Neidio i'r prif gynnwy

Gweld cyfrifon Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein trwy Borth y Llywodraeth

Cyflwyniad

Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein (RPW Ar-lein) yw’r ffordd i gwsmeriaid a'u hasiantwyr/cynrychiolwyr undebau ffermwyr reoli cyfrifon busnes ar y Rhyngrwyd.

Gyda chyfrif RPW Ar-lein, byddwch yn gallu:

  • llenwi ceisiadau a datgan diddordeb
  • cael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy neges destun neu e-bost
  • gweld ble ydych chi arni gyda'ch holl hawliadau
  • ateb cwestiynau RPW a holi RPW, a lanlwytho dogfennau
  • diweddaru manylion eich busnes
  • rhoi caniatâd i asiantwyr a chynrychiolwyr yr Undeb Ffermwyr i'w lenwi ar eich rhan, os dyna'ch dymuniad
  • ychwanegu a rheoli eich CPH (rhif eich daliad).
  • mudo 

Mynd ar Borth y Llywodraeth (cwsmeriaid presennol yn unig)

Mae dwy ffordd o fynd ar Borth y Llywodraeth i weld eich cyfrif RPW Ar-lein:

  • mewngofnodi trwy wefan Llywodraeth Cymru, yn www.llyw.cymru/rpwarlein  
  • mewngofnodi trwy ddolen wedi'i chadw (ar ôl mewngofnodi i dudalen RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru, rhowch nod tudalen arni neu ychwanegwch hi at eich ffefrynnau, gan ddibynnu pa borwr rhyngrwyd rydych yn ei ddefnyddio).

Os nad ydych yn gallu mewngofnodi am eich bod wedi:

Anghofio'ch cyfrinair 

Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, cliciwch ar y ddolen ‘Rwyf wedi anghofio'm cyfrinair’. Er mwyn ichi allu ei ailosod, bydd angen eich ID Defnyddiwr, cyfeiriad e-bost a'ch gair adfer arnoch. Nodwch eich ID Defnyddiwr a'ch cyfeiriad e-bost ar y sgrin gyntaf. Nodwch yr un cyfeiriad e-bost ag y defnyddioch chi pan greoch chi eich ID Defnyddiwr.

 Ar ôl ailosod eich cyfrinair, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i'r dudalen Mewngofnodi, lle gofynnir i chi roi'ch ID, a'ch cyfrinair newydd. Byddwch yn cael e-bost fydd yn cadarnhau'ch bod wedi newid eich cyfrinair.

Anghofio'r ID Defnyddiwr, cyfrinair a'r gair adfer

Ond os ydych wedi anghofio'r ID Defnyddiwr, cyfrinair a'r gair adfer, mae gennych ddau ddewis:

  • gallwch ofyn i Weinyddwr eich tynnu chi o'r tîm ac i'ch ychwanegu eto fel bod ID Defnyddiwr a chyfrinair dros dro newydd yn cael eu creu. Darllenwch yr adran Rheoli Grŵp yn y canllaw ynghylch sut i ychwanegu a thynnu aelodau o'r tîm.
  • os mai chi yw'r unig Weinyddwr, bydd yn rhaid i chi gofrestru ar Login GOV.UK gan fod system Porth y Llywodraeth wrthi'n cael ei ddileu ac nid oes modd ailgofrestru arno.

Rheoli'ch cyfrif ar Borth y Llywodraeth

Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr Porth y Llywodraeth, byddwch yn cadw'r rôl oedd gennych eisoes; naill ai Weinyddwr neu Gynorthwy-ydd. Defnyddiwr Safonol yw'r enw ar Gynorthwy-ydd erbyn hyn.  

Gweinyddwr

Os ydych wedi creu cyfrif ar Borth y Llywodraeth, byddwch yn cael eich gwneud yn Weinyddwr yn awtomatig. Mae Gweinyddwr yn cael ychwanegu, tynnu a newid holl aelodau'r tîm sy'n gysylltiedig â chyfrif ar Borth y Llywodraeth. Chi fydd yn penderfynu a ddylai aelodau'r tîm gael bod yn Weinyddwyr neu'n Ddefnyddwyr Safonol. Cofiwch, rhaid bod gan bob cyfrif Porth y Llywodraeth o leiaf un Gweinyddwr.

Defnyddiwr Safonol

Ni fydd Defnyddiwr Safonol yn cael ychwanegu, tynnu na newid aelodau'r tîm.

Aelodau'r tîm

Aelodau'r tîm yw'r defnyddwyr sy'n cael mynd ar y cyfrif RPW Ar-lein. Gall tîm fod â nifer o weinyddwyr a defnyddwyr safonol. Bydd pob aelod yn cael gweld y cyfrif RPW Ar-lein gan ddefnyddio'i ID Defnyddiwr a'i gyfrinair ei hunan. 

Trwy ychwanegu aelod at y tîm, rydych yn rhoi'r hawl iddo weithredu ar ran y busnes ar RPW Ar-lein. 

Gall aelodau tîm Porth y Llywodraeth fod yn wahanol i'r unigolion rydych wedi'u rhestru ar eich ffurflen Manylion y Cwsmer a'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid. Gallwch ychwanegu Gweinyddwr neu Ddefnyddiwr Safonol, nad yw'n rhan o'r busnes, at eich cyfrif Porth y Llywodraeth. Mae hynny'n golygu na fydd RPW yn cysylltu ag e/hi i drafod prosesau arferol y busnes ond gan eich bod wedi'i ychwanegu at eich cyfrif Porth Llywodraeth ar-lein, rydych wedi rhoi'r hawl iddo/iddi weithredu ar ran y busnes ac felly bydd yn cael cyflwyno ceisiadau, newid manylion y busnes ac ati ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Mae'n hawdd ichi weld beth yw'ch rôl; bydd gan Weinyddwr ddolen at Rheoli Grŵp a Rheoli Proffil ond dim ond dolen at Rheoli Proffil fydd gan ddefnyddiwr Safonol. Byddwch yn gallu clicio ar y dolenni hyn cyn gynted ag y byddwch wedi mewngofnodi ar Borth y Llywodraeth, hyd yn oed os na fyddwch wedi agor neu gofrestru cyfrif RPW Ar-lein. 

