Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ffordd o fynd mewn i RPW Ar-lein wedi newid. Rydym yn cael gwared ar wasanaeth Porth y Llywodraeth ac yn defnyddio gwasanaeth One Login GOV.UK yn ei le. 

Bydd y newid hwn yn gwneud ein data digidol yn fwy diogel ac yn golygu y gallwn gyflwyno nodweddion newydd ar RPW Ar-lein, gan gynnwys newid y drefn ar gyfer delio â rolau a chaniatâd. Bydd hynny’n rhoi mwy o hyblygrwydd a rheolaeth ichi ar eich Cyfrif CRN ar-lein. 

  • I symud i One Login GOV.UK, bydd rhaid i bob unigolyn sydd  wedi'i gofrestru ar eich CRN ac sydd angen mynediad I'ch cyfrif RPW Ar-lein, sicrhau bod ganddynt  cyfeiriad e-bost eu hunain.  

Ni fydd angen i chi symud i One Login GOV.UK nes eich bod yn cael gwahoddiad. Bydd y gwahoddiad hwn yn ymddangos yn eich Negeseuon Cyswllt Cwsmer. 

Rydym yn dymuno bod ein holl gwsmeriaid yn defnyddio One Login GOV.UK erbyn diwedd y flwyddyn a'r bwriad yw cau gwasanaeth Porth y Llywodraeth. 

Cyn i chi symud i One Login GOV.UK

Cyn i chi symud i One Login GOV.UK, bydd rhaid i bob unigolyn sydd  wedi'i gofrestru ar eich CRN ac sydd angen mynediad i'ch cyfrif RPW Ar-lein, sicrhau bod ganddynt  cyfrif mewngofnodi One Login GOV.UK eu hunain. 

Sicrhewch fod manylion pob unigolyn yn y busnes / sefydliad yn gywir, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol, os oes un. 

Sylwch: bydd angen i weinyddwr Porth y Llywodraeth, (fel arfer yr unigolyn a sefydlodd y CRN ar-lein), fewngofnodi i gyfrif Porth y Llywodraeth gan ddefnyddio ei fanylion presennol ar gyfer Porth y Llywodraeth. Bydd y person cyntaf i symud i’r cyfrif CRN yn cael ei wneud yn gweinyddwr yn awtomatig ar gyfrif One Login GOV.UK y CRN. 

Pan fyddwch am symud i One Login GOV.UK ar ôl cael eich gwahoddiad ar-lein, darllenwch y cyfarwyddiadau isod ar gyfer eich math chi o fusnes. 

Camau nesaf

Os ydych chi'n asiant neu'n undeb ffermio sy'n gweithredu ar ran Cwsmeriaid RPW, bydd angen i chi –  

  • fynd ar RPW Ar-lein a dewis "Mewngofnodi i Borth y Llywodraeth gan ddefnyddio eich ID Defnyddiwr"
  • mae'r sgrin nesaf yn egluro'r newidiadau ar gyfer logio i mewn (mewngofnodi) ar RPW Ar-lein. Cliciwch ar "Parhau" os ydych chi am symud i One Login GOV.UK (os nad ydych chi am symud nawr, cliciwch ar y ddolen i Borth y Llywodraeth) 

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Fel Asiant neu gynrychiolydd Undeb Ffermio, dewiswch eich cofnod Unigol o'r rhestr a ddarperir a dewiswch "Parhau." 

  • I barhau, cliciwch ar "Mewngofnodi i One Login GOV.UK".
  • Byddwch yn cael eich anfon i dudalen hafan One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login GOV.UK eto, dewiswch "Creu cyfrif One Login GOV.UK"
  • Ar ôl dewis 'Creu cyfrif One Login GOV.UK', nodwch gyfeiriad eich e-bost. I weld hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau One Login GOV.UK, cliciwch ar y dolenni.
  • Drwy ddewis “Parhau”, rydych yn cadarnhau'ch bod yn cytuno i gadw at y telerau a'r amodau.
  • Byddwn yn gofyn ichi edrych ar eich cyfrif e-byst lle bydd e-bost gan One Login GOV.UK yn cadarnhau eich cod diogelwch 6 digid. Rhowch y cod yn y blwch a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.
  • Nawr mae angen i chi greu a chadarnhau cyfrinair. Cliciwch ar “Dangos” i weld beth rydych yn ei sgrifennu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Dewiswch sut rydych am gael y cod diogelwch, un ai trwy neges destun neu ap dilysu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis neges destun, nodwch eich rhif ffôn symudol a chliciwch ar “Parhau”. Pan fyddwch wedi derbyn eich cod diogelwch 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis defnyddio'r ap dilysu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Bydd cadarnhad eich bod wedi creu cyfrif One Login GOV.UK yn ymddangos ar y sgrin
  • Chi nawr yw gweinyddwr One Login GOV.UK ar gyfer y CRN hwn
  • Pan fyddwch yn clicio ar “Parhau”, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Fe welwch neges sy’n dweud eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ar RPW Ar-lein trwy One Login GOV.UK, cliciwch “Parhau”. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w gweld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
  • Er mwyn cytuno i’r telerau a’r amodau, cliciwch yn y blwch a dewis “Parhau”, byddwch nawr yn gweld eich hafan CRN ac yn gallu parhau. 

