Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â’r ddogfen hon

Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybod am rôl seicolegwyr addysg a’u cyfraniad at gefnogi addysg a lles plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau yng Nghymru. Mae er gwybodaeth yn unig ac mae wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith seicolegwyr addysg yng Nghymru.

Fe’i cynhyrchwyd yng nghyd-destun newidiadau deddfwriaethol sy’n ymwneud â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, yn ogystal â’r Cwricwlwm i Gymru, a’i nod yw darparu gwell dealltwriaeth o’r cyfraniad hanfodol y mae seicolegwyr addysg yn ei wneud o fewn y system addysg yng Nghymru.

Fe’i lluniwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas y Seicolegwyr Addysg, sef yr undeb llafur a’r gymdeithas broffesiynol ar gyfer seicolegwyr addysg yn y Deyrnas Unedig.

Rôl y seicolegydd addysg

Mae seicolegwyr addysg yn cefnogi ysgolion a’r awdurdod lleol i wella profiadau dysgu pob plentyn a pherson ifanc. Bydd hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer lles, datblygiad emosiynol a chymdeithasol, a sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd gyda dysgu a chyflawniad.

Ffocws gwaith seicolegydd addysg yw rhannu gwybodaeth am seicoleg a datblygiad plant i nodi unrhyw rwystrau rhag dysgu a hyrwyddo dulliau cynhwysol a all helpu i gyflawni’r deilliannau gorau posibl i bob plentyn a pherson ifanc.

Gofynion proffesiynol ar gyfer seicolegwyr addysg

Mae ‘seicolegydd addysg’ yn deitl gwarchodedig, a bydd gan bob seicolegydd addysg:

  • gymwysterau graddedig ac ôl-raddedig arbenigol mewn cymhwyso seicoleg mewn addysg (Meistr neu Ddoethuriaeth mewn seicoleg addysg)
  • gwybodaeth am systemau ac arferion addysg cyfredol yng Nghymru
  • dealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • profiad helaeth o weithio gyda phlant a phobl ifanc
  • profiad o wneud ymchwil a darparu hyfforddiant a gweithgareddau eraill i ddatblygu sgiliau eraill

Mae seicolegwyr addysg yn derbyn datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i sicrhau eu bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran ymarfer ac yn derbyn goruchwyliaeth broffesiynol neu glinigol reolaidd. Maen nhw wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) (Saesneg yn unig). Mae’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn gorff rheoleiddio sy’n sicrhau bod y rhai sydd wedi’u cofrestru yn cadw at y safonau proffesiynol uchaf. 

Gyda phwy mae seicolegwyr addysg yn gweithio

Mae’r rhan fwyaf o seicolegwyr addysg yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol. Mae gan bob awdurdod lleol wasanaeth seicoleg addysg ond mae’r gwasanaeth a ddarperir yn amrywio i ddiwallu anghenion lleol.

Mae seicolegwyr addysg yn gweithio ar draws pob oedran hyd at 25 oed, naill ai ar lefel grŵp neu unigol, ac maen nhw’n cael hyfforddiant a phrofiad helaeth i gefnogi pob agwedd ar ddatblygiad plant a phobl ifanc. Maen nhw’n gweithio gyda swyddogion awdurdodau lleol, gweithwyr proffesiynol o wasanaethau iechyd a chymdeithasol, cydweithwyr addysgu arbenigol, lleoliadau cyn ysgol, ysgolion, teuluoedd, plant a phobl ifanc a allai wynebu rhwystrau rhag dysgu a lles.

Maen nhw’n gweithio mewn amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys:

  • gwybyddiaeth a dysgu
  • anawsterau cyfathrebu a datblygiad iaith
  • anawsterau datblygiadol
  • namau synhwyraidd a chorfforol
  • datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
  • lles a chadernid
  • anghenion iechyd meddwl ac ymddygiad
  • colled a phrofedigaeth
  • ymlyniad a pherthnasoedd

Sut mae seicolegwyr addysg yn gweithio

Mae seicolegwyr addysg yn gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr, teuluoedd ac eraill. Byddan nhw’n hyrwyddo dull cyfannol a chynhwysol o gefnogi addysgu, rhianta a datblygiad plant a phobl ifanc. Maen nhw’n gwrando ar lais y plant a’r bobl ifanc ac yn ei hyrwyddo. Maen nhw’n hyrwyddo seicoleg o fewn systemau ehangach fel awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol ac ysgolion, yn ogystal â gweithio i gefnogi unigolion a’u teuluoedd.

Caiff seicolegwyr addysg eu hyfforddi i ddefnyddio eu gwybodaeth am seicoleg a datblygiad plant trwy:

  • ddefnyddio ymgynghori i ymateb i geisiadau ysgol am gymorth a chyngor
  • hyrwyddo myfyrio a fformwleiddiadau gyda’r nod o weithio tuag at ddatblygu atebion sy’n mynd i’r afael â phryderon
  • ymgymryd ag ymyriadau seicolegol, cynllunio ymyriadau a rhaglenni cymorth ac arsylwi ar blant a phobl ifanc
  • ymgymryd ag ystod eang o asesiadau, gan weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i asesu eu cryfderau a’u heriau
  • sicrhau bod safbwyntiau plant a phobl ifanc yn cael eu casglu gan ddefnyddio ystod o arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • datblygu a chyflwyno hyfforddiant ar amrywiaeth o bynciau ar gyfer athrawon, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
  • cefnogi datblygiad arferion dysgu cynhwysol fel rhan o wella ysgolion yn ehangach
  • dylunio a chynnal ymchwil weithredu a gwerthusiadau sy’n helpu i ddatblygu a llywio ymarfer addysgol ac sydd hefyd yn arwain neu’n cyfrannu at ddatblygu polisïau ac arferion awdurdodau lleol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc
  • cefnogi cymunedau drwy ymateb i ddigwyddiadau tyngedfennol a digwyddiadau trist
  • cyfrannu at adolygiadau plant a phobl ifanc a chyfarfodydd amlasiantaethol gan ddarparu safbwynt seicolegol
  • darparu cyngor seicolegol at ddibenion tribiwnlys

Os gofynnir am gysylltiad uniongyrchol â phlant, yna gofynnid am ganiatâd rhiant neu ofalwr. Gall pobl ifanc roi caniatâd drostynt eu hunain, gan ddibynnu ar lefel eu dealltwriaeth neu eu ‘gallu i gydsynio’.

Cyfraniad unigryw’r seicolegydd addysg

Mae seicolegwyr addysg yn cydweithio â phlant, pobl ifanc, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill, gan ddefnyddio seicoleg i ddatblygu fformwleiddiadau a damcaniaethau sy’n helpu i wneud synnwyr o’r systemau y mae plant a phobl ifanc yn byw ac yn dysgu ynddynt. O’r fformwleiddiadau hyn, gallan nhw gynnig cymorth ac arweiniad i randdeiliaid i’w helpu i greu newid cadarnhaol i’r plentyn neu’r person ifanc. Fel rhan o’r cymorth hwn, efallai y byddan nhw hefyd yn cynnig gwaith uniongyrchol, er enghraifft asesiadau neu ymyriadau therapiwtig.

Mae seicolegwyr addysg yn cael eu hyfforddi:

  • i ddefnyddio ystod eang o ddamcaniaethau a fframweithiau seicolegol yn feirniadol mewn ffordd sy’n effeithiol i’r sefyllfa benodol y maen nhw’n gweithio ynddi, gan sicrhau hyblygrwydd meddwl a ffordd ddeinamig, bwrpasol o weithio
  • i ddefnyddio seicoleg drwy ymgynghori â phlant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr, athrawon, cynorthwywyr, a gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill, gan hwyluso meddwl pobl eraill i helpu i nodi a datrys problemau ar y cyd
  • i feddwl mewn ffordd feirniadol, ddadansoddol sy’n seiliedig ar dystiolaeth am y systemau a’r arferion sy’n bresennol mewn ysgolion a’r gymdeithas ehangach, gallan nhw weithredu fel ‘cyfaill beirniadol’, gan gynnig safbwyntiau neu ffyrdd newydd o weithio ar sail naill ai astudio’r llenyddiaeth yn fanwl neu gyflwyno cyfres arall o dybiaethau neu ysgol o feddwl seicolegol
  • mewn ‘meddwl systemau’, gan gydweithio ag arweinwyr mewn sefydliadau fel ysgolion, llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol i ystyried sut y gall polisi, strwythur sefydliadol a hyfforddiant staff arwain at newid sefydliad cyfan a all fod o fudd i blant a phobl ifanc

Gwerthoedd ac egwyddorion seicolegwyr addysg

Er bod seicolegwyr addysg yn cael eu hunain yn gweithio o fewn ystod eang o sefyllfaoedd a chyd-destunau, maen nhw’n cadw at gyfres o werthoedd ac egwyddorion cyffredinol sy’n helpu i arwain ac angori ymarfer. 

Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Canolbwyntio ar yr unigolyn, sicrhau bod popeth yn cael ei wneud er lles y plentyn neu’r person ifanc.
  • Mabwysiadu ymagwedd gyfannol sy’n ystyried anghenion dysgu a gwybyddiaeth y plentyn neu’r person ifanc, ond hefyd eu hanghenion cyfathrebu, iechyd meddwl a chorfforol a sut mae’r holl ffactorau hyn yn rhyngweithio â’i gilydd.
  • Ystyried y system lle mae’r plentyn neu’r person ifanc yn byw ac yn dysgu a sut mae’n dylanwadu ar eu profiadau goddrychol.
  • Mabwysiadu dull sy’n pwysleisio pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol, cariadus a meithringar yn sail i ddeilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.

Gweithio yn yr awdurdod lleol a’r gymuned

Gweithio yn yr awdurdod lleol

O fewn yr awdurdod lleol, mae seicolegwyr addysg yn ymateb yn hyblyg i flaenoriaethau awdurdodau lleol ac felly’n ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau a all gynnwys y canlynol.

Datblygiad strategol

  • Cyfrannu at ddatblygu cynlluniau corfforaethol a chynllun integredig sengl yr awdurdod lleol, adrodd i bwyllgorau craffu’r cyngor ac awdurdodau lleol, yn ôl y gofyn.
  • Cynghori ar lefel strategol o ran anghenion presenoldeb a lles.
  • Ymgymryd â gwaith yn datblygu darpariaeth ADY ar lefel strategol.
  • Cynghori ar rai derbyniadau ysgol, cynrychioli’r awdurdod lleol mewn fforymau amrywiol.
  • Helpu’r awdurdod lleol i gefnogi ysgolion a gwasanaethau eraill wrth ymateb i gynlluniau gweithredu ar ôl arolygiad, gan gynnwys ymgymryd â gwaith wedi’i dargedu gydag ysgolion y nodwyd bod angen cymorth arnynt.
  • Gweithio gyda chyrff cynghori ac arolygu i hwyluso gwella ysgolion.
  • Penderfynu ar feini prawf mynediad ac ymadael ar gyfer darpariaeth.

Datblygu polisi a phrotocol

  • Datblygu polisi ac ymarfer mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau tyngedfennol, cynlluniau gweithredu gwrth-fwlio awdurdodau lleol, lles, cam-drin domestig, canllawiau trawsryweddol, osgoi ysgol yn sgil emosiynau, symudiadau a reolir.

Mentrau rhanbarthol

  • Gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i drefnu ymatebion sy’n rhanbarthol gyson.

