Safon rhenti a thaliadau gwasanaeth newydd i Gymru
Rydym eisiau eich barn ar ddatblygu polisi o’r newydd ar rent cymdeithasol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2025
Camau i’w cymryd: Ymatebion erbyn 12 Awst 2025
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am gynigion i atgyfnerthu polisi rhenti cymdeithasol Llywodraeth Cymru. I Gymru yn unig mae'r ymgynghoriad yn berthnasol.
Sut i ymateb
Gellir cyflwyno ymatebion yn y ffyrdd canlynol:
E-bost: HousingQualityStandards@llyw.cymru/HousingRegulation@llyw.cymru
Post:
Polisi Rhenti Cymdeithasol
Is-adran Cartrefi a Phobl
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Dylech ymateb i'r ymgynghoriad hwn erbyn 17.00 ddydd Gwener 12 Awst 2025. Wrth ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu a ydych yn cynrychioli barn sefydliad.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill ar gael ar gais.
Dogfen gysylltiedig: Safon rhenti a thaliadau gwasanaeth 2020 i 2025
Manylion Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth:
Is-adran Cartrefi a Phobl
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: HousingQualityStandards@llyw.cymru
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: A new rent and service charge standard for Wales | GOV.WALES
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Cyflwyniad
Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth 2020 – 2025 Llywodraeth Cymru (y ‘Safon Rhenti’) yw'r polisi sy'n gymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol (y cyfeirir atynt fel landlordiaid cymdeithasol) sy'n darparu cartrefi rhent cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r polisi hwn yn nodi'r fframwaith a'r paramedrau y gall landlordiaid cymdeithasol addasu'r rhenti cymdeithasol y maent yn eu codi ar eu tenantiaid oddi mewn iddynt. Mae'r polisi rhenti cymdeithasol yn gymwys i'r holl dai anghenion cyffredinol a gwarchod a ariennir drwy raglenni Llywodraeth Cymru neu a ddarperir o adnoddau landlordiaid cymdeithasol eu hunain.
Cytunwyd ar y Safon Rhenti bresennol yn 2019 gan symud i ffwrdd oddi wrth benderfyniadau blynyddol am renti i setliad rhent pum mlynedd, yn seiliedig ar fformiwla ar gyfer capio unrhyw gynnydd i renti cymdeithasol. Nod hyn oedd rhoi sicrwydd tymor hwy i landlordiaid cymdeithasol a'u tenantiaid ynghylch lefelau rhent. Mae'r Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth wedi rhoi fframwaith cyson i landlordiaid cymdeithasol bennu rhenti. Fodd bynnag, mae pwysau parhaus yr argyfwng costau byw, ochr yn ochr â heriau economaidd ehangach, wedi tynnu sylw at yr angen i roi mwy o bwyslais ar fforddiadwyedd yn ein polisïau, er mwyn diogelu tenantiaid rhag caledi ariannol a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor y ddarpariaeth tai cymdeithasol.
Cafodd y Safon Rhenti bresennol ei hestyn am flwyddyn arall er mwyn gweithio gyda rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector tai cymdeithasol, gan gynnwys tenantiaid a chynrychiolwyr tenantiaid, er mwyn dysgu o'u profiadau o gymhwyso'r Safon Rhenti. Drwy'r myfyrdodau hyn, bu modd inni ystyried a gwerthuso cyfleoedd posibl i wella ac atgyfnerthu ein polisi rhenti cymdeithasol ar gyfer y dyfodol.
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn benllanw ar waith cydweithio a gwaith dadansoddi polisi helaeth gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid a phartneriaid sy'n gweithio ac yn byw yn y sector tai cymdeithasol ledled Cymru. Mae eu hadborth a'u sylwadau wedi llywio'r cynigion polisi a nodir yma yn uniongyrchol. Rydym bellach yn ceisio barn am fanylion y cynigion hyn er mwyn sicrhau bod y fframwaith polisi terfynol yn pennu dull cadarn, tryloyw a chynaliadwy o gynyddu rhenti cymdeithasol yn y dyfodol.
Bydd eich adborth yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi rhenti cymdeithasol diwygiedig sy'n parhau i gydbwyso anghenion tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod polisïau yng Nghymru yn parhau i fod yn seiliedig ar egwyddorion tegwch, tryloywder a chyfiawnder cymdeithasol.
