Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestru cwsmeriaid

Cyflwyniad

Ar ôl cofrestru ar One Login, bydd cwsmeriaid yn gallu cofrestru am Gyfeirnod Cwsmer (CRN). 

Mae RPW Ar-lein yn ffordd gyflym a hwylus o gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru (RPW).

Ar ôl cofrestru gydag RPW, byddwch yn gallu defnyddio'ch cyfrif RPW Ar-lein i:

  • gael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy neges destun neu e-bost
  • datgan diddordeb a gwneud ceisiadau
  • gweld ble ydych chi arni gyda'ch holl hawliadau
  • ateb cwestiynau RPW a holi RPW, a lanlwytho dogfennau
  • diweddaru manylion eich busnes
  • rhoi caniatâd i gynrychiolwyr eich undeb ffermwyr neu'ch Asiant i'w lenwi ar eich rhan os dyna'ch dymuniad
  • ychwanegu a rheoli eich CPH (rhif eich daliad).
  • aelod o'r Busnes i gofrestru ar gyfer Cyswllt Ffermio.

Mewngofnodi ar RPW Ar-lein

Ewch i’r dudalen gofrestru trwy Grantiau a thaliadau gwledig.

Hefyd, fe welwch y canllaw a’r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr yn yr adran Taliadau Gwledig Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

I fynd ar RPW Ar-lein, efallai y bydd angen i chi gael system weithredu neu borwr rhyngrwyd mwy diweddar. Darllenwch adran Rhagor o Arweiniad a Help y canllaw hwn neu cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

One Login GOV.UK

Mae One Login GOV.UK yn cynnig ffordd ddiogel ichi ddefnyddio RPW Ar-lein. Pan fyddwch yn clicio ar y ddolen “Mynd at RPW Ar-lein”, cewch eich anfon i dudalen One Login GOV.UK. Efallai bod gennych gyfrif One Login GOV.UK eisoes neu efallai y bydd angen ichi greu un. Bydd angen ichi logio i mewn (mewngofnodi) ar One Login GOV.UK i fynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein.

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Er mwyn cofrestru i gael cyfrif ar-lein, bydd angen ichi roi cyfeiriad e-bost i ni i’w gysylltu â’ch cyfrif. Drwy hwn y byddwch chi’n rheoli’ch cyfrif ar-lein. Ewch i’r dudalen gofrestru trwy www.llyw.cymru/RPWArlein.

Cewch eich anfon i dudalen lanio RPW ac yno cliciwch ar fewngofnodi neu gofrestru gan ddefnyddio One Login GOV.UK. I gofrestru, bydd angen ichi glicio ar yr opsiwn hwnnw ac yna clicio parhau. Bydd angen ichi glicio ar ‘Creu eich One Login GOV.UK’ a pharhau, yna rhowch eich cyfeiriad e-bost a chlicio ar Parhau. Trwy glicio ar Parhau byddwch yn cytuno â hysbysiad preifatrwydd One Login GOV.UK a’r telerau a’r amodau. 

Byddwn yn anfon cod diogelwch chwe digid i’ch cyfeiriad e-bost. Teipiwch y cod yn y man priodol gan wedyn clicio ar Parhau (daw’r cod hwn i ben mewn 1 awr). Yna crëwch gyfrinair 8 nod, yn gyfuniad o lythrennau a rhifau. Yna cliciwch ar Parhau.

Bydd angen ichi fwydo cod diogelwch bob tro y byddwch yn mewngofnodi i One Login GOV.UK. Dewiswch a ydych am dderbyn y cod fel neges destun neu drwy ap dilysu. Yna gwasgwch Parhau. Os ydych wedi dewis neges destun, yna rhowch rif eich ffôn symudol a chlicio ar Parhau. Pan fyddwch wedi cael eich cod 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar Parhau. Bydd neges yn ymddangos ar y sgrin i gadarnhau bod y cyfrif wedi'i greu. Pan fyddwch wedi cymryd y camau hyn ar sgrin, caiff eich cyfrif One Login GOV.UK ei greu.

Pan fyddwch yn clicio ar Parhau, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Byddwn yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w gweld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.   I gytuno ar y telerau a’r amodau, cliciwch ar y blwch ac yna cliciwch ar Parhau.

Dechrau'r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid

Pan fyddwch wedi derbyn y telerau a’r amodau, bydd angen ichi greu CRN newydd ar gyfer eich busnes. 

Cliciwch ar ‘Mae angen creu CRN newydd arna i’.

Bydd hynny’n lansio’r sgrin Dechrau’r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid lle byddwn yn dangos gwybodaeth ichi am y ffurflen.

Pwysig: bydd y CRN sydd wedi’i greu dros dro ar eich cyfer i’w weld ar dop y dudalen ar y bar llwyd. Mae hwn yn rhif unigryw i chi, yn dechrau gydag ‘A’ a rhif 7 digid yn dilyn. 

Ni chaiff y CRN ei gadarnhau nes ichi gyflwyno’r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid a bod RPW wedi archwilio holl fanylion eich busnes.

Cliciwch ar ‘Dechrau’ i barhau.

 Ar y dudalen nesaf, byddwn yn rhoi negeseuon pwysig ichi cyn ichi fwrw yn eich blaen i gofrestru. 

Llenwi'r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid

Bydd y ddewislen ar ochr chwith y sgrin yn gadael ichi: 

  • weld eich CRN. Bydd angen hwn arnoch chi pan fyddwch chi'n cysylltu â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am help i lenwi'r ffurflen. Fe welwch y manylion cysylltu yn adran Mwy o Arweiniad a Help y canllaw hwn.
  • clicio ar y ddolen "help" fydd yn mynd â chi i ganllaw RPW Ar-lein
  • mynd o un rhan o'r ffurflen i'r llall trwy glicio ar y rhan rydych chi am ei llenwi
  • bydd tic gwyrdd yn dangos bod yr adran wedi'i llenwi
  • bydd croes goch yn dangos naill ai nad ydych wedi gorffen llenwi'r adran neu fod camgymeriad yn yr wybodaeth rydych wedi'i rhoi
  • newid i'r ffurflen Saesneg trwy glicio ar Saesneg.

Fe welwch y symbol (?) wrth gwestiynau ar y ffurflen. Trwy glicio arni, fe gewch gyngor ar sut i ateb y cwestiwn.

Bydd * wrth bob cwestiwn ar y ffurflen y mae'n rhaid ichi ei ateb. Fyddwch chi ddim yn cael cyflwyno'r ffurflen nes eich bod wedi ateb pob un.

Cliciwch ar y botymau Nesaf ac Yn ôl i gael mynd ymlaen ac yn ôl ar y ffurflen. Bydd y botwm Safio yn cadw'r holl wybodaeth rydych wedi'i rhoi hyd yma.

