgynhyrchu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

  • Mae gofal a thriniaeth yn cael ei gynllunio yn seiliedig ar anghenion unigol.
  • Trin pobl yn gyfannol, gan gefnogi eu hiechyd a’u lles ar bob cam o'u llwybr gofal, gan gynnwys dewisiadau iachach o ran ffordd o fyw, cymorth wrth aros am apwyntiad a pharatoi ar gyfer triniaeth ac adferiad.
  • Mae gan bobl y grym i reoli eu taith iechyd a gwneud penderfyniadau am eu triniaeth a'u hanghenion parhaus.
  • Darparu gofal integredig.

Gwerth mewn iechyd

  • Mesur gwerth am arian a buddion buddsoddiad cymdeithasol.
  • Mae pob gofal yn seiliedig ar werth mewn egwyddorion iechyd.
  • Datblygu systemau sy'n galluogi cynllunio darparu gwasanaethau’n effeithiol, gan gynnwys galw a chapasiti.
  • Mesur effaith gwasanaethau ar iechyd a lles pobl.
  • Lleihau amrywiadau diangen.

Unwaith i Gymru

  • Datblygu modelau ac adnoddau cenedlaethol safonol y gellir eu lleoleiddio a'u mabwysiadu ledled Cymru.
  • Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd gwasgaru a graddfa.
  • Creu diwylliant o arloesi a mabwysiadu arferion gorau.

Gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth a’r 'gorau yn y dosbarth’

  • Mae gan bobl fynediad at ofal, sy'n seiliedig ar y dystiolaeth glinigol orau, yn seiliedig ar werth, ac ar gael i bawb ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
  • Cymharu gwasanaethau yng Nghymru â darparwyr o'r radd flaenaf ledled y byd i ddysgu beth allwn ni ei wneud yn well.
  • Adolygiadau GIRFT.

Digideiddio

  • Datblygu systemau mewn partneriaeth â chleifion i ddarparu mynediad at wybodaeth am eu llwybr gofal, adnoddau addysg, cymhorthion gwneud penderfyniadau, a llwyfannau sy'n wynebu cleifion.
  • Gweithio ar y cyd â meysydd polisi eraill wrth ddatblygu rhaglenni digidol.

Nod 1: atgyfeiriad effeithiol

Canlyniad: rhaglen llwybrau iechyd a gofal

Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn cyflawni'r canlyniadau a nodwyd yn y rhaglen llwybrau iechyd a gofal gan gynnwys:

  • llwybrau digidol
  • cyngor ac arweiniad o bell
  • e-gyngor ac e-atgyfeirio integredig

Cynnydd

  • Rhaglen wedi'i hariannu gan y Gronfa Adfer Gofal a Gynlluniwyd. Gwnaed ymrwymiad ar gyfer 2023 i 2026.
  • Tîm rhaglen wedi’i sefydlu.
  • Mae trefniadau'r Grŵp Gweithredu Llwybrau Cenedlaethol (NPIG) bellach ar waith, gyda chymorth tîm rhaglen Gweithrediaeth y GIG, tîm pathways alliance ac arweinwyr rhaglen o bob bwrdd iechyd.
  • Sefydlwyd grŵp gweithredol llwybrau iechyd a gofal Cymru i sicrhau cysondeb â chynlluniau byrddau iechyd.

Camau i’w cymryd

Memorandwm cyd-ddealltwriaeth i'w gwblhau gan dîm masnachol NWSSP i’w gymeradwyo gan y bwrdd iechyd.

Canlyniad: llwybrau digidol

  • Platfform wedi’i gaffael – pathways alliance.
  • Hyfforddiant pathways alliance wedi dechrau ar gyfer byrddau iechyd.
  • Golygyddion clinigol byrddau iechyd yn cael eu recriwtio.