Cefndir a chyd-destun y gwaith
Y rheolau presennol ar gyfer pennu rhent
Mae'r Safon Rhenti yn rhoi'r gallu i gynyddu rhenti cymdeithasol ar sail chwyddiant yn y DU fel y'i mesurir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) Yn benodol, cyflwynodd uchafswm cynnydd blynyddol mewn rhent o MPD+1% yn seiliedig ar ffigur CPI mis Medi y flwyddyn flaenorol. Dyma'r cynnydd cyffredinol mwyaf y gall landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ei bennu dros eu stoc gyfan mewn unrhyw flwyddyn.
O fewn yr amlen rhenti hon (h.y. CPI+1%), landlordiaid sy'n gyfrifol am bennu eu rhentu a'u taliadau gwasanaeth eu hunain. Mae ganddynt yr hyblygrwydd o fewn eu stoc i rewi, gostwng neu gynyddu rhent tenant unigol £2 ychwanegol yr wythnos y tu hwnt i CPI+1% (gan eu galluogi i gynyddu rhent eiddo unigol hyd at CPI+1% ynghyd â £2.00 ychwanegol yr wythnos). Fodd bynnag, ni all y cynnydd yn eu hincwm rhenti cyffredinol o'u stoc dai fod yn fwy na CPI+1%.
Mae'r Safon Rhenti bresennol yn darparu pe bai cyfradd chwyddiant flynyddol y CPI ym mis Medi yn gostwng islaw 0% neu'n codi uwchlaw 3%, y gallai Gweinidogion Cymru adolygu a phennu'r uchafswm cynnydd mewn rhent ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Effaith anwadalrwydd economaidd
Ers cyhoeddi'r Safon Rhenti yn 2019, mae'r economi wedi wynebu sawl achos o darfu yn sgil digwyddiadau difrifol, gan gynnwys ymadael â'r UE, pandemig COVID-19, a'r rhyfel yn Wcráin. Mae'r digwyddiadau hyn wedi arwain at argyfwng costau byw hir a chynnydd parhaus mewn cyfraddau chwyddiant, a gododd i 11.1% ym mis Hydref 2022, sef y gyfradd uchaf mewn 41 mlynedd. O ganlyniad, cafodd tri o'r pum setliad rhent cymdeithasol blynyddol eu pennu gan Weinidogion. Fel y gwelir yn Siart 1 isod, ym mis Medi 2021 ac eto ym mis Medi 2023, cafodd y cap uchaf ar renti ei bennu ar lefel CPI mis Medi. Fodd bynnag, ym mis Medi 2022, pennwyd cap uchaf o 6.5% ar renti, a oedd islaw cyfradd chwyddiant y CPI.
Siart 1: Cyfraddau Chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MOD) a chapiau ar renti preifat rhwng 2019 a 2025
Ffynhonnell: https://cy.ons.gov.uk/economy/inflationandpriceindices/timeseries/d7g7/mm23
Mae penderfynu ar lefel briodol y cap uchaf ar renti a fydd yn gymwys ymhen chwe mis, o fis Ebrill y flwyddyn ganlynol, yn heriol tu hwnt. Mae Tabl 1 yn nodi'r CPI ym mis Medi, a lywiodd y cap uchaf ar renti a fyddai'n gymwys o'r mis Ebrill canlynol, ac yn dangos beth oedd y cynnydd yng nghyfradd chwyddiant y CPI erbyn mis Ebrill.