Mae'r botwm Gadael ar ochr chwith isa'r dudalen yn mynd â chi i'r sgrin Parhau â'r Ffurflen Gofrestru. Bydd yr holl wybodaeth rydych wedi'i chofnodi yn cael ei harbed yn awtomatig, hyd yn oed os nad ydych wedi clicio ar y botwm Safio.

Gallwch ddewis bwrw ymlaen i lenwi'r ffurflen Gofrestru trwy glicio ar ‘Parhau’ neu gallwch glicio ‘Allgofnodi’ i adael y ffurflen. Trwy glicio ‘Yn ôl’, byddwch yn mynd i'r sgrin Agor Cyfri'r Cwsmer neu sgrin Cofrestru'r Cwsmer.

Bydd y ffurflen yn arbed yr holl wybodaeth sydd wedi'i chofnodi, felly os byddwch yn cau'r porwr trwy ddamwain wrth lenwi'r ffurflen Gofrestru, ni fydd angen ichi ailfwydo'r wybodaeth pan fyddwch yn mewngofnodi y tro nesaf. 

Cofiwch, chewch chi ddim mynd i RPW Ar-lein tan ichi gyflwyno ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid.

Ar ôl ichi gadarnhau bod eich gwybodaeth yn gywir, cliciwch ‘Nesaf’ i barhau.

Tudalen Manylion Cyffredinol

Dewis eich math o gyfrif 

Bydd y cwestiwn cyntaf yn adran Manylion Cyffredinol y ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid yn gofyn ichi ddewis eich cyfrif. Mae’n bwysig eich bod yn meddwl yn galed pa fath o gyfrif sydd ei angen arnoch. 

  • Gall Cwsmer fod yn sefydliad, busnes neu unigolyn sydd am Ddatgan Diddordeb, hawlio taliad, ychwanegu neu reoli CPH ac ati.
  • Mae Asiant yn drydydd parti sydd wedi cael caniatâd i wneud pethau ar ran cwsmer neu fusnes, gan gynnwys hawlio arian.
  • Mae Undeb Ffermwyr yn helpu cwsmeriaid, gan wneud pethau ar ran y cwsmer neu’r busnes. 

Mae’r cwestiynau yn y ffurflen wedi’u llunio’n benodol ar gyfer mathau gwahanol o gyfrifon. Byddwn yn cadw ac yn rheoli’ch gwybodaeth chi yn unol â hysbysiad preifatrwydd y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Darllenwch yr adran berthnasol yn y canllaw hwn os ydych wedi clicio ar Asiant neu Undeb Ffermwyr.

Cyfrif cwsmer

Os ydych wedi dewis cyfrif Cwsmer, bydd angen i chi roi’r rheswm pam eich bod am gael cyfrif cwsmer. Dewiswch bob  opsiwn sy’n berthnasol ichi. 

Yr opsiynau yw: 

  • Gwneud cais am grant neu i hawlio taliad
  • Rheoli fy CPH
  • Cofrestru ar gyfer Cyswllt Ffermio
  • Cofrestru fy ngwybodaeth yn unig

Peidiwch â thicio 'Cofrestru fy ngwybodaeth yn unig' os ydych wedi ticio unrhyw un o'r blychau eraill. Gallwch dicio'r tri blwch sy'n weddill gyda'i gilydd os oes angen neu gallwch ddewis un ohonyn nhw gan ddibynnu ar eich gofynion. 

Beth yw maes eich busnes?

Dewiswch y Maes Busnes sy'n adlewyrchu'ch busnes yn gywir. Trwy ddweud wrthym beth yw maes neu feysydd eich busnes, byddwch yn ein helpu i:

  • Bersonoli'ch hafan
  • Rhoi gwybodaeth ac arweiniad am y cynllun.
  • Gwneud cais i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) os byddwch yn dewis Amaethyddiaeth a Choetir Ffermydd

Am ddisgrifiadau manylach o'r Meysydd Busnes, ewch i:

RPW Ar-lein: diffiniadau o feysydd busnes | LLYW.CYMRU

Dim ond i gwsmeriaid a ddewisodd 'Gwneud cais am grant neu hawlio taliad' y mae'r pedwar cwestiwn canlynol yn berthnasol

Beth yw eich statws busnes/cyfreithiol?

  • Dewiswch yr opsiwn sy debycaf i'ch prif statws cyfreithiol.

Dyddiad Ffurfio'r Busnes

Rhowch y dyddiad y cafodd eich busnes ei ffurfio yn y fformat dd/mm/bbbb. Neu gliciwch ar y calendr.

A gafodd y busnes hwn ei sefydlu trwy rannu busnes oedd yn bod eisoes? 

Os yw’n fusnes newydd nad ydych wedi cael CRN ar ei gyfer eto, a gafodd ei ffurfio trwy hollti busnes?

Cyfeirnod y cwmni a chyfeirnod yr elusen 

Os mai Cwmni Cofrestredig neu Elusen Gofrestredig yw'ch statws busnes/cyfreithiol, yna rhowch y rhif cofrestru perthnasol inni.

Dewiswch “Nesaf” i fynd i adran Manylion Gohebu’r ffurflen.

Manylion gohebu

Teitl Masnachu / Busnes / Enw 

Dyma'r enw fydd yn ymddangos ar bob gohebiaeth.

Cod post a chyfeiriad gohebu 

Dyma'r cyfeiriad rydych am i bob gohebiaeth gael ei anfon ato. Os byddwch yn nodi'ch cod post ac yn clicio ar "Chwilio am Gyfeiriad", gallwch ddewis eich cyfeiriad o'r rhestr. Os nad ydych yn gallu gweld eich cyfeiriad, gallwch ei deipio.

Rhif ffôn 

Nodwch rif ffôn y prif gyfeiriad gohebu.

Dewis iaith 

Nodwch ym mha iaith yr hoffech inni ohebu â chi (Cymraeg neu Saesneg).

Dull a ffefrir ar gyfer hysbysu 

Gallwch ddewis sut yr hoffech i RPW Ar-lein gysylltu â chi i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi'i ychwanegu at eich cyfrif. Gan ddibynnu ar ba ddull y byddwch yn ei ddewis, gofynnir ichi roi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol neu'r ddau. Byddwn yn eu defnyddio i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi cyrraedd ichi ei weld ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Ai'r un yw cyfeiriad eich prif fferm / adeilad â'ch cyfeiriad gohebu? 

Os nad ydych yn cofrestru busnes ffermio, dyma'r cyfeiriad lle mae prif weithgaredd y busnes yn cael ei gynnal. Os "Na" yw'ch ateb, nodwch eich cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'ch cod post.

Ai'r un yw eich cyfeiriad masnachu â'ch cyfeiriad gohebu? 

Dyma'r cyfeiriad sydd ar eich cyfrifon busnes. Os "Na" yw'ch ateb, nodwch eich cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'ch cod post.