Cynnydd

  • Y byrddau iechyd unigol i weithredu’r rhaglen yn dilyn hyn.
  • Rhaglen hyfforddi ar gyfer golygyddion clinigol.
  • Datblygu llwyfan.
  • Cadarnhau'r 21 llwybr datblygu cychwynnol.
  • Datblygu llwybrau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.
  • Lleoleiddio llwybrau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.

Cyflawni

2023 i 2026.

Nod 2: cyngor ac arweiniad

Canlyniad: rhaglen llwybrau iechyd a gofal

Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn cyflawni'r canlyniadau a nodwyd yn y rhaglen llwybrau iechyd a gofal gan gynnwys:

  • cyngor ac arweiniad o bell
  • e-gyngor ac e-atgyfeirio integredig

Cynnydd: cyngor ac arweiniad o bell

Cyngor ac arweiniad o bell

  • Caffael Consultant Connect i ddarparu.
  • Trefniadau'r grŵp cyngor ac arweiniad cenedlaethol o bell.
  • Cynhyrchwyd 'dadansoddiad o’r bylchau' mewn is-arbenigeddau yn ôl byrddau iechyd unigol i gefnogi cyflwyno.

Camau i’w cymryd

  • Pob bwrdd iechyd a Consultant Connect i gyflawni’r cynlyniadau allweddol fel y nodir yn y ddogfen cychwyn prosiectau.
  • Ffurfioli trefniadau adrodd yn unol â’r dangosyddion perfformiad allweddol a nodwyd.

Cyflawni

2023 i 2026.

Cynnydd: e-gyngor ac e-atgyfeirio integredig

  • Wedi'i weithredu mewn 6 bwrdd iechyd.
  • Mae peilot yn dangos bod 15% o’r gweithgarwch yn gyngor yn unig.

Camau i’w cymryd

  • Cwblhau'r gwaith cyflwyno ym mhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth.
  • Ffurfioli trefniadau adrodd yn unol â’r dangosyddion perfformiad allweddol a nodwyd.

Erbyn

Mawrth 2024.

Canlyniad: y polisi 3A

Datblygu a gweithredu'r polisi 3A a'r adnodd hunanasesu ar gyfer gwasanaethau i gefnogi pobl i wneud y mwyaf o’u hiechyd a’u lles:

  • annog ffyrdd iach o fyw a gwell ymddygiadau iechyd
  • atal datgyflyru a dirywiad iechyd
  • amser paratoi ar gyfer triniaeth, adferiad ac iechyd da parhaus

Cam 1: y rhai sydd eisoes ar restr/llwybr aros a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Cam 2: pobl newydd sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Cynnydd

  • Grŵp llywio a grŵp datblygu ar waith i arwain ar y gwaith hwn.
  • Y polisi 3A ac adnodd hunanasesu yn cael eu datblygu.

Camau i’w cymryd

  • Cyhoeddi’r polisi 3A a’r adnodd hunanasesu a gymeradwywyd gan Weinidogion (Gorffennaf 2023).
  • Pob bwrdd iechyd i gyflawni'r canlyniadau a nodwyd yng ngham 1 cynllun cyflawni’r polisi 3A a'r fanyleb gwasanaeth (Mawrth 2024).
  • Pob bwrdd iechyd i gyflawni'r canlyniadau a nodwyd yng ngham 2 cynllun cyflawni’r polisi 3A a'r fanyleb gwasanaeth (Mawrth 2025).
  • Pob bwrdd iechyd i weithredu ac ymgorffori’r model ysgol rhithwir ar y cyd i helpu pobl i baratoi ar gyfer llawdriniaeth – datblygwyd model ac adnoddau (Mawrth 2024).
  • Cyswllt â’r ymgyrch gwybodaeth gofal a gynlluniwyd i gefnogi cyfathrebu ac ymgysylltu â'r cyhoedd (Medi 2023).
  • Cyswllt â CAVUHB ynghylch cyflwyno gwefan gyhoeddus ‘Cadw Fi’n Iach’ (Mawrth 2024).

