Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ffordd rydych yn cael mynd ar RPW Ar-lein wedi newid. Rydym yn cael gwared ar wasanaeth Porth y Llywodraeth ac yn defnyddio gwasanaeth One Login GOV.UK yn ei le.

Bydd y newid hwn yn gwneud y data digidol yn fwy diogel ac yn golygu y gallwn gyflwyno nodweddion newydd ar RPW Ar-lein, gan gynnwys newid y drefn ar gyfer delio â rolau a chaniatâd. Bydd hynny’n rhoi mwy o hyblygrwydd a rheolaeth ichi ar eich Cyfrif CRN ar-lein.

  • I symud i One Login GOV.UK, bydd angen ei gyfeiriad e-bost ei hun ar bawb sydd wedi'i gofrestru ar eich CRN ac a fydd angen gallu gweld eich cyfrif RPW Ar-lein.

Byddwn yn gwahodd defnyddwyr RPW Ar-lein, fesul grŵp, i symud i wasanaeth newydd One Login GOV.UK. Bydd ei gwneud hi fel hyn yn gwneud yn siŵr bod digon o gefnogaeth ar gael yn ein Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid i'ch helpu.

Ni fydd angen i chi symud i One Login GOV.UK nes eich bod yn cael gwahoddiad. Bydd y gwahoddiad hwn yn ymddangos yn eich Negeseuon Cyswllt Cwsmer.

Rydym am weld ein holl gwsmeriaid yn defnyddio One Login GOV.UK erbyn diwedd y flwyddyn a'r bwriad yw cau gwasanaeth Porth y Llywodraeth.

Mae'r wybodaeth isod yn rhoi cyflwyniad a chefndir byr ar y newidiadau i Rolau a Chaniatâd ar RPW Ar-lein ac yna'n esbonio sut i symud o Borth y Llywodraeth i One Login GOV.UK yn ôl pa fath o gwsmer ydych chi; er enghraifft, unig fasnachwr, partneriaeth, PLC ac ati.

Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein

Ar wasanaethau RPW Ar-lein bellach, mae "Aelodau Busnes", a ddiffinnir isod, a gweinyddwyr One Login GOV.UK yn cael pennu caniatâdau sy'n cyfateb i rôl unigolion o fewn y busnes neu'r sefydliad. Mae'r atodiad isod yn disgrifio'r rolau mewn busnes, a lefel y mynediad fydd gan bob un ar RPW Ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth a diffiniadau o'r rolau yn yr atodiadau atodedig:

Atodiad 1: rolau yn y busnes a diffiniadau
Atodiad 2: caniatadau a chyfyngiadau ar weinyddwyr
Atodiad 3: lefelau mynediad yn seiliedig ar y rôl yn y busnes

Aelodau'r busnes

Rhestrir y rolau sy’n cael eu diffinio fel "Aelodau Busnes" isod. Unigolyn â rôl bwysig o fewn y busnes yw “aelod o fusnes”, er enghraifft perchennog, cyfarwyddwr, partner busnes.  Bydd yr unigolyn fydd wedi'i enwi fel 'Aelod o'r Busnes' yn cael mynd i bob rhan o RPW Ar-lein yn awtomatig a bydd ganddo bwerau gweinyddol sy'n cynnwys mynediad llawn i'r system a'r hawl i wahodd unigolion eraill i gael cyfrif One Login GOV.UK. 

Bydd gennych o leiaf un unigolyn wedi cofrestru yn y rôl hon o dan eich CRN os ydych yn bwriadu gwneud cais am Grant. Dim ond pobl â'r rolau hyn fydd yn cael derbyn neu wrthod Dyfarniad Grant:

Rolau Aelodau'r Busnes (gweler atodiad 1 am ddiffiniadau)

  • perchennog/unig fasnachwr
  • partner busnes
  • cyfarwyddwr
  • ysgutor
  • cadeirydd/ymddiriedolwr
  • gweinyddwr personol
  • ysgrifennydd y cwmni
  • gweithiwr gydag awdurdod wedi'i ddirprwyo iddo

Pobl nad ydynt yn aelodau o'r busnes

Mae'r rolau a restrir isod yn bobl nad ydynt yn aelodau o'ch busnes, ond mae angen iddynt allu mynd i'ch cyfrif ar-lein. Bydd gofyn i chi bennu lefel mynediad yr unigolion hyn. Os oes gan unigolyn nad yw'n aelod o'r busnes rôl weinyddwr, caiff fynd i bob rhan o'ch cyfrif RPW Ar-lein ond ni fydd ganddo'r hawl i dderbyn neu wrthod grantiau. 

Rolau pobl nad ydynt yn aelodau o'r busnes (gweler Atodiad 3 am ddiffiniadau)

  • unigolyn preifat
  • priod/aelod o'r teulu
  • gwarcheidwad
  • gweithiwr cyflog
  • trysorydd/Aelod o'r pwyllgor
  • rheolwr
  • gweinyddwr busnes
  • derbynnydd
  • contractwr
  • asiant / trydydd parti
  • defnyddiwr ar-lein
  • ysgrifennydd 

Cyn i chi symud i One Login GOV.UK

  • Cyn i chi symud i One Login GOV,UK, bydd angen ei gyfrif One Login GOV.UK ei hunan ar bawb sydd wedi'i gofrestru ar eich CRN ac a fydd angen gallu mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein.

Sicrhewch fod manylion pob unigolyn yn y busnes / sefydliad yn gywir, gan gynnwys ei rôl yn y busnes, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol, os oes un.

Bydd RPW yn anfon gwahoddiad i CRNau, fesul grŵp, i symud i One Login newydd GOV.UK.

Sylwch: bydd angen i weinyddwr Porth y Llywodraeth, (fel arfer yr unigolyn a sefydlodd y CRN ar-lein), fewngofnodi i gyfrif Porth y Llywodraeth gan ddefnyddio ei fanylion presennol ar gyfer Porth y Llywodraeth. Bydd y person cyntaf i symud i’r cyfrif CRN yn cael ei wneud y gweinyddwr yn awtomatig ar gyfrif One Login GOV.UK y CRN.

Pan fyddwch am symud i One Login GOV.UK ar ôl cael eich gwahoddiad ar-lein, darllenwch y cyfarwyddiadau isod ar gyfer eich math chi o fusnes.

Arweiniad yn ôl math o fusnes

1. Unig fasnachwr/perchennog

Fel unig fasnachwr/perchennog sy'n symud i One Login GOV.UK, bydd angen i chi:

  • fynd ar RPW Ar-lein a dewis "Mewngofnodi i Borth y Llywodraeth gan ddefnyddio eich ID Defnyddiwr"
  • mae Telerau ac Amodau RPW Ar-lein wedi newid yn ddiweddar i adlewyrchu One Login GOV.UK. Os nad ydych eisoes wedi cadarnhau eich bod yn eu derbyn, darllenwch nhw a chadarnhewch ar sgrin eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau a chliciwch “Parhau”
  • mae'r sgrin nesaf yn egluro'r newidiadau ar gyfer logio i mewn (mewngofnodi) ar RPW Ar-lein. Cliciwch ar "Parhau" os ydych chi am symud i One Login GOV.UK (os nad ydych chi am symud nawr, cliciwch ar y ddolen i Borth y Llywodraeth)

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Os mai chi yw unig fasnachwr/perchennog y busnes, dewiswch eich cofnod personol o'r rhestr a welwch a chlicio ar “Parhau”.

  • I barhau, cliciwch ar "Mewngofnodi i One Login GOV.UK".
  • Byddwch yn cael eich anfon i dudalen hafan One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login GOV.UK eto, dewiswch "Creu cyfrif One Login GOV.UK"
  • Ar ôl dewis 'Creu cyfrif One Login GOV.UK', nodwch gyfeiriad eich e-bost. I weld hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau One Login GOV.UK, cliciwch ar y dolenni.
  • Drwy ddewis “Parhau”, rydych yn cadarnhau'ch bod yn cytuno i gadw at y telerau a'r amodau.
  • Byddwn yn gofyn ichi edrych ar eich cyfrif e-byst lle bydd e-bost gan One Login GOV.UK  gyda’ch cod diogelwch 6 digid. Rhowch y cod yn y blwch a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.
  • Nawr mae angen i chi greu a chadarnhau cyfrinair. Cliciwch ar “Dangos” i weld beth rydych yn ei sgrifennu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Dewiswch sut rydych am gael y cod diogelwch, un ai trwy neges destun neu ap dilysu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis neges destun, nodwch eich rhif ffôn symudol a chliciwch ar “Parhau”. Pan fyddwch wedi cael eich cod diogelwch 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis defnyddio'r ap dilysu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Unwaith y byddwch wedi gwirio mai chi ydych drwy nodi’r cod diogelwch, bydd cadarnhad eich bod wedi creu cyfrif One Login GOV.UK yn cael ei ddangos ar y sgrin.

    Chi nawr yw gweinyddwr One Login GOV.UK ar gyfer y CRN hwn
  • Pan fyddwch yn clicio ar “Parhau”, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Fe welwch neges sy’n dweud eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ar RPW Ar-lein trwy One Login GOV.UK. Yna cliciwch “Parhau”. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w gweld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
  • Er mwyn cytuno i’r telerau a’r amodau, cliciwch yn y blwch a dewis “Parhau”, byddwch nawr yn gweld eich hafan CRN ac yn gallu mynd ymlaen.

Gan mai chi yw’r Unig Fasnachwr/Perchennog y busnes caiff eich rôl yn y busnes ei ddifinio fel “Aelod Busnes”.  Chi bellach yw Gweinyddwr y CRN hwn a cewch fynediad at holl swyddogaethau RPW Ar-lein gan gynnwys derbyn neu wrthod grantiau sy'n cael eu dyfarnu ichi.

Fel Gweinyddwr gallwch nawr wahodd unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'r busnes, i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein gan gynnwys rhoi mynediad arbennig i bobl "nad ydynt yn aelodau o'r  busnes". Gweler isod am ragor o wybodaeth.

Sylwch

  • bydd angen i o leiaf un "Aelod o'r Busnes" allu cael mynediad ar-lein er mwyn gallu derbyn neu wrthod grantiau.
  • Os bydd rôl unigolyn yn y busnes yn newid, bydd angen i RPW gadarnhau hynny.
Os nad oes gennych unrhyw unigolyn arall wedi'i gofrestru i'ch CRN, mae eich symud i GOV.UK One Login wedi'i gwblhau

Fel unig fasnachwr / perchennog busnes, os ydych chi am ychwanegu unigolyn at eich CRN, er enghraifft aelod o'r teulu neu gydymaith, dewiswch eich Tab "Manylion CRN", dewiswch 'Rheoli Unigolion,' nodwch eu manylion, gan gynnwys dewis eu rôl yn eich busnes a dewiswch 'Arbed.' Gweler isod os hoffech wahodd yr unigolyn hwn i gael mynediad i'ch CRN trwy Gov.UK One Login.

Os NAD chi yw unig fasnachwr/perchennog y CRN ond bod angen mynediad i RPW Ar-lein arnoch a'ch bod ar restr yr unigolion:

Os mai chi yw’r person cyntaf i symud i GOV.UK One Log a’ch bod yn aelod cyswllt neu'n aelod o deulu’r perchennog / unig fasnachwr sydd â chaniatâd i weithio ar RPW Ar-lein, cliciwch ar eich enw, cadarnhewch fod eich rôl yn gywir (e.e. aelod o'r teulu) ac ewch ati i greu cyfrif One Login GOV.UK fel uchod. 

Chi nawr fydd gweinyddwr y cyfrif a byddwch wedi cael pob caniatâd i newid ac ychwanegu gwybodaeth ar ran yr unig fasnachwr/perchennog ond nid i ddelio â Dyfarniadau Grant (contractau),

Os nad oes gennych unrhyw unigolyn arall wedi'i gofrestru i'ch CRN, mae eich symud i GOV.UK One Login wedi'i gwblhau

Fel Gweinyddwr unig fasnachwr/busnes sy'n eiddo iddo, os ydych am ychwanegu unigolyn at eich CRN, er enghraifft aelod o'r teulu neu gydymaith, dewiswch eich Tab "Manylion CRN", dewiswch 'Rheoli Unigolion', nodwch eu manylion, gan gynnwys dewis eu rôl yn eich busnes a dewiswch 'Arbed'. Gweler isod os hoffech wahodd yr unigolyn hwn i gael mynediad i'ch CRN trwy Gov.UK One Login.