Ar ôl llenwi’r rhan hon, cliciwch ar ‘Nesaf’ i fynd yn eich blaen.

Prif gyswllt

Y prif gyswllt yw'r person y dylwn siarad ag e/hi os oes ymholiadau.

Enw cyntaf/enw(au) canol/cyfenw 

Rhowch enw llawn y prif gyswllt.

Rôl yn y busnes

Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio rôl yr unigolyn yn y busnes orau. Mae’r atodiadau a restrir isod yn disgrifio’r rolau o fewn y busnes a’r lefel mynediad y caiff pob rôl ar gyfer mynd ar RPW Ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth a diffiniadau yn yr Atodiadau isod.

Atodiad 1 – Rolau yn y Busnes a Diffiniadau

Atodiad 2 – Caniatâd a Chyfyngiadau'r Gweinyddwr.

Atodiad 3 – Lefelau mynediad yn ôl y Rôl yn y Busnes.

Bydd pob unigolyn o fewn y rolau isod yn cael mynd yn awtomatig i’ch cyfrif RPW Ar-lein a bydd ganddynt bwerau gweinyddol. Os ydych am wneud cais am Grant, rhaid bod o leiaf un person wedi’i gofrestru yn un o’r rolau hyn ar eich CRN. Dim ond pobl â'r rolau hyn fydd yn cael derbyn neu wrthod Dyfarniad Grant:

  • Perchennog / Unig Fasnachwr
  • Partner Busnes
  • Cyfarwyddwr
  • Ysgutor
  • Cadeirydd / Ymddiriedolwr
  • Gweinyddwr Personol
  • Ysgrifennydd Cwmni
  • Gweithiwr gydag awdurdod wedi'i ddirprwyo iddo

Nid yw’r rolau a restrir isod yn aelodau o’ch busnes, ond rydych am iddynt allu mynd i’ch cyfrif ar-lein.  Bydd gofyn i chi bennu lefel mynediad yr unigolion hyn.

  • Unigolyn preifat
  • Priod/aelod o'r teulu
  • Gwarcheidwad
  • Gweithiwr cyflog
  • Trysorydd/Aelod o'r Pwyllgor
  • Rheolwr
  • Contractwr
  • Asiant / Trydydd Parti
  • Defnyddiwr ar-lein  
  • Ysgrifennydd

Ble mae'r unigolyn yn byw? 

Os ydy'r prif gyswllt yn byw yn un o'r cyfeiriadau rydych eisoes wedi'u rhoi inni fel Cyfeiriad Gohebu, Cyfeiriad y Brif Fferm neu Gyfeiriad Masnachu, dewiswch y blwch priodol. Os yw'n byw rywle arall, dewiswch y blwch "Arall". Nodwch y cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'r cod post.

Dyddiad geni 

Nodwch ddyddiad geni'r prif gyswllt gan ddefnyddio'r fformat dd/mm/bbbb. Neu gliciwch ar y calendr.

Rhif Yswiriant Gwladol 

Nodwch rif Yswiriant Gwladol y prif gyswllt. 

Cadarnhewch mai manylion prif gyswllt y busnes yw'r manylion hyn.

Bydd angen i chi dicio'r blwch i gadarnhau mai manylion prif gyswllt y busnes yw'r manylion sydd wedi'u cofrestru ar y dudalen hon. Dyma'r person y byddwn yn delio ag ef fwyaf.

Ai'ch manylion chi yw'r rhain?

Os ydych chi'n llenwi'r ffurflen ar ran y prif gyswllt , dylech dicio 'Na' i'r cwestiwn 'Ai'ch manylion chi yw'r rhain?' ar dudalen y Prif Gyswllt. Bydd angen i chi gofrestru eich manylion chi ar y dudalen 'Manylion Unigolyn Arall' a chadarnhau mai'ch manylion chi ydyn nhw. Rhaid i'r person sy'n llenwi'r ffurflen gadarnhau ei fanylion hyd yn oed os nad ef yw'r prif gyswllt.

Cyfeiriad e-bost 

Caiff y cyfeiriad e-bost ei osod yn awtomatig fel eich cyfeiriad e-bost ar One Login GOV.UK. 

Rhif ffôn/rhif ffôn symudol 

Os ydych chi eisoes wedi cofnodi’r rhifau hyn yn adran Manylion Gohebu'r ffurflen, does dim angen ichi eu nodi nhw eto yn y fan hon. 

Rhif ffôn/ffôn symudol buddiannau busnes eraill 

Os oes gan y prif gyswllt fuddiannau mewn busnes arall sydd wedi'i gofrestru gydag unrhyw un o bedair Asiantaeth Dalu'r DU, datganwch nhw trwy glicio'r botwm "Ychwanegu Buddiannau Busnes Eraill" a llenwi’r rhannau sydd ar y sgrin. Os nad oes ganddo fuddiannau mewn busnesau eraill, ewch yn syth i Unigolion Eraill

Bydd RPW yn archwilio'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu er mwyn sicrhau bod y busnes y mae gan y prif gyswllt fudd ynddo yn wahanol i'r busnes rydych yn ei gofrestru.

Asiantaeth dalu 

Trwy glicio ar y botwm "Buddiannau Busnes Eraill", byddwch yn mynd i sgrin y Prif Gyswllt - Buddiannau Busnes Eraill. Yn gyntaf, bydd angen ichi gadarnhau â pha un o'r pedair Asiantaeth Dalu y mae'r busnes wedi'i gofrestru.

Cyfeirnod 

Os ydych chi'n gwybod beth yw'ch cyfeirnod gyda'r Asiantaeth Dalu arall, nodwch e yma. Efallai’r cyfeirnod yw'r Cyfeirnod Cwsmer (CRN), Rhif Adnabod y Busnes (Business ID), Rhif Adnabod Busnes Unigol (SBI) neu Gyfeirnod Busnes (BRN).

Teitl masnachu 

Bydd yn rhaid ichi gadarnhau Teitl Masnachu'ch busnes arall.         

Cod post/cyfeiriad gohebu 

Teipiwch y cod post i chwilio am gyfeiriad gohebu'r busnes arall a'i nodi.

Rôl 

Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio orau rôl yr unigolyn yn y busnes. 

Caiff cofnod o’r buddiannau busnes eraill ei ddangos ar sgrin y Prif Gyswllt. Gallwch ychwanegu buddiannau mewn busnesau eraill o dan enw'r Prif Gyswllt trwy glicio'r botwm "Ychwanegu Buddiannau Busnes Eraill".

