Neidio i'r prif gynnwy

“Rydym yn buddsoddi ym mywydau pobl ifanc sydd angen help llaw i gyflawni eu potensial," meddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ar ôl cwrdd â'r rhai sy'n cymryd rhan mewn cynllun peilot Incwm Sylfaenol yng Ngogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cynllun, a gafodd ei lansio ym mis Gorffennaf, yn helpu dros 500 o bobl ifanc sy’n troi'n 18 oed ac yn gadael gofal yng Nghymru drwy gynnig £1600 bob mis (cyn treth) am ddwy flynedd i'w cefnogi wrth iddynt bontio i fywyd fel oedolyn.

Y gobaith yw y bydd y peilot yn gosod y rhai sy'n gadael gofal ar lwybr i fywydau iach, hapus a boddhaus.

Bydd y cynllun peilot gwerth £20 miliwn, a fydd yn parhau am dair blynedd, yn cael ei werthuso er mwyn edrych yn ofalus ar ei effaith ar fywydau'r rhai sy'n cymryd rhan.

Yng nghanol argyfwng costau byw, y gobaith yw y gall y gwersi a ddysgwyd o'r cynllun peilot fod o fudd i genedlaethau'r dyfodol drwy eu helpu i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth ddechrau bywyd fel oedolion. Gallai hyn fod yn fanteisiol iddyn nhw a'r gymdeithas ehangach.

Ar ôl lansio'r cynllun gyda'r Prif Weinidog a Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fe wnaeth Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a'r Dirprwy Weinidog, gwrdd â nifer o bobl ifanc sy’n elwa ar y peilot yng Nghanolfan Fusnes Conwy yn gynharach heddiw (dydd Gwener, 28 Hydref) fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Rhai sy'n Gadael Gofal.

"Mae wedi bod yn wych clywed am sut mae'r cynllun peilot eisoes wedi effeithio ar fywydau’r rhai sy'n cymryd rhan ynddo," meddai.

"Ein huchelgais ar gyfer y cynllun yw y bydd yn caniatáu i'r bobl ifanc hyn wneud eu dewisiadau eu hunain, boed hynny'n golygu dewis lle maen nhw'n byw, pa swyddi y gallant ymgeisio amdanynt, p’un ai parhau i astudio neu benderfynu mynd a theithio'r byd. Ni ddylai dewisiadau bywyd plant sy'n derbyn gofal gael eu penderfynu gan amgylchiadau eu plentyndod.

"Mae'n galonogol clywed faint sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth i gymryd y camau cyntaf i gyflawni hyn ac mae'n eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd:

"Rydym eisiau iddynt gael annibyniaeth wrth fynd yn hŷn, a thrwy roi help llaw wrth iddynt ddechrau eu bywyd fel oedolyn gallwn wella eu siawns o wneud hynny.

"Drwy roi sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau mawr i gyrraedd eu potensial llawn, rydym yn rhoi'r offer iddynt eu goresgyn a ffynnu."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: "Mae wedi bod yn galonogol clywed gan y bobl ifanc yr effaith mae'r cynllun peilot wedi'i gael ar eu bywydau.

“Rydyn ni wedi dysgu llawer o gwrdd â nhw heddiw ac rydyn ni'n eu gwerthfawrogi nhw'n rhannu eu meddyliau gyda ni

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae llawer ohonynt wedi tyfu i fyny heb rwydwaith cymorth drwy eu blynyddoedd ffurfiannol.

"Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn, yn ogystal â'r cyngor a'r wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw drwyddo, yn rhoi'r hyder a'r sylfeini cryf iddyn nhw gyflawni eu breuddwydion."

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hefyd yn derbyn cyngor a chefnogaeth unigol i'w helpu i reoli eu cyllid a datblygu eu sgiliau ariannol a chyllidebu.

Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol wrth eu cefnogi drwy gydol y peilot. Bydd Voices from Care Cymru hefyd yn gweithio gyda'r bobl ifanc i roi cyngor iddynt ar les, addysg a chyflogaeth a'u helpu i gynllunio eu dyfodol ar ôl y peilot.

Roedd Emma Phipps-Magill o Voices from Care Cymru hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, a dywedodd:

"Rydym eisoes wedi gweld bod y peilot yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc sy'n gadael gofal wrth iddynt addasu i gael annibyniaeth ariannol.

"Rydym yn dal i fod yn nyddiau cynnar y peilot, ond maent wedi bachu ar y cyfle ac eisoes wedi gwneud cynnydd gyda llawer o'u nodau."