Hyfforddiant

  • Datblygu a darparu ystod o hyfforddiant lleol a rhanbarthol.
  • Ymgynghori a chynghori ynghylch rheoli a hyfforddi llywodraethwyr ysgol.

Hyfforddi, goruchwylio, rheoli

  • Rheoli a datblygu gwasanaethau cwnsela plant a phobl ifanc.
  • Goruchwylio a hyfforddi seicolegwyr addysg dan hyfforddiant, seicolegwyr addysg cynorthwyol a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio o fewn yr awdurdod lleol.
  • Goruchwylio a rheoli timau eraill.

Gwaith amlasiantaeth

  • Ymyriadau seicolegol gyda theuluoedd i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth.
  • Gwaith diogelu, gan gynnwys hyfforddiant.
  • Gweithio gyda’r timau anabledd plant a phobl ifanc.
  • Cefnogi plant sy’n derbyn gofal a’r timau plant sy’n derbyn gofal.
  • Gweithio gyda gwasanaethau maethu a mabwysiadu i gefnogi plant a phobl ifanc.
  • Ymgynghoriadau a gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr cymdeithasol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys anghenion lleoliad ac amddiffyn plant.
  • Gweithio gydag adrannau eraill ac asiantaethau allanol.

Prosesau statudol (sy’n ymwneud â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADYTA))

Mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADYTA) yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sy’n ailddiffinio’r ffordd y mae plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi yn y system addysg. Mae’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn cynnwys canllawiau statudol ar y Ddeddf ADYTA. Gyda’i gilydd, mae’r Ddeddf ADYTA, rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf ADYTA a’r Cod ADY yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer ADY yng Nghymru.

Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall ysgol neu goleg ofyn am gyngor gan seicolegydd addysg os ydyn nhw’n teimlo y byddai’n berthnasol. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried a ddylid ceisio cyngor gan seicolegydd addysg pan fyddan nhw’n penderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY ac wrth baratoi cynllun datblygu unigol (CDU).

Bydd seicolegwyr addysg yn darparu ymateb sy’n adlewyrchu lefel a cham y cyfranogiad y gofynnir amdano ac sy’n ofynnol ac yn unol â chanllawiau awdurdodau lleol. Bydd hyn bob amser mewn cydweithrediad â rhieni, gofalwyr, yr ysgol ac oedolion neu asiantaethau allweddol eraill. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai fod angen cyngor seicolegol yn fwy di-oed mewn rhai achosion mwy cymhleth, mewn ymateb uniongyrchol i sefyllfa dyngedfennol sydyn, yn hytrach nag angen sy’n dod i’r amlwg.

Gall rôl seicolegydd addysg o fewn y Ddeddf ADYTA gynnwys:

  • cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau datblygu unigol (CDUau)
  • mynychu adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn lle bo hynny’n briodol
  • cefnogi datblygiad polisi a phrosesau ADY fel ymateb i’r Cod ADY
  • darparu tystiolaeth ar gyfer cyfryngu a thribiwnlysoedd
  • cynghori ar fynediad at addysg, cynllunio ac asesiadau cyn ysgol

Gweithio yn y gymuned

Yn y gymuned, mae seicolegwyr addysg yn gweithio gyda’r canlynol:

  • Byrddau iechyd lleol
    • Cydweithio â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) arbenigol.
    • Cyfrannu at waith llwybr niwro-ddatblygu a monitro a datblygu strategaethau, a chydweithio ag ymwelwyr iechyd.
  • Gwasanaethau cymunedol
    • Gweithio’n uniongyrchol gyda rhieni a gofalwyr.
    • Gweithio gyda phartneriaeth rhieni.
    • Darparu ymgynghoriad a hyfforddiant seicolegol i ystod eang o wasanaethau cymunedol.

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru 

Mae seicolegwyr addysg yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y ffyrdd canlynol:

  • Ymateb i ymgynghoriadau ar ystod eang o bynciau.
  • Cyfrannu at ystod eang o fentrau hyfforddi Llywodraeth Cymru.
  • Cefnogi prosiectau wedi’u targedu drwy ymyrraeth gynnar a gwell cymorth.

Gweithio gyda sefydliadau eraill

Mae seicolegwyr addysg yn ymwneud â chefnogi Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysg Prifysgol Caerdydd, drwy gymryd rhan yn y cyfweliadau doethurol a thrwy gynnig lleoliadau seicoleg addysg i’r rhai dan hyfforddiant.

Blynyddoedd cynnar (hyd at 6 oed)

Yn y blynyddoedd cynnar, i blant hyd at 6 oed, gall seicolegwyr addysg weithio mewn ystod eang o wahanol leoliadau a allai gynnwys:

  • lleoliadau’r blynyddoedd cynnar (rhai a gynhelir a nas cynhelir), er enghraifft meithrinfeydd mewn ysgolion, cylchoedd chwarae, meithrinfeydd preifat, ysgolion, canolfannau plant, clinigau
  • lleoliadau Dechrau’n Deg
  • cartref y plentyn

Ochr yn ochr â rhieni a gofalwyr, mae seicolegwyr addysg yn gweithio gydag ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys:

  • pediatregwyr
  • ymwelwyr iechyd
  • therapyddion lleferydd ac iaith
  • ffisiotherapyddion
  • therapyddion galwedigaethol
  • athrawon arbenigol
  • swyddogion arwain ADY y blynyddoedd cynnar
  • addysgwyr y blynyddoedd cynnar

Cefnogi plant hyd at 6 oed

Gall seicolegwyr addysg gefnogi plant hyd at 6 oed yn y ffyrdd canlynol.

Gwaith systemau ehangach

  • Cyfrannu at ddatblygu polisïau a gweithdrefnau’r blynyddoedd cynnar.
  • Goruchwylio, mentora a rheoli rhai timau a gweithwyr blynyddoedd cynnar.
  • Darparu hyfforddiant pwrpasol.
  • Gweithio gyda swyddogion arwain ADY y blynyddoedd cynnar, lleoliadau’r blynyddoedd cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Bod yn rhan o baneli neu fforymau’r blynyddoedd cynnar a chefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch darpariaeth a lleoliad.
  • Cymryd rhan mewn timau amlasiantaeth sy’n trafod plant a phobl ifanc sydd ag anghenion iechyd meddwl, cymdeithasol ac emosiynol.

Gwaith grŵp

  • Cefnogi rhieni a gofalwyr, gan ddarparu gwybodaeth a chyflwyno ystod eang o raglenni rhianta.
  • Darparu ymgynghoriad grŵp ar gyfer gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar.
  • Gweithio gyda grwpiau o blant sy’n modelu ymyriad i aelod o staff barhau â gwaith unigol.
  • Cefnogi prosesau pontio cadarn o’r cartref i leoliadau cyn ysgol.
  • Cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill y blynyddoedd cynnar i ystyried blaenoriaethau safle cyfan a chefnogi gyda hyfforddiant a datblygiad.
  • Gweithio gyda phediatregwyr, meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, staff safleoedd cyn ysgol, staff meithrin, staff ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi datblygiad plant sydd ag ADY.

Gwaith unigol

  • Defnyddio cyfarfodydd ymgynghori a fformiwleiddio i nodi cryfderau, meysydd i’w datblygu, yr hyn sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio i gynllunio ymyriadau.
  • Darparu ymyriadau, megis therapïau sy’n seiliedig ar chwarae.
  • Cefnogi’r broses o bontio o gartref neu leoliad cyn ysgol i’r ysgol gan ddefnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Cynnal arsylwi neu asesu sy’n briodol i oedran a chyfnod datblygiad y plentyn.
  • Adolygu cynnydd a darparu adborth ysgrifenedig i rieni, gofalwyr, lleoliadau, ysgolion a’r awdurdod lleol.

Cynradd (6 i 11 oed)

Fel arfer, mae gan bob ysgol gynradd seicolegydd addysg a enwir neu gyswllt sy’n ymweld â’r ysgol yn rheolaidd ac yn gweithio’n agos gyda staff yr ysgol i’w cefnogi.

Gall eu gwaith ddigwydd mewn gwahanol amgylcheddau, er enghraifft:

  • meithrinfeydd a’r ysgol
  • cartref y plentyn, gan gynnwys cartrefi maeth a gofal
  • lleoliadau y tu allan i’r sir
  • darpariaethau arbenigol

Ochr yn ochr â rhieni a gofalwyr, mae seicolegwyr addysg yn gweithio gydag ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys:

  • athrawon arbenigol
  • cydlynwyr ADY (CADY)
  • CAMHS arbenigol
  • gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys pediatregwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, a therapyddion galwedigaethol
  • swyddogion presenoldeb a lles
  • swyddogion ymgysylltu â theuluoedd
  • gwasanaethau plant, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol

Cefnogi plant 6 i 11 oed

Gall seicolegwyr addysg gefnogi plant 6 i 11 oed yn y ffyrdd canlynol.

Gwaith systemau ehangach

  • Cynllunio ymweliadau ac ymateb ar y cyd i hunanwerthusiadau ysgol gyfan, trwy ddefnyddio a chyfeirio at ymchwil a dulliau ysgol gyfan sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cynnig hyfforddiant i helpu athrawon, staff cymorth ac eraill i wella eu hymarfer a hwyluso gwella ysgolion.
  • Cefnogi gwerthusiad o ymyriadau a dulliau i fesur effaith.
  • Darparu ymgynghoriadau ar sail clystyrau i gefnogi dysgu rhwng ysgolion a dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion.
  • Darparu goruchwyliaeth a hyfforddiant i gynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA).
  • Cymryd rhan mewn paneli a fforymau.
  • Cefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch darpariaeth a lleoliad.

Gwaith grŵp 

  • Darparu cymorth i sefydlu ymyriadau penodol yn yr ysgol.
  • Defnyddio ymgynghori a fformiwleiddio ar sail angen dosbarth cyfan.
  • Cydweithio, drwy broses ymgynghori, rhwng y cartref, yr ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill i ddeall a mynd i’r afael â phryderon, a chynllunio’r camau nesaf.
  • Gweithio gyda phaediatregwyr, meddygon teulu, staff ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi datblygiad plant sydd ag ADY.

Gwaith unigol 

  • Defnyddio cyfarfodydd ymgynghori a fformiwleiddio i nodi cryfderau, meysydd i’w datblygu, yr hyn sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio i gynllunio ymyriadau.
  • Cefnogi pontio o’r cartref i’r ysgol ac i’r ysgol uwchradd gan ddefnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Cynnal arsylwi neu asesu sy’n briodol i oedran a chyfnod datblygiad y plentyn.
  • Gwrando ar farn y plentyn a’i chofnodi.
  • Adolygu cynnydd a darparu adborth ysgrifenedig i rieni, gofalwyr, ysgolion a’r awdurdod lleol.

Gwaith arall

  • Cefnogi plentyn yn ôl i’r ysgol ar ôl absenoldeb maith.
  • Cefnogi teulu ac ysgol i ddatrys anghydfod ynghylch ADY plentyn.
  • Hyfforddi oedolion allweddol eraill yn yr ysgol.
  • Gweithio gyda rhieni a gofalwyr, a darparu hyfforddiant a chyngor iddynt.

Uwchradd (11 i 16 oed) (17 i 19 oed mewn ysgol awdurdod lleol, chweched dosbarth, coleg addysg bellach neu ysgol arbennig)

Fel arfer, mae gan bob ysgol uwchradd seicolegydd addysg a enwir neu gyswllt sy’n ymweld â’r ysgol yn rheolaidd.