Unigolion eraill

Yn yr adran Unigolion Eraill, gallwch ychwanegu unigolion. Gallan nhw fod yn aelodau o’r busnes neu’n unigolion rydych wedi dweud sy’n cael mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Os ydych chi'n llenwi'r cais ar ran y prif gyswllt, bydd angen i chi ychwanegu'ch manylion eich hun yn yr adran hon.  Bydd RPW ond yn cysylltu ag unigolion o fewn y busnes i drafod prosesau pob dydd y busnes e.e. newid manylion y busnes. Os nad ydych chi am ychwanegu unrhyw unigolion eraill, cliciwch ar “Nesaf” i fynd yn syth i’r adran Cyflwyno’r Ffurflen.

Ychwanegu unigolyn 

I ychwanegu unigolyn, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu Unigolyn".

Rhowch fanylion yr unigolyn. Rhaid cynnwys y cyfeiriad e-bost y bydd yn ei ddefnyddio i greu ei gyfrif One Login. Wedyn, cliciwch ar “Cadw a Dychwelyd”.

Ar ôl cadarnhau bod y crynodeb o’r manylion yn gywir, cliciwch ar “Nesaf” i barhau a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Os ydych am ychwanegu unigolyn arall, cliciwch ar “Safio ac Ychwanegu Un Arall”. Bydd cofnod o’r unigolion y byddwch wedi’u hychwanegu yn cael ei ddangos. Gallwch newid manylion yr unigolion eraill trwy glicio ar “Addasu” neu gallwch ddileu unigolyn trwy ddewis “Dileu”.

Ar ôl llenwi’r rhan hon, cliciwch ar “Nesaf”.   

Wedi ichi gyflwyno’ch cais, er mwyn i’r unigolion sydd wedi’u hychwanegu at eich CRN allu mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein, bydd angen ichi eu gwahodd i greu cyfrif One Login GOV.UK. Gweler yr adran isod am “Gwahodd unigolion i’ch CRN”.

Datganiad ac ymrwymiadau

Rhaid ichi gytuno ar y datganiadau a'r ymrwymiadau trwy glicio yn y blwch cyn cael cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid. Ni fydd modd clicio ar y botwm Nesaf nes eich bod yn ticio'r blwch.

Cyflwyno

Os ydych chi'n fodlon fod yr wybodaeth ar eich ffurflen yn gywir, cliciwch ar y botwm "Cyflwyno". Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid, ni fyddwch yn cael gwneud newidiadau iddi.  Bydd neges â chopi o'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid rydych wedi'i chyflwyno ar gael ar dudalen eich Negeseuon ar-lein cyn pen un diwrnod gwaith.

Cadarnhad eich bod wedi'i chyflwyno

Bydd sgrin Cadarnhau Cyflwyno'r Ffurflen yn cadarnhau'ch bod wedi cyflwyno Ffurflen Cofrestru Cwsmer, pwy sydd wedi'i chyflwyno a phryd. Os ydych yn gwsmer sy'n bwriadu gwneud cais am grantiau a hawlio taliadau, mae'n bwysig eich bod yn printio copi o Ffurflen Manylion eich Banc gan ddefnyddio’r ddolen hon RPW Ar-Lein: manylion banc.

Os nad ydych yn gallu printio copi, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid - mae'r manylion cysylltu yn yr adran Mwy o Arweiniad a Help yn y canllaw hwn. Ni fyddwn yn gallu prosesu'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid yn llawn tan y cawn gopi caled o fanylion eich banc. Rhaid i bob unigolyn sydd wedi datgan ei fod yn rhan o'ch busnes lofnodi'r ffurflen er mwyn i RPW allu ei phrosesu.

Nid oes angen ichi gyflwyno unrhyw ddogfennau ar-lein i gefnogi'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid; os hoffech brintio'r sgrin Cadarnhau Cyflwyno'r Ffurflen, cliciwch ar y botwm "Printio'r Sgrin hon". Fel arall, cliciwch ar "Gadael". Byddwch wedyn yn mynd i dudalen hafan RPW Ar-lein. Mae'r dudalen hafan yn wahanol i Gwsmeriaid ac Asiant/Undebau Ffermwyr.

Gwahodd unigolion i’ch CRN

I wahodd unigolyn i’ch CRN, bydd angen ichi logio i mewn i’ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar fanylion y CRN a dewis ‘Rheoli Unigolion’. Ar sgrin reoli'r CRN, bydd rhestr o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch CRN.

Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhau bod yr wybodaeth am yr unigolyn hwnnw’n gywir.  Gallwch wneud newidiadau drwy glicio ar y botwm 'Diweddaru'r wybodaeth hon'.  Dewiswch y botwm "Gwahoddiad".

Byddwn yn gofyn a ydych am wahodd yr unigolyn hwn i allu gweld eich CRN ar-lein. Cliciwch ie a pharhau. Bydd y rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yn eich busnes yn pennu pa lefel mynediad fydd ganddo i’ch cyfrif RPW Ar-lein.  Gweler Atodiad 3.

Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad ar gyfer yr unigolyn hwn (Darllenwch Atodiad 3 am wybodaeth am lefelau mynediad). Galwch ddewis un o'r opsiynau canlynol:

Mynediad Llawn

Mynediad wedi’i deilwra

Dim Mynediad

Pan fydd y lefel wedi’i gosod, cliciwch ar Parhau a chadarnhau bod yr wybodaeth ar y sgrin yn gywir. Os yw’r wybodaeth yn gywir, cliciwch ar Parhau. Bydd cod gwahoddiad yn cael ei ddangos ar y sgrin. Gofalwch eich bod yn gwneud nodyn ohono. Bydd angen ichi wedyn roi’r cod hwn i’r unigolyn rydych yn ei wahodd i’ch CRN. Pwysig: bydd y cod hwn yn 'fyw' am 7 niwrnod.

Tudalen Hafan RPW Ar-lein: cwsmeriaid

Ar ôl clicio ar y botwm Gadael, cewch eich ailgyfeirio i'ch cyfrif RPW Ar-lein.  Os oes gennych Rôl Aelod o’r Busnes o fewn y busnes, byddwch yn cael eich anfon i'r sgrin Cydraddoldeb a Monitro. Gallwch ddewis ei llenwi, gohirio ei llenwi nes i chi fewngofnodi nesaf neu gallwch ddewis 'Na' os nad ydych am roi'r wybodaeth hon.  Mae'r wybodaeth am Gydraddoldeb a gesglir yn seiliedig ar y Flwyddyn Geni, Rhyw, Lefel eich gallu yn y Gymraeg a'ch grŵp a chefndir ethnig. Os nad ydych am ateb cwestiwn penodol, mae gennych yr opsiwn i ddewis 'Gwell gen i beidio â dweud'.  Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol yn unig. Rydym yn ei chasglu am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn i Lywodraeth Cymru allu asesu lefel yr amrywiaeth yng nghefn gwlad Cymru a'r sector ffermio. 

