Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Rolau asiant/undeb ffermio

Isod ceir trosolwg o'r rolau y gallwch eu neilltuo i'ch Asiant/Undeb Ffermio a'r hyn y gallant ei wneud i chi os ydynt wedi cael un neu fwy o'r rolau hyn. 

Diwygio Manylion Busnes: bydd y rôl hon yn caniatáu i welliannau gael eu gwneud i'ch manylion busnes ar-lein. Gellir gwneud newidiadau i fanylion busnes o dan Manylion y Cwsmer.

Cwblhau Hawliadau: bydd y rôl hon yn caniatáu cwblhau hawliad ar-lein (unwaith y bydd yr opsiwn ar gael). Nid yw'n golygu bod ganddynt ganiatâd i gyflwyno'r hawliad. 

Cyflwyno Hawliadau: bydd y rôl hon yn caniatáu cyflwyno hawliad ar-lein (unwaith y bydd y bydd yr opsiwn ar gael).

Gweld Taliad/ Llythyrau Ariannol: bydd y rôl hon yn caniatáu i Wybodaeth Ariannol gael ei gweld ar-lein, e.e. llythyrau talu, llythyrau ynglŷn â gordalu a thaliadau i chi. Ni fydd Asiantau/Undebau Ffermio yn gallu gweld eich manylion banc. 

Rheoli Hawliau: bydd y rôl hon yn caniatáu cychwyn trosglwyddiadau o'ch hawliau Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) ar-lein (unwaith y bydd yr opsiwn ar gael). Anfonir hysbysiad o unrhyw geisiadau a wneir i drosglwyddo (neu lesio) at eich cyfeiriad gohebu. 

Derbyn/Gwrthod contractau: bydd y rôl hon yn caniatáu i gontractau gael eu derbyn neu eu gwrthod.