Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein

Bydd y ddogfen hon yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r swyddogaeth 'Ffurflenni' yn RPW Ar-lein. Rydym yn darparu’r canllaw yn Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg, yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Ceisiadau a hawliadau

Ar eich tudalen gartref dewiswch 'Ffurflenni' o'r bar llywio. Ar y dudalen hon gallwch ddewis gweld statws eich holl geisiadau a hawliadau. Maent yn cael eu categoreiddio i grwpiau yn ôl eu statws yn RPW Ar-lein. Dewiswch rhwng yr opsiynau canlynol 'Heb ei gyflwyno', 'Yn cael ei Brosesu' neu 'Wedi'i gwblhau' a byddwch yn gallu gweld statws eich holl geisiadau a hawliadau. 

Mae gennych yr opsiwn o ddewis ceisiadau a hawliadau penodol ar gyfer cynlluniau unigol.  Gan ddefnyddio'r gwymplen dewiswch yr opsiwn angenrheidiol, yna gweithredwch eich chwiliad trwy glicio ar y botwm glas 'Dewis'.  Dewiswch y botwm 'Ailosod' i ddadwneud eich chwiliad.

Bydd eich cynlluniau yn cael eu harddangos mewn blychau. 

Bydd y tab 'Heb ei gyflwyno' yn rhestru enw'r cynllun ar gyfer y ffurflen gais/hawlio, bydd yn dangos ei bod wedi'i chychwyn ar-lein, bydd y faner felen yn dangos statws drafft.

Mae'r tab 'Yn cael ei Brosesu' yn dangos holl wybodaeth y tab 'Heb ei gyflwyno' ynghyd â dyddiad ac amser derbyn y ffurflen. Bydd y stribed melyn yn nodi statws y ffurflen gais/hawlio, er enghraifft os yw'n barod i'w thalu neu os yw'r ffurflen dal ar waith. Mae'r dyddiad a'r amser yn y drydedd res yn dangos pryd y diweddarwyd y cais/hawliad ddiwethaf.

Bydd y tab 'Cwblhau' yn cynnwys holl wybodaeth y tab 'Yn cael ei Brosesu' ond bydd stribed gwyrdd yn cael ei arddangos yma, i nodi statws y cais/hawliad, a fydd yn dangos fel un wedi'i gyflawni neu wedi'i dalu.

Dechrau ffurflen

Ar y dudalen Ffurflenni mae gennych hefyd y ddewislen 'Dechrau Ffurflen' ar ochr dde'r sgrin, mae hwn yr un peth â'r adran 'Dechrau Ffurflen' hanner ffordd i lawr eich tudalen gartref. 

Bydd yr holl ffurflenni cais a hawlio ar gael yma, o ffurflenni Mynegi Diddordeb i ffurflenni Hawlio. Mae'r dyddiad cau a'r dyddiau sy'n weddill ar gyfer cwblhau'r cais wedi'u rhestru oddi tano.

Pan fyddwch chi'n dechrau ffurflen, bydd yn ymddangos yn yr adran 'Heb ei gyflwyno' fel 'Drafft'. Rhaid i chi gyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn, hyd yn oed os gwnaethoch chi eu cychwyn ymlaen llaw.  Mae angen i geisiadau fod yn yr adran 'Yn cael eu Prosesu' erbyn y dyddiad cau.

Ar ôl i chi gyflwyno ffurflen, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth dros e-bost yn Cyswllt Cwsmeriaid.  Byddwch hefyd yn gallu gweld y cais a gyflwynwyd gennych ar-lein.

Noder y canlynol:

Mae gwybodaeth am geisiadau a hawliadau yn cael ei diweddaru ar yr awr, bob awr. Os yw'ch statws yn dangos fel 'Taledig', yna dylai fod llythyr talu yn dangos o dan eich opsiwn dewislen 'Gohebiaeth'. Fodd bynnag, nid yw gwybodaeth y ddewislen 'Taliadau' yn cael ei diweddaru ar unwaith. Anfonir gwybodaeth am daliadau at RPW Ar-lein dros nos. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros tan y diwrnod canlynol i'r wybodaeth gael ei arddangos ar-lein.

Bydd taliadau yn ymddangos ar RPW Ar-lein ychydig ddyddiau cyn i'r taliad gael ei wneud.

Pwysig: 

Mae RPW yn dal i archwilio hawliadau/ceisiadau sydd wedi'u marcio 'Yn barod i'w Talu', felly efallai na fyddant yn arwain at daliad yn cael ei wneud. Hefyd, ni ellir gwneud taliad nes bod cyfnod talu'r cynllun penodol yn agor fel y manylir yn llenyddiaeth y cynllun.