Tabl 1: Cyfraddau chwyddiant y CPI a chapiau ar renti yng Nghymru
| Blwyddyn galendr | *CPI ym mis Medi | *CPI yn y mis Ebrill canlynol | Cap ar renti ar gyfer y flwyddyn ganlynol yng Nghymru |
|---|---|---|---|
| 2019 | 1.7% | 0.8% | 2.7% |
| 2020 | 0.5% | 1.5% | 1.5% |
| 2021 | 3.1% | 9 % | 3.1% |
| 2022 | 10.1% | 8.7% | 6.5% |
| 2023 | 6.7% | 2.4% | 6.7% |
| 2024 | 1.7% | 3.5% | 2.7% |
*Ffynhonnell: https://cy.ons.gov.uk/economy/inflationandpriceindices/timeseries/d7g7/mm23
Mae Tabl 1 yn dangos y bydd y capiau ar renti yn ymddangos fel pe baent o fudd i denantiaid mewn rhai blynyddol, ac yn cael effaith well ar landlordiaid cymdeithasol mewn blynyddoedd eraill. Bydd pennu cap uchaf ar renti sy'n sylweddol uwch na chyfradd chwyddiant y CPI yn rhoi pwysau ar incwm tenantiaid (lle nad yw eu hincwm yn gysylltiedig â chwyddiant). Ar y llaw arall, gallai pennu cap uchaf ar renti sy'n sylweddol is na'r gyfradd chwyddiant olygu y bydd gan landlordiaid cymdeithasol lai o refeniw mewn termau real i gynnal a gwella eu stoc dai a darparu gwasanaethau tenantiaid. Wrth bennu'r cap uchaf ar renti, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys pwysigrwydd fforddiadwyedd i denantiaid yn ogystal â hyfywedd ariannol landlordiaid cymdeithasol.
Fforddiadwyedd, i denantiaid a landlordiaid cymdeithasol, sy'n llywio ein polisi rhenti cymdeithasol. Yn wir, ynghylch hyn y cafwyd y consensws cryfaf ymhlith rhanddeiliaid, a oedd o'r farn y dylai'r ffordd rydym yn pennu rhenti cymdeithasol ddangos yr hyn sy'n ein gwneud yn unigryw yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn glir – erys fforddiadwyedd yn rhan flaenllaw a chanolog o'n polisi rhenti cymdeithasol. Mae'r amlen rhenti, drwy ddarparu ar gyfer cap uchaf ar renti a gosod y paramedrau i Weinidogion ymyrryd os bydd chwyddiant blynyddol prisiau defnyddwyr yn gostwng neu'n cynyddu'n sylweddol, yn sicrhau hyn.
Fforddiadwyedd
Mae dadansoddiad o'r broses o roi'r Safon Rhenti ar waith ynghyd ag adborth gan landlordiaid cymdeithasol yn dangos bod fforddiadwyedd bellach wrth wraidd y ffordd y mae landlordiaid yn pennu rhenti. Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid wedi mabwysiadu egwyddorion y ‘Model Rhenti Byw’ i lywio fforddiadwyedd a phrosesau pennu rhenti. Mae'r model yn cysylltu rhenti a lefelau incwm lleol ac yn eirioli dros gapio rhenti ar oddeutu 28% o incwm aelwydydd. Er y gall dulliau penodol amrywio, mae mabwysiadu egwyddorion Rhenti Byw yn rhoi sylfaen gyson ar gyfer asesu fforddiadwyedd ledled Cymru.
Yn 2022, mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, ymrwymodd y sector i gydweithio i ddatblygu dull cyson o asesu fforddiadwyedd ym mhob rhan o'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwaith i feithrin dealltwriaeth well o'r ffordd y gellir nodi'r hyn sy'n gyffredin rhwng dulliau pennu rhenti landlordiaid cymdeithasol a choladu'r wybodaeth honno er mwyn llunio fframwaith strwythuredig i sicrhau fforddiadwyedd. Y nod o hyd yw sicrhau cysondeb gan roi hyblygrwydd i adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau lleol ar yr un pryd. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector a phartneriaid allweddol i ddatblygu'r gwaith hwn.
Fodd bynnag, cam uniongyrchol y cytunodd rhanddeiliaid y dylem ei gymryd oedd seilio ein polisi rhenti cymdeithasol ar gyfer y dyfodol ar ‘egwyddor’ neu ‘egwyddorion’ sy'n dangos ein hymrwymiad i sicrhau fforddiadwyedd yn y sector tai cymdeithasol.
Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwnaethom ystyried yr egwyddorion arweiniol sy'n crisialu'r cysyniad o fforddiadwyedd. Gwelsom fod cyfres o egwyddorion sefydledig eisoes yn llywio dulliau landlordiaid cymdeithasol o bennu rhenti ar gyfer eu tenantiaid. Roedd y rhain yn amrywio o syml, tryloyw, teg ac atebol, i cynaliadwy, hirdymor a fforddiadwy. Rydym yn cytuno â'r adborth gan randdeiliaid y bydd yr egwyddorion fforddiadwyedd penodol a fabwysiedir gan landlordiaid cymdeithasol unigol yn adlewyrchu diwylliant ac ethos eu sefydliad.
Felly, rydym yn cynnig y dylai polisi rhenti cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol gael ei seilio'n glir ar yr egwyddor bod fforddiadwyedd yn gofyn am gydbwyso anghenion landlordiaid cymdeithasol a'u tenantiaid, gan sicrhau bod rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy i denantiaid presennol a rhai newydd ac yn galluogi landlordiaid cymdeithasol i ddiwallu anghenion tai tenantiaid.
Rydym yn ceisio adborth i benderfynu a ddylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r egwyddor hon, sydd wedi'i llywio gan sylwadau rhanddeiliaid, i ategu'r ymrwymiad i roi'r un ystyriaeth i anghenion landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid ac, ar yr un pryd, roi llwyfan priodol i landlordiaid cymdeithasol gysoni eu hegwyddorion fforddiadwyedd unigol presennol ag ef.
Taliadau gwasanaeth
Mae'r cynnydd mewn chwyddiant a'r argyfwng ynni wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn taliadau gwasanaeth, gan arwain at alwadau gan denantiaid am i daliadau gwasanaeth gael eu capio. Yn y gorffennol, bydd landlordiaid cymdeithasol wedi ceisio amsugno rhywfaint o'r costau hyn. Fodd bynnag, yn yr hinsawdd sydd ohoni, gyda llai o elw gweithredu a mwy o wariant ar waith cynnal a chadw, staffio a gwasanaethau hanfodol eraill, gan gynnwys yr angen i gydymffurfio â gofynion statudol newydd, e.e. mesurau diogelwch tân ychwanegol, mae landlordiaid cymdeithasol yn trosglwyddo mwy o gostau i denantiaid.
Bydd lefel y taliadau gwasanaeth a godir yn dibynnu ar amrywiaeth o ystyriaethau gwahanol, gan gynnwys, er enghraifft, costau lleol, argaeledd gwasanaethau a ffactorau eraill yn ymwneud ag eiddo unigol. Nid yw'n bosibl nac yn briodol i Lywodraeth Cymru ragnodi ar ba lefel y dylai landlordiaid cymdeithasol bennu taliadau gwasanaeth. Fodd bynnag, ar ôl gwrando ar denantiaid a landlordiaid cymdeithasol â threfniadau gwahanol ar gyfer codi taliadau gwasanaeth, rydym o'r farn bod angen atgyfnerthu'r canllawiau presennol. Bydd hyn yn ceisio rhoi mwy o eglurder ynghylch disgwyliadau, er mwyn rhoi sicrwydd i denantiaid bod landlordiaid wedi cymryd camau digonol i sicrhau bod unrhyw daliadau gwasanaeth a godir yn rhesymol ac yn cynnig gwerth am arian.
Gan fod y dirwedd bresennol sy'n rheoli taliadau gwasanaeth yn seiliedig ar amrywiaeth o fframweithiau cyfreithiol, rheoleiddiol a pholisi gwahanol, bydd atgyfnerthu'r canllawiau yn dasg heriol. Mae p'un a yw landlordiaid cymdeithasol yn codi taliadau gwasanaeth ‘sefydlog’ neu ‘newidiol’’ yn cymhlethu pethau ymhellach. Taliadau gwasanaeth ‘sefydlog’ yw'r rheini lle nad yw'r swm a godir yn newid. Mae taliadau gwasanaeth ‘newidiol’’ yn cyfeirio at y taliadau hynny lle mae landlordiaid yn amcangyfrif costau ymlaen llaw ond yn gwneud addasiadau cyfnodol i adlewyrchu costau gwirioneddol sy'n deillio o daliadau newidiol.
