Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (11 Ionawr) mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau mai Ruth Glazzard fydd cadeirydd nesaf Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Ruth yn olynu'r cadeirydd presennol, Kathryn Bishop, a roddodd y gorau i'r swydd ym mis Hydref ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Ruth wedi gwasanaethu fel aelod anweithredol gyda sawl sefydliad arall yn cynnwys Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Ar hyn o bryd mae ACC yn rheoli 2 dreth ddatganoledig, y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ar ran Llywodraeth Cymru.

Meddai Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

"Mae'n 5 mlynedd ers cynnal cyfarfod cyntaf Bwrdd ACC a dyma’r adran anweinidogol gyntaf i’w sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

"Dan arweiniad craff Kathryn, datblygodd ACC i fod y cyfrwng oedd yn caniatáu i Gymru godi trethi am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd. Hyd yma, mae ACC wedi codi mwy na £1bn mewn refeniw treth i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

"Rwy'n falch o groesawu Ruth i gefnogi pennod nesaf yr awdurdod. Bydd cymwysterau Ruth wrth gefnogi sefydliadau eraill, megis Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn galluogi ACC fel sefydliad digidol-yn-gyntaf i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus digidol gwell fyth yng Nghymru."

Meddai Ruth Glazzard, y Cadeirydd newydd:

"Rwy'n falch iawn o fod yn Gadeirydd nesaf ACC, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â thaith lwyddiannus Kathryn wrth iddi gefnogi'r sefydliad hyd yn hyn.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau eraill y Bwrdd er mwyn cefnogi tîm arwain ACC i barhau â gwaith y sefydliad, rheoli trethi datganoledig a chefnogi dyluniad a datblygiad trethi yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

"Rwy'n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd i wasanaethau cyhoeddus ac felly rwy'n falch o fod yn gweithio gyda chorff sydd wedi'i sefydlu er mwyn codi refeniw hanfodol i gefnogi cymunedau ledled Cymru."

Dywedodd Dyfed Alsop, Prif Weithredwr ACC:

"Hoffwn i ddiolch i Kathryn am ei holl gefnogaeth dros y 5 mlynedd diwethaf – drwy lawer o ddatblygiadau newydd ar gyfer treth yng Nghymru a chyfnod heriol y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae Kathryn wedi gwneud cyfraniad mawr wrth ein helpu i fod yr awdurdod treth modern yr oeddem am fod 5 mlynedd yn ôl.

"Hoffwn hefyd groesawu Ruth. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â hi ac at yr heriau a'r cyfleoedd sydd ar y gorwel, ac rwy’n croesawu'r cyfoeth o brofiad ac arbenigedd a ddaw Ruth i'r rôl fel ein Cadeirydd Bwrdd nesaf."

Mae penodiad Ruth Glazzard fel Cadeirydd ACC yn dilyn ymarfer recriwtio teg ac agored.

Ruth Glazzard

  • Mae Ruth yn Is-gadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar hyn o bryd, ac mae ganddi rolau anweithredol gyda chymdeithas dai a menter gymdeithasol.
  • Roedd Ruth yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ac roedd ganddi rôl bwrdd dros dro gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru.
  • Mae gan Ruth brofiad sylweddol o ran rheoli corfforaethol, a chefndir mewn rheoleiddio gwasanaethau ariannol, yn canolbwyntio'n benodol ar oruchwylio, archwilio a risg.
  • Mae gan Ruth hefyd brofiad bwrdd sylweddol fel Cadeirydd annibynnol Bwrdd Archwilio a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori Safonau ar gyfer Bwrdeistref Newham, Llundain.
  • Cyn hynny bu ganddi rôl ryngwladol fel Pennaeth Llywodraethiant banc Standard Chartered, a bu'n gweithio mewn rolau rheoli a rheoleiddio gweithredol yn yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.