Canlyniad: cyfathrebu’n well â'r boblogaeth ynghylch amseroedd aros y byrddau iechyd

  • Cam 1: mynediad at wybodaeth am amseroedd aros.
  • Cam 2: cyfeirio at gefnogaeth a gwybodaeth i gefnogi pobl yn unol â'r polisi 3A.

Cynnydd

Lansiwyd y mynediad at wybodaeth am amseroedd aros (yn ôl bwrdd iechyd ac yn ôl arbenigedd) ar wefan GIG 111 ym mis Tachwedd 2022 (Cam 1). Mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru.

Camau i’w cymryd

Mireinio’r wybodaeth a ddarparwyd yn dilyn adborth gan y cyhoedd i'w lansio yng ngham 2 (Gorffennaf 2023).

Cynnydd

Dylech gynnwys cyfeirio at wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi pobl sy'n paratoi i gael triniaeth ar safle GIG 111 Cymru. (Cam 2).

Camau i’w cymryd

  • Nodi adnoddau cenedlaethol a thudalennau gwe sydd yn y broses o gael eu datblygu – mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru (Gorffennaf 2023).
  • Pob bwrdd iechyd i sicrhau bod ganddynt brosesau ar waith i gyfeirio cleifion at yr wybodaeth ar wefan GIG 111 Cymru a gefnogir gan wybodaeth am restrau aros leol ar gyfer cyflyrau penodol, er enghreifft, cymalffurfiad clun, cymalffurfiad pen glin (Rhagfyr 2023).

Canlyniad: ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus am ofal a gynlluniwyd

  • Ddatblygu cyfres o adnoddau cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o ffyrdd newydd o gael mynediad at wasanaethau wrth symud ymlaen.
  • Codi ymwybyddiaeth o 'aros yn iach’ a’r polisi 3A.

Cynnydd

  • Llywodraeth Cymru yn arwain.
  • Gweithio ar y cyd â thîm cyfathrebu Llywodraeth Cymru i ddatblygu asedau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer byrddau iechyd.

Camau i’w cymryd

  • Cwblhau asedau’r ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus gofal a gynlluniwyd (Gorffennaf 2023).
  • Cysylltu â thimau cyfathrebu'r byrddau iechyd i gynnwys adnoddau a ddatblygwyd ar wefannau lleol (Rhagfyr 2023).

Nod 3: triniaeth briodol

Canlyniad

Byrddau iechyd i wneud y defnydd gorau o glinigau cymunedol a chlinigau un stop.

Cynnydd

Mae'r cynnydd yn parhau i amrywio ar draws Cymru. Mae rhai enghreifftiau o arferion da sydd wedi'u datblygu a'u rhannu ac sydd â photensial ar gyfer eu mabwysiadu’n lleol.

Camau i’w cymryd

  • Ymwreiddio fel busnes fel arfer ar draws Cymru i ddarparu cynnig cenedlaethol cyson a theg.
  • Edrych ar ailgynllunio llwybrau i wneud y mwyaf o adnoddau ar draws y system gofal iechyd a darparu gofal integredig.

Cyflawni

2023 i 2026

Canlyniad

Dylai clinigwr ystyried y math mwyaf priodol o apwyntiad ar gyfer y claf, gan ddarparu hyblygrwydd a dewis:

  • wyneb yn wyneb neu'n rhithwir
  • cydamserol (cyswllt uniongyrchol â’r claf) neu anghydamserol (cyswllt anuniongyrchol â’r claf)
  • apwyntiad un i un neu grŵp, gan wneud y mwyaf o'r sgiliau a'r gallu o fewn y tîm amlddisgyblaethol

Cynnydd: dulliau rhithwir

  • Rhoddwyd apwyntiadau rhithwir ar waith yn gyflym yn ystod COVID-19: cyflawnwyd hyd at 54% o apwyntiadau yn rhithwir.
  • Cymeradwywyd Hysbysiad Newid Safonau Data (DCSN) a diweddarwyd systemau i gofnodi ac adrodd ar weithgarwch rhithwir.
  • Datblygwyd adnoddau gweithredu.

