Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn sicrhau bod gwybodaeth am gontractio Llywodraeth Cymru yn fwy agored, hygyrch ac ar gael i'w hailddefnyddio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

GwerthwchiGymru – Sut rydym yn hysbysebu ein contractau caffael

Mae GwerthwchiGymru yn wasanaeth ar-lein sy'n darparu ffordd syml i fusnesau ddod o hyd i gyfleoedd iddynt ddarparu nwyddau, gwaith neu wasanaethau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Data Agored a GwerthwchiGymru

Ein nod yw sicrhau bod gwybodaeth a data contractio ar GwerthwchiGymru ar gael yn agored i'w hailddefnyddio o dan Drwydded Llywodraeth Agored ac yn cadw at y Safon Data Contractio Agored (OCDS)

Beth yw'r Safon Data Contractio Agored (OCDS)?

Y tri chysyniad sy'n cefnogi'r OCDS yw:

Contractio Agored

Mae hyn yn ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth agored, hygyrch ac amserol, gyda'r nod o weithio gyda phartneriaid i helpu i ddatrys problemau, sicrhau canlyniadau a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd contractio gwasanaethau cyhoeddus.

Data Agored

Mae data a ryddhawyd o dan Drwydded Llywodraeth Agored ar gael i'w ailddefnyddio. Er mwyn ei gwneud yn bosibl ailddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, dylai gwybodaeth fod ar gael yn hawdd a chael ei chyflenwi mewn fformatau agored, gan gynnwys ar ffurf y gall peiriant ei ddarllen.

Safonau Data

Mae safon data yn sicrhau lefel o gysondeb mewn data, megis drwy fformatio tablau data neu drwy ddefnyddio termau cyffredin y cytunwyd arnynt i ddisgrifio data. Mae defnyddio safonau data yn helpu i ddatrys amwysedd ac yn galluogi systemau a defnyddwyr i ddehongli data'n well. Mae'r Safon Data Contractio Agored yn cael ei chynnal gan ddefnyddio Sgema JSON. Mae'r Sgema JSON diweddaraf i’r OCDS ar gael ar wefan y Bartneriaeth Contractio Agored.

Mae'r OCDS yn adeiladu ar y cysyniadau hyn, er mwyn llywio a chefnogi sefydliadau i ddarparu contractio gwirioneddol agored a'u galluogi i ddarparu data agored hygyrch, cyson a safonol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gontractio agored, cysylltwch â ni yn: ICTProcurement@llyw.cymru.