Gall eu gwaith ddigwydd mewn amrywiaeth o amgylcheddau gan gynnwys:

  • ysgolion a cholegau
  • cartref y person ifanc, gan gynnwys cartrefi maeth a gofal
  • lleoliadau y tu allan i’r sir
  • darpariaethau arbenigol gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a darpariaethau amgen

Ochr yn ochr â rhieni a gofalwyr, gall seicolegwyr addysg weithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys:

  • athrawon arbenigol
  • cydlynwyr ADY (CADY)
  • CAMHS arbenigol
  • gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys pediatregwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, a therapyddion galwedigaethol
  • addysg heblaw yn yr ysgol
  • gweithwyr ieuenctid a chymuned
  • gwasanaethau addysg a lles
  • gwasanaethau cwnsela
  • gwasanaethau ieuenctid, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol
  • tîm troseddwyr ifanc

Ymhlith yr anghenion allweddol yr ymgynghorir yn rheolaidd â seicolegwyr addysg yn eu cylch ar gyfer pobl ifanc 11 i 19 oed mae:

  • lles a chadernid
  • perthnasoedd
  • osgoi ysgol ar sail emosiynau
  • deall effaith anawsterau datblygiadol ar ddysgu a chyfeillgarwch
  • gorbryder
  • rheoleiddio emosiynol
  • camddefnyddio sylweddau
  • defnyddio a chamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
  • hunaniaeth rywiol
  • hunan-niweidio
  • ymddygiad troseddol
  • rheoli colled, profedigaeth a newidiadau teuluol sylweddol

Cefnogi pobl ifanc 11 i 19 oed

Gall seicolegwyr addysg gefnogi pobl ifanc 11 i 19 oed yn y ffyrdd canlynol.

Gwaith systemau ehangach

  • Cynllunio ymweliadau ac ymateb ar y cyd i hunanwerthusiadau ysgol gyfan, trwy ddefnyddio a chyfeirio at ymchwil a dulliau ysgol gyfan sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cynnig hyfforddiant i helpu athrawon, staff cymorth ac eraill i wella eu hymarfer a hwyluso gwella ysgolion.
  • Cefnogi gwerthusiadau i fesur effaith gwahanol ddulliau ac ymyriadau.
  • Darparu ymgynghoriadau ar sail clystyrau i gefnogi dysgu rhwng ysgolion a dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion.
  • Darparu goruchwyliaeth a hyfforddiant i gynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA).
  • Cymryd rhan mewn paneli a fforymau.Cefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch darpariaeth a lleoliad.

Gwaith grŵp 

  • Darparu cymorth i sefydlu ymyriadau penodol yn yr ysgol neu’r coleg.
  • Defnyddio ymgynghori a fformiwleiddio ar sail angen dosbarth cyfan.
  • Cydweithio, drwy broses ymgynghori, rhwng y cartref, yr ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill i ddeall a mynd i’r afael â phryderon, a chynllunio’r camau nesaf.
  • Gweithio gyda phediatregwyr, meddygon teulu, staff ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi datblygiad pobl ifanc sydd ag ADY.

Gwaith unigol 

  • Defnyddio cyfarfodydd ymgynghori a fformiwleiddio i nodi cryfderau, meysydd i’w datblygu, yr hyn sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio i gynllunio ymyriadau.
  • Darparu ymyriadau, megis therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).
  • Cynnal arsylwi neu asesu sy’n briodol i oedran y person ifanc a chyda’i gydsyniad.
  • Casglu llais y disgybl, adolygu cynnydd a darparu adborth ysgrifenedig i bobl ifanc, rhieni, gofalwyr, ysgolion, colegau a’r awdurdod lleol.
  • Defnyddio offer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddatblygu llwybrau i annog dyheadau a chefnogi pontio.

Gwaith arall

  • Trefnu trefniadau arholi arbennig (hepgoriad).
  • Ymgymryd ag arferion adferol ar gyfer problemau perthynol.
  • Gweithio i gefnogi person ifanc pryderus sy’n osgoi’r ysgol ar sail emosiynau i ddychwelyd i’r ysgol yn raddol neu ddarpariaeth arall.

Ôl-16 (addysg bellach a lleoliad coleg arbenigol hyd at 25 oed)

Mae’r maes ôl-16, sy’n cynnwys addysg bellach a lleoliad coleg arbenigol i bobl ifanc hyd at 25 oed, yn faes sy’n datblygu ar gyfer seicolegwyr addysg ac mae’n ofynnol o dan y Ddeddf ADYTA. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau seicolegwyr addysg yng Nghymru yn gweithio gyda’r sector ôl-16 i gytuno ar ddisgwyliadau a chytundebau lefel gwasanaeth. Mae’r cytundebau hyn yn debygol o amrywio rhwng timau awdurdodau lleol a byddan nhw’n cael eu datblygu dros amser, yn unol â’r Cod ADY. 

Gall pobl ifanc hyd at 25 oed sydd ag ADY fod mewn cysylltiad â seicolegydd addysg. Efallai y byddan nhw’n gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau, fel y cytunwyd gyda’r awdurdod lleol, er enghraifft:

  • chweched dosbarth ysgolion
  • colegau (sy’n darparu gwasanaeth i’r rhai mewn addysg bellach ond nid ar gyfer cyrsiau addysg uwch a ddarperir gan golegau addysg bellach)
  • darpariaethau ieuenctid a chymunedol
  • cartref y person ifanc, gan gynnwys cartrefi maeth a gofal
  • lleoliadau y tu allan i’r sir
  • sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol

Ochr yn ochr â phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, gall seicolegwyr addysg weithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys:

  • gweithwyr ieuenctid a chymuned
  • CAHMS arbenigol
  • gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys nyrsys iechyd meddwl
  • gwasanaethau cwnsela
  • timau troseddwyr ifanc
  • gwasanaethau ieuenctid, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol
  • yr heddlu
  • cydlynwyr ADY (CADY)
  • tiwtoriaid coleg
  • cynghorwyr gyrfaoedd
  • gweithwyr cyffuriau ac adsefydlu
  • sefydliadau tai a chynghorwyr

Bydd llawer o anghenion dysgwyr ôl-16 hefyd yn cael eu cefnogi gan asiantaethau eraill sydd â meysydd arbenigedd penodol (megis Gyrfa Cymru ac asiantaethau’r trydydd sector) neu o fewn systemau a gwasanaethau bugeiliol a chwnsela’r ysgol neu’r coleg addysg bellach.

Cefnogi pobl ifanc hyd at 25 oed

Gall seicolegwyr addysg gefnogi pobl ifanc hyd at 25 oed yn y ffyrdd canlynol.

Gwaith systemau ehangach

  • Cynllunio a darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol eraill a phobl ifanc.
  • Hwyluso ymgynghori a goruchwylio grwpiau mewn perthynas â systemau’r coleg.
  • Cefnogi datblygiad prosesau a systemau’r coleg ar gyfer cynhwysiant a chymorth ymddygiad.
  • Ymgynghori ynghylch anghenion dysgwyr sydd ag ADY penodol a darparu fformwleiddiadau mewn perthynas â hwy.
  • Cefnogi datblygiad polisïau.

Gwaith grŵp 

  • Cynghori ar waith grŵp.
  • Cefnogi staff i ddyfeisio a darparu ymyriadau ar gyfer grwpiau o bobl ifanc, wedi’u targedu at ddatblygu nifer o wahanol feysydd sgiliau.
  • Gweithio ochr yn ochr â staff addysgu a lles i fodelu ymyriadau, gan feithrin gallu a chynaliadwyedd.

Gwaith unigol 

  • Gweithio ar lefel unigol i ystyried a oes gan y person ifanc ADY a pha ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen i ddiwallu ei ADY.
  • Archwilio barn a dyheadau’r person ifanc, gan ystyried beth mae’r person ifanc am ei newid neu ei ddatblygu.
  • Cynnal gwaith achos unigol yn dilyn cyfarfod cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn at amrywiaeth o ddibenion, megis:
    • cefnogi’r pontio o’r ysgol uwchradd i leoliadau ôl-16 ac o’r coleg ymlaen
    • cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag addysg ôl-16
    • asesu cryfderau a meysydd angen pobl ifanc i helpu i gynllunio darpariaeth ddysgu ychwanegol

Gwaith arall y mae seicolegwyr addysg yn ei wneud

Ysgolion arbennig a darpariaethau arbenigol

Mae seicolegwyr addysg yn darparu ystod lawn o wasanaethau mewn ysgolion arbennig awdurdodau lleol a darpariaethau arbenigol. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwaith strategol
  • hyfforddiant
  • darparu ymgynghoriad
  • arsylwi
  • asesu
  • arferion cydweithredol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu cymhleth a lluosog

Rolau arbenigol

Mae gan rai awdurdodau lleol rolau arbenigol penodol ar gyfer seicolegwyr addysg, er enghraifft:

  • plant y blynyddoedd cynnar
  • plant neu bobl ifanc agored i niwed, fel plant sy’n derbyn gofal
  • meysydd penodol o angen, fel plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth

Mae hyn yn caniatáu i’r seicolegwyr addysg hynny ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd yn y meysydd hyn fel y gallan nhw gefnogi dulliau ychwanegol wedi’u targedu ar gyfer y grwpiau hyn o blant a phobl ifanc.

Rolau seicolegydd addysg eraill

Seicolegwyr addysg cynorthwyol 

Cyflawnir rolau seicolegydd addysg cynorthwyol gan y rhai sydd â gradd seicoleg sydd â phrofiad o weithio gyda phlant neu bobl ifanc ac sydd â diddordeb mewn bod yn seicolegydd addysg. Byddan nhw’n ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau neu dasgau, a’r cyfan o dan oruchwyliaeth seicolegydd addysg cymwysedig a phrofiadol neu uwch, a fydd ei hun yn cael ei oruchwylio gan y Prif Seicolegydd Addysg, gan oruchwylio gwaith y seicolegydd addysg cynorthwyol.

Seicolegwyr addysg dan hyfforddiant

Caiff seicolegwyr addysg dan hyfforddiant leoliadau mewn awdurdodau lleol am flwyddyn a byddan nhw’n gweithio o dan oruchwyliaeth uniongyrchol seicolegydd addysg neu uwch seicolegydd addysg cymwys a phrofiadol. Maen nhw’n cwblhau gwaith fel seicolegydd addysg dan hyfforddiant, yn aml yn darparu cymorth a gwasanaeth i nifer fach o ysgolion. Mae’r lleoliad yn dilyn addysgu proffesiynol ac astudiaethau doethurol prifysgol. Bob blwyddyn bydd y seicolegydd addysg dan hyfforddiant yn symud i leoliad gwahanol, i gasglu ystod eang o brofiadau a chefnogi ei ddealltwriaeth a’i sgiliau yn well yn rôl amrywiol y seicolegydd addysg.

Seicolegwyr addysg heb eu cyflogi drwy wasanaethau addysg

Fel arfer, bydd seicolegwyr addysg yn cael eu cyflogi drwy wasanaethau plant neu addysg mewn awdurdodau lleol, ond mae rhai seicolegwyr addysg yn cael eu cyflogi gan wasanaethau iechyd mewn rolau penodol.

Seicolegwyr addysg mewn practis preifat

Mae rhai seicolegwyr addysg yn dewis darparu eu practis preifat eu hunain. Mae angen i bob seicolegydd addysg sy’n ymarfer gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) (Saesneg yn unig). Gallwch chi wirio a yw seicolegydd addysg wedi’i gofrestru drwy’r Gofrestr Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (Saesneg yn unig).