Camau i’w cymryd

  • Manteisio i'r eithaf ar ddulliau rhithwir wrth ddarparu gwasanaethau cleifion allanol ar gyfer apwyntiadau newydd a dilynol.
  • Cyfathrebu gwybodaeth gyhoeddus am yr holl ddulliau rhithwir drwy wefannau'r byrddau iechyd.

Cyflawni

2023 i 2026 

Cynnydd: clinigau grŵp fideo

  • Datblygwyd model clinig grŵp fideo, a darparwyd hyfforddiant i dimau.
  • Datblygwyd adnoddau arferion gorau.
  • Datblygwyd trefniadau adrodd interim a Hysbysiad Newid Safonau Data (i'w hymgorffori mewn datblygiad setiau data cleifion allanol wedi'u moderneiddio fel datrysiad cynaliadwy).
  • Mae'r holl drefniadau llywodraethu perthnasol ar waith.
  • Cynnal gwerthusiad ffurfiol.

Camau i’w cymryd

  • Manteisio i'r eithaf ar allu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Nyrsys Arbenigol i ddarparu clinigau i ryddhau gallu meddygon ymgynghorol i weld y rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth (2023 i 2026).
  • Bydd o leiaf 10 model clinig grŵp fideo / clinig grŵp wyneb yn wyneb newydd yn cael eu gweithredu ym mhob bwrdd iechyd erbyn Mawrth 2024.
  • Bydd o leiaf 10 model clinig grŵp fideo / clinig grŵp wyneb yn wyneb ychwanegol yn cael eu gweithredu ym mhob bwrdd iechyd erbyn Mawrth 2025.
  • Bydd o leiaf 10 model clinig grŵp fideo / grŵp wyneb yn wyneb ychwanegol yn cael eu gweithredu ym mhob bwrdd iechyd erbyn Mawrth 2026.

Canlyniad: gweithredu gwasanaeth teledermosgopi Cymru gyfan sy'n galluogi adrodd am ddelweddau briwiau croen o bell

  • Galluogi cleifion â briwiau croen i dderbyn eu diagnosis yn fwy prydlon.
  • Rhyddhau capasiti mewn Clinigau Dermatoleg gan alluogi'r cleifion hynny sydd â'r angen clinigol mwyaf i gael eu gweld wyneb yn wyneb.
  • Mynd i'r afael â'r ôl-groniad ar y rhestr aros Dermatoleg.

Cynnydd

  • Llwybr teledermosgopi wedi’i gymeradwyo gan y Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Dermatoleg.
  • Gwasanaethau wedi’u sefydlu mewn 4/6 Bwrdd Iechyd sy'n darparu gofal Dermatoleg.
  • Datblygu proses drawsffiniol safonol i hwyluso adrodd trawsffiniol.

Camau i’w cymryd

  • Dylid gweithredu system atgyfeirio electronig ym mhob bwrdd iechyd i hwyluso atgyfeiriadau amserol ar draws Dermatoleg a Darlunio Meddygol.
  • Sefydlu’r gwasanaeth ar draws y byrddau iechyd sy'n weddill.
  • Gwerthusiad cenedlaethol o wasanaeth Cymru gyfan i ddangos ei effaith.
  • Integreiddio systemau Rheoli Delweddu Meddygol gyda Phorth Clinigol Cymru.
  • Archwilio sut y gellir addasu'r model ar gyfer llwybrau eraill, er enghreifft, tele-trwyn, gwddwf a chlust, Tele-MaxFax.

Delivery

Mawrth 2024.

Canlyniad

Datblygu polisi ymyriadau na chânt eu cynnal fel arfer (INNU) sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau cysondeb a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Cynnydd

  • Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru (WVHC) i gydweithio i ddiweddaru sylfaen dystiolaeth INNU.
  • Cytunwyd ar restr gyffredin o 15 INNU.