Os NAD chi yw unig fasnachwr/perchennog y CRN a bod angen mynediad i RPW Ar-lein arnoch ond NAD ydych ar restr yr unigolion:

Os mai chi yw’r person cyntaf i fudo i GOV.UK One Log in a’ch bod yn aelod cyswllt neu'n aelod o deulu’r perchennog / unig fasnachwr sydd â chaniatâd i weithio ar RPW Ar-lein, ond nad ydych wedi’ch enwi fel unigolyn ar y cyfrif, dewiswch "Nid wyf ar y rhestr hon" a byddwch yn cael ychwanegu'ch manylion personol a mynd eich blaen i greu cyfrif One Login GOV.UK fel uchod. 

Bydd hyn yn amodol ar archwiliadau busnes pellach gan RPW. 

Fel yr enghraifft uchod, chi nawr fydd gweinyddwr y cyfrif CRN a bydd gennych bob caniatâd i ddiwygio/gyflwyno gwybodaeth ar ran yr Unig Fasnachwr/perchennog ar wahân i’r Dyfarniadau Grant (contractau).

Os nad oes gennych neb arall wedi'i gofrestru ar eich CRN, rydych nawr wedi cwblhau symud i One Login GOV.UK

Fel unig fasnachwr/perchennog y busnes, os ydych am ychwanegu unigolyn at eich CRN, er enghraifft aelod o'r teulu, cliciwch ar y tab “Manylion y CRN” a dewiswch “Rheoli Unigolion” a rhowch ei fanylion, gan gynnwys ei rôl yn eich busnes. Cliciwch ar “Arbed”. 

Gweler isod os ydych yn dymuno gwahodd yr unigolyn hwn i gael mynediad i’ch CRN drwy Gov.UK One Login.                                        

Gwahodd unigolyn i'ch CRN

  • I wahodd unigolyn i allu mynd ar RPW Ar-lein i weld y CRN, mae angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar y tab “Manylion y CRN” ac yna ar “Rheoli Unigolion”.
  • Ar sgrin reoli'r unigolion, bydd rhestr o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch CRN.
  • Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhewch fod rôl, gwybodaeth busnes a chyfeiriad e-bost yr unigolyn yn gywir. Gallwch wneud newidiadau neu’r ychwanegiadau drwy glicio ar y botwm “Diweddaru'r wybodaeth hon”.
  • Pan fyddwch yn barod i wahodd unigolyn dewiswch y botwm "Gwahoddiad".
  • Byddwn yn gofyn a ydych am wahodd yr unigolyn hwn i allu gweld eich CRN ar-lein. Cliciwch ar “Ie” ac yna ar “Parhau”.
  • Byddwch wedyn yn gweld crynodeb o'r wybodaeth am yr unigolyn hwn. Bydd yn dweud beth yw rôl yr unigolyn a diffiniad o'r rôl honno.   Os mai "Aelod o'r Busnes" yw rôl yr unigolyn, bydd ganddo'r hawl i fynd i bob rhan o RPW Ar-lein ac yn dod yn weinyddwr yn awtomatig. Bydd hynny'n rhoi'r hawl iddo wahodd unigolion eraill.
  • Os “nad yw'r unigolyn yn aelod o'r busnes”, yna bydd angen i chi bennu lefel y mynediad fydd ganddo. Sylwch: y lefel mynediad awtomatig yw Dim Mynediad.
  • Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad o blith yr opsiynau canlynol: 

Mynediad Llawn
Mynediad wedi'i deilwra
Dim mynediad (y lefel mynediad awtomatig)

  • Cliciwch ar “Parhau”.
  • Os byddwch yn dewis Mynediad Llawn, bydd yr unigolyn yn cael mynd i bob rhan o'r CRN ar-lein (gan gynnwys newid manylion y busnes) ond ni fydd ganddo'r hawl i wrthod neu dderbyn grant.
  • Os ydych wedi dewis Mynediad wedi'i Deilwra, gallwch reoli'r caniatâd fydd gan yr unigolyn hwn, trwy ddewis “Parhau” a mynd i'r sgrin "Newid Mynediad". Byddwch yn cael gweld rhestr o swyddogaethau, lle gallwch ddewis y lefel o ganiatâd yr hoffech ei roi i'r unigolyn. Ar gyfer pob lefel o ganiatâd, gallwch weld beth y mae'n olygu trwy glicio ar y geiriad o dan bob swyddogaeth.
  • Unwaith y bydd y pob caniatâd wedi'i bennu a bod y wybodaeth a ddangosir yn gywir, cliciwch ar “Parhau”.
  • Bydd crynodeb o fanylion yr unigolyn a lefel ei fynediad yn cael eu dangos. Cliciwch ar “Parhau” os ydych am greu cod gwahoddiad ar gyfer yr unigolyn hwn.
  • Bydd y sgrin nesaf yn dangos cod gwahoddiad chwe digid – mae angen y cod hwn ar yr unigolyn rydych chi am ei wahodd i gael mynediad i'ch CRN gan ddefnyddio RPW ar-lein.

Gwnewch nodyn o'r cod hwn gan y bydd angen i chi wedyn ei rannu â’r unigolyn rydych chi'n ei wahodd i gael mynediad i RPW Ar-lein.

  • Sylwch: bydd y cod hwn yn 'fyw' am 7 diwrnod yn unig.
  • Cliciwch ar “Ymadael â Rheoli Unigolyn”. Gallwch barhau i ychwanegu / gwahodd pobl eraill trwy ailadrodd y broses hon.

Sut mae unigolyn yn derbyn gwahoddiad

Unwaith y byddwch wedi rhoi'r cod gwahoddiad i'r unigolyn rydych chi’n ei wahodd, dylai fewngofnodi ar RPW Ar-lein, Yna gofynnir iddo naill ai fewngofnodi neu greu cyfrif One Login GOV.UK gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei roi. Darllenwch “Creu Cyfrif One Login GOV.UK” os oes angen. 

Pan fydd yr unigolyn wedi mewngofnodi i'w gyfrif, bydd y system yn ei gymryd yn syth i'r sgrin wahoddiad lle caiff weld yr opsiynau canlynol. 

Derbyn
Gwrthod, neu
Dwi am benderfynu wedyn

  • Os bydd yn dewis derbyn, gofynnir iddo nodi'r cod gwahoddiad chwe digid y gwnaethoch ei roi iddo ac i glicio ar “Parhau”. Bydd yr unigolyn yn cael neges ar ei sgrin sy'n dweud wrtho ei fod yn cael gweithredu nawr ar ran y CRN. Ar ôl clicio ar “Parhau”, bydd yn cael ei gymryd yn ôl i dudalen hafan y CRN. (Sylwch: Os byddwch yn teipio'r cod yn anghywir dair gwaith, caiff y gwahoddiad ei ganslo).
  • Os oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn ei atgoffa iddo wrthod y gwahoddiad.  Os bydd yn clicio ar “Parhau”, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin iddo allu mynd ar RPW Ar-lein trwy ei gyfrif Porth y Llywodraeth. Sylwch: pan fydd wedi gwrthod, bydd angen ichi ail-wahodd defnyddiwr i One Login GOV.UK pan fyddwch am iddo symud.
  • Os NAD oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, ni fydd yn gallu mynd i’ch CRN trwy RPW Ar-lein. Sylwch: os bydd wedi gwrthod gwahoddiad, ni chaiff ei ail-wahodd i One Login GOV.UK.
  • Os bydd yr unigolyn yn dewis 'Dwi am benderfynu wedyn', bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn dweud pryd daw'r cod gwahoddiad i ben. Drwy hynny, gall yr unigolyn dderbyn neu wrthod y gwahoddiad nes ymlaen, ond rhaid gwneud o fewn y cyfnod o 7 diwrnod.
  • Sylwch, os daw'r cod i ben, bydd angen i chi, fel y Gweinyddwr, roi Gwahoddiad a chod newydd.

2. Unigolyn preifat neu fusnes nad yw’n hawlio (e.e. CPH yn unig)

Os ydych chi'n unigolyn preifat neu’n fusnes nad yw'n gwneud cais am grantiau nac yn hawlio taliad oddi wrth RPW ond bod dal angen mynd ar RPW Ar-lein arnoch i reoli/cynnal eich CPH (Rhif eich Daliad), bydd angen i chi:

  • Fynd ar RPW Ar-lein a dewis "Mewngofnodi i Borth y Llywodraeth gan ddefnyddio eich ID Defnyddiwr".
  • Newidiodd RPW Ar-lein ei Delerau ac Amodau yn ddiweddar i adlewyrchu One Login GOV.UK. Os nad ydych eisoes wedi cadarnhau eich bod yn eu derbyn, darllenwch nhw a chadarnhewch ar sgrin eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau a chliciwch “Parhau”.
  • Mae'r sgrin nesaf yn egluro'r newidiadau ar gyfer logio i mewn (mewngofnodi) ar RPW Ar-lein. Cliciwch ar "Parhau" os ydych chi am symud i One Login GOV.UK (os nad ydych chi am symud nawr, cliciwch ar y ddolen i Borth y Llywodraeth).

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Fel unigolyn preifat/busnes nad yw’n hawlio, dewiswch eich enw cofnod unigol o'r rhestr a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.

  • I barhau, cliciwch ar "Mewngofnodi i One Login GOV.UK".
  • Byddwch yn cael eich anfon i dudalen hafan One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login GOV.UK eto, dewiswch "Creu cyfrif One Login GOV.UK"
  • Ar ôl dewis 'Creu cyfrif One Login GOV.UK', nodwch gyfeiriad eich e-bost. I weld hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau One Login GOV.UK, cliciwch ar y dolenni.
  • Drwy ddewis parhau, rydych yn cadarnhau eich bod yn cytuno i gadw at yr uchod.
  • Byddwn yn gofyn ichi edrych ar eich cyfrif e-byst a ddarparwyd gennych o e-bost gan GOV.UK gyda’ch cod diogelwch 6 digid. Rhowch y cod yn y blwch a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.
  • Nawr mae angen i chi greu a chadarnhau cyfrinair. Cliciwch ar “Dangos” i weld beth rydych yn ei sgrifennu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Dewiswch sut rydych am gael y cod diogelwch, un ai trwy neges destun neu ap dilysu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis neges destun, nodwch eich rhif ffôn symudol a chliciwch ar “Parhau”. Pan fyddwch wedi cael eich cod diogelwch 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis defnyddio'r ap dilysu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Bydd cadarnhad eich bod wedi creu cyfrif One Login GOV.UK yn cael ei ddangos ar y sgrin.
Chi nawr yw gweinyddwr One Login GOV.UK ar gyfer y CRN hwn
  • Pan fyddwch yn clicio ar “Parhau”, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Fe welwch neges sy’n dweud eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ar RPW Ar-lein trwy One Login GOV.UK. Yna cliciwch “Parhau”. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w gweld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
  • I gytuno i gadw at y telerau ac amodau, cliciwch yn y blwch a dewiswch “Parhau”. Byddwch nawr yn gweld tudalen hafan eich CRN ac yn cael symud yn eich blaen.
Chi bellach yw'r Gweinyddwr ar gyfer y CRN hwn ac mae gennych fynediad i holl swyddogaethau RPW Online

Os nad oes gennych unrhyw unigolyn arall wedi'i gofrestru i'ch CRN, mae eich symud i GOV.UK One Login wedi'i gwblhau

3. Partneriaeth/cwmni cydweithredol/cwmni cydfuddiannol/cwmni cyfyngedig trwy warant, cwmni preifat neu gwmni cyfyngedig preifat

Beth sydd angen ei wneud cyn symud

Os ydych chi'n Bartneriaeth, Cwmni Cydweithredol / Cwmni Cydfuddiannol, Cwmni Cyfyngedig trwy Warant, Cwmni Preifat neu Gwmni Cyfyngedig Preifat, cyn i chi symud i One Login Gov.UK mae angen i chi:

  • Ystyried pwy fydd angen gallu mynd ar RPW Ar-lein, gan gynnwys y gwasanaethau y dylai gael eu defnyddio, gan efallai bod angen ichi wahanu dyletswyddau o fewn y CRN. Er enghraifft, dim ond "Aelodau o'r Busnes" ddylai gael newid manylion y cwsmer fel manylion cyfrif banc ond efallai bod angen rhoi'r hawl i unigolion eraill wneud cais a hawlio grant.
  • Bydd angen o leiaf un "Aelod o Fusnes" eich CRN fod â'r awdurdod i allu rhoi'r hawl i weithwyr wneud rhai neu'r holl swyddogaethau ar-lein ar ran y busnes. Gall hyn gynnwys enwebu gweithiwr sydd ag awdurdod dirprwyedig i reoli'r CRN.