Digwyddiadau tyngedfennol 

Yn anffodus, daw ysgolion a chymunedau ar draws digwyddiadau tyngedfennol. Efallai y bydd y digwyddiadau tyngedfennol hyn i’w cael yn y gymuned ac yn effeithio ar ysgolion yn uniongyrchol. 

Yn ystod y cyfnodau anodd hyn, gall seicolegwyr addysg ddarparu cymorth i gymunedau ysgolion a gweithio gyda gwasanaethau eraill i helpu staff, plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr drwy’r profiadau anodd hyn ac i ddatblygu strategaethau ymdopi.

Enghreifftiau o ymarfer

Blynyddoedd cynnar: enghraifft o waith systemau ehangach

Cefndir 

Gall fod yn heriol i rai plant bontio o gyn ysgol i leoliad addysg. Mae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg mewn un awdurdod lleol yn cefnogi’r broses o ymuno ag ysgol drwy ddarparu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar yr oedolion sy’n gweithio gyda’r plant hynny.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Mae seicolegwyr addysg yn cydlynu ac yn hwyluso:

  • sesiynau ymgynghori rheolaidd ar-lein i gefnogi a datblygu ymarfer mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnig ymgynghori rheolaidd a goruchwyliaeth gwaith achos i gydweithwyr eraill y blynyddoedd cynnar mewn timau Dechrau’n Deg a thimau blynyddoedd cynnar eraill
  • cyfarfodydd cynllunio ymuno ag ysgol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a gynhelir gyda phawb sy’n berthnasol yn yr ysgol dderbyn pan fydd lleoedd ysgol wedi’u cadarnhau (mis Ebrill neu ddiweddarach)
  • cynnal adolygiad ymuno ag ysgol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda phawb dan sylw (tua hanner tymor mis Hydref y flwyddyn Dderbyn) lle caiff camau blaenorol eu hadolygu a chamau pellach eu datblygu gyda’i gilydd
  • cyd-greu camau gweithredu wrth gynllunio ymuno ag ysgol i gefnogi pontio gorau posibl y plentyn i’r ysgol

Canlyniad

Dywed tystiolaeth anecdotaidd fod y system hon yn cael ei gweld yn gadarnhaol gan y rhai sy’n ymwneud â’r broses. Cefnogwyd plant i ymgartrefu yn eu hysgol newydd yn gyflymach ac roedd y staff yn teimlo’n fwy hyderus ynghylch diwallu eu hanghenion.

Blynyddoedd cynnar: enghraifft o waith grŵp

Cefndir

Er mwyn cefnogi staff i ddiwallu anghenion y plant yn eu lleoliad, cyflwynodd y Gwasanaeth Seicoleg Addysg ymgynghoriad grŵp. Roedd y rhain ar agor i holl staff y blynyddoedd cynnar bob hanner tymor. 

Mae’r ymgynghoriad grŵp yn cynnwys y seicolegydd addysg yn cydweithio â’r bobl sy’n adnabod y plentyn orau i archwilio’r anghenion yn fanylach ac i gytuno ar gamau gweithredu ar gyfer newid cadarnhaol. Fe’i harweinir gan y seicolegydd addysg o fewn amgylchedd grŵp cyfoedion cefnogol (er enghraifft staff lluosog o wahanol leoliadau blynyddoedd cynnar yn mynychu un cyfarfod ymgynghori).

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Defnyddiodd y seicolegwyr addysg sgiliau ymgynghori a datrys problemau grŵp i hwyluso’r sesiynau ymgynghori grŵp awr o hyd a ddenodd staff o wahanol leoliadau blynyddoedd cynnar. Drwy hwyluso’r broses, cefnogodd y seicolegwyr addysg ymarferwyr blynyddoedd cynnar i rannu eu sgiliau a’u henghreifftiau o arfer da.

Canlyniad

Roedd yr ymgynghoriad grŵp yn gyfle unigryw i staff y blynyddoedd cynnar ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth trwy gydweithio â’u cyfoedion, a gwrando ar achosion, barn a syniadau ei gilydd ar gyfer newid cadarnhaol. Yna roedden nhw’n gallu cymhwyso’r syniadau hyn i’w lleoliadau eu hunain ac i achosion yn y dyfodol. Roedd y seicolegwyr addysg hefyd yn gallu dwyn i sylw’r staff gyfleoedd pellach ar gyfer hyfforddiant a datblygiad. Roedd manteision eraill yn cynnwys cyd-greu atebion cyflym, hygyrch, a staff yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi.

Blynyddoedd cynnar: enghraifft o waith unigol

Cefndir

Roedd tîm seicoleg addysg y blynyddoedd cynnar am wella’r broses bontio o ddarpariaeth gyn ysgol i ysol feithrin ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gan ddefnyddio straeon digidol. Fideos byr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n arddangos cryfderau, diddordebau ac anghenion plentyn yw straeon digidol. Mae’r fideos yn canolbwyntio ar safbwynt y plentyn, gan ganiatáu i’w llais gael ei glywed.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

O dan oruchwyliaeth y seicolegydd addysg blynyddoedd cynnar arweiniol, bu seicolegydd addysg dan hyfforddiant a seicolegydd addysg cynorthwyol yn arwain y prosiect straeon digidol. Wnaethan nhw ddarparu hyfforddiant a datblygu adnoddau ar straeon digidol ar gyfer 2 safle cyn ysgol. Dewiswyd 2 blentyn yr un o’r 2 safle cyn ysgol i gael stori ddigidol. Ben oedd un o’r plant a ddewiswyd.

Gyda goruchwyliaeth wythnosol i’w cefnogi drwy’r broses, erbyn diwedd yr hyfforddiant roedd staff y safle cyn ysgol yn gallu ffilmio a golygu’r holl ddeunydd. Dangoswyd stori ddigidol Ben i’w rieni, staff cyn ysgol a’i ysgol feithrin yn y dyfodol yn ystod cyfarfod pontio.

Canlyniad

Y prif ganlyniad oedd gosod Ben wrth wraidd y broses bontio. Rhoddodd ei safbwynt ei hun a chafodd ei gynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau.

Roedd gan y staff cyn ysgol a greodd stori ddigidol Ben ddealltwriaeth fwy cyfannol o’i gryfderau a’i anghenion unigol. Roedd rhieni Ben yn teimlo wedi’u grymuso o wylio’r stori ddigidol gan eu bod yn gallu gweld eu plentyn yn cyflawni pethau yr oedden nhw wedi meddwl o’r blaen na fyddai’n gallu eu gwneud. Ar ben hynny, pan rannwyd stori ddigidol Ben gyda’i ysgol feithrin, roedden nhw’n deall yn well sut y gallen nhw weithredu strategaethau ac adnoddau iddo cyn iddo ymuno â nhw.

Wrth symud ymlaen, hoffai’r tîm hyfforddi mwy o safleoedd cyn ysgol a meithrinfeydd ar draws yr awdurdod lleol fel y gall mwy o blant elwa ar stori ddigidol.

Blynyddoedd cynnar: enghraifft o weithio yn y gymuned

Cefndir

Datblygodd tîm o seicolegwyr addysg blynyddoedd cynnar ac arweinwyr iechyd lleol fodel i gynyddu capasiti i gefnogi plant a theuluoedd o dan oedran ysgol statudol ar draws eu hawdurdod lleol. Roedd hyn yn dilyn cynnydd yn nifer y teuluoedd sy’n destun amgylchiadau personol heriol oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a’r argyfwng costau byw. Lansiwyd model ‘Cylchoedd Cymorth Seicoleg Addysg Blynyddoedd Cynnar Cymunedol’ ym mis Medi 2021.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Fel rhan o’r model, mae seicolegwyr addysg blynyddoedd cynnar cyswllt cymunedol yn cydweithio ag eraill yn y gymuned, megis ymwelwyr iechyd, ymarferwyr blynyddoedd cynnar, gweithwyr cymorth teulu neu rianta, i helpu i benderfynu beth allai fod y camau nesaf mwyaf defnyddiol wrth gefnogi teulu a phlentyn, gan ddibynnu ar gryfderau, diddordebau ac anghenion cymorth y plentyn neu’r teulu. 

Cynhelir ymgynghoriad cychwynnol gan seicolegydd addysgol sy’n cyfeirio’r achos at y fforwm priodol. Mae lefelau cylchol y model yn pelydru tuag allan, gyda lefelau cymorth seicolegydd addysg yn cael eu neilltuo yn briodol. Mae cylchoedd mewnol yn dynodi lefelau uchel o gyfranogiad seicolegydd addysg, er enghraifft yn yr ymgynghoriad cychwynnol, tra bod cylchoedd allanol yn awgrymu dull rhyngasiantaethol mwy trwy gydweithio cymunedol neu gynllunio adnoddau ehangach. Mae’r model yn creu ffocws ehangach ar gymorth o amgylch plentyn (y cylchoedd cymorth allanol) yn hytrach na chymorth arbenigol ar sail unigol.

Canlyniad

Roedd yr adborth a gafwyd ar ôl i’r model gael ei weithredu yn gadarnhaol. Cynyddodd nifer y rhieni a’r gofalwyr a oedd yn teimlo eu bod yn gallu diwallu neu ddeall anghenion eu plentyn 32.9% ar ôl eu hymgynghoriad i 93.1%.

Mae defnyddio’r model hefyd yn cynyddu capasiti ac effeithlonrwydd i’r tîm ehangach o seicolegwyr addysg blynyddoedd cynnar, gan ganiatáu iddynt weld nifer fwy o blant a theuluoedd mewn angen.

Cynradd: enghraifft o waith systemau ehangach

Cefndir 

Roedd pryderon o fewn yr awdurdod lleol fod nifer fach o blant ifanc yn dangos ymddygiad yn cyfleu anghenion ymlyniad sylweddol. O ganlyniad i’w blynyddoedd cynnar trawmatig, nid oedd y plant hyn wedi sefydlu clymau emosiynol cryfion na chadarnhaol gyda’u gofalwyr. 

Ymhlith yr ymddygiadau a nodwyd oedd: 

  • gwrthwynebiad i gyffyrddiad ac anwyldeb corfforol
  • dangos awydd i gadw rheolaeth er mwyn osgoi teimlo’n ddiymadferth
  • anufudd-dod, herfeiddiwch ac ymddygiad dadleugar
  • mynegiant o ddicter, fel strancio neu ‘gamfihafio’
  • anawsterau’n mynegi eu bod yn ymboeni am eraill
  • anawsterau gydag atebolrwydd, sy’n debygol o fod yn gysylltiedig â phrofiadau o gywilydd

Roedd y plant hyn mewn gwahanol ysgolion cynradd prif ffrwd ac roedd cynorthwyydd addysgu yn gweithio gyda phob un ohonynt.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Cynigodd y seicolegwyr addysg yn yr awdurdod lleol hyfforddiant ymlyniad benodol a goruchwyliaeth grŵp ddilynol i’r cynorthwywyr addysgu a oedd yn gweithio mewn swydd un i un gyda phlentyn sydd ag anghenion ymlyniad. Tynnwyd cynorthwywyr addysgu cyfranogol o nifer o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol trwy gynhadledd lansio a helpodd i ddiffinio a hyrwyddo dealltwriaeth o anghenion ymlyniad mewn poblogaethau ysgolion.