Y sgrin nesaf y byddwch chi'n ei gweld fydd hafan y busnes. Cofiwch, fel cwsmer dros dro, ni chaiff unrhyw gais neu Ddatganiad o Ddiddordeb y byddwch yn ei gyflwyno yn cael ei brosesu'n llawn tan ichi glywed gan RPW ei fod wedi archwilio'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid. 

Os mai'r cyfan rydych am ei wneud yw rheoli'ch CPH, ni fydd ceisiadau neu Ddatganiadau o Ddiddordeb y byddwch yn eu cyflwyno yn cael eu prosesu gan eich bod wedi dangos nad ydych am geisio am grant na hawlio taliad. 

Os oes gennych fwy nag un CRN, yna byddwch yn gallu gweld a chlicio ar bob un o’ch CRNs ar eich tudalen hafan. Os ydych am fynd yn ôl i’r sgrin ddewis, yna cliciwch ar ‘Eich proffil’ a dewiswch yr opsiwn ‘Gweld neu greu CRN’.

Bar Dewislenni

Ar hyd y bar dewislenni gwyrdd ar dop y sgrin, fe welwch yr opsiynau canlynol:

Manylion fy CRN

Dewiswch yr opsiwn hwn i weld neu newid eich manylion. Gall hynny gynnwys ychwanegu unigolion, newid manylion cysylltu ac ychwanegu'ch buddiannau busnes. Dyma ble welwch chi fanylion eich hawliau a pha rai sydd ar gael a ddim ar gael ichi eu defnyddio i gael taliad. 

Gallwch weld eich manylion bancio a manylion y taliadau sydd wedi'u gwneud. Fe welwch eich manylion cysylltu yn adran Mwy o Arweiniad a Help y canllaw hwn. Gallwch newid eich Dewisiadau Ar-lein neu ychwanegu neu newid eich asiantwyr, cynghorwyr neu gynrychiolwyr undebau ffermwyr. 

Tra’ch bod yn gwsmer dros dro, ni fyddwch yn cael newid eich manylion. Byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch Cyfrif RPW Ar-lein pan fyddwn wedi prosesu’ch cais i Gofrestru fel Cwsmer.

Tir

Dyma lle gallwch weld a chyflwyno Rheoli fy Nhir. Gallwch reoli'r wybodaeth am eich daliad (CPH) ac ychwanegu CPH newydd. Fe welwch wybodaeth hefyd ar eich map SAF a’r Map Rhyngweithiol.

Gohebiaeth

Dyma ble mae holl ddogfennau Taliadau Gwledig Cymru diweddar yn cael eu cadw. Gallwch ateb cwestiynau a lanlwytho gwybodaeth ategol o'r dudalen Negeseuon. Bydd y rhif wrth ochr dde'r teitl Negeseuon yn dangos yr holl negeseuon sydd gennych heb eu darllen.

Ffurflenni

Dylech glicio ar yr opsiwn hwn i wneud cais neu hawliad newydd neu i weld beth sy'n digwydd i gais rydych wedi'i wneud eisoes.

Contractau a Grantiau Bach

Dyma ble gwelwch chi restr o'ch contractau a'u statws. Gallwch Ddatgan Diddordeb neu weld Datganiadau sydd wedi'u gwneud eisoes. Byddwch hefyd yn gallu lanlwytho dogfennau o'r fan hon i gefnogi'ch hawliadau. Ceir elfennau pwysig eraill ar dudalen hafan RPW Ar-lein:

Planiau coetir

Dyma ble y gallwch weld a diweddaru’ch plan coetir.

Negeseuon

I weld eich negeseuon i gyd, ewch i'r tab Negeseuon.

Dolenni defnyddiol

Ar ochr dde'r dudalen hafan, mae rhestr o ddolenni defnyddiol.

Dechrau ffurflen

 Fe welwch ddolenni cyflym at eich ceisiadau a hawliadau ar waelod y dudalen hafan. I weld yr holl geisiadau, ewch i'r dudalen Ffurflenni.

Llenwi'r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid: Asiant neu Undeb Ffermwyr

Gan eich bod wedi cadarnhau'ch bod yn Asiant neu Undeb Ffermwyr, bydd angen ichi ateb cyfres o gwestiynau cyn cael cyflwyno'r ffurflen gofrestru. 

Manylion cyffredinol 

Nid oes rhagor o gwestiynau ichi eu hateb yn adran Manylion Cyffredinol y ffurflen.

Dewiswch “Nesaf” i fynd i adran Manylion Gohebu’r ffurflen. Neu dewiswch "Manylion Gohebu" ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin.

Manylion gohebu

Defnyddir yr wybodaeth yn yr adran hon i ni allu’ch adnabod chi neu eich busnes.

Teitl masnachu/busnes/enw

Dyma'r enw fydd yn ymddangos ar bob gohebiaeth.

Cod post a chyfeiriad gohebu 

Dyma'r cyfeiriad rydych am i bob gohebiaeth gael ei anfon ato. Os byddwch yn nodi'ch cod post ac yn clicio ar "Chwilio am Gyfeiriad", gallwch ddewis eich cyfeiriad o'r rhestr. Os nad ydych yn gallu gweld eich cyfeiriad, gallwch ei deipio.

Rhif ffôn

Nodwch rif ffôn y prif gyfeiriad gohebu

Dewis iaith

Nodwch ym mha iaith yr hoffech inni ohebu â chi (Cymraeg neu Saesneg).

Dull a ffefrir ar gyfer hysbysu 

Gallwch ddewis sut yr hoffech i RPW Ar-lein gysylltu â chi i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi'i ychwanegu at eich cyfrif.

Gan ddibynnu ar ba ddull y byddwch yn ei ddewis, gofynnir ichi roi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol neu'r ddau. Byddwn yn eu defnyddio i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi cyrraedd ichi ei weld ar eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Prif gyswllt

Y prif gyswllt yw'r person y dylwn siarad ag e/hi os oes ymholiadau. 

Enw cyntaf/enw(au) canol/cyfenw 

Rhowch enw llawn y prif gyswllt.

Cadarnhewch mai manylion prif gyswllt y busnes yw'r manylion hyn. Bydd angen i chi dicio'r blwch i gadarnhau mai manylion prif gyswllt y busnes yw'r manylion sydd wedi'u cofrestru ar y dudalen hon. Dyma'r person y byddwn yn delio ag ef fwyaf.

Ai'ch manylion chi yw'r rhain?

Os ydych chi'n llenwi'r ffurflen gais ar ran y prif gyswllt , dylech dicio 'Na' i'r cwestiwn 'Ai'ch manylion chi yw'r rhain?' ar dudalen y Prif Gyswllt. Bydd angen i chi gofrestru eich manylion chi ar y dudalen 'Manylion Unigolyn Arall' a chadarnhau mai'ch manylion chi ydyn nhw. Rhaid i'r person sy'n llenwi'r ffurflen gadarnhau ei fanylion hyd yn oed os nad ef yw'r prif gyswllt.