Bydd yr wybodaeth sydd ei angen ar gyfer unigolion yn cynnwys eu rôl yn y busnes (gweler atodiad 1 am ddiffiniadau), cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn symudol, os oes rhai.

Gwnewch yn siŵr fod pob unigolyn yn y sefydliad sydd angen mynediad ar-lein ar RPW yn cael ei gofnodi.

Symud i One Login GOV.UK

Bydd angen i weinyddwr presennol Porth y Llywodraeth (sef fel arfer y person a gofrestrodd y CRN):

  • Fynd ar RPW Ar-lein a dewis "Mewngofnodi i Borth y Llywodraeth gan ddefnyddio eich ID Defnyddiwr".
  • Newidiodd RPW Ar-lein ei Delerau ac Amodau yn ddiweddar i adlewyrchu One Login GOV.UK. Os nad ydych eisoes wedi cadarnhau eich bod yn eu derbyn, darllenwch nhw a chadarnhewch ar sgrin eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau a chliciwch Parhau.
  • Mae'r sgrin nesaf yn egluro'r newidiadau ar gyfer logio i mewn (mewngofnodi) ar RPW Ar-lein. Cliciwch ar "Parhau" os ydych chi am symud i One Login GOV.UK (os nad ydych chi am symud nawr, cliciwch ar y ddolen i Borth y Llywodraeth).

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Os mai chi yw gweinyddwr presennol Porth y Llywodraeth, dewiswch eich cofnod personol o'r rhestr a welwch a chlicio ar “Parhau”.

  • I barhau, cliciwch ar "Mewngofnodi i One Login GOV.UK".
  • Byddwch yn cael eich anfon i dudalen hafan One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login GOV.UK eto, dewiswch "Creu cyfrif One Login GOV.UK"
  • Ar ôl dewis 'Creu cyfrif One Login GOV.UK', nodwch gyfeiriad eich e-bost. I weld hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau One Login GOV.UK, cliciwch ar y dolenni.
  • Drwy ddewis “Parhau”, rydych yn cadarnhau'ch bod yn cytuno i gadw at y telerau a'r amodau.
  • Byddwn yn gofyn ichi edrych ar eich cyfrif e-byst lle bydd e-bost gan One Login GOV.UK  gyda’ch cod diogelwch 6 digid. Rhowch y cod yn y blwch a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.
  • Nawr mae angen i chi greu a chadarnhau cyfrinair. Cliciwch ar “Dangos” i weld beth rydych yn ei sgrifennu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Dewiswch sut rydych am gael y cod diogelwch, un ai trwy neges destun neu ap dilysu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis neges destun, nodwch eich rhif ffôn symudol a chliciwch ar “Parhau”. Pan fyddwch wedi cael eich cod diogelwch 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis defnyddio'r ap dilysu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Bydd cadarnhad eich bod wedi creu cyfrif One Login GOV.UK yn cael ei ddangos ar y sgrin.
Chi nawr yw gweinyddwr One Login GOV.UK ar gyfer y CRN hwn
  • Pan fyddwch yn clicio ar “Parhau”, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Fe welwch neges sy’n dweud eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ar RPW Ar-lein trwy One Login GOV.UK. Yna cliciwch “Parhau”. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w gweld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
  • I gytuno i gadw at y telerau ac amodau, cliciwch yn y blwch a dewiswch “Parhau”. Byddwch nawr yn gweld tudalen hafan eich CRN ac yn cael symud yn eich blaen.

Os ydych yn cael eich diffinio fel "Aelod o'r Busnes" (e.e. Partner),  (Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein). Chi nawr yw gweinyddwr y CRN hwn a byddwch yn cael gwneud holl swyddogaethau RPW Ar-lein gan gynnwys derbyn neu wrthod grantiau sy'n cael eu dyfarnu ichi.

Os mai chi yw’r person cyntaf i symud i One Login ac “nad ydych yn aelod o’r Busnes” e.e. eich bod yn aelod o’r teulu, gweithiwr cyflog,  (Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein) chi fydd y Gweinyddwr ar gyfer y CRN hwn a byddwch yn cael mynd i bob rhan o RPW Ar-lein ond ni fyddwch yn cael derbyn na gwrthod grantiau. 

Byddwch yn cael gwahodd unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'r busnes, i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein gan gynnwys rhoi mynediad arbennig i bobl "nad ydynt yn aelodau o'r  busnes". Gweler isod.

Sylwch

Bydd angen i o leiaf un "Aelod o'r Busnes" allu cael mynediad ar-lein er mwyn gallu derbyn neu wrthod grantiau.

Os bydd rôl unigolyn yn y busnes yn newid, bydd angen i RPW gadarnhau hynny.

Darllenwch yr isod os ydych am ychwanegu unigolion, gan gynnwys sut i'w gwahodd i gael gweld eich CRN drwy One Login GOV.UK.

Gwahodd unigolyn i'ch CRN

  • I wahodd unigolyn i allu mynd ar RPW Ar-lein i weld y CRN, mae angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar y tab “Manylion y CRN” ac yna ar “Rheoli Unigolion”.
  • Ar sgrin reoli'r unigolion, bydd rhestr o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch CRN.
  • Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhewch fod rôl, gwybodaeth busnes a chyfeiriad e-bost yr unigolyn yn gywir. Gallwch wneud newidiadau drwy glicio ar y botwm “Diweddaru'r wybodaeth hon”.
  • Dewiswch y botwm "Gwahoddiad".                                           
  • Byddwn yn gofyn a ydych am wahodd yr unigolyn hwn i allu gweld eich CRN ar-lein. Cliciwch ar “Ie” ac yna ar “Parhau”.
  • Byddwch wedyn yn gweld crynodeb o'r wybodaeth am yr unigolyn hwn. Bydd yn dweud beth yw rôl yr unigolyn a diffiniad o'r rôl honno.   Os mai "Aelod o'r Busnes" yw rôl yr unigolyn, bydd ganddo'r hawl i fynd i bob rhan o RPW Ar-lein ac yn dod yn weinyddwr yn awtomatig. Bydd hynny'n rhoi'r hawl iddo wahodd unigolion eraill.
  • Os “nad yw'r unigolyn yn aelod o'r busnes”, yna bydd angen i chi bennu lefel y mynediad fydd ganddo. Sylwch: y lefel mynediad awtomatig yw Dim Mynediad.
  • Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad o blith yr opsiynau canlynol: 

Mynediad Llawn
Mynediad wedi'i deilwra
Dim mynediad (y lefel mynediad awtomatig)

  • Cliciwch ar “Parhau”.
  • Os byddwch yn dewis Mynediad Llawn, bydd yr unigolyn yn cael mynd i bob rhan o'r CRN ar-lein (gan gynnwys newid manylion y busnes) ond ni fydd ganddo'r hawl i wrthod neu dderbyn grant.
  • Os ydych wedi dewis Mynediad wedi'i Deilwra, gallwch reoli'r caniatâd fydd gan yr unigolyn hwn, trwy ddewis “Parhau” a mynd i'r sgrin "Newid Mynediad". Byddwch yn cael gweld rhestr o swyddogaethau, lle gallwch ddewis y lefel o ganiatâd yr hoffech ei roi i'r unigolyn. Ar gyfer pob lefel o ganiatâd, gallwch weld beth y mae'n olygu trwy glicio ar y geiriad o dan bob swyddogaeth.
  • Unwaith y bydd y pob caniatâd wedi'i bennu a bod y wybodaeth a ddangosir yn gywir, cliciwch ar “Parhau”.
  • Bydd crynodeb o fanylion yr unigolyn a lefel ei fynediad yn cael eu dangos. Cliciwch ar “Parhau” os ydych am greu cod gwahoddiad ar gyfer yr unigolyn hwn.
  • Bydd y sgrin nesaf yn dangos cod gwahoddiad chwe digid – mae angen y cod hwn ar yr unigolyn rydych chi am ei wahodd i gael mynediad i'ch CRN gan ddefnyddio RPW ar-lein.

Gwnewch nodyn o'r cod hwn gan y bydd angen i chi wedyn ei rannu â’r unigolyn rydych chi'n ei wahodd i gael mynediad i RPW Ar-lein.

  • Sylwch: bydd y cod hwn yn 'fyw' am 7 diwrnod yn unig.
  • Cliciwch ar “Ymadael â Rheoli Unigolyn”. Gallwch barhau i ychwanegu / gwahodd pobl eraill trwy ailadrodd y broses hon.

Sut mae unigolyn yn derbyn gwahoddiad

Unwaith y byddwch wedi rhoi'r cod gwahoddiad i'r unigolyn rydych chi’n ei wahodd, dylai fewngofnodi ar RPW Ar-lein. Yna gofynnir iddo naill ai fewngofnodi neu greu cyfrif One Login GOV.UK gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei roi. Darllenwch “Creu Cyfrif One Login GOV.UK” os oes angen. 

Pan fydd yr unigolyn wedi mewngofnodi i'w gyfrif, bydd y system yn ei gymryd yn syth i'r sgrin wahoddiad lle caiff weld yr opsiynau canlynol. 

Derbyn
Gwrthod, neu
Dwi am benderfynu wedyn

  • Os bydd yn dewis derbyn, gofynnir iddo nodi'r cod gwahoddiad chwe digid y gwnaethoch ei roi iddo ac i glicio ar “Parhau”. Bydd yr unigolyn yn cael neges ar ei sgrin sy'n dweud wrtho ei fod yn cael gweithredu nawr ar ran y CRN. Ar ôl clicio ar “Parhau”, bydd yn cael ei gymryd yn ôl i dudalen hafan y CRN. (Sylwch: Os byddwch yn teipio'r cod yn anghywir dair gwaith, caiff y gwahoddiad ei ganslo).
  • Os oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn ei atgoffa iddo wrthod y gwahoddiad.  Os bydd yn clicio ar “Parhau”, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin iddo allu mynd ar RPW Ar-lein trwy ei gyfrif Porth y Llywodraeth. Sylwch: pan fydd wedi gwrthod, bydd angen ichi ail-wahodd defnyddiwr i One Login GOV.UK pan fyddwch am iddo symud.
  • Os NAD oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, ni fydd yn gallu mynd i’ch CRN trwy RPW Ar-lein. Sylwch: os bydd wedi gwrthod gwahoddiad, ni chaiff ei ail-wahodd i One Login GOV.UK.
  • Os bydd yr unigolyn yn dewis 'Dwi am benderfynu wedyn', bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn dweud pryd daw'r cod gwahoddiad i ben. Drwy hynny, gall yr unigolyn dderbyn neu wrthod y gwahoddiad nes ymlaen, ond rhaid gwneud o fewn y cyfnod o 7 diwrnod.

Sylwch, os daw'r cod i ben, bydd angen i chi, fel y Gweinyddwr, roi Gwahoddiad a chod newydd.                         

