Neidio i'r prif gynnwy

Mae prif weithredwr GIG Cymru Andrew Goodall wedi rhybuddio bod her ddeublyg y pandemig COVID a feirysau anadlol eraill yn golygu mai hon fydd ‘un o’r gaeafau caletaf inni eu hwynebu’. Daeth ei rybudd wrth i Gynllun y Gaeaf Iechyd a Gofal Cymdeithasol GIG Cymru gael ei gyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan gydnabod yr heriau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, bydd £42m ychwanegol o gyllid ar gael i’r maes gofal cymdeithasol. Bydd peth o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i helpu i liniaru’r pwysau ar welyau ysbyty. Daw hyn ar ben y £248m a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer cronfa adfer COVID y GIG.

Defnyddir y buddsoddiad gofal cymdeithasol i wella’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty, ehangu gwasanaethau cymunedol a lleihau nifer y cleifion bregus ac agored i niwed sy’n cael eu derbyn yn ôl i’r ysbyty, mewn ymdrech i liniaru’r pwysau ar y gwelyau sydd ar gael.

Bydd Cynllun y Gaeaf yn helpu i sicrhau bod gofal mewn argyfwng yn gallu ymdopi, a lleihau unrhyw darfu ar ofal wedi’i gynllunio.

Cyn y daw pwysau’r gaeaf, dywedodd Andrew Goodall bod angen i wasanaethau fod yn barod i ymateb i amgylchiadau sy’n newid yn gyflym, yn ogystal â lleihau’r cyfnod o amser y bydd pobl sy’n cael gofal yn ei dreulio yn yr ysbyty, a’u cefnogi i ddychwelyd adref i barhau i wella.

Mae’r blaenoriaethau allweddol yng Nghynllun y Gaeaf yn cynnwys:

  • diogelu pobl rhag COVID-19 drwy’r rhaglen frechu
  • cadw pobl yn iach pan fydd lefelau uchel o’r ffliw a feirysau anadlol tymhorol yn lledaenu
  • cynnal cadernid y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • ymateb i effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl
  • sicrhau bod gan grwpiau agored i niwed fynediad at y driniaeth y maent ei hangen
  • cefnogi iechyd a llesiant staff sydd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y pandemig
  • gweithio gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i reoli’r pwysau ar draws y system

Daw hyn ar ôl misoedd o gynllunio a buddsoddiad sylweddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol i liniaru effeithiau’r pandemig.

Mae mwy na £248miliwn eisoes wedi’i fuddsoddi drwy gronfa adfer y GIG i helpu Byrddau Iechyd i fynd i’r afael ag amseroedd aros a thrawsnewid y modd y byddant yn darparu gwasanaethau.

Bydd llawer o’r cyllid yn helpu gwasanaethau yn ystod y gaeaf hwn, fel gwasanaethau cludo cleifion nad ydynt yn achosion brys, a fydd yn helpu i liniaru’r pwysau ar wasanaethau ambiwlans a sicrhau y gall cleifion gael mynediad at y gofal y maent ei angen.

Mae buddsoddiadau eraill ar draws Cymru’n cynnwys:

  • £14.4m ar gyfer gofal wedi’i gynllunio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • £8.2m ar gyfer endosgopi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • £2.5m ar gyfer endosgopi diagnostig ac £1.4m ar gyfer radioleg ddiagnostig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • £2.9m ar gyfer offthalmoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • £1.3m ar gyfer radioleg a £2m ar gyfer endosgopi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae cymorth i gleifion gydag anghenion clinigol brys, a chronfeydd adfer canolog ar gyfer canser, offthalmoleg a dermatoleg hefyd wedi’u sefydlu. Bydd hyn yn sicrhau y gellir canolbwyntio ar y meysydd allweddol hyn.

Mae £25miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i gefnogi trawsnewid gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng i roi’r gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Mae’r Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn dangos sut y gall gwasanaethau weithio mewn ffordd wahanol, gan alluogi i bobl gael mynediad at gyngor, asesiadau a gofal y tu allan i oriau, ac yn nes at y cartref. Bydd y ganolfan hon yn helpu i leihau’r pwysau ar adrannau argyfwng yn ystod y gaeaf.

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Andrew Goodall:

Gwyddom mai’r gaeaf hwn fydd un o’r cyfnodau caletaf inni eu hwynebu erioed, wrth inni wynebu her ddeublyg y pandemig a feirysau anadlol, ond bydd Cynllun y Gaeaf yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael bob amser.

Mae angen i’n gwasanaethau fod yn hyblyg ac yn gallu ymateb i’r rheini sydd angen gofal yn yr ysbyty pan fydd eu cyflwr yn gwaethygu, yn ogystal â darparu cymorth mor agos â phosibl at y cartref i leihau’r angen iddynt orfod mynd i’r ysbyty i gael gofal.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae’r gaeaf yn gyfnod heriol bob amser ac mae’r galw ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn fwy nag erioed yn ystod cyfnod y pandemig. Bydd ein Gwasanaeth Iechyd yn parhau i gynnig gwasanaethau hanfodol ac mae’n gwneud popeth posibl i sicrhau bod gofal wedi’i gynllunio’n parhau drwy gydol y cyfnod prysur hwn. Gall pawb chwarae eu rhan hefyd drwy gael eu brechlyn COVID a’u brechlyn ffliw a meddwl am y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael iddynt gael y gofal y maent ei angen.

Rwyf hefyd yn cyhoeddi £42m o gyllid gofal cymdeithasol heddiw. Mae’r pandemig wedi rhoi’r system gofal cymdeithasol dan bwysau aruthrol ac rydym yn credu y bydd buddsoddi mewn galluogi pobl i gael y gofal cywir adref yn atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, yn cyflymu rhyddhau cleifion o’r ysbyty ac yn rhyddhau gwelyau ysbyty angenrheidiol.

Gyda’r cynllun hwn a’r cyllid ychwanegol gallwn leihau’r tarfu ar ofal wedi’i gynllunio. Fodd bynnag, gyda’r pwysau ar y system nid wyf yn disgwyl y byddwn yn gwneud cynnydd gwirioneddol o ran amseroedd aros tan y gwanwyn.

Ond rwy’n benderfynol o fynd i’r afael â’r mater hwn ac rwy’n ymwybodol iawn ei bod wedi bod yn amser anodd iawn i bobl sydd wedi bod yn aros yn hir am driniaeth. Bydd y Byrddau Iechyd yn parhau i gefnogi’r rheini sy’n aros am driniaeth.