Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i dai y mae cymdeithasau tai a'r awdurdodau lleol yn eu perchen fod mewn cyflwr da fel rhan o'r safon ansawdd ar gyfer tai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i bob tŷ cymdeithasol gael ei adnewyddu a'i gadw mewn cyflwr da. Y cymdeithasau tai a'r awdurdodau lleol â thai cyngor sy'n gyfrifol am hynny.

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru oedd diwedd mis Rhagfyr 2020. Cafodd nifer bach o landlordiaid cymdeithasol estyniad hyd fis Rhagfyr 2021 yn sgil pandemig COVID-19. Rhaid i landlordiaid cymdeithasol gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru yn barhaus.

I fodloni'r safon, rhaid i dai:

  • fod mewn cyflwr da
  • bod yn saff ac yn ddiogel
  • cael eu gwresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd a bod wedi'u hinswleiddio'n dda
  • cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
  • bod wedi’u rheoli’n dda (o ran tai wedi’u rhentu)
  • bod wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
  • bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y rheini sy'n byw ynddynt, os yw hynny'n bosibl, er enghraifft pobl ag anableddau

Roedd ymgynghoriad ar gynigion i ddiweddaru Safon Ansawdd Tai Cymru ar agor o 11 Mai hyd 3 Awst 2022. Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Rydym yn gweinyddu dwy gronfa ariannol i helpu cymdeithasau dai ac awdurdodau lleol â thai cyngor:

  • lwfans atgyweiriadau mawr
  • cyllid llenwi bwlch gwaddol

Lwfans atgyweiriadau mawr

Rydym yn rhoi cyllid i 11 o awdurdodau lleol sy'n rheoli tai cyngor ac yn gofalu amdanynt.

Cyllid 2022 a 2023

  • Ynys Môn £2,688,000
  • Sir Ddinbych £2,373,000
  • Sir y Fflint £4,978,000
  • Wrecsam £7,524,000
  • Powys £3,723,000
  • Sir Benfro £3,997,000
  • Sir Gaerfyrddin £6,196,000
  • Bro Morgannwg £2,773,000
  • Caerdydd £9,568,000
  • Caerffili £7,296,000
  • Abertawe £9,283,000

Cyllid llenwi bwlch gwaddol

Rydym yn rhoi cyllid i 10 o gymdeithasau tai i'w helpu i wella eu tai. Cafodd y cymdeithasau tai hyn eu sefydlu pan drosglwyddwyd tai cyngor awdurdodau lleol iddynt.

Cyllid 2022 a 2023

  • Trivallis (Cartrefi RCT cyn hynny) £7,300,000
  • Cartrefi Dinas Casnewydd £6,500,000
  • Tai Tarian (Cartrefi NPT cyn hynny) £6,200,000
  • Tai Cymunedol Bron Afon £5,800,000
  • Tai Calon £4,200,000
  • Adra (Cartrefi Cymunedol Gwynedd cyn hynny) £4,100,000
  • Cartrefi Cymoedd Merthyr £2,900,000
  • Cartrefi Conwy £2,600,000
  • Cymdeithas Tai Sir Fynwy £2,600,000
  • Barcud £1,600,000