Caiff y cyfeiriad e-bost ei osod yn awtomatig fel eich cyfeiriad e-bost ar One Login GOV.UK. 

Rhif ffôn/rhif ffôn symudol

Os ydych chi eisoes wedi cofnodi’r rhifau hyn yn adran Manylion Gohebu'r ffurflen, does dim angen ichi eu nodi nhw eto yn y fan hon.  Cliciwch ar “Nesaf” i fynd i adran Unigolion Eraill y ffurflen.

Unigolion eraill

Gan eich bod wedi cadarnhau'ch bod yn Asiant neu Undeb Ffermwyr, nid oes angen ichi roi unrhyw wybodaeth inni yn yr adran hon. Bydd RPW ond yn cysylltu â'r person a enwir fel y prif gyswllt i drafod prosesau pob dydd y busnes e.e. newid manylion y busnes. Ond, os ydych chi'n llenwi'r ffurflen gais ar ran y prif gyswllt , dylech dicio 'Na' i'r cwestiwn 'Ai'ch manylion chi yw'r rhain?' ar dudalen y Prif Gyswllt. Bydd angen i chi gofrestru eich manylion chi ar y dudalen 'Manylion Unigolyn Arall' a chadarnhau mai'ch manylion chi ydyn nhw. Rhaid i'r person sy'n llenwi'r ffurflen gadarnhau ei fanylion hyd yn oed os nad ef yw'r prif gyswllt.  Cliciwch ar "Nesaf" i fynd i adran Cyflwyno'r ffurflen.

Cyflwyno'r ffurflen

Cyn i chi gyflwyno'ch ffurflen Cofrestru Cwsmer, rhaid i chi edrych ar yr wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi arni. Rhaid cywiro unrhyw wallau cyn i chi gyflwyno'r ffurflen. Sgroliwch i lawr y dudalen i weld y crynodeb.

Dewiswch "Yn ôl" i fynd i adrannau blaenorol y ffurflen os ydych am wneud newidiadau, neu dewiswch yr adran berthnasol ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin. 

Pan fyddwch chi'n hapus bod yr wybodaeth ar y ffurflen yn gywir, cliciwch ar "Nesaf" i fynd i adran Datganiad ac Ymrwymiadau'r ffurflen. Bydd unrhyw gamgymeriadau a nodwyd yn ymddangos yma.

Gallwch sgrolio i lawr i weld y camgymeriadau; byddan nhw wedi'u lliwio'n goch.

I newid y camgymeriadau, dewiswch "Blaenorol" i fynd i'r rhannau o'r ffurflen sydd angen eu newid. Mae ochr chwith y dudalen yn dangos gwahanol adrannau'r ffurflen, (bydd croes goch yn lle tic gwyrdd wrth ymyl y rhai sydd â chamgymeriadau).

Ar ôl i'r holl gamgymeriadau gael eu cywiro, cliciwch ar "Nesaf" i fynd i'r dudalen Datganiad ac Ymrwymiadau.

Datganiad ac ymrwymiadau

Rhaid ichi gytuno ar y datganiadau a'r ymrwymiadau trwy glicio yn y blwch cyn cael cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid. Ni fydd modd clicio ar y botwm Nesaf nes eich bod yn ticio'r blwch.

Cyflwyno

Os ydych chi'n fodlon fod yr wybodaeth ar eich ffurflen yn gywir, cliciwch ar y botwm "Cyflwyno". Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid, ni fyddwch yn cael gwneud rhagor o newidiadau iddi. Bydd neges â chopi o'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid rydych wedi'i chyflwyno ar gael ar dudalen eich Negeseuon ar-lein cyn pen un diwrnod gwaith.

Cadarnhad eich bod wedi'i chyflwyno

Bydd sgrin Cadarnhau Cyflwyno'r Ffurflen yn cadarnhau'ch bod wedi cyflwyno Ffurflen Cofrestru Cwsmer, pwy sydd wedi'i chyflwyno a phryd. Os ydych yn gwsmer sy'n bwriadu gwneud cais am grantiau a hawlio taliadau, mae'n bwysig eich bod yn printio copi o Ffurflen Manylion eich Banc gan ddefnyddio’r ddolen hon: Os nad ydych yn gallu printio copi, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid - mae'r manylion cysylltu yn yr adran Mwy o Arweiniad a Help yn y canllaw hwn. Ni fyddwn yn gallu prosesu'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid yn llawn tan y cawn gopi caled o fanylion eich banc. Rhaid i bob unigolyn sydd wedi datgan ei fod yn rhan o'ch busnes lofnodi'r ffurflen er mwyn i RPW allu ei phrosesu.

Nid oes angen ichi gyflwyno unrhyw ddogfennau ar-lein i gefnogi'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid; os hoffech brintio'r sgrin Cadarnhau Cyflwyno'r Ffurflen, cliciwch ar y botwm "Printio'r Sgrin hon". Fel arall, cliciwch ar "Gadael". Byddwch wedyn yn mynd i dudalen hafan RPW Ar-lein. Mae'r dudalen hafan yn wahanol i Gwsmeriaid ac Asiant/Undebau Ffermwyr.

Tudalen Hafan RPW Ar-lein: Asiantau ac Undebau Ffermio

Y dudalen gyntaf welwch chi ar RPW Ar-lein yw'r sgrin Dewiswch y Cwsmer. Bydd y sgrin hon yn dangos yr holl gwsmeriaid rydych chi'n gysylltiedig â nhw.  Gan eich bod yn Asiant newydd neu gynrychiolydd newydd Undeb Ffermwyr, ni fydd gennych unrhyw gysylltiadau ar hyn o bryd. Ni fyddwch yn cael creu cysylltiadau tan y bydd RPW wedi cynnal ei archwiliad o’ch busnes. Cewch wybod pan fydd y rhain wedi'u cynnal trwy'r dull cyfathrebu y byddwch wedi'i ddewis. 

Am ragor o arweiniad ynghylch cysylltiadau, ewch i http://www.llyw.cymru/rpwarlein  

Fel cwsmer sydd â sawl CRN, bydd asiant sydd â sawl CRN yn agor sgrin i ddewis CRN. Cliciwch ar y botwm ‘Hafan Asiant’ i weld manylion Asiant:

Bar dewislenni 

Ar hyd y bar dewislenni gwyrdd ar dop y sgrin, fe welwch yr opsiynau canlynol:

Manylion fy CRN 

Dewiswch yr opsiwn hwn i weld neu newid eich manylion. Gall hynny gynnwys ychwanegu unigolion, newid manylion cysylltu ac ychwanegu'ch buddiannau busnes. 

Dyma ble welwch chi fanylion eich hawliau a pha rai sydd ar gael a ddim ar gael ichi eu defnyddio i gael taliad. Gallwch weld eich manylion bancio a manylion y taliadau sydd wedi'u gwneud. I newid eich manylion bancio, dylech lenwi ffurflen manylion eich banc gan nad oes modd newid manylion eich banc ar-lein. 