Camau i’w cymryd

  • Cwblhau’r cynllun peilot.
  • Cynnal gwerthusiad.
  • Gweithredu'n genedlaethol.

Erbyn

Mawrth 2024.

Nod 4: gofal dilynol darbodus

Mae gofal dilynol a gofal parhaus yn seiliedig ar gyfnodau y cytunwyd arnynt yn glinigol ac yn cael eu cefnogi gan lwybrau tystiolaeth glinigol. Dylid ystyried rhyddhau fel y dewis diofyn, ond pan nad yw hyn yn briodol yn glinigol, dylid ystyried dewisiadau amgen i'r cylch gofal dilynol rheolaidd traddodiadol. Dylid rhoi dewisiadau amgen i ofal dilynol rheolaidd gwerth isel ar waith yn gyflym i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n ychwanegu gwerth at lwybr y claf ac sy'n gwneud y defnydd gorau o gapasiti.

Canlyniad: SOS a PIFU

Manteisio i'r eithaf ar fodelau hunanreoli â chymorth lle bo hynny'n briodol yn glinigol i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi'i ategu gan werth mewn egwyddorion iechyd a sicrhau'r gallu gorau posibl i gyflawni:

  • Sylw yn ôl Symptomau (SOS)
  • apwyntiad dilynol ar gais y claf (PIFU) lle bo hynny'n briodol yn glinigol
  • llwyfan eSOS
  • llwyfan antigen penodol prostatig (PSA)

Cynnydd

  • Cyhoeddwyd hysbysiad newid safonau data a diweddarwyd systemau i gofnodi ac adrodd gweithgarwch.
  • Datblygwyd pecyn cymorth gweithredu.
  • Lansiwyd gwefan SOS/PIFU ym mis Gorffennaf 2022 gan ddarparu pecynnau cymorth, llwybrau a gymeradwywyd yn glinigol, adnoddau, a chymuned ymarfer i weithwyr proffesiynol.
  • Datblygwyd dangosfyrddau lleol i fonitro'r defnydd.

Camau i’w cymryd

  • Pob bwrdd iechyd i gynyddu cyflymder gwasgariad a’r raddfa gan wneud y defnydd mwyaf posibl o'r wefan.
  • Pob bwrdd iechyd i gynyddu gwasgariad a graddfa'r llwybrau a ddatblygwyd ac a rennir ar y wefan.
  • Pob bwrdd iechyd i ddangos cynnydd blynyddol yn y defnydd o SOS a PIFU.
  • Pob bwrdd iechyd i gynnwys gwybodaeth i’r cyhoedd am SOS a PIFU fel y gall cleifion fanteisio i'r eithaf ar lwybr SOS/PIFU.
  • Ystyried dangosfwrdd cenedlaethol i gefnogi meincnodi.

Cyflawni

2023 i 2026

Cynnydd: llwyfan eSOS

  • Mae datblygiad y platfform eSOS yn mynd rhagddo.
  • Adborth cadarnhaol gan gleifion sy'n ymwneud â phrofi'r platfform.
  • Adborth cadarnhaol gan glinigwyr.

Camau i’w cymryd

  • Profion terfynol ym mis Awst 2023.
  • Dylid cynnal gwerthusiad ffurfiol i ystyried y camau nesaf (Mawrth 2024).

Arferion gorau: gwybodaeth SOS a PIFU: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 

Datblygwyd tudalennau gwe i roi gwybodaeth ac animeiddiadau byr i'r cyhoedd ar fuddion y llwybrau a sut i reoli eu cyflwr eu hunain yn well pan fyddant ar y llwybrau hynny.

Canlyniad: llwyfan PSA

Gweithredu platfform digidol Cymru gyfan i ddarparu model gofal sy'n grymuso unigolion sy'n byw gyda chanser y prostad i reoli eu cyflwr iechyd eu hunain o bell. Yn ei dro, bydd hyn yn rhyddhau capasiti o fewn gwasanaethau Wroleg i ddarparu mynediad amserol i’r rhai sydd angen gofal fel claf allanol.