Defnyddiwyd egwyddorion theori ymlyniad (Saesneg yn unig) fel fframwaith ar gyfer deall yr ymddygiadau a welir yn yr ysgol, ac i lywio cynlluniau ac ymatebion priodol. Cydnabuwyd bod mentrau a syniadau ‘wedi mynd ar goll’ weithiau wrth ganolbwyntio’n bennaf ar weithio ymgynghorol ar lefel uwch reolwyr mewn ysgolion. Felly, cynigiwyd mynd i’r afael â’r newid hwn trwy ddulliau ‘o’r brig i lawr’ ac ‘o’r gwaelod i fyny’. 

Roedd y dull ‘o’r brig i lawr’ yn cynnwys gwahodd aelodau allweddol o dimau arwain ysgolion i ddiwrnod hyfforddi ymarferol ar ddeall a diwallu anghenion ymlyniad plant mewn ysgolion. Yr elfen ‘o’r gwaelod i fyny’ oedd ail gam y prosiect lle cynigiwyd lleoedd i gynorthwywyr addysgu ac aelod o dimau arwain ysgolion i gymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio myfyrio a datblygu sgiliau. 

Nod y prosiect oedd canolbwyntio ar symud i ffwrdd o syniad ‘rhoi cymorth yn unig’ i ystyried swyddogaethau’r cymorth hwnnw, lle mae fframweithiau ymlyniad yn rhoi mwy o bwyslais ar agweddau perthynol rhyngweithio rhwng oedolyn a phlentyn wrth ddiwallu anghenion ymlyniad plentyn.

Canlyniad

Ar ddiwedd blwyddyn gyntaf y prosiect, cafodd y cynorthwywyr addysgu eu cyfweld gan seicolegwyr addysg i archwilio eu profiadau o gymryd rhan yn y sesiynau hyfforddi a goruchwylio, eu syniadau am ymddygiad plant mewn ysgolion, eu gwybodaeth a’u gallu i gymhwyso theori ymlyniad mewn gwaith gyda phlant, a chryfderau a chyfyngiadau’r ymyrraeth. 

Dadansoddwyd data’r cyfweliadau a nodwyd nifer o themâu o’r cyfweliadau a oedd yn caniatáu i’r gwasanaeth seicolegwyr addysg ddatblygu eu hymyrraeth ymhellach ar sail yr adborth hwn. Dylanwadodd canfyddiadau’r prosiect ymchwil hwn ar sut y datblygwyd yr hyfforddiant am yr ail flwyddyn.

Cynradd: enghraifft o waith systemau ehangach

Cefndir

Mae’r cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu (MeLSA) (Saesneg yn unig) yn fenter a gynlluniwyd gan seicolegwyr addysg i feithrin gallu ysgolion i gefnogi pob dysgu. Mae’n cydnabod ei bod yn bwysig bod oedolion sy’n gweithio gyda phlant yn deall datblygiad y sgiliau meddwl sy’n angenrheidiol ar gyfer dysgu. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd helpu oedolion sy’n gweithio gyda phlant i wybod sut i’w helpu i feddwl yn effeithlon ac annibynnol. 

Mae’r cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu yn darparu ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn modd hygyrch a rhyngweithiol i sicrhau bod gan gynorthwywyr addysgu ddealltwriaeth gadarn o seicoleg dysgu. Mae’n cefnogi’r cynorthwyydd addysgu i ddefnyddio’r wybodaeth seicolegol hon am ddysgu i gefnogi plant i ddysgu, gan ddefnyddio sgiliau cyfryngu.

Mae sail seicolegol cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu yn seiliedig ar barth datblygiad gwirioneddol (zone of actual development (ZAD)) Vygotsky (Saesneg yn unig), sef yr hyn y gall plentyn neu berson ifanc ei wneud ar ei ben ei hun, heb gymorth. Y parth datblygiad procsimol (zone of proximal development (ZPD)), neu nesaf, yw’r hyn y gall plentyn neu berson ifanc ei gyflawni gyda chymorth rhywun arall mwy profiadol. Y ‘rhywun arall’, at ddibenion yr hyfforddiant hwn, fydd cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu. Mae pwyslais y parth datblygiad procsimol ar botensial i ddysgu yn hytrach na pharodrwydd ac mae rôl y ‘rhywun arall mwy gwybodus’ (cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu) yn hynod bwysig.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Cynorthwywyr addysgu yw cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu sydd wedi cael 6 diwrnod o hyfforddiant ychwanegol gan seicolegwyr addysg ar agweddau ar theori ac ymarfer dysgu. Bydd angen i gynorthwywyr cyfryngu cymorth dysgu gymryd rhan mewn goruchwyliaeth barhaus ar ôl yr hyfforddiant i gynnal eu hyfforddiant cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu. Mae cymorth parhaus yn hanfodol i sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei weithredu. Mae’r model hwn yn debyg iawn i fframwaith y cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA), sydd wedi’i fabwysiadu mewn llawer o wasanaethau seicoleg addysg yng Nghymru.

Mae cynnwys plant sydd â heriau gwybyddol a dysgu yn hanfodol, efallai y byddan nhw’n cael cymorth gan gynorthwywyr addysgu, sy’n gweithio gyda nhw i alluogi eu dysgu. Nodwyd bod hyfforddiant wedi’i dargedu ar gyfer cynorthwywyr addysgu yn bwysig, er mwyn iddynt gael yr effaith orau bosibl (gweler Peter Farrell, The impact of teaching assistants, Education Review, 2010).

Gall cynorthwywyr cyfryngu cymorth dysgu weithredu eu hyfforddiant mewn ffordd sy’n ddefnyddiol i’w hysgol. 

Gallen nhw:

  • weithio’n unigol gyda dysgwr sy’n ei chael hi’n anodd i ymchwilio i sgiliau
  • gweithio ar ddatblygu a chymhwyso sgiliau dysgu i feithrin annibyniaeth
  • gweithio gyda grwpiau bychain i ddatblygu sgiliau meddwl
  • cymhwyso gwybodaeth cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu yn ystod gwaith dosbarth cyfan
  • hyfforddi cynorthwywyr addysgu eraill mewn agweddau ar hyfforddiant cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu

Canlyniad

Mae’r seicolegwyr addysg wedi cynllunio prosiect ymchwil i ymchwilio i hunan-effeithiolrwydd cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu. Mae ymchwil yn rhan o’r matrics o ffyrdd y gall seicolegwyr addysg ddefnyddio eu hyfforddiant proffesiynol i sicrhau ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cychwyn ar eu taith cynorthwyydd cyfryngu cymorth dysgu a sefydlwyd rhwydwaith cymorth i gynorthwywyr cyfryngu cymorth dysgu yng Nghymru.

Cynradd: enghraifft o waith grŵp

Cefndir

Nododd y seicolegydd addysg a’r cynorthwywyr addysgu yn yr ysgol bryderon yn ymwneud â rhai plant yn dysgu ac yn cadw’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i feithrin sgiliau llythrennedd a rhifedd. 

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • geiriau aml eu defnydd
  • patrymau ffonig sylfaenol
  • bondiau rhif 

Arweiniodd anawsterau yn y meysydd hyn at gynnydd araf iawn wrth feithrin sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Awgrymodd y seicolegydd addysg y gallai addysgu manwl helpu i fynd i’r afael â’r anawsterau hyn gyda sgiliau sylfaenol, megis cofio sgiliau ffonig cychwynnol, darllen geiriau aml eu defnydd wrth eu golwg a sgiliau rhifyddeg sylfaenol. Wnaethan nhw ddarparu hyfforddiant i’r cynorthwywyr addysgu a weithredodd y rhaglen. 

Canlyniad

Roedd yr hyfforddiant yn fuddiol iawn. Roedd y rhaglenni addysgu manwl a roddwyd ar waith yn hynod effeithiol. Rhannwyd y canlyniadau cadarnhaol yng nghyfarfodydd y grŵp clwstwr ac fe’u rhannwyd gyda chydweithwyr eraill ledled yr awdurdod lleol. Gofynnodd ysgolion eraill am yr hyfforddiant, a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg.

Cynradd: enghraifft o waith grŵp

Cefndir

Mae’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn cynnig sesiynau ymgynghori grŵp i bob ysgol gynradd fel rhan o’r dull graddedig o gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd. Mae seicolegwyr addysg ac athrawon yn cyfarfod yn rheolaidd i rannu gwybodaeth am addysgeg a seicoleg i gyd-lunio cynlluniau gweithredu y gellir eu defnyddio ar gyfer plant unigol, grwpiau neu ddatblygiad ysgol gyfan. Crybwyllodd nifer o athrawon mewn ymgynghoriad grŵp bryderon ynghylch caffael llythrennedd, yn enwedig darllen, ar gyfer dysgwyr mewn grwpiau blwyddyn perthnasol.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Cytunodd seicolegydd addysg arbenigol a seicolegydd addysgol dan hyfforddiant i gynnig cyfle i bob ysgol gynradd gymryd rhan mewn prosiect i fynd i’r afael â datblygu sgiliau darllen. Datblygwyd y prosiect ymchwil gweithredol i wella sgiliau darllen, cynyddu cymhelliant a magu hyder. Gofynnwyd i athrawon ymrwymo i nifer o elfennau gan gynnwys darparu data cyn ac ar ôl y prosiect at ddibenion gwerthuso prosiect.

Dewiswyd darllen mewn parau fel model ar gyfer addysgu gan y gwyddys bod gan hyn sylfaen dystiolaeth gref fel dull o wella cywirdeb darllen, rhuglder a dealltwriaeth plant (Topping, 1995, 2001). Mae plant yn dewis eu llyfrau eu hunain ac yn mwynhau darllen gydag oedolyn mewn sefyllfa un i un am 10 i 15 munud.

Mae ffactorau eraill yn aml yn dylanwadu ar gynnydd gyda llythrennedd, megis cymhelliant, mwynhad, profi llwyddiant a hunan-gysyniad academaidd. Teimlai’r seicolegydd addysg y gallai fod yn fuddiol cyfuno darllen mewn parau â hunan-fodelu fideo. Dangoswyd bod yr ymyriad hwn yn effeithiol wrth sicrhau newidiadau cadarnhaol mewn hunan-barch, agwedd ac ymddygiad.

Gellir defnyddio hunan-fodelu fideo i hyrwyddo caffael sgiliau’n gyflym, cynyddu cymhelliant a meithrin hyder (Buggey, 2007). Mae defnyddio fideo sy’n hoelio sylw ar y plant, yn llwyddo ac yn mwynhau eu hunain, yn eu galluogi i ragweld yr hyn y gallan nhw ei wneud. Caiff y plant eu cynnwys yn y broses o greu ffilm fer gan ddefnyddio clipiau fideo dethol a gymerwyd gan oedolyn. Maen nhw’n ychwanegu eu syniadau eu hunain, fel delweddau a cherddoriaeth, cyn gwylio eu ffilm fesul tipyn dros nifer o wythnosau. Efallai y byddan nhw hefyd yn dewis rhannu eu ffilm gydag eraill fel aelodau o’r teulu.

Mae darllen mewn parau a hunan-fodelu fideo yn darparu profiadau sy’n hyrwyddo gwydnwch i blant. 

Gan gynnwys:

  • bod yn rhan o brosiect arbennig
  • datblygu perthnasoedd cadarnhaol
  • cymryd rhan mewn gweithgaredd dymunol gydag oedolyn gan fwynhau canmoliaeth a llwyddiant
  • gwneud dewisiadau am eu dysgu eu hunain
  • eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi a’u cydnabod

Roedd gan y seicolegydd addysg ddiddordeb mewn darganfod a fyddai unrhyw wahaniaeth rhwng plant a gafodd ddarllen mewn parau’n unig a phlant a gafodd ddarllen mewn parau a hunan-fodelu fideo. 

