Neidio i'r prif gynnwy

Manylion y cwsmer

I weld Manylion y Cwsmer, dewiswch y tab Manylion CRN o'r bar gwyrdd yn eich hafan. Manylion y Cwsmer fydd yr opsiwn cyntaf ar y gwymplen. Ar ôl ei ddewis, bydd y system yn mynd â chi i'r adran Manylion y Cwsmer lle byddwch yn gweld tri thab:

  1. Manylion cyffredinol 
  2. Cyfeiriadau
  3. Meysydd busnes

Manylion cyffredinol 

Mae'r tab hwn yn dangos holl fanylion y busnes, gan gynnwys Enw Masnachu, Enw'r Prif Gyswllt, Prif CPH, eich Dewis Iaith. Ar gyfer cwsmeriaid sy'n gwneud hawliad, bydd yn dangos Statws Cyfreithiol a'r dyddiad y ffurfiwyd y busnes. Os yw'n berthnasol, bydd Rhif Cofrestru Elusen a Rhif Cofrestru'r Cwmni yn ymddangos.

Dylai’r manylion hyn gael eu diweddaru’n rheolaidd. Gallwch ddiwygio'r wybodaeth hon (ar yr amod bod gennych y caniatâd cywir) drwy ddewis y tab 'Diweddaru'r wybodaeth hon', a ddangosir wrth ymyl y pennawd Manylion Cyffredinol. Pan fyddwch yn dewis y tab hwn, cewch eich cyfeirio i'r dudalen 'Diweddaru Manylion Cyffredinol'.  Yma gallwch ddiwygio manylion y categorïau a restrir uchod. Ni fyddwch yn gallu diwygio'r blychau llwyd, sef Prif Rif CPH, Dyddiad Ffurfio'r Busnes a Statws Amcan 1 Cyfredol.

Pan fyddwch wedi gwneud eich diwygiadau, gallwch ddewis y botwm glas 'Cadw Newidiadau' a bydd eich manylion yn cael eu diweddaru ar unwaith. Os ydych am fwrw ymlaen heb gadw'r newidiadau neu i ddychwelyd i'r dudalen Manylion y Cwsmer, dewiswch y botwm canslo.

Cyfeiriadau

Mae gennych yr opsiwn i ddiweddaru pob cyfeiriad yn unigol (ar yr amod bod gennych y caniatâd cywir), drwy ddewis y tab 'Diweddaru'r wybodaeth hon', a ddangosir o dan y pennawd Cyfeiriadau Unigol.

  • Cyfeiriad gohebu

Dyma lle bydd yr holl ohebiaeth bapur yn cael ei hanfon

  • Cyfeiriad safle

Dyma'r cyfeiriad lle mae unrhyw weithgareddau busnes yn cael eu cynnal

  • Cyfeiriad masnachu

Dyma'r cyfeiriad y mae'r busnes yn gweithredu ohono

Pan fyddwch wedi dewis 'Diweddaru'r wybodaeth hon', cewch eich cyfeirio at y dudalen Diweddaru Cyfeiriad Gohebiaeth/Safle/Masnachu. 

Mae'r blwch Enw Masnachu yn llwyd ac ni ellir ei ddiwygio. Mae'r blwch Cod Post a Chyfeiriad wedi'u marcio â seren ac maen nhw'n feysydd gorfodol. Gallwch hefyd ychwanegu eich rhifau ffôn yma os dymunwch wneud hynny. 

Sylwer: Ni fydd y rhifau a roddir yma yn cael eu defnyddio at ddibenion hysbysu RPW Ar-lein. Ewch i'ch Dewisiadau Ar-lein, o dan y tab 'Manylion CRN', i roi gwybodaeth hysbysu.

Pan fyddwch wedi gwneud eich diwygiadau, gallwch ddewis y botwm glas 'Cadw Newidiadau' a bydd eich manylion yn cael eu diweddaru ar unwaith. Os ydych am fwrw ymlaen heb gadw'r newidiadau neu i ddychwelyd i'r dudalen Manylion y Cwsmer, dewiswch y botwm canslo.

Meysydd busnes

O dan y tab Meysydd Busnes mae dwy adran yn cael eu dangos, Meysydd Busnes a Sectorau Amaethyddol. I ddiwygio'r manylion hyn, dewiswch 'Diweddaru'r wybodaeth hon' yn yr adran berthnasol.

Meysydd busnes

Bydd y rhan hon yn cael ei llenwi'n awtomatig ag 'Amaethyddiaeth a Choetir Ffermydd', os ydych yn gwsmer Taliadau Gwledig Cymru ac wedi derbyn taliadau.

Gallwch ychwanegu / tynnu categorïau drwy dicio'r blwch opsiynau – dylech ddewis pob categori sy'n berthnasol i'ch busnes. Mae'r holl gategorïau isod:

  • amaethyddiaeth a choetir ffermydd
  • rheoli llifogydd
  • coedwigaeth
  • morol / dyframaethu
  • datblygu gwledig 

Sectorau amaethyddol 

Mae'r adran hon yn ddewisol. Mae'n gofyn am ddata ar y meysydd sydd gennych yn eich busnes sy'n cael eu rhedeg fel menter fasnachol.  Yr opsiynau sydd ar gael yw:

  • godro
  • cig eidion
  • defaid
  • moch 
  • dofednod
  • âr
  • garddwriaeth
  • geifr
  • coetir/amaeth-goedwigaeth
  • glaswelltir/porthiant yn unig (dim anifeiliaid)
  • coetir (masnachol)
  • cadw gwenyn (gwenynyddiaeth) 
  • camelidau
  • ceirw

Neu, os nad yw'r opsiwn sydd ei angen arnoch ar gael, dewiswch 'Arall'.

Wedyn dewiswch 'Cadw Newidiadau' i ddiweddaru eich gwybodaeth.

Mae'r adran Meysydd Busnes yn orfodol ac mae'n rhaid ichi ddewis o leiaf un opsiwn.

Mae'r adran Sector Amaethyddol yn ddewisol ac mae'r data yn cael ei gasglu at ddibenion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn unig. 

Mae diffiniadau o Feysydd Busnes a Sectorau Amaethyddol ar gael ar ein gwefan.