Os nad oes gennych unrhyw unigolyn arall wedi'i gofrestru i'ch CRN, mae’r symudiad i GOV.UK One Login wedi'i gwblhau. 

Gwahodd unigolyn i'ch CRN

  • I wahodd unigolyn i fynd ar RPW Ar-lein i weld y CRN, bydd rhaid i chi fewngofnodi i'ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein yr Asiant, cliciwch ar y tab “Manylion y CRN” ac yna  “Rheoli Unigolion.
  • Ar sgrin reoli'r unigolion, bydd rhestr o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch CRN.
  • Dewiswch yr unigolyn yr hoffech ei wahodd a gwiriwch fod y rôl (Trydydd Parti/Asiant), gwybodaeth busnes a’r cyfeiriad e-bost yn gywir ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Gellir gwneud diwygiadau drwy ddefnyddio'r botwm 'Diweddaru'r wybodaeth hon'.
  • Dewiswch unigolyn o'r rhestr ar y sgrin.
  • Dewiswch y botwm "Gwahoddiad".
  • Byddwn yn gofyn a ydych am wahodd yr unigolyn hwn i allu gweld eich CRN ar-lein. Cliciwch ar “Ie” ac yna “Parhau”.
  • Bydd crynodeb o fanylion yr unigolyn yn cael eu dangos. Cliciwch ar “Parhau” os ydych am greu cod gwahoddiad ar gyfer yr unigolyn hwn.
  • Bydd y sgrin nesaf yn dangos cod gwahoddiad chwe digid – mae angen y cod hwn ar yr unigolyn rydych chi am ei wahodd i gael mynediad i'ch CRN gan ddefnyddio RPW ar-lein.
  • Gwnewch nodyn o'r cod hwn gan y bydd angen i chi wedyn ei rannu â’r unigolyn rydych chi'n ei wahodd i gael mynediad i RPW Ar-lein.
  • Sylwch: bydd y cod hwn yn weithredol am 7 diwrnod yn unig.
  • Cliciwch ar “Ymadael â Rheoli Unigolyn”. Gallwch barhau i ychwanegu / gwahodd pobl eraill trwy ailadrodd y broses hon. 

Derbyn gwahoddiad

Unwaith y byddwch wedi rhanu’r cod gwahoddiad gyda’r unigolyn rydych chi’n ei wahodd, dylai naill ai  fewngofnodi neu greu cyfrif One Login GOV.UK ar RPW Ar-lein,  gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i roi’r gwahodddiad.  

Pan fydd yr unigolyn wedi mewngofnodi i'w gyfrif, bydd y system yn ei arwain yn syth i'r sgrin wahoddiad lle caiff weld yr opsiynau canlynol.  

Derbyn 
Gwrthod, neu 
Dwi am benderfynu wedyn 

  • Os bydd yn dewis derbyn, gofynnir iddo nodi'r cod gwahoddiad chwe digid y gwnaethoch ei roi iddo ac i glicio ar “Parhau”. Bydd yr unigolyn yn cael neges ar ei sgrin sy'n dweud wrtho ei fod o hyn allan yn cael gweithredu  ar ran y CRN. Ar ôl clicio ar “Parhau”, bydd yn cael ei hebrwng yn ôl i dudalen hafan y CRN. (Sylwch: Os byddwch yn teipio'r cod yn anghywir dair gwaith, caiff y gwahoddiad ei ganslo).
  • Os bydd yn dewis gwrthod y gwahoddiad, bydd neges ar y sgrin yn ymddangos I'w hatgoffa eu bod wedi gwrthod. Pan fyddant yn dewis parhau, byddant yn  cael neges ar y sgrin lle byddant yn gallu cael mynediad at Borth y Llywodraeth, os oes angen. Sylwch ar ôl cael ei wrthod, bydd angen i ddefnyddiwr gael ei ail-wahodd i  One Login GOV.UK pan fyddwch yn barod iddynt symud.
  • Os bydd yr unigolyn yn dewis 'Dwi am benderfynu wedyn', bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn dweud pryd daw'r cod gwahoddiad i ben. Bydd hyn yn galluogi’r unigolyn  i dderbyn neu wrthod y gwahoddiad nes ymlaen, ond rhaid gwneud o fewn y cyfnod gwahodd o 7 diwrnod.  

Sylwch, os daw'r cod i ben, bydd angen i chi, fel y Gweinyddwr, roi Gwahoddiad a chod newydd.