Rhannwyd yr 8 ysgol a gymerodd ran yn 2 grŵp a chwblhawyd holiaduron a graddfeydd athrawon cyn ac ar ôl yr ymyrraeth. Gwahoddwyd sylwadau ychwanegol hefyd a cheisiwyd barn y plant. Parhaodd y prosiect y tu hwnt i gasglu data er mwyn i’r holl blant elwa ar ddarllen mewn parau a hunan-fodelu fideo.

Canlyniad

Llwyddodd pob un o’r 12 plant a gymerodd ran yn y prosiect i ennill sgiliau darllen o fewn y cyfnod 7 wythnos. Roedd plant a gafodd hefyd yr ymyriad hunan-fodelu fideo (grŵp 1) yn ystod y 7 wythnos wedi elwa llawer mwy ar bob un o’r 11 mesur, yn enwedig ‘parodrwydd i ddarllen’, ‘pleser o ddarllen’, ‘diddordeb mewn darllen’, ‘hyderus i ddarllen’, ‘dangos cywirdeb wrth ddarllen’, ‘gallu canolbwyntio wrth ddarllen’ a ‘hunan-barch yn dda ar y cyfan’.

Roedd data ansoddol a grybwyllwyd gan athrawon am eu plant yn cynnwys:

  • gwelliannau mewn lles a hapusrwydd yn yr ysgol
  • gwelliannau mewn gweithio’n annibynnol
  • gwelliannau mewn ysgrifennu a sillafu
  • darllen yn y dosbarth pan na fydden nhw wedi gwneud hynny gynt
  • newid agwedd tuag at ddarllen ar ôl pythefnos
  • cymryd yr awenau’n amlach
  • mwy o agwedd gadarnhaol
  • siarad mwy gydag oedolion a phlant eraill
  • darllen yn fwy o drefn yn y cartref y mae’r plentyn yn ei mwynhau
  • mwy o gyfeillgarwch

Mae ysgolion yn parhau i ofyn i’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg am hyfforddiant mewn darllen mewn parau. Mae ysgolion unigol a chlystyrau ysgolion hefyd yn gofyn am hyfforddiant hunan-fodelu fideo gan ei fod yn cael ei ystyried yn ddull sy’n canolbwyntio ar y plentyn y gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau ar gyfer plant o bob grŵp oedran. Mae darllen mewn parau yn cefnogi newidiadau ymddygiad cadarnhaol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn gwella sgiliau, ac yn gwella hyder a lles.

Cynradd: enghraifft o waith unigol

Cefndir

Nodwyd gan yr ysgol fod Ffion, 6 oed, wedi dechrau cael anawsterau gyda thasgau a gweithgareddau penodol, a’i bod yn aml yn cael ei galw’n ‘drwsgl’. Cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol rhwng y seicolegydd addysg a chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) yr ysgol lle cytunwyd y byddai Ffion yn elwa ar gael archwiliad golwg a chlyw. Canfuwyd bod ganddi gyflwr llygaid dirywiol.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori rhwng y seicolegydd addysg, rhieni Ffion, ei hathrawes ddosbarth, yr athrawes ymgynghorol ar gyfer amhariad ar y golwg a’r CADY i helpu i bennu a oedd gan Ffion ADY ac a fyddai angen cynllun datblygu unigol (CDU) arni i gefnogi ei hanghenion. Cyfarfu cynorthwyydd cymorth dysgu â Ffion cyn y cyfarfodydd ymgynghori i gael ei barn a rhannwyd y farn hon yn ystod y cyfarfod. Tynnodd y seicolegydd addysg ar wybodaeth am ddatblygiad Ffion, a’r ffactorau seicolegol ac amgylcheddol sy’n effeithio ar ei hanghenion addysgol. Trafodwyd syniadau cadarnhaol ar gyfer newid a chytunwyd ar gamau gweithredu. Trefnwyd dyddiadau adolygu fel bod cynnydd Ffion yn cael ei fonitro’n agos. Roedd yr holl wybodaeth hon yn cyfrannu at ei chynllun datblygu unigol.

Ar ôl 12 mis roedd anghenion Ffion yn mynd yn ddwysach oherwydd natur ddirywiol ei chyflwr. Cynhaliwyd adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a theimlwyd bod angen cymorth ac adnoddau mwy arbenigol ar Ffion i ddiwallu ei hanghenion addysgol. Cytunodd pawb y byddai ysgol Ffion yn gwneud cais i’r awdurdod lleol am gynllun datblygu unigol a gynhelir gan awdurdod lleol.

Penderfynodd yr awdurdod lleol fod asesiad ar gyfer cynllun datblygu unigol a gynhelir gan awdurdod lleol yn briodol. Edrychodd y seicolegydd addysg yn gyfannol ar gryfderau Ffion a’r ADY a oedd yn effeithio ar ei haddysg. Gan gasglu rhagor o wybodaeth drwy ymgynghori, gwybodaeth a gafwyd gan gydweithwyr eraill a gweithio’n uniongyrchol gyda Ffion, paratôdd y seicolegydd addysg yr adroddiad seicolegol.

Canlyniad

Penderfynodd yr awdurdod lleol fod anghenion Ffion yn ddifrifol a chymhleth a’u bod yn golygu bod gofyn iddi gael cynllun datblygu unigol a gynhelir gan awdurdod lleol. Cynhaliwyd cyfarfod, yn cynnwys Ffion a phawb oedd yn gweithio gyda hi. Penderfynwyd ar ganlyniadau penodol ar gyfer symud Ffion tuag at ei dyheadau a’i nodau, a’r gefnogaeth y byddai ei hangen i alluogi Ffion i gyflawni’r canlyniadau hyn, ar y cyd. Cafodd cynnydd Ffion ei adolygu’n rheolaidd gan bawb oedd yn gweithio gyda hi.

Uwchradd: enghraifft o waith systemau ehangach

Cefndir 

Pecyn yw’r hyfforddiant cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA) a ddatblygwyd ac a ddarperir gan seicolegwyr addysgol ac fe’i cyflwynir i aelodau staff ysgol, sef cynorthwywyr addysgu yn bennaf.

Mae’r cwrs yn amlinellu ac yn cymhwyso damcaniaethau seicolegol i dynnu sylw at bwysigrwydd llythrennedd a lles emosiynol fel rhagflaenydd i barodrwydd i ddysgu.

Mae 6 diwrnod o hyfforddiant sy’n cynnwys:

  • hybu ymwybyddiaeth am lythrennedd emosiynol mewn ysgolion
  • magu gwydnwch a hunan-barch
  • cydnabod a rheoli emosiynau
  • sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch
  • profedigaeth a cholled
  • straeon therapiwtig a chymdeithasol
  • gwrando gweithredol a sgyrsiau myfyriol
  • dulliau creadigol o weithio

Nod y cwrs yw rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i gynorthwywyr addysgu gynllunio a darparu ymyriadau lles pwrpasol a hyblyg gyda phobl ifanc un i un neu mewn grwpiau bach. 

Gallai gynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol fod yn gweithio gyda phobl ifanc:

  • sy’n arddangos ymddygiad heriol ac y mae angen cymorth arnynt i adnabod a rheoli eu hemosiynau
  • y mae angen eu cefnogi i wneud a chynnal cyfeillgarwch
  • sydd efallai heb hyder yn yr ysgol
  • a allai elwa ar gymorth i wella eu hiechyd meddwl 

Gall rôl cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol amrywio gan ddibynnu ar bob person ifanc a’i oedran, ei allu a’i amgylchiadau. 

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Mae seicolegwyr addysg yn darparu cymorth parhaus trwy sesiynau goruchwylio grŵp cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol rheolaidd. Mae’r oruchwyliaeth yn darparu lle cefnogol i gynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol barhau i ddatblygu eu sgiliau a’u cymhwysedd a rhannu ymarfer llwyddiannus. 

Canlyniad

Awgryma ymchwil sy’n archwilio effeithiolrwydd cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol fod sesiynau cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar sgiliau cyfeillgarwch, hunanhyder a chyflawniad academaidd (Shotton a Burton, 2008). Mae athrawon wedi nodi gwelliant sylweddol yn llythrennedd ac ymddygiad emosiynol dysgwyr (Burton et al., 2010) a’u gallu i ddangos empathi (Murray, 2010) oherwydd ymyrraeth cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol. Mae tystiolaeth betrus hefyd am effaith ymyrraeth cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol wrth gefnogi llythrennedd emosiynol plant a phobl ifanc y tu hwnt i amserlen ymyrraeth 6 wythnos (Silver, Emanuel a Jones, 2024). Awgryma ymchwil sy’n archwilio adborth gan blant fod y mwyafrif yn dweud bod sesiynau cynorthwyydd cymorth llythrennedd emosiynol yn brofiad cadarnhaol iddynt (Mann a Russell, 2011). 

Ceir rhagor o wybodaeth am gynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol ac ymchwil ar wefan Rhwydwaith ELSA (Saesneg yn unig).

Uwchradd: enghraifft o waith systemau ehangach

Cefndir

Mae anhawster mynychu ysgol ar sail emosiynol (AMYSE) yn faes angen cymhleth. Mae ‘Prosiect AMYSE: Newid Iaith a Safbwyntiau’ yn darparu rhaglen hyfforddiant a chymorth wedi’i hymgorffori ar gyfer timau arwain ysgolion, staff mewn ysgolion, a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc. Y nod yw cefnogi ymyrraeth gynnar ac effeithiol i asesu ac ymyrryd yn y ffordd fwyaf amserol a defnyddiol, i atal AMYSE sydd wedi ymwreiddio a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol. 

Amlygwyd bod angen y prosiect hwn am y tro cyntaf cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Fodd bynnag, roedd y pandemig yn gatalydd ac wnaeth y prosiect fwrw gwreiddiau o ystyried y cynnydd disgwyliedig ym mhryder plant a rhieni ar ôl cau ysgolion am amser maith. Mewn astudiaeth yn edrych ar farn dysgwyr am eu haddysg yng nghyd-destun y pandemig, cwblhaodd 1,758 o blant a phobl ifanc holiaduron (Sivers, Wendland, Baggley, Boyle, Popoola, a Looney (2020)). 

Daeth neges allweddol i’r amlwg am ddatblygiad polisi lleol ar ymateb graddedig i AMYSE fel y gallai awdurdodau lleol gefnogi ysgolion yn well wrth nodi a gweithio gyda dysgwyr sy’n dangos AMYSE, a’u teuluoedd. Roedd angen gwaith ataliol ac ymyrraeth gynnar, gyda’r angen am ‘gontinwwm ymyrraeth’ i ddarparu ymyrraeth gynharach i ddysgwyr a oedd yn dechrau cyflwyno AMYSE. 

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Sefydlodd y Gwasanaeth Seicoleg Addysg grŵp AMYSE traws-gyfarwyddiaeth i gydlynu rhaglen hyfforddiant datblygiad proffesiynol a llwybr ymateb graddedig i AMYSE. Mae hyn yn canolbwyntio ar adnabod yn gynnar a gwell dealltwriaeth o’r cymhlethdodau sy’n wynebu plant a phobl ifanc a’u teuluoedd.

