RPW Ar-Lein: sut i lenwi'r ffurflen manylion ychwangegol
Canllawiau ar gwblhau'r ffurflen Manylion Cofrestru Ychwanegol y Cwsmer.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw'r ffurflen Manylion Ychwanegol Cofrestru Cwsmer?
Os ydych wedi cofrestru o'r blaen i "rheoli fy CPH neu gofrestru fy ngwybodaeth yn unig" ond ers hynny wedi penderfynu gwneud cais am grantiau, bydd angen i chi lenwi ffurflen Manylion Ychwanegol Cofrestru Cwsmeriaid.
Mae'r ffurflen yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth fusnes ychwanegol. Ar ôl i'r ffurflen gael ei chyflwyno, ni allwch ei newid gan ddefnyddio RPW Ar-lein. Cynhelir gwiriadau data ac ar ôl eu cwblhau byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch statws 'Cwsmer'.
Er mwyn derbyn taliadau, bydd angen i chi hefyd lenwi copi caled o'r ffurflen BACs. Gallwch ddod i hyd ffurflen BACS drwy fewngofnodi i'ch cyfrif RPW Ar-lein. Argraffwch, cwblhewch a phostio’r ffurflen i'r cyfeiriad llawn (Llywodraeth Cymru, Blwch Post 251, Caernarfon LL55 9DA).
Dod o hyd i'r ffurflen Manylion Ychwanegol Cofrestru Cwsmeriaid
Pan fyddwch yn mewngofnodi i'ch cyfrif RPW Ar-lein, dylech glicio ar Ffurflenni a dewiswch Manylion Ychwanegol Cofrestru Cwsmer ac yna 'Dechrau' i barhau. Darllenwch yr wybodaeth bwysig ar y sgrin a chlicio 'Nesaf' pan yn barod i fynd ymlaen i'r sgrin nesaf.
Manylion cyffredinol
Bydd angen ichi gadarnhau bod yr wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd yn gywir a'i newid fel y bo angen. Rhaid i chi ddarparu Statws Busnes/Cyfreithiol y busnes, y dyddiad y ffurfiwyd y busnes a chadarnhau a gafodd ei sefydlu trwy rannu busnes sy'n bodoli eisoes. Os oes gennych rif cofrestru cwmni/elusen, gallwch ei roi yma. Dewiswch 'Nesaf' i barhau. Mae meysydd gorfodol wedi'u nodi â seren goch.
Manylion gohebu
Mae angen i chi gadarnhau bod y manylion hyn sydd wedi'u llenwi o'ch Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid yn gywir, newidiwch hyn os oes angen.
Mae'n ofynnol i chi gadarnhau a yw eich prif fferm neu'ch prif safle yr un fath â'ch cyfeiriad gohebu. Os na, rhaid i chi ddarparu cyfeiriad a chod post y brif fferm neu'r brif safle.
Rhaid i chi hefyd gadarnhau a yw'ch cyfeiriad masnachu yr un fath â'ch cyfeiriad gohebu. Os na, rhaid i chi ddarparu'r cyfeiriad masnachu a'r cod post. Cliciwch ar ‘Dechrau’ i barhau. Mae meysydd gorfodol wedi'u nodi â seren goch.
Prif gyswllt
Bydd angen ichi gadarnhau bod yr wybodaeth sydd gennym ar gyfer eich Prif Gyswllt ar hyn o bryd yn gywir a'i diwygio fel y bo angen. Dyma'r person y dylwn siarad ag ef/hi os oes ymholiadau. Mae angen ychwanegu rôl y Prif Gyswllt mewn busnes, cyfeiriad, dyddiad geni, ffôn ac e-bost hefyd, ynghyd â buddiannau busnes eraill. Cliciwch ar ‘Dechrau’ i barhau. Mae meysydd gorfodol wedi'u nodi â seren goch.
Unigolion eraill
Yma fe welwch ddwy adran; Unigolion sydd eisoes wedi'u cysylltu â Chyfeirnod Unigryw y Cwsmer ac Unigolion sydd â rheolaeth sylweddol yr ydych am iddynt gael mynediad i'r busnes.
Yr Unigolion sydd eisoes wedi'u cysylltu â Chyfeirnod Unigryw y Cwsmer yw'r unigolion a restrir ar y ffurflen cofrestru cwsmeriaid wreiddiol. Gallwch ddiweddaru'r manylion hyn trwy ddewis y botwm 'Addasu' a newid yn unol â hynny.
Mae'r ail adran yn caniatáu i chi ychwanegu unigolion nad ydynt wedi'u rhestru ar hyn o bryd sydd â rheolaeth sylweddol o'r busnes. Dewiswch 'Ychwanegu Unigolyn' a rhowch eu manylion. Os nad ydych am gadw yr unigolyn, gallwch glicio'r botwm ‘Canslo’. Gallwch gadw yr wybodaeth trwy glicio ar ‘Cadw’. Os hoffech newid unrhyw wybodaeth, gallwch ddewis y botwm 'Addasu'.
Gallwch gadw'r wybodaeth a mynd yn ôl i adran Unigolion Eraill y ffurflen trwy glicio ar ‘Cadw a Dychwelyd’. Os ydych am ychwanegu unigolyn arall, cliciwch ar ‘Cadw ac Ychwanegu Un Arall’. Cliciwch Nesaf i barhau i'r sgrin nesaf. Mae meysydd gorfodol wedi'u nodi â seren goch.
Gwallau, gwybodaeth a chrynodeb
Dylech edrych eto ar y grynodeb hon ac os nad oes Negeseuon Gwybodaeth i'w gweld, cliciwch ‘Nesaf’ i barhau i'r sgrin nesaf.
Datganiadau ac ymrwymiadau
Darllenwch yr adran Datganiad ac Ymrwymiadau ac yna ticiwch y blwch a pharhau.
Cyflwyno
Cliciwch ar y botwm Cyflwyno i anfon eich ffurflen Manylion Ychwanegol Cofrestru Cwsmer.
Cadarnhad eich bod wedi'i gyflwyno
Cadarnhad yw hyn bod ffurflen manylion ychwanegol Cofrestru Cwsmer wedi ei chyflwyno. Dylech naill ai glicio Argraffu'r Sgrin Hon neu ddewis Gadael. Byddwch yn derbyn cadarnhad bod eich ffurflen Manylion Ychwanegol Cofrestru Cwsmeriaid wedi ei derbyn gan Taliadau Gwledig Cymru ar eich Hafan.