Cynnydd

  • Cafodd y llwyfan My Medical Record (MyMR) ei gaffael fel platfform Cymru gyfan.
  • Dechreuwyd ei weithredu a’i integreiddio mewn byrddau iechyd.
  • Cynhyrchu dogfennaeth cefnogi cleifion, gan gynnwys creu tudalen ar y we.

Camau i’w cymryd

  • Datblygu integreiddio yn lleol.
  • Integreiddio yn Genedlaethol drwy Iechyd a Gofal Digidol Cymru i hwyluso'r broses o gyflwyno yn genedlaethol.
  • Cytuno i sicrhau cefnogaeth barhaus a system lywodraethu ar ôl cau'r rhaglen.

Erbyn

Mawrth 2024.

Nod 5: mesur beth sy’n bwysig

Canlyniad

Datblygu dull cenedlaethol a chynaliadwy o ddilysu rhestrau aros a phroses 'cadw mewn cysylltiad' 6 misol ar gyfer y rhai sy'n aros dros 52 wythnos a’i ymgorffori fel busnes fel arfer yn gysylltiedig â'r maes polisi 3A.

Cynnydd

  • Amrywiaeth eang ar draws byrddau iechyd.
  • Cynhelir prosesau dilysu yn ysbeidiol.

Camau i’w cymryd

  • Pob bwrdd iechyd i gynnwys proses ddilysu safonol barhaus y cytunwyd arni ar gyfer busnes fel arfer.
  • Pob bwrdd iechyd i gynnwys cyswllt bob 6 mis gyda'r rhai sy'n aros dros 52 wythnos, yn gysylltiedig â gwasanaethau 3A lleol.

Erbyn

Mawrth 2024

Canlyniad

Datblygu set ddata cleifion allanol wedi'i moderneiddio (MODS) i ddarparu data o ansawdd sy'n adlewyrchu'r model darparu gwasanaethau cleifion allanol wedi’i foderneiddio. Bydd MODS newydd yn cyfrannu at allu a galw mwy effeithiol a chynllunio darparu gwasanaethau. 

Gwneir y gwaith dan arweiniad Iechyd a Gofal Digidol Cymru mewn partneriaeth ag arweinwyr y Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd (Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG) a byrddau iechyd.

Cynnydd

  • Sefydlwyd Grŵp Llywio MODS.
  • Rhai heriau sydd wedi rhwystro cyflymder y cynnydd - materion yn cael eu datrys.
  • Cynllun prosiect ar waith.

Camau i’w cymryd

  • Diffinio set ddata wedi'i moderneiddio i adlewyrchu model darparu gwasanaethau newydd.
  • Cyhoeddi Hysbysiad Newid Safonau Data.
  • Diweddaru systemau gweinyddu cleifion i gefnogi newidiadau.

Erbyn

Mawrth 2026

Canlyniad

Mewnosod Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROM) a Mesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREM).

Cynnydd

Mae angen gwaith datblygu pellach i ddatblygu proses safonol a gytunir yn genedlaethol.

Camau i’w cymryd

  • Gweithio gyda phartneriaid mewn gwerth mewn iechyd i ddatblygu dull safonol a chefnogi adnoddau. (Rhagfyr 2023).
  • Pob bwrdd iechyd i ymgorffori llwybrau clinigol i gefnogi cleifion sy'n paratoi ar gyfer triniaeth (y polisi 3A) (Mawrth 2025).
  • Pob bwrdd iechyd i ymgorffori llwybrau clinigol i ddarparu gofal effeithiol, parhaus sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn (Mawrth 2025).

Cyflawni'r strategaeth: dulliau unwaith i Gymru 

Canlyniad

Cyfrwng digidol i fod yn ddull diofyn ar gyfer apwyntiadau gyda chleifion gan gynnwys:

  • hysbysu a chadarnhau
  • atgoffa
  • gwybodaeth yn ymwneud ag apwyntiadau gan gynnwys dolenni i gymorth ar wefan y bwrdd iechyd

I'w ddatblygu mewn partneriaeth â'r rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd (DSPP) fel rhan o waith Ap GIG Cymru.