Yn sail i’r cynnig cychwynnol hwn oedd ffactorau a nodwyd yn y sylfaen dystiolaeth sy’n gysylltiedig â chanlyniadau cadarnhaol, gan bwysleisio pwysigrwydd dull amlasiantaethol. Roedd y prosiect yn cynnwys 5 cam a oedd yn cynnwys datblygu a chynhyrchu canllawiau ac adnoddau AMYSE, gan gynnwys llwybr AMYSE, cynllun cefnogi AMYSE, canllawiau cefnogi arfer da ar gyfer ysgolion ar gyfer presenoldeb a lles, ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho i’w defnyddio i ddeall a gwrando ar lais y person ifanc.

Crëwyd pecyn hyfforddi traws-gyfarwyddiaeth ‘Cyflwyniad i AMYSE’ a amlygodd bwysigrwydd datblygu ymwybyddiaeth am AMYSE, prosesau AMYSE a dull ysgol gyfan o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Datblygwyd model treigl o hyfforddiant a chymorth proffesiynol ac fe’i gwreiddiwyd i sicrhau cynaliadwyedd a chywirdeb. Mae’r model cymorth hwn yn cynnwys cynnig sesiynau ymgynghori AMYSE ar-lein a hwylusir gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gydag 1 sesiwn bob blwyddyn yn canolbwyntio’n benodol ar bontio Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Mae hefyd yn darparu cynllun clir o sut i gefnogi plentyn neu berson ifanc sydd mewn perygl o AMYSE neu’n profi AMYSE.

Defnyddir sesiynau ymgynghori AMYSE fel lle sy’n canolbwyntio ar atebion, lle rhennir arfer da rhwng ysgolion, gweithwyr proffesiynol a swyddogion awdurdodau lleol sy’n cefnogi AMYSE. Gall gweithwyr proffesiynol drafod dysgwyr yn ddienw i ddod o hyd i ffordd ymlaen i gefnogi’r rhai sy’n dangos arwyddion o AMYSE.

Canlyniad

Newidiodd y gofyniad i gael at ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol o ofyn am adroddiad ymgynghorydd i ehangu hyn i gynnwys adroddiadau seicolegwyr addysg. Mae hyn yn lleihau’r cyfnod posibl o amser y mae’n rhaid i blentyn neu berson ifanc aros am ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol os ydyn nhw’n profi AMYSE sylweddol ac os nad oes darpariaeth yn yr ysgol ar gael iddynt ar hyn o bryd.

Darparwyd hyfforddiant ym mhob un o’r 4 ysgol uwchradd yn yr ardal. Cafodd yr hyfforddiant hwn groeso mawr, gyda 100% o’r mynychwyr yn cytuno bod yr hyfforddiant wedi cynyddu eu dealltwriaeth o AMYSE a’i effaith ar les plant a phobl ifanc, a sgôr gyfartalog o 4.5 allan o 5 o ran yr hyfforddiant yn cael effaith fawr ar eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.

Datblygwyd pecyn hyfforddi cyflenwol ‘Awtistiaeth a Merched’ gan yr awdurdod lleol gyda chyfraniad rhiant merch ag awtistiaeth sy’n destun AMYSE. Cafodd yr hyfforddiant hwn ei werthuso’n gadarnhaol, a chynyddodd staff eu dealltwriaeth o gyflwyniad awtistiaeth mewn merched.

Yn ogystal â hyn mae seicolegydd addysg a gweithiwr cymorth i deuluoedd wedi datblygu a chynnal ‘Gweithio gyda Phryderon’, sef gweithdy rhieni a gofalwyr sy’n cael ei gynnig yn ystod gwyliau’r haf.

Datblygodd un ysgol uwchradd, mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, ddarpariaeth bwrpasol ar gyfer grŵp bach o ddysgwyr sydd ag AMYSE. Mae’r ddarpariaeth beilot hon wrthi’n cael ei gwerthuso. Mae prosiect AMYSE bellach wrthi’n datblygu cynnig cymorth AMYSE i rieni a gofalwyr, gyda mewnbwn gan rieni a gofalwyr dysgwyr sy’n defnyddio’r ddarpariaeth hon.

Defnyddiwyd cyllid grant hefyd i gyflwyno swyddogion cymorth ADY traws-gyfnod. Mae’r rhain yn gweithio ym mhob ysgol uwchradd, sy’n gweithio i’r ysgolion cynradd clwstwr, i hyrwyddo eu cynhwysiant a’u lles, ac i gefnogi’r broses bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n ataliol gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o AMYSE.

Cafwyd newid yn y ddealltwriaeth, y safbwyntiau a gymerwyd a’r cymorth a gynigir gan weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ar draws yr awdurdod lleol. Bellach mae gan ysgolion becyn clir o ganllawiau, adnoddau a chymorth i’w galluogi i gymryd camau ataliol cynnar.

Uwchradd: enghraifft o waith systemau ehangach

Cefndir

Mewn un ardal awdurdod lleol mae’r seicolegwyr addysg yn cael eu comisiynu i weithio gyda’r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ar waith atal. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfarfodydd rheoli achosion manylach gyda gweithwyr achos yn y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ynghylch achosion cymhleth sy’n gysylltiedig â throseddu ieuenctid a hanes trawma
  • defnyddio’r model adfer trawma a’r adnodd mapio datblygiadol i gefnogi fformwleiddiadau ac argymhellion seicolegwyr addysg
  • ymgysylltiad posibl, ar lefel unigol, gyda’r person ifanc a’r teulu
  • asesiad neu arsylwi posibl ar lefel unigol

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Mae seicolegwyr addysg mewn sefyllfa dda i weithio gyda’r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid oherwydd yn aml mae’r bobl ifanc yn hysbys i’r awdurdod lleol ac efallai bod ganddynt hanes o beidio ag ymgysylltu neu ymyrryd dros amser. Ar hyn o bryd, mae rhai o’r bobl ifanc yn mynychu’r ysgol neu addysg bellach. Mae seicolegwyr addysg sy’n gweithio gyda thimau eraill o fewn y gyfarwyddiaeth yn magu perthynas waith agosach a darlun mwy cyfannol o anghenion y person ifanc.

Ymhlith manteision gweithio mewn gwaith ataliol o fewn y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid mae:

  • atal ymddygiad aildroseddu
  • cymorth i adfer wedi trawma
  • cefnogi gweithwyr achos i fod yn oedolion sydd ar gael yn emosiynol drwy ymgynghori, megis newid canfyddiad o drawma a’r ffordd y maen nhw’n ymgysylltu â’r person ifanc 

Canlyniad

Trwy nodi dulliau strategol o wella’r ddarpariaeth, er enghraifft drwy ymgorffori dulliau sy’n seiliedig ar drawma, cafodd pobl ifanc a gefnogwyd gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid gymorth ategol pellach yn eu lleoliadau addysg (megis unedau cyfeirio disgyblion neu leoliadau arbenigol). Roedd hyn yn caniatáu i ymyriadau priodol gael eu cyflawni, ymatebion mwy sensitif gan oedolion ac, yn y pen draw, gostyngiad mewn aildroseddu.

Uwchradd: enghraifft o waith grŵp

Cefndir

Ar draws yr awdurdod lleol, roedd gan benaethiaid ysgolion uwchradd bryderon cynyddol ynghylch lles eu dysgwyr Blwyddyn 11. Mae’r dysgwyr hyn wedi wynebu llawer o ansicrwydd yn gysylltiedig ag effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19). Roedd cyfnodau hir o absenoldeb o’r ysgol yn eu gadael yn teimlo’n ofidus, yn bryderus ac yn nerfus am eu dyfodol. 

Datgelodd holiadur mai’r pryderon presennol sy’n wynebu dysgwyr Blwyddyn 11 oedd:

  • hygrededd graddau
  • mwy o brofion
  • pontio i addysg ôl-16

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Cydweithiodd ymarferwyr o’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg, y Tîm Lles a’r Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion i gynllunio a chyflwyno gweithdy ar-lein i gefnogi dysgwyr Blwyddyn 11. Roedd y gweithdy awr o hyd yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys hunanofal, ymwybyddiaeth ofalgar, ail-lunio meddyliau negyddol a seicoleg gadarnhaol. Rhannodd pob ysgol y gweithdy gyda’i dysgwyr. Ar ddiwedd y gweithdy, cafodd y dysgwyr gyfle i siarad ag aelod o’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg neu’r Tîm Lles os oedden nhw’n dymuno. Cawsan nhw eu cyfeirio hefyd at adnoddau pellach a grëwyd gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg.

Canlyniad

Dywedodd y dysgwyr fod y gweithdy wedi eu helpu i feddwl am straen mewn ffordd wahanol. Roedden nhw’n gallu gweld bod manteision posibl o gael straen, er enghraifft i’w cymell i astudio ar gyfer arholiadau, ond roedden nhw hefyd yn deall sut i reoli teimladau pryderus yn well. 

Am fod y gweithdy’n ymgorffori llawer o bynciau gwahanol, cafodd pob dysgwr unigol o leiaf un gweithgaredd y gallai gyfranogi ynddo a’i fwynhau, gan ei helpu i leihau ei lefelau straen. Dywedodd rhai dysgwyr eu bod yn ddiolchgar am y cyfle i siarad â seicolegydd addysg wedyn.

Uwchradd: enghraifft o waith grŵp

Cefndir 

Mae rhai seicolegwyr addysg yn gweithio, am ran o’u hamser, yng ngwasanaeth ieuenctid yr awdurdod lleol. Mae hyn yn helpu i uwchsgilio a grymuso gweithwyr ieuenctid, ac er budd pobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol. 

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Ar lefel unigol, mae’r seicolegydd addysg yn cynnig ymgynghoriad un i un gyda gweithwyr ieuenctid i drafod grwpiau neu bobl ifanc unigol, gyda’r nod o uwchsgilio a grymuso gweithwyr ieuenctid. Mae’r rhain yn wirfoddol ac mae pobl ifanc yn cael eu trafod yn ddienw, oni bai bod caniatâd rhieni wedi’i gael, neu mae’r person ifanc dros 16 ac wedi rhoi caniatâd. Cynigir cymorth neu oruchwyliaeth un i un hefyd, er mwyn caniatáu myfyrio ynghylch ymarfer proffesiynol mewn modd nad yw’n rheoli. 

Ar lefel grŵp, mae’r seicolegydd addysg yn hwyluso sesiwn fyfyrio wythnosol i staff. Caiff y rhain eu gwerthfawrogi a’u mynychu’n dda. Bob yn ail wythnos, cyflwynir ‘siop siarad’, sy’n seiliedig ar thema ac wedi’i hysbrydoli gan faterion cyfredol sy’n codi o fewn y gwasanaeth. Cynhelir sesiwn galw heibio sy’n canolbwyntio ar atebion bob yn ail wythnos i drafod pobl ifanc neu grwpiau penodol gyda’r nod o ddatrys problemau o fewn tîm gan ddefnyddio’r arbenigedd o fewn y tîm. 

Mae gwaith lefel systemig yn cynnwys cyswllt amlasiantaethol, datblygu adnoddau a hyfforddiant, sy’n cael ei ddatblygu a’i ddarparu ar sail bwrpasol, ddeinamig a arweinir gan anghenion. Mae’r seicolegydd addysg yn creu adnoddau ar y cyd â gweithwyr ieuenctid yn ôl yr angen, sydd wedi cynnwys datblygu ystod o grwpiau llythrennedd emosiynol (gorbryder, rheoli dicter) a grwpiau pontio. Hefyd, mae’r seicolegydd addysg yn darparu hyfforddiant i’r tîm (er enghraifft dulliau sy’n seiliedig ar drawma) a hyfforddiant wrth ddefnyddio gweithgareddau seicolegol penodol i ennyn barn y bobl ifanc (er enghraifft hambwrdd tywod, lluniadau empathi mawr, lluniadau teulu cinetig). Lle bo’n briodol, gwneir cysylltiadau ag asiantaethau eraill hefyd i ddarparu hyfforddiant pwrpasol.

