Neidio i'r prif gynnwy

Gohebiaeth – Dogfennau a negeseuon

I weld dogfennau a negeseuon, dewiswch y tab Gohebiaeth o'r bar gwyrdd ar Hafan eich cyfrif.

Dogfennau - gallwch weld y dogfennau diweddaraf o dan yr adran 'Dogfennau Diweddaraf'. Efallai na fydd dogfennau a gyflwynwyd yn ddiweddar yn ymddangos ar-lein ar unwaith ac efallai na fyddant yn ymddangos ar-lein yn dibynnu ar y math o ddogfen a gyflwynwyd. Rhaid i chi gyflwyno pob cais ar-lein gan nad ydym bellach yn derbyn copïau papur drwy'r post.

Agor dogfennau - Pan fyddwch chi'n clicio ar ddogfen, bydd yn cael ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur fel ffeil a gallwch ddewis ei hagor. Bydd y ddogfen yn cael ei dangos mewn ffenestr newydd, y gallwch ei lleihau neu ei chau i ddychwelyd i'ch Hafan. Sylwer: bydd angen y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader DC wedi'i gosod arnoch i weld unrhyw ddogfennau PDF.

Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o Acrobat Reader o:

https://www.adobe.com/uk/acrobat/pdf-reader.html

Dod o hyd i ddogfennau – yn yr adran 'Dod o hyd i ddogfennau', o dan 'Dogfennau a Anfonwyd gan', gallwch ddewis yr opsiynau canlynol o'r ddewislen: 

Pawb – ar gyfer dogfennau a anfonwyd gennym ni atoch chi ac a anfonwyd gennych chi neu'ch asiant/undeb ffermio atom ni.

RPW – ar gyfer dogfennau a anfonwyd gennym ni atoch chi.

Chi – am ddogfennau a anfonwyd gennych chi neu'ch asiant/undeb ffermio atom ni.

Pan fyddwch chi'n dewis y botwm 'Cynllun', gallwch ddewis gweld yr holl ddogfennau neu ddogfen ar gyfer cynllun unigol gan ddefnyddio'r gwymplen. Cliciwch ar 'Dod o hyd i Ddogfennau' i chwilio neu'r botwm 'Ailosod' i ddechrau chwiliad newydd.

Lanlwytho dogfen a chreu neges

Pan fyddwch yn clicio ar y botwm 'Lanlwytho Dogfen' byddwch yn gweld y dudalen 'Creu Neges'. Os oes gennych ymholiad ynglŷn â mater sy'n bodoli eisoes, dewch o hyd i'r neges wreiddiol ac atebwch y neges honno lle bynnag y bo modd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gallu cynnig cymorth i chi mewn modd effeithlon.

Pan fyddwch chi'n creu neges newydd, rhowch deitl ar y neges. Ysgrifennwch eich neges yn y blwch testun a chynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Dewiswch y blwch 'Ychwanegu Ffeil' os ydych am lanlwytho dogfen. Byddwch yn cael eich ailgyfeirio i sgrin newydd i ddod o hyd i'r ddogfen rydych chi am ei lanlwytho. Cliciwch ar y ddogfen a dewiswch 'Agor' o'r naidlen.

Mae dogfennau wedi'u lanlwytho yn ymddangos o dan y botwm 'Ychwanegu Ffeiliau'. Mae tic gwyrdd wrth ymyl y ddogfen yn dangos ei bod wedi'i lanlwytho. Mae croes goch yn nodi bod problem a bod y ffeil wedi methu lanlwytho. Os bydd hyn yn digwydd, gwiriwch uchafswm maint y ffeiliau cyfunol a restrir wrth ymyl y ffeiliau a lanlwythwyd yn llwyddiannus. Uchafswm maint ffeil gyfunol i'w lanlwytho yw 14MB.