Cynnydd

Mae rhai byrddau iechyd wedi gweithredu negeseuon cadarnhau apwyntiad a negeseuon atgoffa sy'n cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag apwyntiad a dolenni i wybodaeth arall.

Camau i’w cymryd

  • Hyrwyddo symud i sianeli digidol gan gadw sianeli papur ar gyfer y rhai y mae'n well ganddynt beidio â defnyddio dulliau digidol.
  • Cadw at ddeddfwriaeth cydraddoldeb.
  • Pob bwrdd iechyd i weithredu sianeli digidol ar gyfer gwybodaeth sy'n ymwneud ag apwyntiadau.
  • Dangos tystiolaeth o gyd-gynhyrchu gyda'r cyhoedd.

Erbyn

Mawrth 2024.

Canlyniad

Datblygu mynediad agored eang i drydydd parti i systemau archebu apwyntiadau yn unol â'r rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd fel rhan o waith Ap GIG Cymru.

Cynnydd

I'w ddechrau.

Camau i’w cymryd

  • Datblygu safonau cyffredin a dull saernïaeth agored mewn cydweithrediad â'r rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd.
  • Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo mynediad agored i systemau apwyntiadau.
  • Datblygu fframwaith mynediad a llywodraethu gwybodaeth cyffredin i Gymru Gyfan.

Erbyn

Mawrth 2026.

Cyflawni'r strategaeth: crynodeb o'r targedau

Targedau yn ymwneud â chleifion newydd

Dim cleifion yn aros dros 52 wythnos am apwyntiad cleifion allanol newydd.

Dim cleifion yn aros dros 156 wythnos am apwyntiad cleifion allanol newydd.

Dim cleifion yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth ar lwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth ar lwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

Trefnu apwyntiad i bob claf sydd wedi aros mwy na 3 blynedd am apwyntiad cleifion allanol.

97% o gleifion ar lwybr agored rhwng atgyfeirio a thriniaeth i gwblhau eu triniaeth o fewn 104 wythnos.

99% o gleifion ar lwybr agored rhwng atgyfeirio a thriniaeth i gwblhau eu triniaeth o fewn 104 wythnos.

Dim cleifion yn aros dros 8 wythnos am ddiagnosis.

Targedau yn ymwneud â chleifion apwyntiad dilynol

Lleihau nifer y cleifion sydd ar restr aros am apwyntiad dilynol 30% ar linell sylfaen mis Mawrth 2019.

Lleihau nifer y cleifion sydd wedi profi oedi o fwy na 100% i’w hapwyntiad dilynol 30% ar linell sylfaen mis Mawrth 2019.

Gweithgarwch SOS a PIFU i ddangos cynnydd blynyddol fel y cytunwyd yn y Grŵp Llywio Cleifion Allanol.

Targedau darparu gwasanaethau

Byrddau iechyd i ddangos cynnydd blynyddol yn nifer y llwybrau lle mae apwyntiadau ac adolygiadau yn cael eu cynnal yn rhithwir (cydamserol ac anghydamserol) fel y cytunwyd yn y Grŵp Llywio Cleifion Allanol a gefnogir gan y Rhwydweithiau Gweithredu Clinigol.

Byrddau iechyd i sicrhau gostyngiad o 50% mewn apwyntiadau a ganslwyd gan yr Ysbyty (HICs) ar linell sylfaen mis Mawrth 2019.

Byrddau iechyd i ddangos llwybr gwella cynyddrannol blynyddol i gyflawni'r gostyngiad o 50% mewn apwyntiadau a ganslwyd gan yr Ysbyty (HICs) erbyn 2026.

Ni ddylai cyfradd peidio â mynychu’r byrddau iechyd fod yn fwy na 5% ar gyfer apwyntiadau newydd a dilynol.