Neidio i'r prif gynnwy

Caiff y Gwobrau GO Cenedlaethol eu cynnal ar 1 Mehefin 2023 – gan ddathlu rhagoriaeth mewn caffael cyhoeddus a’r gadwyn gyflenwi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r gwobrau'n cydnabod llwyddiant darparu gwasanaethau sector cyhoeddus ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Mae ein tîm Cyflawni Masnachol a'r tîm Diwygio’r Broses Gaffael (y ddau yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 4 gwobr yn seremoni eleni.

Yn dilyn ein llwyddiant yng Ngwobrau GO Cymru yn y categori Menter Caffael Cydweithredol ar gyfer y gwaith ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y system brynu ddeinamig ar gyfer offerynnau cerdd, rydyn ni wedi cael ein cynnwys yn awtomatig ar gyfer y Gwobrau GO Cenedlaethol. Mae'r prosiect hwn hefyd wedi'i gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Cyflawni Caffael.

Mae ein tîm Diwygio’r Broses Gaffael wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Menter Gaffael Gydweithredol am eu gwaith gyda Swyddfa’r Cabinet ar y Bil Caffael.

Ac i gloi, rydyn ni hefyd wedi cyrraedd rhestr fer y wobr Gwerth Cymdeithasol am y gwaith a wnaed gan ein tîm Cyflawni Masnachol ar ein fframwaith athrawon cyflenwi, sy'n gwella safonau yn y farchnad asiantaethau athrawon cyflenwi.

Dywedodd John Coyne, Cyfarwyddwr Caffael a Masnachol:

"Rydw i wrth fy modd gyda'r newyddion yma - am lu o resymau. Un o’n nodau allweddol yw ein bod yn ceisio bod yn greadigol a herio cydweithwyr i feddwl yn greadigol o ran sut rydyn ni’n mynd ati i gaffael. Mae cael ein cydnabod yn y gwobrau cenedlaethol hyn yn dangos yn glir ein bod yn cyrraedd y nod hwnnw. Mae cyrraedd y rhestr fer hefyd yn dathlu’r holl waith caled y mae’r timau ar draws y Gyfarwyddiaeth wedi’i wneud. Mae’r cynigion hyn sydd ar y rhestr fer unwaith eto yn ein galluogi i ganolbwyntio ar sut y gallwn ddarparu gwerth cymdeithasol, hyrwyddo cynaliadwyedd, a gwneud gwahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.”

Pob lwc i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Ewch i wefan Gwobrau GO am yr holl wybodaeth ddiweddaraf.