Sylwer: nid yw'r system yn adnabod y symbolau canlynol "&@*$^!  Os yw'ch neges yn cynnwys un o'r symbolau hyn, fe fydd neges wall yn ymddangos a byddwch yn colli'r neges. Gallwch ddileu dogfen a lanlwythwyd yn anghywir trwy ddewis y botwm coch 'Dileu' a ddangosir ar ddiwedd pob dogfen. I bostio'r wybodaeth, cliciwch y botwm 'Anfon'. Byddwch yn derbyn neges naidlen yn cadarnhau ein bod wedi derbyn yr hyn a anfonwyd atom ac yn rhoi rhif adnabod unigol i chi.

Negeseuon RPW Ar-lein 

Mae dwy ffordd ichi gael mynediad at eich negeseuon ar-lein: Bydd eich Hafan yn rhestru eich negeseuon diweddaraf. Ar gyfer negeseuon cynharach, dewiswch y botwm 'Gweld pob neges' sydd o dan yr adran hon. Gallwch hefyd gyrchu negeseuon drwy'r tab 'Gohebiaeth' ar y bar dewislen gwyrdd. 

Bydd pob dogfen a anfonir atoch gan RPW yn creu neges. Y tro cyntaf ichi fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein, gofynnwyd ichi nodi eich dewis ar gyfer Hysbysiadau. Fe wnaethoch chi naill ai ddewis e-bost, SMS, neu'r ddau. Byddwch yn derbyn hysbysiad trwy eich dewis pan fydd neges newydd yn cyrraedd i chi.

Tudalen Negeseuon - Mae'r holl gyfathrebu rhyngoch chi a RPW Ar-lein yn ymddangos ar y dudalen 'Negeseuon'. Mae pob neges yn dangos teitl y pwnc, enw'r anfonwr, neges, dyddiad ac amser anfon. Mae dau eicon a allai ymddangos hefyd. Bydd blwch du yn dangos nifer yr atodiadau, a bydd blwch glas yn dangos nifer y negeseuon a dderbyniwyd ar y pwnc unigol hwnnw. Mae gan bob neges rif cyfeirnod chwe digid unigryw a geir yng nghornel dde blwch y negeseuon. Mae'r rhif cyfeirnod hwn yn gadael i chi ganfod y neges wreiddiol er mwyn ychwanegu diweddariadau neu negeseuon ato. Gallwn eich cynorthwyo'n fwy effeithlon pan fydd yr holl wybodaeth yn cael ei storio o dan un rhif cyfeirnod.

Ar y dudalen hon, gallwch ddewis a ydych am weld, canfod neu argraffu negeseuon. Gallwch hefyd ddewis 'Creu Neges'. Gweler yr adran uchod 'Lanlwytho Dogfen' a 'Creu Neges'.

Gweld negeseuon – pan fyddwch chi'n dewis 'Gweld neges', mae'r holl ohebiaeth rhyngoch chi a RPW Ar-lein ar gael i'w gweld. Gallwch agor atodiadau, argraffu, ymateb i negeseuon ac ychwanegu dogfennau. 

Dod o hyd i negeseuon – Os ydych am finiogi ffocws eich chwiliad ar gyfer cyfnod cynllun penodol, dewiswch 'Cynllun' a dewiswch o'r gwymplen a chadarnhewch drwy glicio ar 'Dod o hyd i Negeseuon'.

Ymateb i negeseuon - Os oes gennych neges a anfonwyd atoch gan RPW Ar-lein, gallwch ymateb o'r sgrin 'Gweld Negeseuon'. Ychwanegwch eich ymateb yn y blwch testun gwag, os hoffech lanlwytho dogfennau, dewiswch 'Ychwanegu Ffeiliau'. Bydd ffenestr newydd yn ymddangos, sy'n eich galluogi i ddod o hyd i'ch ffeiliau. Mae gennych yr opsiwn o lanlwytho o'ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Dewiswch 'Ateb' i anfon y neges.

Sylwer: nid sgwrs fyw yw'r swyddogaeth hon, byddwn yn ymateb i unrhyw ymholiadau o fewn yr amserlen arferol.