4. Awdurdod lleol, cwmni cyfyngedig cyhoeddus, parc cenedlaethol neu gyngor tref/cymuned

Beth sydd angen ei wneud cyn symud

Os ydych chi'n Awdurdod Lleol, Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus, Parc Cenedlaethol neu'n Gyngor Tref / Cymuned, cyn ichi symud i One Login GOV.UK, mae angen i chi:

  • Ystyried pwy fydd angen gallu mynd ar RPW Ar-lein, gan gynnwys y gwasanaethau y dylai gael eu defnyddio, gan efallai bod angen ichi wahanu dyletswyddau o fewn y CRN. Er enghraifft, dim ond "Aelodau o'r Busnes" ddylai gael newid manylion y cwsmer fel manylion cyfrif banc ond efallai bod angen rhoi'r hawl i unigolion eraill weld dyfarniadau grant a hawliadau.
  • Bydd angen o leiaf un "Aelod o Fusnes" eich CRN fod â'r awdurdod i allu rhoi'r hawl i weithwyr wneud rhai neu'r holl swyddogaethau ar-lein ar ran y busnes. Gall hyn gynnwys enwebu gweithiwr sydd ag awdurdod dirprwyedig i reoli'r CRN.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol: ei rôl yn y busnes (gweler atodiad 1 am ddiffiniadau), cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn symudol, os oes rhai .

Symud i One Login GOV.UK

Bydd angen i weinyddwr presennol Porth y Llywodraeth:

  • Fynd ar RPW Ar-lein a dewis "Mewngofnodi i Borth y Llywodraeth gan ddefnyddio eich ID Defnyddiwr".
  • Newidiodd RPW Ar-lein ei Delerau ac Amodau yn ddiweddar i adlewyrchu One Login GOV.UK. Os nad ydych eisoes wedi cadarnhau eich bod yn eu derbyn, darllenwch nhw a chadarnhewch ar sgrin eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau a chliciwch Parhau.
  • Mae'r sgrin nesaf yn egluro'r newidiadau ar gyfer logio i mewn (mewngofnodi) ar RPW Ar-lein. Cliciwch ar "Parhau" os ydych chi am symud i One Login GOV.UK (os nad ydych chi am symud nawr, cliciwch ar y ddolen i Borth y Llywodraeth).

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Os mai chi yw gweinyddwr presennol Porth y Llywodraeth, dewiswch eich cofnod personol o'r rhestr a welwch a chlicio ar “Parhau”.

  • I barhau, cliciwch ar "Mewngofnodi i One Login GOV.UK".
  • Byddwch yn cael eich anfon i dudalen hafan One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login GOV.UK eto, dewiswch "Creu cyfrif One Login GOV.UK"
  • Ar ôl dewis 'Creu cyfrif One Login GOV.UK', nodwch gyfeiriad eich e-bost. I weld hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau One Login GOV.UK, cliciwch ar y dolenni.
  • Drwy ddewis “Parhau”, rydych yn cadarnhau'ch bod yn cytuno i gadw at y telerau a'r amodau.
  • Byddwn yn gofyn ichi edrych ar eich cyfrif e-byst lle bydd e-bost gan One Login GOV.UK, sy’n rhoi cod diogelwch 6 digid. Rhowch y cod yn y blwch a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.
  • Nawr mae angen i chi greu a chadarnhau cyfrinair. Cliciwch ar “Dangos” i weld beth rydych yn ei sgrifennu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Dewiswch sut rydych am gael y cod, un ai trwy neges destun neu ap dilysu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis neges destun, nodwch eich rhif ffôn symudol a chliciwch ar “Parhau”. Pan fyddwch wedi cael eich cod 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis defnyddio'r ap dilysu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Bydd cadarnhad eich bod wedi creu cyfrif One Login GOV.UK yn cael ei ddangos ar y sgrin.
Chi nawr yw gweinyddwr One Login GOV.UK ar gyfer y CRN hwn
  • Pan fyddwch yn clicio ar “Parhau”, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Fe welwch neges sy’n dweud eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ar RPW Ar-lein trwy One Login GOV.UK. Yna cliciwch “Parhau”. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w weld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
  • I gytuno i gadw at y telerau ac amodau, cliciwch yn y blwch a dewiswch “Parhau”. Byddwch nawr yn gweld tudalen hafan eich CRN ac yn cael symud yn eich blaen.

Os ydych yn cael eich diffinio fel "Aelod o'r Busnes" (e.e. Gweithiwr Cyflogedig ag Awdurdod wedi’i Ddirprwyo), (Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein).Chi nawr yw gweinyddwr y CRN hwn a byddwch yn cael gwneud holl swyddogaethau RPW Ar-lein gan gynnwys derbyn neu wrthod grantiau sy'n cael eu dyfarnu ichi.

Os mai chi yw’r person cyntaf i symud i One Login ac “nad ydych yn aelod o’r Busnes” e.e. eich bod yn aelod o’r teulu, gweithiwr cyflog,  (Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein) ), chi fydd y Gweinyddwr ar gyfer y CRN hwn a byddwch yn cael mynd i bob rhan o RPW Ar-lein ond ni fyddwch yn cael derbyn na gwrthod grantiau. 

Byddwch nawr yn cael gwahodd unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'r busnes, i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein gan gynnwys rhoi mynediad arbennig i bobl "nad ydynt yn aelodau o'r  busnes". Gweler isod.

Sylwch

Bydd angen i o leiaf un "Aelod o'r Busnes" allu cael mynediad ar-lein er mwyn gallu derbyn neu wrthod grantiau.

Os bydd rôl unigolyn yn y busnes yn newid, bydd angen i RPW gadarnhau hynny.

Darllenwch yr isod os ydych am ychwanegu unigolion, gan gynnwys sut i'w gwahodd i gael gweld eich CRN drwy One Login GOV.UK.

Gwahodd unigolyn i'ch CRN

  • I wahodd unigolyn i allu mynd ar RPW Ar-lein i weld y CRN, mae angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar y tab “Manylion y CRN” ac yna ar “Rheoli Unigolion”.
  • Ar sgrin reoli'r unigolion, bydd rhestr o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch CRN.
  • Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhewch fod rôl, gwybodaeth busnes a chyfeiriad e-bost yr unigolyn yn gywir. Gallwch wneud newidiadau drwy glicio ar y botwm “Diweddaru'r wybodaeth hon”.
  • Dewiswch y botwm "Gwahoddiad".                                           
  • Byddwn yn gofyn a ydych am wahodd yr unigolyn hwn i allu gweld eich CRN ar-lein. Cliciwch ar “Ie” ac yna ar “Parhau”.
  • Byddwch wedyn yn gweld crynodeb o'r wybodaeth am yr unigolyn hwn. Bydd yn dweud beth yw rôl yr unigolyn a diffiniad o'r rôl honno.   Os mai "Aelod o'r Busnes" yw rôl yr unigolyn, bydd ganddo'r hawl i fynd i bob rhan o RPW Ar-lein ac yn dod yn weinyddwr yn awtomatig. Bydd hynny'n rhoi'r hawl iddo wahodd unigolion eraill.
  • Os “nad yw'r unigolyn yn aelod o'r busnes”, yna bydd angen i chi bennu lefel y mynediad fydd ganddo. Sylwch: y lefel mynediad awtomatig yw Dim Mynediad.
  • Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad o blith yr opsiynau canlynol: 

Mynediad Llawn
Mynediad wedi'i deilwra
Dim mynediad (y lefel mynediad awtomatig)

  • Cliciwch ar “Parhau”.
  • Os byddwch yn dewis Mynediad Llawn, bydd yr unigolyn yn cael mynd i bob rhan o'r CRN ar-lein (gan gynnwys newid manylion y busnes) ond ni fydd ganddo'r hawl i wrthod neu dderbyn grant.
  • Os ydych wedi dewis Mynediad wedi'i Deilwra, gallwch reoli'r caniatâd fydd gan yr unigolyn hwn, trwy ddewis “Parhau” a mynd i'r sgrin "Newid Mynediad". Byddwch yn cael gweld rhestr o swyddogaethau, lle gallwch ddewis y lefel o ganiatâd yr hoffech ei roi i'r unigolyn. Ar gyfer pob lefel o ganiatâd, gallwch weld beth y mae'n olygu trwy glicio ar y geiriad o dan bob swyddogaeth.
  • Unwaith y bydd y pob caniatâd wedi'i bennu a bod y wybodaeth a ddangosir yn gywir, cliciwch ar “Parhau”.
  • Bydd crynodeb o fanylion yr unigolyn a lefel ei fynediad yn cael eu dangos. Cliciwch ar “Parhau” os ydych am greu cod gwahoddiad ar gyfer yr unigolyn hwn.
  • Bydd y sgrin nesaf yn dangos cod gwahoddiad chwe digid – mae angen y cod hwn ar yr unigolyn rydych chi am ei wahodd i gael mynediad i'ch CRN gan ddefnyddio RPW ar-lein.

Gwnewch nodyn o'r cod hwn gan y bydd angen i chi wedyn ei rannu â’r unigolyn rydych chi'n ei wahodd i gael mynediad i RPW Ar-lein.

  • Sylwch: bydd y cod hwn yn 'fyw' am 7 diwrnod yn unig.
  • Cliciwch ar “Ymadael â Rheoli Unigolyn”. Gallwch barhau i ychwanegu / gwahodd pobl eraill trwy ailadrodd y broses hon.

Sut mae unigolyn yn derbyn gwahoddiad

Unwaith y byddwch wedi rhoi'r cod gwahoddiad i'r unigolyn rydych chi’n ei wahodd, dylai fewngofnodi ar RPW Ar-lein. Yna gofynnir iddo naill ai fewngofnodi neu greu cyfrif One Login GOV.UK gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei roi. Darllenwch “Creu Cyfrif One Login GOV.UK” os oes angen. 

Pan fydd yr unigolyn wedi mewngofnodi i'w gyfrif, bydd y system yn ei gymryd yn syth i'r sgrin wahoddiad lle caiff weld yr opsiynau canlynol. 

Derbyn
Gwrthod, neu
Dwi am benderfynu wedyn

  • Os bydd yn dewis derbyn, gofynnir iddo nodi'r cod gwahoddiad chwe digid y gwnaethoch ei roi iddo ac i glicio ar “Parhau”. Bydd yr unigolyn yn cael neges ar ei sgrin sy'n dweud wrtho ei fod yn cael gweithredu nawr ar ran y CRN. Ar ôl clicio ar “Parhau”, bydd yn cael ei gymryd yn ôl i dudalen hafan y CRN. (Sylwch: Os byddwch yn teipio'r cod yn anghywir dair gwaith, caiff y gwahoddiad ei ganslo).
  • Os oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn ei atgoffa iddo wrthod y gwahoddiad.  Os bydd yn clicio ar “Parhau”, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin iddo allu mynd ar RPW Ar-lein trwy ei gyfrif Porth y Llywodraeth. Sylwch: pan fydd wedi gwrthod, bydd angen ichi ail-wahodd defnyddiwr i One Login GOV.UK pan fyddwch am iddo symud.
  • Os NAD oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, ni fydd yn gallu mynd i’ch CRN trwy RPW Ar-lein. Sylwch: os bydd wedi gwrthod gwahoddiad, ni chaiff ei ail-wahodd i One Login GOV.UK.
  • Os bydd yr unigolyn yn dewis 'Dwi am benderfynu wedyn', bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn dweud pryd daw'r cod gwahoddiad i ben. Drwy hynny, gall yr unigolyn dderbyn neu wrthod y gwahoddiad nes ymlaen, ond rhaid gwneud o fewn y cyfnod o 7 diwrnod.

Sylwch, os daw'r cod i ben, bydd angen i chi, fel y Gweinyddwr, roi Gwahoddiad a chod newydd.  

5. Busnes sector cyhoeddus

Beth sydd angen ei wneud cyn symud

Os ydych chi'n fusnes yn y sector cyhoeddus, cyn i chi symud i One Login GOV.UK, mae angen i chi:

  • Ystyried pwy fydd angen gallu mynd ar RPW Ar-lein, gan gynnwys y gwasanaethau y dylai gael eu defnyddio, gan efallai bod angen ichi wahanu dyletswyddau o fewn y CRN. Er enghraifft, dim ond "Aelodau o'r Busnes" ddylai gael newid manylion y cwsmer fel manylion cyfrif banc ond efallai bod angen rhoi'r hawl i unigolion eraill weld weld dyfarniadau grant a hawliadau.
  • Bydd angen o leiaf un "Aelod o Fusnes" eich CRN fod â'r awdurdod i allu rhoi'r hawl i weithwyr wneud rhai neu'r holl swyddogaethau ar-lein ar ran y busnes. Gall hyn gynnwys enwebu gweithiwr sydd ag awdurdod dirprwyedig i reoli'r CRN.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol: ei rôl yn y busnes (gweler atodiad 1 am ddiffiniadau), cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn symudol, os oes rhai .

