Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae pawb yn derbyn bod byw mewn cartrefi o ansawdd uchel o fudd i lesiant corfforol a meddyliol y rhai sy'n byw ynddynt.

Diben Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (SATC2023) yw gwella ansawdd cartrefi cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n ofynnol i bob cartref cymdeithasol yng Nghymru gyrraedd a chynnal y safon. 

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â landlordiaid cymdeithasol, wedi buddsoddi biliynau o bunnau er mwyn cynnal ansawdd cartrefi cymdeithasol ledled Cymru a'i wella'n sylweddol.

Bydd SATC2023 yn disodli Safon bresennol SATC.

Mae angen diweddaru'r Safon bresennol er mwyn adlewyrchu newidiadau i'r ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo am eu cartrefi, a dechrau datgarboneiddio stoc tai cymdeithasol Cymru ar raddfa.

Mae'r Safon yn cynnwys elfennau unigol, canllawiau ategol, enghreifftiau o arferion da a manylion gwaith asesu.

Mae rhannau o'r SATC bresennol yn parhau'n ddigyfnewid ond mae rhai elfennau wedi'u haddasu er mwyn adlewyrchu gofynion cyfreithiol wedi'u diweddaru. Mae rhai rhannau yn newydd, megis mwy o ofynion o ran lloriau, ac mae ystyriaeth o fioamrywiaeth a thlodi dŵr wedi'u cynnwys hefyd.

Roedd y SATC bresennol yn cynnwys gofynion o ran effeithlonrwydd ynni (cynhesrwydd fforddiadwy) ond mae'r rhain wedi'u cynyddu'n sylweddol er mwyn adlewyrchu uchelgeisiau o ran datgarboneiddio a lleihau biliau ynni i denantiaid.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau i wella safon tai cymdeithasol presennol ac mae SATC2023 yn safon heriol y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar bob landlord cymdeithasol yng Nghymru i'w chyrraedd.

Mae pennu safon sy'n feiddgar ac yn gyflawnadwy yn broses gymhleth iawn ac mae Llywodraeth Cymru bellach yn ceisio eich barn ar safon newydd arfaethedig SATC2023.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1: Mae'r diffiniad o dai cymdeithasol a ddefnyddir yn y Safon arfaethedig wedi'i ymestyn i gynnwys ystod ehangach o eiddo:

‘Mae'r Safon [SATC2023] yn gymwys i eiddo hunangynhwysol y mae awdurdodau tai lleol yn berchen arno ac yn ei reoli o dan Ran 4 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a reoleiddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys eiddo rhent canolradd ac eiddo y mae Awdurdodau Lleol yn berchen arno at ddibenion tai cymdeithasol nad yw mewn Cyfrif Refeniw Tai.’

Ydych chi'n cytuno â'r diffiniad hwn?

YDW, NAC YDW

os nad ydych, rhowch y rheswm pam a nodwch y mathau o eiddo y dylid eu cynnwys.

Cwestiwn 2: Mae'r ffaith bod gan unigolyn gartref o ansawdd uchel yn cael effaith gadarnhaol ar ei iechyd a'i lesiant. 

Ydych chi'n cytuno bod y Safon arfaethedig yn mynd yn ddigon pell i wella ansawdd cartrefi cymdeithasol yng Nghymru.

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa feysydd penodol y dylai'r safon ymdrin â nhw?

Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno bod y Safon arfaethedig yn ymdrin â'r holl feysydd allweddol y byddech yn disgwyl iddi ymdrin â nhw?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa feysydd penodol sydd ar goll?

Cwestiwn 4: Cynigir y dylai cartrefi cymdeithasol yng Nghymru gydymffurfio â'r Safon erbyn diwedd 2033. Ydych chi'n cytuno â'r amserlen hon?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, beth dylai'r dyddiad cydymffurfio fod?

Cwestiwn 5: Mae Atodiad 5 yn nodi'r dyddiadau erbyn pryd y dylid cyflawni pob elfen yn y Safon arfaethedig. 

A yw'r dyddiadau hyn yn rhesymol?

YDYN, NAC YDYN

Os nad ydynt, pa ddydiadau cydymffurfio penodol y byddech yn eu newid, i beth a pham?

Cwestiwn 6: Ydych chi'n cytuno bod y Safon arfaethedig yn gosod rhwymedigaethau digonol ar landlordiaid er mwyn sicrhau eu bod yn ymgysylltu â thenantiaid mewn ffordd ystyrlon ynglŷn â gwaith a gynlluniwyd ar eu cartrefi?

YDW, NAC YDW

Cwestiwn 7a: - landlordiaid cymdeithasol yn unig 

Fel arfer, mae safonau uwch yn golygu costau uwch. 

Fel landlord pa heriau ariannol penodol rydych yn eu rhagweld ar gyfer eich sefydliad eich hun o ran cydymffurfio â'r Safon arfaethedig?

Cwestiwn 7b: pawb arall

Pa heriau ariannol y gallech weld landlordiaid cymdeithasol yn eu hwynebu o ran cydymffurfio â'r Safon arfaethedig?

Cwestiwn 8: A yw'r Safon arfaethedig yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng bod yn feiddgar ac yn gyflawnadwy?

YDY, NAC YDY

Os nad ydy, esboniwch pam

Cwestiwn 9: Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol, beth y gellid ei ychwanegu at y safon arfaethedig er mwyn lliniaru tlodi ymhellach, yn eich barn chi?