Canlyniad

Ceir hyfforddiant a datblygiad i weithwyr ieuenctid i wella eu hymarfer a magu eu hyder. Caiff pobl ifanc gymorth gan weithwyr ieuenctid sy’n deall eu hanghenion yn well ac yn ymateb yn sensitif. Darperir grwpiau i’r gymuned i fynd i’r afael â bylchau penodol yn y ddarpariaeth.

Ôl-16: enghraifft o waith systemau ehangach

Cefndir

Cynhaliwyd adolygiad mewnol yn y coleg addysg bellach i asesu sgiliau bywyd myfyrwyr sydd ag anghenion cymhleth. Nododd fod staff yn ei chael hi’n anodd gan fod lefelau annibyniaeth y myfyrwyr yn isel iawn ac roedd staff yn ansicr o’r ffordd orau o gefnogi myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn lleoliad y coleg. 

Ymgynghorwyd â’r seicolegydd addysg ac wrth drafod â’r staff, penderfynwyd dyfeisio pecyn cymorth sy’n seiliedig ar sgiliau bywyd i helpu staff i fynd i’r afael ag anghenion y myfyrwyr sydd ag ADY er mwyn iddynt fod yn fwy annibynnol.

Roedd y sgiliau sydd eu hangen yn cynnwys gwella sgiliau rhif a llythrennedd sylfaenol er mwyn i fyfyrwyr allu cymryd rhan lawn yn y gweithgareddau canlynol:

  • siopa
  • rheoli arian ar lefel syml
  • teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • dweud yr amser
  • meddu ar eirfa golwg gymdeithasol ddigonol i fod yn ddiogel yn y gymuned
  • diogelwch ar y ffyrdd
  • sgiliau coginio
  • sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol

Cyfranogiad seicolegydd addysg

I ddechrau, cynhaliodd y seicolegydd addysg a’r pennaeth gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn y coleg ymgynghoriad ynghylch canlyniadau’r adolygiad sgiliau bywyd yn y coleg. Cytunwyd y byddai gweithgor cymorth sgiliau bywyd yn cael ei sefydlu. Y seicolegydd addysg a’r pennaeth gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn y coleg oedd yn cadeirio’r grŵp. Cytunwyd ar gynllun gweithredu ac un o’r meysydd ffocws allweddol oedd hyfforddi staff i ddefnyddio’r pecyn cymorth sgiliau bywyd fel y byddai ar gael i’r holl staff i gefnogi eu dulliau addysgu gyda myfyrwyr a oedd â lefelau sgiliau bywyd isel. 

Yn ogystal â’r pecyn cymorth, rhoddwyd hyfforddiant gan y seicolegydd addysg a phennaeth y gwasanaethau cymorth i ddysgwyr i staff y coleg i sicrhau ymwybyddiaeth lawn am y pecyn cymorth a’i adnoddau. Cynhyrchwyd llyfr gwaith addysgu sgiliau bywyd gan y seicolegydd addysg a phennaeth y gwasanaethau cymorth i ddysgwyr. Mae hyn yn ategu’r hyfforddiant ac fe’i cynlluniwyd i gael ei gyflwyno i grwpiau staff cyfan.

Canlyniad

Mae’r pecyn cymorth a’r hyfforddiant wedi effeithio ar bolisïau, gweithdrefnau ac arferion sgiliau bywyd yn y coleg. At ei gilydd, mae 92% o’r myfyrwyr wedi crybwyll iddynt ganfod bod yr adnoddau yn y pecyn cymorth yn ddefnyddiol wrth wella eu sgiliau bywyd. Nododd coleg lleol arall yr hoffai ddefnyddio’r pecyn cymorth a’r hyfforddiant ar gyfer eu staff coleg.

Bu’r seicolegydd addysg a phennaeth y gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn casglu data ansoddol a meintiol ynghylch y pecyn cymorth a’i effeithiolrwydd. Bydd cyhoeddi papur ymchwil yn ceisio gwella ymarfer gweithwyr proffesiynol yn y maes ehangach.

Ôl-16: enghraifft o waith unigol

Cefndir

Roedd Arwel ar brentisiaeth peirianneg yn y coleg a oedd yn cwmpasu amser yn y coleg ac amser ar leoliad. Roedd y coleg wedi gwneud cais am gyfranogiad y Gwasanaeth Seicoleg Addysg, gyda chaniatâd Arwel, mewn perthynas â phryderon ynghylch anghenion ymddygiadol a’i drosglwyddiad cyn hir i gampws gwahanol fel rhan o ofynion ei gwrs. 

Roedd Arwel yn cael anawsterau canolbwyntio a thalu sylw ac roedd yn orfywiog ac yn fyrbwyll. Roedd yn awyddus i wybod pam yr oedd yn cael anawsterau felly (roedd wedi gwneud ers oedd yn blentyn). Roedd tiwtoriaid yn pryderu na fyddai’r strategaethau effeithiol sydd ar waith ar ei gampws presennol yn trosglwyddo i’r campws newydd gan olygu bod Arwel mewn perygl mawr o golli naill ai ei leoliad gwaith neu ei le ar gwrs y coleg. Roedd angen y ddau beth arno i gwblhau ei brentisiaeth.

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Cyfarfu’r seicolegydd addysg ag Arwel i drafod ei bryderon a chytuno ar ffordd ymlaen. Cynhaliwyd ymgynghoriadau hefyd gyda’i diwtoriaid presennol a’i riant. Roedd Arwel yn gwbl ymwybodol o’r ymgynghoriadau. 

Yn dilyn yr ymgynghoriadau, gyda chaniatâd Arwel ac mewn cytundeb â’i riant, lluniwyd adroddiad ac fe’i hanfonwyd ymlaen at Iechyd Meddwl Oedolion (ffiniau traws-sirol) i helpu i archwilio anghenion Arwel. Roedd hyn yn hynod bwysig i Arwel ac yn brif flaenoriaeth iddo, roedd arno eisiau atebion ac roedd hyn yn cael effaith negyddol ar ei iechyd a’i les emosiynol. 

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng tiwtoriaid ei gampws presennol, ei diwtor yn y dyfodol (campws newydd), adran anghenion dysgu ychwanegol, Arwel a’i riant hefyd i rannu arfer da, archwilio pryderon a chytuno ar gamau gweithredu yn y dyfodol. Roedd anghenion a dyheadau Arwel yn agwedd bwysig ar y cyfarfod. Helpodd y seicolegydd addysg i hwyluso’r drafodaeth a darparu dealltwriaeth ar y cyd o anghenion Arwel a strategaethau effeithiol. Rhannwyd trafodaeth o’r rhwystrau a oedd o’i flaen hefyd, gan arwain at gyd-ddealltwriaeth. Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn dilyn hyfforddiant a ddarparwyd yn flaenorol i staff y coleg gan y seicolegydd addysg.

Canlyniad

Trosglwyddodd Arwel i’r campws newydd. Cwblhaodd ei brentisiaeth, gan ennill gwobr.

Cafodd Arwel ddiagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) a oedd, er nad y brif flaenoriaeth ar gyfer cyfranogiad y seicolegydd addysg, yn hynod bwysig i Arwel gan ei fod yn teimlo mwy o angen i ddeall pam yr oedd yn cael anawsterau o’r fath.

Ôl-16: enghraifft o waith unigol

Cefndir 

Mae 2 uwch seicolegydd addysg arbenigol a 2 seicolegydd addysg yn gweithio’n systematig o fewn gwasanaethau plant. Rhennir y gweithwyr cymdeithasol o fewn y timau gofal plant yn is-dimau bach (o’r enw podiau) gyda phob un yn dal nifer penodol o achosion. Mae’r podiau yn trafod yr achosion hyn yn rheolaidd, a’r seicolegwyr sy’n mynychu yn gallu cynnig safbwynt arall. Mae cyfarfodydd y podiau hefyd yn fodd o oruchwylio achosion i’r gweithwyr cymdeithasol. Bydd pawb ym mhob pod yn gwybod am achosion ei gilydd, gan ddarparu cymorth mwy cadarn i deuluoedd a’r timau gofal plant, maethu, mabwysiadu ac anabledd. 

Ar adegau, gall y seicolegwyr addysg weithio gyda theuluoedd neu bobl ifanc ochr yn ochr â’r gweithwyr cymdeithasol, gan fodelu ymyriadau neu ddarparu mewnbwn therapiwtig. Gallan nhw ymgymryd â gwaith a ddynodir gan y llys neu gynnal asesiadau gwybyddol i gynghori strategaethau priodol i gefnogi rhieni neu ofalwyr a allai fod ag anawsterau dysgu. 

Cyfranogiad seicolegydd addysg

Roedd un drafodaeth pod yn canolbwyntio ar ferch ifanc nad oedd yn ymwybodol o lawer o’r ffactorau yn ymwneud â’i genedigaeth, ei hanes teuluol a cham-drin rhywiol. Oherwydd pryderon am ei diogelwch, cafodd ei chymryd i ofal maeth a dechreuodd ymchwiliadau i’w chefndir. Un ffactor cymhleth oedd nad oedd hanes y fam yn hysbys ac nad oedd hi’n fodlon gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol. Ar y pwynt yma daeth llawer o wybodaeth ychwanegol i law. Cafodd un o’r uwch seicolegwyr addysg y dasg o weithio ochr yn ochr â’r gweithiwr cymdeithasol gan ddefnyddio dull therapiwtig naratif i ddarparu rhywfaint o wybodaeth sylweddol nad oedd hi’n ymwybodol ohoni.

Aeth yr achos i’r llys gyda’r fam yn ceisio dychwelyd ei merch i’w gofal a gofynnwyd i’r uwch seicolegydd addysg roi tystiolaeth am ymatebion emosiynol y ferch ifanc i’r wybodaeth a roddwyd, ei theimladau am ddychwelyd at ei mam a’i dymuniadau ar gyfer y dyfodol. Ystyriwyd bod barn yr uwch seicolegydd addysg yn ddarn pwysig o dystiolaeth ac arhosodd y ferch mewn gofal maeth.

Yn ogystal, a thrwy gydol yr achos, bu’r uwch seicolegydd addysg yn gweithio gyda’r tîm gwaith cymdeithasol i archwilio llawer o ffactorau a oedd yn berthnasol i’r achos hwn, megis cam-drin rhywiol, sefydlogrwydd ac aflonyddwch perthnasoedd plentyn-rhiant, effaith lleoliad maeth, a goblygiadau hirdymor aflonyddwch ar berthnasoedd plentyndod.

Canlyniad

O ystyried y system deuluol ehangach ynghyd â’r wybodaeth newydd, llwyddodd y gweithwyr cymdeithasol i olrhain tad y ferch a oedd yn byw dramor. Paratôdd yr uwch seicolegydd addysg y ferch ar gyfer y cyfarfod a lleisiodd ei barn i’r gwarcheidwad a’r tîm gwaith cymdeithasol. Rhoddwyd cyngor hefyd i’r tad nad oedd yn gwybod o gwbl, hyd yma, fod ganddo ferch. Ar ôl cryn baratoi a nifer o asesiadau o’i addasrwydd, cyfarfu’r tad a’r ferch o’r diwedd, ac aeth y ferch i fyw gydag ef yn y pen draw.