Symud i One Login GOV.UK

Bydd angen i weinyddwr presennol Porth y Llywodraeth:

  • Fynd ar RPW Ar-lein a dewis "Mewngofnodi i Borth y Llywodraeth gan ddefnyddio eich ID Defnyddiwr".
  • Newidiodd RPW Ar-lein ei Delerau ac Amodau yn ddiweddar i adlewyrchu One Login GOV.UK. Os nad ydych eisoes wedi cadarnhau eich bod yn eu derbyn, darllenwch nhw a chadarnhewch ar sgrin eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau a chliciwch Parhau.
  • Mae'r sgrin nesaf yn egluro'r newidiadau ar gyfer logio i mewn (mewngofnodi) ar RPW Ar-lein. Cliciwch ar "Parhau" os ydych chi am symud i One Login GOV.UK (os nad ydych chi am symud nawr, cliciwch ar y ddolen i Borth y Llywodraeth).

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Os mai chi yw gweinyddwr presennol Porth y Llywodraeth, dewiswch eich cofnod personol o'r rhestr a welwch a chlicio ar “Parhau”.

  • I barhau, cliciwch ar "Mewngofnodi i One Login GOV.UK".
  • Byddwch yn cael eich anfon i dudalen hafan One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login GOV.UK eto, dewiswch "Creu cyfrif One Login GOV.UK"
  • Ar ôl dewis 'Creu cyfrif One Login GOV.UK', nodwch gyfeiriad eich e-bost. I weld hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau One Login GOV.UK, cliciwch ar y dolenni.
  • Drwy ddewis “Parhau”, rydych yn cadarnhau'ch bod yn cytuno i gadw at y telerau a'r amodau.
  • Byddwn yn gofyn ichi edrych ar eich cyfrif e-byst lle bydd e-bost gan One Login GOV.UK  gyda’ch cod diogelwch 6 digid. Rhowch y cod yn y blwch a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.
  • Nawr mae angen i chi greu a chadarnhau cyfrinair. Cliciwch ar “Dangos” i weld beth rydych yn ei sgrifennu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Dewiswch sut rydych am gael y cod, un ai trwy neges destun neu ap dilysu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis neges destun, nodwch eich rhif ffôn symudol a chliciwch ar “Parhau”. Pan fyddwch wedi cael eich cod 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis defnyddio'r ap dilysu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Bydd cadarnhad eich bod wedi creu cyfrif One Login GOV.UK yn cael ei ddangos ar y sgrin.
Chi nawr yw gweinyddwr One Login GOV.UK ar gyfer y CRN hwn
  • Pan fyddwch yn clicio ar “Parhau”, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Fe welwch neges sy’n dweud eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ar RPW Ar-lein trwy One Login GOV.UK. Yna cliciwch “Parhau”. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w weld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
  • I gytuno i gadw at y telerau ac amodau, cliciwch yn y blwch a dewiswch “Parhau”. Byddwch nawr yn gweld tudalen hafan eich CRN ac yn cael symud yn eich blaen.

Os ydych yn cael eich diffinio fel "Aelod o'r Busnes" (e.e. Gweithiwr Cyflogedig ag Awdurdod wedi’i Ddirprwyo), Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein. Chi nawr yw gweinyddwr y CRN hwn a byddwch yn cael gwneud holl swyddogaethau RPW Ar-lein gan gynnwys derbyn neu wrthod grantiau sy'n cael eu dyfarnu ichi.

Os mai chi yw’r person cyntaf i symud i One Login ac “nad ydych yn aelod o’r Busnes” e.e. eich bod yn aelod o’r teulu, gweithiwr cyflog, (Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein), chi fydd y Gweinyddwr ar gyfer y CRN hwn a byddwch yn cael mynd i bob rhan o RPW Ar-lein ond ni fyddwch yn cael derbyn na gwrthod grantiau. 

Byddwch nawr yn cael gwahodd unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'r busnes, i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein gan gynnwys rhoi mynediad arbennig i bobl "nad ydynt yn aelodau o'r  busnes". Gweler isod.

Sylwch: bydd angen i o leiaf un "Aelod o'r Busnes" allu cael mynediad ar-lein er mwyn gallu derbyn neu wrthod grantiau.

Os bydd rôl unigolyn yn y busnes yn newid, bydd angen i RPW gadarnhau hynny.

Darllenwch yr isod os ydych am ychwanegu unigolion, gan gynnwys sut i'w gwahodd i gael gweld eich CRN drwy One Login GOV.UK.

Gwahodd unigolyn i'ch CRN

  • I wahodd unigolyn i allu mynd ar RPW Ar-lein i weld y CRN, mae angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar y tab “Manylion y CRN” ac yna ar “Rheoli Unigolion”.
  • Ar sgrin reoli'r unigolion bydd rhestr o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch CRN.
  • Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhewch fod rôl, gwybodaeth busnes a chyfeiriad e-bost yr unigolyn yn gywir. Gallwch wneud newidiadau drwy glicio ar y botwm “Diweddaru'r wybodaeth hon”.
  • Dewiswch y botwm "Gwahoddiad".                               
  • Byddwn yn gofyn a ydych am wahodd yr unigolyn hwn i allu gweld eich CRN ar-lein. Cliciwch ar “Ie” ac yna ar “Parhau”.
  • Byddwch wedyn yn gweld crynodeb o'r wybodaeth am yr unigolyn hwn. Bydd yn dweud beth yw rôl yr unigolyn a diffiniad o'r rôl honno.   Os mai "Aelod o'r Busnes" yw rôl yr unigolyn, bydd ganddo'r hawl i fynd i bob rhan o RPW Ar-lein ac yn dod yn weinyddwr yn awtomatig. Bydd hynny'n rhoi'r hawl iddo wahodd unigolion eraill.
  • Os “nad yw'r unigolyn yn aelod o'r busnes”, yna bydd angen i chi bennu lefel y mynediad fydd ganddo. Sylwch: y lefel mynediad awtomatig yw Dim Mynediad.
  • Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad o blith yr opsiynau canlynol: 

Mynediad Llawn
Mynediad wedi'i deilwra
Dim mynediad (y lefel mynediad awtomatig)

  • Cliciwch ar “Parhau”.
  • Os byddwch yn dewis Mynediad Llawn, bydd yr unigolyn yn cael mynd i bob rhan o'r CRN ar-lein (gan gynnwys newid manylion y busnes) ond ni fydd ganddo'r hawl i wrthod neu dderbyn grant.
  • Os ydych wedi dewis Mynediad wedi'i Deilwra, gallwch reoli'r caniatâd fydd gan yr unigolyn hwn, trwy ddewis “Parhau” a mynd i'r sgrin "Newid Mynediad". Byddwch yn cael gweld rhestr o swyddogaethau, lle gallwch ddewis y lefel o ganiatâd yr hoffech ei roi i'r unigolyn. Ar gyfer pob lefel o ganiatâd, gallwch weld beth y mae'n olygu trwy glicio ar y geiriad o dan bob swyddogaeth.
  • Unwaith y bydd y pob caniatâd wedi'i bennu a bod y wybodaeth a ddangosir yn gywir, cliciwch ar “Parhau”.
  • Bydd crynodeb o fanylion yr unigolyn a lefel ei fynediad yn cael eu dangos. Cliciwch ar “Parhau” os ydych am greu cod gwahoddiad ar gyfer yr unigolyn hwn.
  • Bydd y sgrin nesaf yn dangos cod gwahoddiad chwe digid – mae angen y cod hwn ar yr unigolyn rydych chi am ei wahodd i gael mynediad i'ch CRN gan ddefnyddio RPW ar-lein.

Gwnewch nodyn o'r cod hwn gan y bydd angen i chi wedyn ei rannu â’r unigolyn rydych chi'n ei wahodd i gael mynediad i RPW Ar-lein.

  • Sylwch: bydd y cod hwn yn 'fyw' am 7 diwrnod yn unig.
  • Cliciwch ar “Ymadael â Rheoli Unigolyn”. Gallwch barhau i ychwanegu / gwahodd pobl eraill trwy ailadrodd y broses hon.

Sut mae unigolyn yn derbyn gwahoddiad

Unwaith y byddwch wedi rhoi'r cod gwahoddiad i'r unigolyn rydych chi’n ei wahodd, dylai fewngofnodi ar RPW Ar-lein. Yna gofynnir iddo naill ai fewngofnodi neu greu cyfrif One Login GOV.UK gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei roi. Darllenwch “Creu Cyfrif One Login GOV.UK” os oes angen. 

Pan fydd yr unigolyn wedi mewngofnodi i'w gyfrif, bydd y system yn ei gymryd yn syth i'r sgrin wahoddiad lle caiff weld yr opsiynau canlynol. 

Derbyn
Gwrthod, neu
Dwi am benderfynu wedyn

  • Os bydd yn dewis derbyn, gofynnir iddo nodi'r cod gwahoddiad chwe digid y gwnaethoch ei roi iddo ac i glicio ar “Parhau”. Bydd yr unigolyn yn cael neges ar ei sgrin sy'n dweud wrtho ei fod yn cael gweithredu nawr ar ran y CRN. Ar ôl clicio ar “Parhau”, bydd yn cael ei gymryd yn ôl i dudalen hafan y CRN. (Sylwch: Os byddwch yn teipio'r cod yn anghywir dair gwaith, caiff y gwahoddiad ei ganslo).
  • Os oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn ei atgoffa iddo wrthod y gwahoddiad.  Os bydd yn clicio ar “Parhau”, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin iddo allu mynd ar RPW Ar-lein trwy ei gyfrif Porth y Llywodraeth. Sylwch: pan fydd wedi gwrthod, bydd angen ichi ail-wahodd defnyddiwr i One Login GOV.UK pan fyddwch am iddo symud.
  • Os NAD oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, ni fydd yn gallu mynd i’ch CRN trwy RPW Ar-lein. Sylwch: os bydd wedi gwrthod gwahoddiad, ni chaiff ei ail-wahodd i One Login GOV.UK.
  • Os bydd yr unigolyn yn dewis 'Dwi am benderfynu wedyn', bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn dweud pryd daw'r cod gwahoddiad i ben. Drwy hynny, gall yr unigolyn dderbyn neu wrthod y gwahoddiad nes ymlaen, ond rhaid gwneud o fewn y cyfnod o 7 diwrnod.

Sylwch, os daw'r cod i ben, bydd angen i chi, fel y Gweinyddwr, roi Gwahoddiad a chod newydd.  

6. Cwmni cofrestredig

Beth sydd angen ei wneud cyn symud

Os ydych chi'n Gwmni Cofrestredig, cyn i chi symud i One Login GOV.UK, mae angen i chi:

  • Ystyried pwy fydd angen gallu mynd ar RPW Ar-lein, gan gynnwys y gwasanaethau y dylai gael eu defnyddio, gan efallai bod angen ichi wahanu dyletswyddau o fewn y CRN. Er enghraifft, dim ond "Aelodau o'r Busnes" ddylai gael newid manylion y cwsmer fel manylion cyfrif banc ond efallai bod angen rhoi'r hawl i unigolion eraill weld dyfarniadau grant a hawliadau.
  • Bydd angen o leiaf un "Aelod o Fusnes" eich CRN fod â'r awdurdod i allu rhoi'r hawl i weithwyr wneud rhai neu'r holl swyddogaethau ar-lein ar ran y busnes. Gall hyn gynnwys enwebu gweithiwr sydd ag awdurdod dirprwyedig i reoli'r CRN.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol: ei rôl yn y busnes (gweler atodiad 1 am ddiffiniadau), cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn symudol, os oes rhai .