Rhan 2 o'r Safon: Rhaid i gartrefi fod yn ddiogel

Cwestiwn 10: A ddylai unrhyw beth gael ei ychwanegu at y Safon arfaethedig er mwyn gwneud cartrefi yn fwy diogel?

DYLAI, NA DDYLAI

Os mai 'Dylai' oedd yr ateb, beth y dylid ei ychwanegu?

Rhan 3 o'r Safon: Rhaid i gartrefi fod yn fforddiadwy i'w gwresogi a chael yr effaith amgylcheddol leiaf bosibl.

Elfen 3a – Rhaid i systemau gwresogi fod yn rhesymol economaidd i'w rhedeg a gallu gwresogi'r cartref cyfan i lefel gyfforddus mewn tywydd arferol (SAP 92- EPC A o leiaf).

Cwestiwn 11: Ydych chi'n cytuno mai SAP/EPC yw'r mesur presennol gorau i asesu effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasol?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa fesur y byddech yn awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio a pham?

Cwestiwn 12: Os mai SAP/EPC yw'r mesur a ddefnyddir, ydych chi'n cytuno mai SAP 92/EPC A yw'r targed y dylid ei bennu ar gyfer cartrefi?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa darged y byddech yn awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio a pham?

Cwestiwn 13: Elfen 3b – Rhaid lleihau allyriadau carbon o gartrefi cymaint â phosibl (EIR 92 o leiaf). 

Ydych chi'n cytuno mai SAP/EIR yw'r mesur cywir, sydd ar gael ar hyn o bryd, i asesu allyriadau carbon o gartrefi?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa fesur y byddech yn awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio a pham?

Cwestiwn 14: Os mai SAP/EIR yw'r mesur a ddefnyddir, ydych chi'n cytuno mai EIR 92 yw'r targed y dylid ei bennu ar gyfer cartrefi?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa darged y byddech yn awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio a pham?

Cwestiwn 15: Er mwyn lleihau allyriadau carbon, dylai landlordiaid gynllunio i roi'r gorau i osod boeleri sy'n defnyddio tanwydd ffosil i ddarparu dŵr poeth domestig a chynhesu lle o 2026 ymlaen. Ydych chi'n cytuno â'r dyddiad hwn?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa ddyddiad y byddech yn ei awgrymu?

Cwestiwn 16: Elfen 3c – Rhaid i landlordiaid gynnal Asesiad o'u Stoc Gyfan a llunio Llwybrau Ynni Targed ar gyfer eu cartrefi. Mae'r Llwybrau Ynni Targed yn cyfeirio at gynllun i sicrhau bod pob cartref mor ynni-effeithlon â phosibl.

Ydych chi'n cytuno bod 3 blynedd yn ddigon o amser i ddatblygu'r llwybrau hyn ar gyfer pob cartref y mae'r Safon yn gymwys iddo?

YDW, NAC YDW.

Os nad ydych, beth fyddai'n ddigon o amser?

Cwestiwn 17: Elffen 3d – Rhaid rhoi'r holl fesurau a argymhellir drwy'r Llwybr Ynni Targed ar waith. 

Ydych chi'n cytuno mai hwn yw'r dull gweithredu cywir?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa ddull gweithredu y byddech yn ei awgrymu?

Cwestiwn 18: Ydych chi'n cytuno â'r dyddiadau yn yr enghraifft a nodir yn 3d?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, pa ddyddiadau amgen y byddech yn eu hawgrymu?

Cwestiwn 19: Mae'r Safon arfaethedig yn nodi y gellir lleihau allyriadau carbon o gartrefi drwy gydbwyso perfformiad cartref ag ôl troed carbon uchel â chartrefi mwy effeithlon. Felly, mae'r Safon arfaethedig yn mynnu Sero Net gan y stoc dai gyfan, yn hytrach na Sero Net ar gyfer eiddo unigol.

Ydych chi'n cytuno â'r dull hwn o sicrhau Sero Net ar gyfer y stoc tai cymdeithasol?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, beth fyddech yn ei awgrymu yn lle hynny?

Cwestiwn 20: Elfen 3f – Rhaid gosod mesurau i wella effeithlonrwydd dŵr a lleihau tlodi dŵr wrth adnewyddu ffitiadau a chyfarpar gosod.

A yw'r gofynion newydd o ran effeithlonrwydd dŵr sydd wedi'u cynnwys yn y Safon arfaethedig yn ddigonol?

YDYN, NAC YDYN

Os nad ydynt, pa opsiynau amgen y byddech yn eu hawgrymu?

Cwestiwn 21: Elfen 6b – Ar adeg newid tenantiaeth, dylai fod gan bob ystafell gyfanheddol (ystafelloedd gwely ac ystafelloedd byw), grisiau a landins yn y cartref orchuddion llawr addas.

Mae tenantiaid wedi dweud wrthym pa mor bwysig yw lloriau ym mhob rhan o'u cartref. 

Ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad i gynnwys y gofyniad newydd o ran lloriau ar adeg newid tenantiaeth?

YDW, NAC YDW

Os nad ydych, esboniwch sut y byddech yn mynd i'r afael â phryderon tenantiaid ynghylch lloriau.

Cwestiwn 22: Defnyddiwch yr adran hon i godi unrhyw beth arall ynghylch y Safon arfaethedig y dylid ei ystyried, yn eich barn chi, heblaw faterion cyllido.

Cwestiwn 23: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Pa effeithiau y byddai yn eu cael, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu'r effeithiau cadarnhaol a lliniaru'r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 24: Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi'n credu y gallai Safon arfaethedig SATC2023 gael ei llunio neu ei newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Cwestiwn 25: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  •  (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  •  (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/