I gael copi, ewch i RPW Ar-Lein: manylion banc neu holwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid. Fe welwch ei manylion cysylltu yn adran Mwy o Arweiniad a Help y canllaw hwn. Gallwch newid eich Dewisiadau Ar-lein neu ychwanegu neu newid eich asiantwyr, cynghorwyr neu gynrychiolwyr undebau ffermwyr. Tra’ch bod yn gwsmer dros dro, ni fyddwch yn cael newid eich manylion. Byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch Cyfrif RPW Ar-lein pan fyddwn wedi prosesu’ch cais i Gofrestru fel Cwsmer.

Gohebiaeth

 Dyma ble mae holl ddogfennau Taliadau Gwledig Cymru diweddar yn cael eu cadw. Gallwch ateb cwestiynau a lanlwytho gwybodaeth ategol o'r dudalen Negeseuon. Bydd y rhif wrth ochr dde'r teitl Negeseuon yn dangos yr holl negeseuon sydd gennych heb eu darllen.

Mwy o arweiniad a help

I gael mwy o help ar-lein, ewch i www.llyw.cymru/rpwarlein. I siarad â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid, ffoniwch 0300 062 5004. Ei horiau agor yw: 

Llun - Gwener 9.00am tan 4.00pm. 

Gallwch anfon neges atyn nhw hefyd trwy'ch cyfrif RPW Ar-lein. Gall ein Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid siarad â chi hefyd am weithdai a'r cymorth un i un sydd ar gael yn ystod cyfnod y SAF ac ar adegau pwysig eraill.  Mae yna nifer fach o gyfrifiaduron ar gael hefyd yn rhai o swyddfeydd Llywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth am gynlluniau Taliadau Gwledig Cymru, ewch i: www.llyw.cymru/ffermio

Mae band eang cyflym wrthi'n cael ei ddarparu ledled Cymru neu gallwch wneud cais am grant i gysylltu â band eang cyflym trwy ffyrdd eraill.

Ewch i www.llyw.cymru/band-eang-yng-Nghymru am ragor o wybodaeth.

Atodiad 1: rolau yn y busnes a diffiniadau

Perchennog / Unig Fasnachwr: Unigolyn sy'n berchen ar y busnes heb unrhyw bartneriaid busnes cysylltiedig

Partner Busnes: Unigolyn sy'n gyd-berchennog ar y busnes

Cyfarwyddwr: Unigolyn sy'n goruchwylio'r gwaith o redeg y busnes a'i amcanion

Unigolyn preifat: Unigolyn nad yw'n gysylltiedig â busnes

Priod/aelod o'r teulu: Gŵr/gwraig neu aelod agos arall o'r teulu

Gwarcheidwad: Unigolyn sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am ofalu am rywun nad yw'n gallu rheoli ei faterion ei hun e.e. plentyn o dan 18 oed

Gweithiwr cyflog: Unigolyn a gyflogir gan y busnes

Gweithiwr gydag awdurdod wedi'i ddirprwyo iddo: Unigolyn sy'n cael yr awdurdod ffurfiol gan y busnes i wneud tasgau a phenderfyniadau ar ran y busnes

Ysgutor: Unigolyn sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am gyflawni dyletswyddau ewyllys.

Cadeirydd / Ymddiriedolwr: Unigolyn sy'n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am reoli arian neu asedau sydd wedi'u neilltuo mewn ymddiriedolaeth er budd y busnes

Trysorydd/Aelod o'r Pwyllgor: Unigolyn a benodir i weinyddu neu reoli asedau ariannol a rhwymedigaethau busnes/aelod o bwyllgor

Rheolwr: Unigolyn sy'n gyfrifol am reoli neu weinyddu sefydliad neu grŵp o staff

Ysgrifennydd Cwmni: Unigolyn sydd ag arbenigedd mewn llywodraethiant corfforaethol, cydymffurfedd cyfreithiol a rheolaeth weinyddol

Gweinyddwr Personol: Unigolyn sy'n cynrychioli'r busnes yn dilyn hysbysiad o farwolaeth

Contractwr: Unigolyn neu gwmni sy'n ymgymryd â chontract i ddarparu gwasanaeth neu wneud gwaith.

Asiant / Trydydd Parti: Unigolyn sy'n gweithredu ar ran person neu grŵp/busnes arall

Defnyddiwr ar-lein: Unigolyn sydd â chaniatâd cyfyngedig ar-lein

Ysgrifennydd: Unigolion a gyflogir i wneud tasgau gweinyddol

Atodiad 2: caniatâd a chyfyngiadau gweinyddol

Rôl yr Aelod

Rolau Aelodau’r Busnes – bob un yn cael bod yn Weinyddwyr Ar-lein 

  • Perchennog / Unig Fasnachwr
  • Partner Busnes
  • Cyfarwyddwr
  • Ysgutor
  • Cadeirydd / Ymddiriedolwr
  • Gweinyddwr Personol
  • Ysgrifennydd Cwmni
    Gweithiwr gydag awdurdod wedi'i ddirprwyo iddo

Rolau’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes – Gweinyddwr y Busnes sy’n rheoli pwy sy’n cael bod yn Weinyddwr Ar-lein

  • Unigolyn preifat
  • Priod/aelod o'r teulu
  • Gwarcheidwad
  • Gweithiwr cyflog
  • Trysorydd/Aelod o'r Pwyllgor
  • Rheolwr
  • Contractwr
  • Asiant / Trydydd Parti
  • Defnyddiwr ar-lein
  • Ysgrifennydd

Rolau Aelodau’r busnes a’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes

Caniatâd Gweinyddol

  • Gweinyddwr fydd y cyntaf i gofrestru fel defnyddiwr One Login, waeth beth yw ei rôl yn y busnes. (Yr unigolyn wnaeth greu’r CRN neu symud iddo)
  • Mae gan Weinyddwr yr hawl i wahodd unigolion a rheoli’r mynediad/cydsyniadau.
  • Gweinyddwyr sy’n gyfrifol am ddweud pwy sydd â hawl gweinyddol i weld cyfrifon ar-lein.
  • Caiff Gweinyddwyr ddiddymu hawliau gweinyddu’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes.
  • Caiff Gweinyddwyr newid rolau’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes i fod yn Rolau Aelodau’r Busnes.
  • Ni cheir newid rôl Aelod o’r Busnes ond i Rôl arall Aelod o’r Busnes.
  • Caiff unigolyn nad yw’n Aelod o’r busnes adael y busnes ar-lein.
  • Caiff Gweinyddwr ofyn i’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes adael y cyfrif ar-lein.

