Mae Cymru yn croesawu talent orau'r DU wrth iddi gynnal rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK, gan ddechrau yfory, am y tro cyntaf.
Bydd mwy na 400 o bobl ifanc fwyaf talentog y DU yn cystadlu yn y rowndiau terfynol sgiliau cenedlaethol mewn lleoliadau ar hyd a lled y De yr wythnos hon (26 i 28 Tachwedd 2025).
Rowndiau terfynol WorldSkills UK yw digwyddiad sgiliau galwedigaethol mwyaf y DU, gan ddenu miloedd o gystadleuwyr ac ymwelwyr yn lleol ac yn genedlaethol.
Bydd 417 o gystadleuwyr o bob cwr o'r DU yn cymryd rhan yn nigwyddiad eleni, gan gynnwys 130 o gystadleuwyr sy’n hanu o Gymru, mwy nag erioed o'r blaen.
Mae'r gystadleuaeth yn rhoi llwyfan i bobl ifanc i ddangos rhagoriaeth mewn sgiliau technegol ar draws sectorau sy'n hanfodol i economi'r DU. Bydd y cystadleuwyr yn cael eu profi mewn sgiliau mor amrywiol â chelf gêm 3D, coginio, cynnal a chadw awyrennau ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant:
Rwy'n falch iawn bod Cymru yn cynnal y digwyddiad mawreddog hwn am y tro cyntaf. Mae rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn benllanw misoedd o ymroddiad a hyfforddiant, ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â'r cystadleuwyr a gweld eu talentau eithriadol.
Hoffwn gydnabod yr amser a'r gwaith aruthrol sydd wedi mynd i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth hon - o'r cystadleuwyr eu hunain i'r colegau, y darparwyr hyfforddiant a'r cyflogwyr sydd wedi eu cefnogi bob cam o'r ffordd.
Pob lwc i bawb sy'n cystadlu!
Mae'r cystadlaethau yn rhan annatod o galendr addysg a hyfforddiant ôl-16, gan roi cyfleoedd i sefydliadau addysg a chyflogwyr feincnodi gallu yn erbyn safonau rhyngwladol.
Mae'r enillwyr yn aml yn mynd ymlaen i gynrychioli'r DU mewn cystadlaethau byd-eang, gydag enillwyr medalau yn ymuno â Squad UK ac yn cystadlu mewn digwyddiadau fel Cystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai y flwyddyn nesaf, cystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal am y 48ain tro.