I weld y wybodaeth hon, dewiswch:

  • Tab 'Manylion CRN' ar eich tudalen hafan, yna
  • mynd i 'Dewisiadau Ar-lein'
  • ac ar ochr dde'r sgrin cliciwch naill ai ar y tab 'Rheoli Grŵp' neu'r tab 'Rheoli Proffil'. 

Tab Rheoli Grŵp

  • Mae hwn yn caniatáu ichi ychwanegu, tynnu, rheoli a chwilio am aelodau tîm Porth y Llywodraeth.

Ychwanegu aelodau o'r tîm 

  • Cliciwch ar y ddolen 'Ychwanegwch aelod o’r tîm’.
  • Rhowch y wybodaeth sydd ei hangen, gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad e-bost yn gywir gan y bydd yr aelod newydd o'r tîm yn cael ei ID Defnyddiwr trwy e-bost.
  • Dewiswch a yw'n Weinyddwr neu'n Ddefnyddiwr Safonol.
  • Cliciwch ar Parhau
  • Bydd y sgrin 'Cadarnhewch eich bod am ychwanegu’r aelod hwn o'r tîm' yn ymddangos. Gallwch ddewis tynnu, newid manylion neu ychwanegu aelod o'r tîm.
  • Ar ôl gwneud, cliciwch ar 'Cadarnhau'.
  • Fe welwch flwch cadarnhau i ddweud eu bod wedi cael eu hychwanegu fel aelod ac y byddan nhw'n cael e-bost gyda manylion sut i fewngofnodi cyn bo hir.

Tynnu/chwilio am/rheoli aelod o'r tîm

  • Dewiswch y tab 'Rheoli' wrth ymyl enw'r unigolyn
  • Dewiswch o'r camau ar y rhestr sy'n cynnwys: Ailosod Cyfrinair, Ail-anfon ID Defnyddiwr Porth y Llywodraeth, Dileu ID Defnyddiwr Porth y Llywodraeth.
  • Dilynwch y cyfarwyddyd ar-lein a byddwch yn cael cadarnhad bod y cam wedi'i gymryd.

Tab Rheoli Proffil

Mae'r Gweinyddwr a'r Defnyddiwr Safonol yn cael Rheoli Proffil. Byddwch yn cael rheoli'ch enw, cyfeiriad e-bost, cyfrinair a'ch gair adfer trwyddo. Cliciwch ar 'Newid' i ddiweddaru'r wybodaeth. Gallwch hefyd newid neu ychwanegu dewisiadau diogelwch, fel y dangosir ar y sgrin.

Dewiswch y botwm newid ar gyfer y maes sydd angen ei newid a dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein.

  • Sylwch y bydd y newid dim ond yn effeithio ar broffil Porth y Llywodraeth. Ni fydd yn newid unrhyw gyfrifon eraill y Llywodraeth sydd gennych.
  • Defnyddiwch gyfeiriad e-bost cywir ar gyfer unrhyw newidiadau. Os ydych yn newid eich cyfeiriad e-bost, byddwn yn anfon cod 8 digid atoch ichi ei gofnodi ar y sgrin i ddilysu.
  • Os byddwch yn dewis dolen 'Nid wyf wedi cael yr e-bost', caiff un newydd ei anfon atoch.  Cofiwch na fydd y cod blaenorol yn gweithio mwyach os caiff un newydd ei anfon atoch. 

Os oes angen rheoli'ch proffil a'ch dewisiadau diogelwch arnoch, cliciwch ar y ddolen "Rheoli Proffil".  Pwysig: ni chewch newid i fod yn Weinyddwr os ydych yn ddefnyddiwr Safonol.  Dim ond y Gweinyddwr sy'n cael newid rolau aelodau'r tîm. 

Mwy o Arweiniad a Help

I gael mwy o help ac i weld fideos arddangos ar-lein, ewch i Grantiau a thaliadau gwledig.

I siarad â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid, ffoniwch 0300 062 5004. Ei horiau agor yw:

Llun - Iau: 8.30am - 5pm

Gwener: 8.30am - 4.30pm.

Gallwch anfon neges atyn nhw hefyd trwy'ch cyfrif RPW Ar-lein.

Gall ein Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid siarad â chi hefyd am y gweithdai a'r cymorth un i-un sydd ar gael yn ystod ffenest y SAF ac ar adegau pwysig eraill.

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau eraill sy'n cael eu rhedeg gan Taliadau Gwledig Cymru, ewch i:

www.llyw.cymru/ffermio

Hyfforddiant a defnyddio cyfrifiaduron

Gallwch ffonio 0845 474 8282. Mae yna nifer fach o gyfrifiaduron ar gael hefyd yn rhai o swyddfeydd Llywodraeth Cymru.

Band eang

Mae band eang ffeibr cyflym yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, neu gallwch wneud cais

am grant i gael cysylltu â band eang cyflym trwy ffyrdd eraill. Ewch i Band eang yng Nghymru am ragor o wybodaeth neu ffoniwch 0300 025 8887.