Symud i One Login GOV.UK

Bydd angen i weinyddwr presennol Porth y Llywodraeth:

  • Fynd ar RPW Ar-lein a dewis "Mewngofnodi i Borth y Llywodraeth gan ddefnyddio eich ID Defnyddiwr".
  • Newidiodd RPW Ar-lein ei Delerau ac Amodau yn ddiweddar i adlewyrchu One Login GOV.UK. Os nad ydych eisoes wedi cadarnhau eich bod yn eu derbyn, darllenwch nhw a chadarnhewch ar sgrin eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau a chliciwch Parhau.
  • Mae'r sgrin nesaf yn egluro'r newidiadau ar gyfer logio i mewn (mewngofnodi) ar RPW Ar-lein. Cliciwch ar "Parhau" os ydych chi am symud i One Login GOV.UK (os nad ydych chi am symud nawr, cliciwch ar y ddolen i Borth y Llywodraeth).

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Os mai chi yw gweinyddwr presennol Porth y Llywodraeth fasnachwr, dewiswch eich cofnod personol o'r rhestr a welwch a chlicio ar “Parhau”.

  • I barhau, cliciwch ar "Mewngofnodi i One Login GOV.UK".
  • Byddwch yn cael eich anfon i dudalen hafan One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login GOV.UK eto, dewiswch "Creu cyfrif One Login GOV.UK"
  • Ar ôl dewis 'Creu cyfrif One Login GOV.UK', nodwch gyfeiriad eich e-bost. I weld hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau One Login GOV.UK, cliciwch ar y dolenni.
  • Drwy ddewis “Parhau”, rydych yn cadarnhau'ch bod yn cytuno i gadw at y telerau a'r amodau.
  • Byddwn yn gofyn ichi edrych ar eich cyfrif e-byst lle bydd e-bost gan One Login GOV.UK  gyda’ch cod diogelwch 6 digid. Rhowch y cod yn y blwch a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.
  • Nawr mae angen i chi greu a chadarnhau cyfrinair. Cliciwch ar “Dangos” i weld beth rydych yn ei sgrifennu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Dewiswch sut rydych am gael y cod, un ai trwy neges destun neu ap dilysu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis neges destun, nodwch eich rhif ffôn symudol a chliciwch ar “Parhau”. Pan fyddwch wedi cael eich cod 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis defnyddio'r ap dilysu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Bydd cadarnhad eich bod wedi creu cyfrif One Login GOV.UK yn cael ei ddangos ar y sgrin.
Chi nawr yw gweinyddwr One Login GOV.UK ar gyfer y CRN hwn
  • Pan fyddwch yn clicio ar “Parhau”, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Fe welwch neges sy’n dweud eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ar RPW Ar-lein trwy One Login GOV.UK. Yna cliciwch “Parhau”. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w gweld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
  • I gytuno i gadw at y telerau ac amodau, cliciwch yn y blwch a dewiswch “Parhau”. Byddwch nawr yn gweld tudalen hafan eich CRN ac yn cael symud yn eich blaen.

Os ydych yn cael eich diffinio fel "Aelod o'r Busnes" (e.e. Gweithiwr Cyflogedig ag Awdurdod wedi’i Ddirprwyo), Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein. Chi nawr yw gweinyddwr y CRN hwn a byddwch yn cael gwneud holl swyddogaethau RPW Ar-lein gan gynnwys derbyn neu wrthod grantiau sy'n cael eu dyfarnu ichi.

Os mai chi yw’r person cyntaf i symud i One Login ac “nad ydych yn aelod o’r Busnes” e.e. eich bod yn aelod o’r teulu, gweithiwr cyflog, (Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein), chi fydd y Gweinyddwr ar gyfer y CRN hwn a byddwch yn cael mynd i bob rhan o RPW Ar-lein ond ni fyddwch yn cael derbyn na gwrthod grantiau. 

Byddwch nawr yn cael gwahodd unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'r busnes, i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein gan gynnwys rhoi mynediad arbennig i bobl "nad ydynt yn aelodau o'r  busnes". Gweler isod.

Sylwch

Bydd angen i o leiaf un "Aelod o'r Busnes" allu cael mynediad ar-lein er mwyn gallu derbyn neu wrthod grantiau.

Os bydd rôl unigolyn yn y busnes yn newid, bydd angen i RPW gadarnhau hynny.

Darllenwch yr isod os ydych am ychwanegu unigolion, gan gynnwys sut i'w gwahodd i gael gweld eich CRN drwy One Login GOV.UK.

Gwahodd unigolyn i'ch CRN

  • I wahodd unigolyn i allu mynd ar RPW Ar-lein i weld y CRN, mae angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar y tab “Manylion y CRN” ac yna ar “Rheoli Unigolion”.
  • Ar sgrin reoli'r unigolion bydd rhestr o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch CRN.
  • Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhewch fod rôl, gwybodaeth busnes a chyfeiriad e-bost yr unigolyn yn gywir. Gallwch wneud newidiadau drwy glicio ar y botwm “Diweddaru'r wybodaeth hon”.
  • Dewiswch y botwm "Gwahoddiad".                                  
  • Byddwn yn gofyn a ydych am wahodd yr unigolyn hwn i allu gweld eich CRN ar-lein. Cliciwch ar “Ie” ac yna ar “Parhau”.
  • Byddwch wedyn yn gweld crynodeb o'r wybodaeth am yr unigolyn hwn. Bydd yn dweud beth yw rôl yr unigolyn a diffiniad o'r rôl honno.   Os mai "Aelod o'r Busnes" yw rôl yr unigolyn, bydd ganddo'r hawl i fynd i bob rhan o RPW Ar-lein ac yn dod yn weinyddwr yn awtomatig. Bydd hynny'n rhoi'r hawl iddo wahodd unigolion eraill.
  • Os “nad yw'r unigolyn yn aelod o'r busnes”, yna bydd angen i chi bennu lefel y mynediad fydd ganddo. Sylwch: y lefel mynediad awtomatig yw Dim Mynediad.
  • Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad o blith yr opsiynau canlynol: 

Mynediad Llawn
Mynediad wedi'i deilwra
Dim mynediad (y lefel mynediad awtomatig)

  • Cliciwch ar “Parhau”.
  • Os byddwch yn dewis Mynediad Llawn, bydd yr unigolyn yn cael mynd i bob rhan o'r CRN ar-lein (gan gynnwys newid manylion y busnes) ond ni fydd ganddo'r hawl i wrthod neu dderbyn grant.
  • Os ydych wedi dewis Mynediad wedi'i Deilwra, gallwch reoli'r caniatâd fydd gan yr unigolyn hwn, trwy ddewis “Parhau” a mynd i'r sgrin "Newid Mynediad". Byddwch yn cael gweld rhestr o swyddogaethau, lle gallwch ddewis y lefel o ganiatâd yr hoffech ei roi i'r unigolyn. Ar gyfer pob lefel o ganiatâd, gallwch weld beth y mae'n olygu trwy glicio ar y geiriad o dan bob swyddogaeth.
  • Unwaith y bydd y pob caniatâd wedi'i bennu a bod y wybodaeth a ddangosir yn gywir, cliciwch ar “Parhau”.
  • Bydd crynodeb o fanylion yr unigolyn a lefel ei fynediad yn cael eu dangos. Cliciwch ar “Parhau” os ydych am greu cod gwahoddiad ar gyfer yr unigolyn hwn.
  • Bydd y sgrin nesaf yn dangos cod gwahoddiad chwe digid – mae angen y cod hwn ar yr unigolyn rydych chi am ei wahodd i gael mynediad i'ch CRN gan ddefnyddio RPW ar-lein.

Gwnewch nodyn o'r cod hwn gan y bydd angen i chi wedyn ei rannu â’r unigolyn rydych chi'n ei wahodd i gael mynediad i RPW Ar-lein.

  • Sylwch: bydd y cod hwn yn 'fyw' am 7 diwrnod yn unig.
  • Cliciwch ar “Ymadael â Rheoli Unigolyn”. Gallwch barhau i ychwanegu / gwahodd pobl eraill trwy ailadrodd y broses hon.

Sut mae unigolyn yn derbyn gwahoddiad

Unwaith y byddwch wedi rhoi'r cod gwahoddiad i'r unigolyn rydych chi’n ei wahodd, dylai fewngofnodi ar RPW Ar-lein. Yna gofynnir iddo naill ai fewngofnodi neu greu cyfrif One Login GOV.UK gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei roi. Darllenwch “Creu Cyfrif One Login GOV.UK” os oes angen. 

Pan fydd yr unigolyn wedi mewngofnodi i'w gyfrif, bydd y system yn ei gymryd yn syth i'r sgrin wahoddiad lle caiff weld yr opsiynau canlynol. 

Derbyn
Gwrthod, neu|
Dwi am benderfynu wedyn

  • Os bydd yn dewis derbyn, gofynnir iddo nodi'r cod gwahoddiad chwe digid y gwnaethoch ei roi iddo ac i glicio ar “Parhau”. Bydd yr unigolyn yn cael neges ar ei sgrin sy'n dweud wrtho ei fod yn cael gweithredu nawr ar ran y CRN. Ar ôl clicio ar “Parhau”, bydd yn cael ei gymryd yn ôl i dudalen hafan y CRN. (Sylwch: Os byddwch yn teipio'r cod yn anghywir dair gwaith, caiff y gwahoddiad ei ganslo).
  • Os oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn ei atgoffa iddo wrthod y gwahoddiad.  Os bydd yn clicio ar “Parhau”, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin iddo allu mynd ar RPW Ar-lein trwy ei gyfrif Porth y Llywodraeth. Sylwch: pan fydd wedi gwrthod, bydd angen ichi ail-wahodd defnyddiwr i One Login GOV.UK pan fyddwch am iddo symud.
  • Os NAD oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, ni fydd yn gallu mynd i’ch CRN trwy RPW Ar-lein. Sylwch: os bydd wedi gwrthod gwahoddiad, ni chaiff ei ail-wahodd i One Login GOV.UK.
  • Os bydd yr unigolyn yn dewis 'Dwi am benderfynu wedyn', bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn dweud pryd daw'r cod gwahoddiad i ben. Drwy hynny, gall yr unigolyn dderbyn neu wrthod y gwahoddiad nes ymlaen, ond rhaid gwneud o fewn y cyfnod o 7 diwrnod.

Sylwch, os daw'r cod i ben, bydd angen i chi, fel y Gweinyddwr, roi Gwahoddiad a chod newydd.                                         

7. Elusen gofrestredig/sefydliad trydydd sector

Beth sydd angen ei wneud cyn symud

Os ydych chi'n Elusen Gofrestredig / Sefydliad Trydydd Sector, cyn i chi symud i One Login GOV.UK, mae angen i chi:

  • Ystyried pwy fydd angen gallu mynd ar RPW Ar-lein, gan gynnwys y gwasanaethau y dylai gael eu defnyddio, gan efallai bod angen ichi wahanu dyletswyddau o fewn y CRN. Er enghraifft, dim ond "Aelodau o'r Busnes" ddylai gael newid manylion y cwsmer fel manylion cyfrif banc ond efallai bod angen rhoi'r hawl i unigolion eraill weld dyfarniadau grant a hawliadau.
  • Bydd eich CRN yn gofyn am o leiaf un aelod busnes a enwir sydd â'r awdurdod a'r rôl i awdurdodi gweithwyr a all ymgymryd â rhai neu'r holl swyddogaethau ar-lein ar gyfer y busnes. Gall hyn gynnwys enwebu gweithiwr sydd ag awdurdod dirprwyedig i reoli'r CRN.