Rolau Aelodau’r busnes a’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes

Cyfyngiadau Gweinyddol

  • Ni chaiff gweinyddwr arall ddileu hawliau gweinyddu unigolyn sydd â Rôl Aelod o’r Busnes i fynd i gyfrif ar-lein
  • Ni chaiff gweinyddwr newid rôl aelod o’r busnes i fod yn rôl unigolyn nad yw’n Aelod o’r busnes.
  • Ni chaiff Aelod o’r Busnes adael y busnes ar-lein.
  • Ni chaiff Gweinyddwr ofyn i Aelod o’r busnes adael y CRN

Am ragor o arweiniad am y cyfyngiadau uchod, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Atodiad 3: Lefel Mynediad yn ôl y Rôl yn y Busnes

Mynediad Diogelwch a Gweinyddwr

Aelod o’r Busnes

Mynediad Llawn ac yn Weinyddwr Ar-lein.

Dim ond Aelod o’r Busnes sy’n cael Derbyn neu Wrthod Dyfarniad Grant.

Rôl y Cwsmer yn y busnes
  • Perchennog / Unig Fasnachwr
  • Partner Busnes
  • Cyfarwyddwr
  • Ysgutor
  • Cadeirydd / Ymddiriedolwr
  • Gweinyddwr Personol
  • Ysgrifennydd Cwmni
  • Gweithiwr gydag awdurdod wedi'i ddirprwyo iddo
Caniatad

Mae Aelod o’r Busnes yn cael mynd i’r cyfrif RPW a gweld a newid manylion sy’n gysylltiedig â’r CRN gan gynnwys:

  • manylion y busnes/unigolion
  • ffurflenni a cheisiadau
  • dyfarniadau grant – gan gynnwys eu derbyn neu eu gwrthod.
  • dogfennau ariannol a hanes taliadau
  • plan coetir
  • negeseuon
  • FarmData+

Mynediad diogelwch a gweinyddwr

Y rheini nad ydynt yn aelod o’r busnes

Mynediad Llawn (ond nid hawl i dderbyn/gwrthod grantiau)

Gweinyddwr y Busnes sy’n rheoli pwy nad yw’n aelod o’r busnes sy’n cael mynediad gweinyddol 

Rôl y Cwsmer yn y busnes
  • unigolyn preifat
  • priod/aelod o'r teulu
  • gwarcheidwad
  • gweithiwr cyflog
  • trysorydd/aelod o'r pwyllgor
  • rheolwr
  • contractwr
  • asiant / trydydd parti
  • defnyddiwr ar-lein
  • ysgrifennydd
Caniatad

Mae gan y rheini sydd â hawliau mynediad llawn ond nad ydynt yn Aelod o’r busnes yr un caniatadau ag aelodau’r busnes, ac eithrio: nid ydynt yn cael derbyn neu wrthod dyfarniad grant. Maen nhw’n cael gweld, newid a chyflwyno manylion y CRN gan gynnwys:

  • manylion y busnes / unigolion
  • cyflwyno ffurflenni a cheisiadau
  • dogfennau ariannol a hanes taliadau
  • plan coetir
  • negeseuon

Mynediad diogelwch a gweinyddwr

Y rheini nad ydynt yn aelod o’r busnes

Mynediad wedi’i deilwra

Mae’r opsiwn yn caniatáu ichi greu caniatâd yn arbennig i’r unigolyn (ond nid i dderbyn/gwrthod grant )

Gweinyddwr y Busnes sy’n rheoli pwy nad yw’n Aelod o’r busnes sy’n cael mynediad gweinyddol 

Rôl y Cwsmer yn y busnes
  • unigolyn preifat
  • priod/aelod o'r teulu
  • gwarcheidwad
  • gweithiwr cyflog
  • trysorydd/Aelod o'r Pwyllgor
  • rheolwr
  • contractwr
  • asiant / Trydydd Parti
  • defnyddiwr ar-lein
  • ysgrifennydd
Caniatiad

Pan fyddwch chi’n dewis ‘Mynediad wedi’i deilwra’, fe welwch y dudalen ‘Newid Mynediad’ gyda’r teitlau canlynol: 

  • cwsmer
  • grantiau sydd wedi'u dyfarnu (eu gweld yn unig)
  • ceisiadau
  • hawliadau
  • gwybodaeth ariannol
  • planiau
  • negeseuon
  • FarmData+

Mae tair lefel mynediad o dan yr opsiwn Mynediad wedi’i Deilwra, sef:

  • Mynediad cyfyngedig, sef gweld yn unig.
  • Mynediad llawn, sy’n caniatáu dewis Ceisiadau a Hawliadau, gyda chyflwyniad neu heb gyflwyniad. Bydd yn rhoi mynediad llawn i rannau eraill cyfrif y busnes fel a ddangosir ar y rhestr uchod.
  • Dim Mynediad. Ni chewch fynd i unrhyw ran o’r cyfrif

Fe welwch y caniatâd ar gyfer pob lefel mynediad trwy glicio ar y ddolen las o dan bob cwymplen, ar y dudalen Mynediad wedi’i Deilwra.

Wrth ddewis Mynediad wedi’i Deilwra, rydych yn cael newid y caniatâd ar gyfer unigolyn. Gallwch roi awdurdod i unigolyn gyflwyno Ceisiadau neu Hawliadau trwy ddewis yr opsiwn priodol. Mae’r Caniatadau ar gyfer Ceisiadau a Hawliadau i’w gweld isod.

Ceisiadau gyda Mynediad Llawn – gan gynnwys eu cyflwyno.
  • Dechrau/parhau/cyflwyno ffurflen (heb hawlio)
  • Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
  • Lanlwytho dogfennau
  • Gweld mapiau
  • Trosglwyddo hawliau BPS (gan gynnwys eu cyflwyno)
  • Rheoli CPH
  • Creu a chyflwyno Prosiect Grantiau Bach yr Amgylchedd
  • Dechrau / Parhau / Cyflwyno Rheoli fy Nhir.
Ceisiadau gyda Mynediad Llawn – ond nid eu cyflwyno
  • Dechrau / Parhau â ffurflen (nad ydynt yn hawliadau)
  • Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
  • Lanlwytho dogfennau
  • Gweld mapiau
  • Trosglwyddo hawliau BPS (nid eu cyflwyno)
  • Rheoli CPH (nid eu cyflwyno)
  • Creu Prosiect Grantiau Bach yr Amgylchedd
  • Dechrau / Parhau â Rheoli fy Nhir.
Ceisiadau gyda Mynediad Llawn – gan gynnwys eu cyflwyno
  • Dechrau / Parhau / Cyflwyno ffurflen (hawliadau)
  • Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
  • Lanlwytho dogfennau
Ceisiadau gyda Mynediad Llawn – ond nid eu cyflwyno
  • Dechrau / Parhau â ffurflen (hawliadau)
  • Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
  • Lanlwytho dogfennau