8. Ymddiriedolaeth/grŵp cymunedol

Beth sydd angen ei wneud cyn symud

Os ydych chi'n Ymddiriedolaeth neu'n Grŵp Cymunedol, cyn i chi symud i One Login GOV.UK, mae angen i chi:

  • Ystyried pwy fydd angen gallu mynd ar RPW Ar-lein, gan gynnwys y gwasanaethau y dylai gael eu defnyddio, gan efallai bod angen ichi wahanu dyletswyddau o fewn y CRN. Er enghraifft, dim ond "Aelodau o'r Busnes" ddylai gael newid manylion y cwsmer fel manylion cyfrif banc ond efallai bod angen rhoi'r hawl i unigolion eraill weld dyfarniadau grant a hawliadau.
  • Bydd angen o leiaf un "Aelod o Fusnes" eich CRN fod â'r awdurdod i allu rhoi'r hawl i weithwyr wneud rhai neu'r holl swyddogaethau ar-lein ar ran y busnes. Gall hyn gynnwys enwebu gweithiwr sydd ag awdurdod dirprwyedig i reoli'r CRN.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol: ei rôl yn y busnes (gweler atodiad 1  am ddiffiniadau), cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn symudol, os oes rhai .

Symud i One Login GOV.UK

Bydd angen i weinyddwr presennol Porth y Llywodraeth:

  • Fynd ar RPW Ar-lein a dewis "Mewngofnodi i Borth y Llywodraeth gan ddefnyddio eich ID Defnyddiwr".
  • Newidiodd RPW Ar-lein ei Delerau ac Amodau yn ddiweddar i adlewyrchu One Login GOV.UK. Os nad ydych eisoes wedi cadarnhau eich bod yn eu derbyn, darllenwch nhw a chadarnhewch ar sgrin eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau a chliciwch Parhau.
  • Mae'r sgrin nesaf yn egluro'r newidiadau ar gyfer logio i mewn (mewngofnodi) ar RPW Ar-lein. Cliciwch ar "Parhau" os ydych chi am symud i One Login GOV.UK (os nad ydych chi am symud nawr, cliciwch ar y ddolen i Borth y Llywodraeth).

Creu cyfrif One Login GOV.UK

Os mai chi yw gweinyddwr presennol Porth y Llywodraeth, dewiswch eich cofnod personol o'r rhestr a welwch a chlicio ar “Parhau”.

  • I barhau, cliciwch ar "Mewngofnodi i One Login GOV.UK".
  • Byddwch yn cael eich anfon i dudalen hafan One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login GOV.UK eto, dewiswch "Creu cyfrif One Login GOV.UK"
  • Ar ôl dewis 'Creu cyfrif One Login GOV.UK', nodwch gyfeiriad eich e-bost. I weld hysbysiad preifatrwydd a thelerau ac amodau One Login GOV.UK, cliciwch ar y dolenni.
  • Drwy ddewis “Parhau”, rydych yn cadarnhau'ch bod yn cytuno i gadw at y telerau a'r amodau.
  • Byddwn yn gofyn ichi edrych ar eich cyfrif e-byst lle bydd e-bost gan One Login GOV.UK  gyda’ch cod diogelwch 6 digid. Rhowch y cod yn y blwch a ddarperir a chliciwch ar “Parhau”.
  • Nawr mae angen i chi greu a chadarnhau cyfrinair. Cliciwch ar “Dangos” i weld beth rydych yn ei sgrifennu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Dewiswch sut rydych am gael y cod, un ai trwy neges destun neu ap dilysu, ac yna cliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis neges destun, nodwch eich rhif ffôn symudol a chliciwch ar “Parhau”. Pan fyddwch wedi cael eich cod 6 digid, nodwch y cod yn y blwch a chliciwch ar “Parhau”.
  • Os ydych wedi dewis defnyddio'r ap dilysu, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
  • Bydd cadarnhad eich bod wedi creu cyfrif One Login GOV.UK yn cael ei ddangos ar y sgrin.
Chi nawr yw gweinyddwr One Login GOV.UK ar gyfer y CRN hwn
  • Pan fyddwch yn clicio ar “Parhau”, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Fe welwch neges sy’n dweud eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ar RPW Ar-lein trwy One Login GOV.UK. Yna cliciwch “Parhau”. Bydd y sgrin nesaf yn gofyn ichi gytuno i gadw at delerau ac amodau RPW Ar-lein. I'w gweld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
  • I gytuno i gadw at y telerau ac amodau, cliciwch yn y blwch a dewiswch “Parhau”. Byddwch nawr yn gweld tudalen hafan eich CRN ac yn cael symud yn eich blaen.

Os ydych yn cael eich diffinio fel "Aelod o'r Busnes" (e.e. Ymddiriedolwr), Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein. Chi nawr yw gweinyddwr y CRN hwn a byddwch yn cael gwneud holl swyddogaethau RPW Ar-lein gan gynnwys derbyn neu wrthod grantiau sy'n cael eu dyfarnu ichi.

Os mai chi yw’r person cyntaf i symud i One Login ac “nad ydych yn aelod o’r Busnes” e.e. eich bod yn aelod o’r teulu, gweithiwr cyflog, (Gweler Cyflwyno rolau a chaniatâd ar RPW Ar-lein), chi fydd y Gweinyddwr ar gyfer y CRN hwn a byddwch yn cael mynd i bob rhan o RPW Ar-lein ond ni fyddwch yn cael derbyn na gwrthod grantiau. 

Byddwch nawr yn cael gwahodd unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'r busnes, i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein gan gynnwys rhoi mynediad arbennig i bobl "nad ydynt yn aelodau o'r  busnes". Gweler isod.

Sylwch

Bydd angen i o leiaf un "Aelod o'r Busnes" allu cael mynediad ar-lein er mwyn gallu derbyn neu wrthod grantiau.

Os bydd rôl unigolyn yn y busnes yn newid, bydd angen i RPW gadarnhau hynny.

Darllenwch yr isod os ydych am ychwanegu unigolion, gan gynnwys sut i'w gwahodd i gael gweld eich CRN drwy One Login GOV.UK.

Gwahodd unigolyn i'ch CRN

  • I wahodd unigolyn i allu mynd ar RPW Ar-lein i weld y CRN, mae angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar y tab “Manylion y CRN” ac yna ar “Rheoli Unigolion”.
  • Ar sgrin reoli'r unigolion, bydd rhestr o'r unigolion sy'n gysylltiedig â'ch CRN.
  • Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhewch fod rôl, gwybodaeth busnes a chyfeiriad e-bost yr unigolyn yn gywir. Gallwch wneud newidiadau drwy glicio ar y botwm “Diweddaru'r wybodaeth hon”.
  • Dewiswch y botwm "Gwahoddiad".                               
  • Byddwn yn gofyn a ydych am wahodd yr unigolyn hwn i allu gweld eich CRN ar-lein. Cliciwch ar “Ie” ac yna ar “Parhau”.
  • Byddwch wedyn yn gweld crynodeb o'r wybodaeth am yr unigolyn hwn. Bydd yn dweud beth yw rôl yr unigolyn a diffiniad o'r rôl honno.   Os mai "Aelod o'r Busnes" yw rôl yr unigolyn, bydd ganddo'r hawl i fynd i bob rhan o RPW Ar-lein ac yn dod yn weinyddwr yn awtomatig. Bydd hynny'n rhoi'r hawl iddo wahodd unigolion eraill.
  • Os “nad yw'r unigolyn yn aelod o'r busnes”, yna bydd angen i chi bennu lefel y mynediad fydd ganddo. Sylwch: y lefel mynediad awtomatig yw Dim Mynediad.
  • Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad o blith yr opsiynau canlynol: 

Mynediad Llawn
Mynediad wedi'i deilwra
Dim mynediad (y lefel mynediad awtomatig)

  • Cliciwch ar “Parhau”.
  • Os byddwch yn dewis Mynediad Llawn, bydd yr unigolyn yn cael mynd i bob rhan o'r CRN ar-lein (gan gynnwys newid manylion y busnes) ond ni fydd ganddo'r hawl i wrthod neu dderbyn grant.
  • Os ydych wedi dewis Mynediad wedi'i Deilwra, gallwch reoli'r caniatâd fydd gan yr unigolyn hwn, trwy ddewis “Parhau” a mynd i'r sgrin "Newid Mynediad". Byddwch yn cael gweld rhestr o swyddogaethau, lle gallwch ddewis y lefel o ganiatâd yr hoffech ei roi i'r unigolyn. Ar gyfer pob lefel o ganiatâd, gallwch weld beth y mae'n olygu trwy glicio ar y geiriad o dan bob swyddogaeth.
  • Unwaith y bydd y pob caniatâd wedi'i bennu a bod y wybodaeth a ddangosir yn gywir, cliciwch ar “Parhau”.
  • Bydd crynodeb o fanylion yr unigolyn a lefel ei fynediad yn cael eu dangos. Cliciwch ar “Parhau” os ydych am greu cod gwahoddiad ar gyfer yr unigolyn hwn.
  • Bydd y sgrin nesaf yn dangos cod gwahoddiad chwe digid – mae angen y cod hwn ar yr unigolyn rydych chi am ei wahodd i gael mynediad i'ch CRN gan ddefnyddio RPW ar-lein.

Gwnewch nodyn o'r cod hwn gan y bydd angen i chi wedyn ei rannu â’r unigolyn rydych chi'n ei wahodd i gael mynediad i RPW Ar-lein.

  • Sylwch: bydd y cod hwn yn 'fyw' am 7 diwrnod yn unig.
  • Cliciwch ar “Ymadael â Rheoli Unigolyn”. Gallwch barhau i ychwanegu / gwahodd pobl eraill trwy ailadrodd y broses hon.

Sut mae Unigolyn yn derbyn gwahoddiad

Unwaith y byddwch wedi rhoi'r cod gwahoddiad i'r unigolyn rydych chi’n ei wahodd, dylai fewngofnodi ar RPW Ar-lein. Yna gofynnir iddo naill ai fewngofnodi neu greu cyfrif One Login GOV.UK gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei roi. Darllenwch “Creu Cyfrif One Login GOV.UK” os oes angen. 

Pan fydd yr unigolyn wedi mewngofnodi i'w gyfrif, bydd y system yn ei gymryd yn syth i'r sgrin wahoddiad lle caiff weld yr opsiynau canlynol. 

Derbyn
Gwrthod, neu
Dwi am benderfynu wedyn

  • Os bydd yn dewis derbyn, gofynnir iddo nodi'r cod gwahoddiad chwe digid y gwnaethoch ei roi iddo ac i glicio ar “Parhau”. Bydd yr unigolyn yn cael neges ar ei sgrin sy'n dweud wrtho ei fod yn cael gweithredu nawr ar ran y CRN. Ar ôl clicio ar “Parhau”, bydd yn cael ei gymryd yn ôl i dudalen hafan y CRN. (Sylwch: Os byddwch yn teipio'r cod yn anghywir dair gwaith, caiff y gwahoddiad ei ganslo).
  • Os oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn ei atgoffa iddo wrthod y gwahoddiad.  Os bydd yn clicio ar “Parhau”, bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin iddo allu mynd ar RPW Ar-lein trwy ei gyfrif Porth y Llywodraeth. Sylwch: pan fydd wedi gwrthod, bydd angen ichi ail-wahodd defnyddiwr i One Login GOV.UK pan fyddwch am iddo symud.
  • Os NAD oes gan yr unigolyn gyfrif Porth y Llywodraeth a’i fod wedi dewis gwrthod y gwahoddiad, ni fydd yn gallu mynd i’ch CRN trwy RPW Ar-lein. Sylwch: os bydd wedi gwrthod gwahoddiad, ni chaiff ei ail-wahodd i One Login GOV.UK.
  • Os bydd yr unigolyn yn dewis 'Dwi am benderfynu wedyn', bydd neges yn ymddangos ar ei sgrin yn dweud pryd daw'r cod gwahoddiad i ben. Drwy hynny, gall yr unigolyn dderbyn neu wrthod y gwahoddiad nes ymlaen, ond rhaid gwneud o fewn y cyfnod o 7 diwrnod.

Sylwch, os daw'r cod i ben, bydd angen i chi, fel y Gweinyddwr, roi Gwahoddiad a chod newydd.

Atodiad 1: rolau yn y busnes a diffiniadau

Perchennog/unig fasnachwr

Unigolyn sy'n berchen ar y busnes heb unrhyw bartneriaid busnes cysylltiedig.

Partner busnes

Unigolyn sy'n gyd-berchennog ar y busnes.

Cyfarwyddwr 

Unigolyn sy'n goruchwylio'r gwaith o redeg y busnes a'i amcanion.

Unigolyn preifat

Unigolyn nad yw'n gysylltiedig â busnes.

Priod/aelod o'r teulu

Gŵr/gwraig neu aelod agos arall o'r teulu

Gwarcheidwad

Unigolyn sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am ofalu am rywun nad yw'n gallu rheoli ei faterion ei hun e.e. plentyn o dan 18 oed.

Cyflogai

Unigolyn a gyflogir gan y busnes.

Gweithiwr gydag awdurdod dirprwyedig

Unigolyn sy’n derbyn yr awdurdod ffurfiol gan y busnes i gyflawni tasgau a gwneud penderfyniadau ar ran y busnes.

Ysgutor

Unigolyn sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am gyflawni dyletswyddau ewyllys.

Cadeirydd/ymddiriedolwr

Unigolyn sy'n cymryd cyfrifoldeb am reoli arian neu asedau sydd wedi'u neilltuo mewn ymddiriedolaeth er budd y busnes.

Trysorydd/aelod o'r pwyllgor

Unigolyn a benodir i weinyddu neu reoli asedau ariannol a rhwymedigaethau busnes/aelod o bwyllgor.

Rheolwr

Unigolyn sy'n gyfrifol am reoli neu weinyddu sefydliad neu grŵp o staff.

Ysgrifennydd y cwmni

Unigolyn sydd ag arbenigedd mewn llywodraethiant corfforaethol, cydymffurfedd cyfreithiol a rheolaeth weinyddol.

Gweinyddwr busnes

Unigolyn sy'n cymryd camau ar ran y busnes ond nad yw'n aelod o'r busnes (nid yw'n bartner/cyfarwyddwr ac ati).

Gweinyddwr personol

Unigolyn sy'n cynrychioli'r busnes yn dilyn hysbysiad o farwolaeth.

Derbynnydd

Unigolyn sy'n gysylltiedig â'r busnes pe bai'r busnes yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Contractwr

Unigolyn neu gwmni sy'n ymgymryd â chontract i ddarparu gwasanaeth neu wneud swydd

Asiant / trydydd parti

Unigolyn sy'n gweithredu ar ran person neu grŵp/busnes arall.

Defnyddiwr ar-lein

Unigolyn sydd â chaniatâd cyfyngedig ar-lein.

Ysgrifennydd

Unigolion a gyflogir i gyflawni tasgau gweinyddol.

Gweithiwr cyflog ag awdurdod wedi’i ddirprwyo

Unigolyn sydd wedi cael caniatâd ffurfiol gan y busnes i wneud tasgau a phenderfyniadau ar ran y busnes.

Atodiad 2: cydsyniadau a chyfyngiadau gweinyddwyr

Rôl yr aelod

Rolau Aelodau’r Busnes – bob un yn cael bod yn Weinyddwyr Ar-lein 

  • perchennog/unig fasnachwr
  • partner busnes
  • cyfarwyddwr
  • ysgutor
  • cadeirydd/ymddiriedolwr
  • gweinyddwr personol
  • ysgrifennydd cwmni
  • gweinyddwr y mae awdurdod wedi’i ddirprwyo iddo 

Rolau’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes – Gweinyddwr y Busnes sy’n rheoli pwy sy’n cael bod yn Weinyddwr Ar-lein

  • unigolyn preifat
  • priod/aelod o’r teulu
  • gwarcheidwad
  • cyfogai
  • trysorydd/aelod o’r pwyllgor
  • rheolwr
  • gweinyddwr y busnes
  • derbynnydd
  • contractiwr
  • asiant / trydydd parti
  • defnyddiwr ar-lein
  • ysgrifennydd    

Rolau Aelodau’r busnes a’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes 

Cydsyniadau gweinyddol 

  • gweinyddwr fydd y cyntaf i gofrestru fel defnyddiwr One Login, waeth beth yw ei rôl yn y busnes. (Yr unigolyn wnaeth greu’r CRN neu symud iddo)
  • mae gan Weinyddwr yr hawl i wahodd unigolion a rheoli’r mynediad/cydsyniadau.
  • gweinyddwyr sy’n gyfrifol am ddweud pwy sydd â hawl gweinyddol i fynd ar gyfrifon ar-lein
  • caiff Gweinyddwyr ddiddymu hawliau gweinyddu’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes
  • caiff Gweinyddwyr newid rolau’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes i fod yn Rolau Aelodau’r Busnes
  • ni cheir newid rôl Aelod o’r Busnes ond i Rôl arall Aelod o’r Busnes
  • caiff unigolyn nad yw’n Aelod o’r busnes adael y busnes ar-lein
  • caiff Gweinyddwr ofyn i’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes adael y cyfrif ar-lein. 

Rolau Aelodau’r busnes a’r rheini nad ydynt yn aelod o’r busnes 

Cyfyngiadau gweinyddol

  • ni chaiff gweinyddwr arall ddileu hawliau gweinyddu unigolyn sydd â Rôl Aelod o’r Busnes i fynd i gyfrif ar-lein
  • ni chaiff gweinyddwr newid rôl aelod o’r busnes i fod yn rôl unigolyn nad yw’n Aelod o’r busnes
  • ni chaiff Aelod o’r Busnes adael y busnes ar-lein
  • ni chaiff Gweinyddwr ofyn i Aelod o’r busnes adael y CRN

Am ragor o arweiniad am y cyfyngiadau uchod, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Atodiad 3: lefel mynediad yn ôl y rôl yn y busnes

Mynediad diogelwch aelod o'r busnes 

Mynediad llawn ac yn Weinyddwr Ar-lein. 

Dim ond aelod o’r busnes sy’n gallu derbyn neu wrthod dyfarniadau grant.

Rolau Aelodau o'r Busnes o fewn RPW Ar-lein 

  • perchennog/unig fasnachwr
  • partner busnes
  • cyfarwyddwr
  • ysgutor
  • cadeirydd/ymddiriedolwr
  • gweinyddwr personol
  • ysgrifennydd cwmni
  • gweinyddwr y mae awdurdod wedi’i ddirprwyo iddo 
Caniatadau ar gyfer Rolau Aelodau o'r Busnes

Mae gan aelod o’r busnes fynediad llawn a gall weld a newid manylion sy’n gysylltiedig â’r CRN yn RPW Ar-lein gan gynnwys:

  • manylion y busnes/unigolion
  • ffurflenni a cheisiadau
  • dyfarniadau grant – gan gynnwys eu derbyn neu eu gwrthod.
  • dogfennau ariannol a hanes taliadau
  • plan coetir
  • negeseuon 

Caniatadau unigolyn nad yw'n aelod o'r busnes fel gweinyddwr 

Mynediad llawn (ac eithrio derbyn/gwrthod grantiau).

Mae'r mynediad gweinyddol ar gyfer unigolyn nad yw'n aelod o'r busnes yn cael ei reoli gan weinyddwr y busnes neu ei gael os mai nhw yw'r person cyntaf i symud i ONE Login GOV.UK ar gyfer eu CRN.

Rolau busnes Cwsmeriaid Ar-lein RPW ar gyfer pobl nad ydynt yn aelodau o'r busnes

  • unigolyn preifat
  • priod / aelod o’r teulu
  • gwarcheidwad
  • gweithiwr cyflog
  • trysorydd / aelod o’r pwyllgor
  • rheolwr
  • gweinyddwr y busnes
  • derbynnydd
  • contractwr
  • asiant / trydydd parti
  • defnyddiwr ar-lein
  • ysgrifennydd

Caniatâd diofyn ar gyfer rolau pobl nad ydynt yn aelodau o'r busnes NAD ydynt yn weinyddwyr

Pan fydd unigolyn nad yw'n aelod o'r busnes yn cael ei wahodd gan y gweinyddwr, y gosodiad diofyn ar gyfer caniatâd yw Dim Mynediad, er mwyn galluogi mynediad i RPW Ar-lein rhaid i'r gweinyddwr benderfynu a ddylid rhoi dim mynediad, mynediad llawn, neu fynediad wedi'i deilwra. Ceir gwybodaeth am fynediad llawn a mynediad wedi'i deilwra isod.

Caniatadau ar gyfer rolau pobl nad ydynt yn aelodau o'r busnes NAD ydynt yn weinyddwyr

Mae gan unigolyn nad yw'n aelod o'r busnes sydd â Mynediad Llawn yr un caniatadau ag aelod o’r busnes, ac eithrio: ni fyddant yn gallu derbyn neu wrthod dyfarniadau grant. Gallant weld, newid a chyflwyno manylion ar gyfer y CRN gan gynnwys:

  • manylion y busnes / unigolion
  • cyflwyno ffurflenni a cheisiadau
  • dogfennau ariannol a hanes taliadau
  • plan coetir
  • negeseuon

Unigolyn nad yw'n aelod o'r busnes gyda mynediad wedi'i deilwra

Mae’r opsiwn hwn yn caniatáu ichi deilwra caniatadau i bob unigolyn(ac eithrio derbyn / gwrthod dyfarniadau grant).

Mae'r Mynediad Gweinyddol ar gyfer unigolyn nad yw'n aelod o'r busnes yn cael ei reoli gan Weinyddwr y busnes.               

Caniatadau ar gyfer mynediad cwsmeriaid

Pan fyddwch chi’n dewis ‘Mynediad wedi’i Deilwra’, fe welwch y dudalen ‘Newid Mynediad’ gyda’r teitlau canlynol: 

  • cwsmer
  • dyfarnu grantiau (eu gweld yn unig)
  • ceisiadau
  • hawliadau
  • gwybodaeth ariannol
  • cynlluniau
  • negeseuon

Mae tair lefel mynediad o dan yr opsiwn Mynediad wedi’i Deilwra, sef:

  • Mynediad Cyfyngedig, sef gweld yn unig.
  • Mynediad Llawn sy’n caniatáu i Geisiadau a Hawliadau gael eu dewis, gyda chyflwyniad neu heb gyflwyniad. Mae hefyd yn rhoi mynediad llawn iddynt i feysydd eraill y busnes, fel y dangosir yn y rhestr uchod.
  • Dim Mynediad. Ni chânt fynd i unrhyw ran o’r cyfrif.

Fe welwch y caniatadau ar gyfer pob lefel mynediad trwy glicio ar y ddolen las o dan bob cwymplen, ar y dudalen Mynediad wedi’i Deilwra.

Wrth ddewis Mynediad wedi’i Deilwra, rydych yn cael addasu’r caniatadau yn ôl yr unigolyn. Gallwch roi awdurdod i unigolyn gyflwyno Ceisiadau neu Hawliadau trwy ddewis yr opsiwn priodol. Mae’r Caniatadau ar gyfer Ceisiadau a Hawliadau i’w gweld isod.

Ceisiadau gyda Mynediad Llawn – gan gynnwys eu cyflwyno

  • Dechrau/Parhau/Cyflwyno ffurflen (nad ydynt yn hawliadau)
  • Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
  • Lanlwytho dogfennau
  • Gweld mapiau
  • Trosglwyddo hawliau BPS (gan gynnwys eu cyflwyno)
  • Rheoli CPH
  • Creu a chyflwyno Prosiect Grantiau Bach yr Amgylchedd
  • Dechrau / Parhau / Cyflwyno Rheoli fy Nhir.

Ceisiadau gyda Mynediad Llawn - ond nid eu cyflwyno

  • Dechrau/Parhau â ffurflen (nad ydynt yn hawliadau)
  • Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
  • Lanlwytho dogfennau
  • Gweld mapiau
  • Trosglwyddo hawliau BPS (nid eu cyflwyno)
  • Rheoli CPH (nid eu cyflwyno)
  • Creu Prosiect Grantiau Bach yr Amgylchedd
  • Dechrau / Parhau â Rheoli fy Nhir.

Hawliadau gyda Mynediad Llawn - gan gynnwys eu cyflwyno

  • Dechrau/Parhau/Cyflwyno ffurflen (hawliadau)
  • Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
  • Lanlwytho dogfennau

Hawliadau gyda Mynediad Llawn – ond nid eu cyflwyno

  • Dechrau/Parhau â ffurflen (hawliadau)