At hynny, bydd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 Llywodraeth y DU, pan gaiff ei rhoi ar waith, yn cyflwyno newidiadau sylweddol sydd â'r nod o roi mwy o hawliau i lesddeiliaid, gwella tryloywder, a diwygio arferion codi taliadau gwasanaeth. Yn y cyfamser, bydd rheoliadau'r rhwydwaith gwres, y disgwylir iddynt gael eu gorfodi'n llawn erbyn mis Ionawr 2027, yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol sy'n gweithredu rhwydweithiau gwres gydymffurfio â safonau diogelu defnyddwyr newydd, rheolau ar dryloywder prisiau, a threfniadau goruchwylio rheoleiddiol Ofgem. Mae'r datblygiadau hyn yn cyflwyno cymhlethdod ychwanegol y bydd angen ymdrin ag ef yn ofalus er mwyn deall sut y bydd cyfrifoldebau newydd a gofynion newydd o ran cydymffurfiaeth yn rhyngweithio â'r polisi a'r arferion presennol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r sector tai cymdeithasol i sicrhau mwy o dryloywder a chysondeb wrth i ofynion statudol a rheoliadol newydd ddod i rym. Yn y cyfamser, rydym yn cynnig atgyfnerthu'r canllawiau presennol yn y Safon Rhenti drwy egluro bod disgwyl i landlordiaid cymdeithasol wneud y canlynol:
- Sicrhau bod taliadau gwasanaeth yn parhau fod yn rhesymol ac yn fforddiadwy drwy eu cynnwys yn eu modelau fforddiadwyedd.
- Adolygu taliadau gwasanaeth yn flynyddol er mwyn ceisio nodi arbedion effeithlonrwydd, cynnig gwerth am arian a sicrhau bod taliadau gwasanaeth yn parhau i fod yn rhesymol ac yn fforddiadwy.
- Rhoi rhybudd digonol i denantiaid am unrhyw newidiadau i daliadau gwasanaeth. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd y cyfnod rhybudd yn dibynnu ar y trefniadau ar gyfer codi taliadau gwasanaeth a ffactorau contractiol eraill, ond dylai landlordiaid cymdeithasol geisio rhoi mis o rybudd am newidiadau o leiaf.
- Rhoi gwybodaeth glir a thryloyw i denantiaid am eu taliadau gwasanaeth (ar wahân i'w rhent), gan gynnwys dadansoddiadau manwl o gostau.
- Ymgynghori â thenantiaid ar safonau gwasanaeth, gan ddiffinio disgwyliadau'n glir a bod yn atebol am ansawdd gwasanaethau.
- Datblygu dulliau cyfathrebu cyson i sicrhau bod gwybodaeth am daliadau gwasanaeth yn glir ac yn hygyrch. Dylai hyn gynnwys cynghori tenantiaid ar ble a sut i gael gwybodaeth ychwanegol am daliadau gwasanaeth.
- Dylid cyfeirio at systemau cymorth wrth gyfathrebu â thenantiaid, er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn gallu uwchgyfeirio pryderon drwy brosesau cwyno mewnol ac, os oes angen, uwchgyfeirio pryderon at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Lluniwyd y cynigion uchod drwy wrando ar brofiadau uniongyrchol tenantiaid a chawsant eu datblygu ar y cyd â landlordiaid cymdeithasol. Rydym yn awyddus i wybod a yw'r cynigion a restrir uchod, gyda'i gilydd, yn helpu i atgyfnerthu'r canllawiau presennol ar daliadau gwasanaeth drwy sicrhau mwy o dryloywder, tegwch ac atebolrwydd wrth reoli taliadau gwasanaeth.
Yr amlen rhenti
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod landlordiaid cymdeithasol yn bartneriaid allweddol wrth gyflawni amcanion polisi a rennir—gan ddiwallu'r angen am dai, atal digartrefedd, datgarboneiddio tai cymdeithasol, a chefnogi llesiant tenantiaid. Mae'r amlen rhenti—y cynnydd mwyaf a ganiateir mewn rhenti mewn unrhyw flwyddyn benodol—wrth wraidd eu gallu i ariannu'r ymdrechion hyn.
Rhent yw prif ffynhonnell incwm landlordiaid cymdeithasol, sy'n effeithio ar eu gallu i fodloni disgwyliadau tenantiaid drwy ddarparu gwasanaethau craidd fel gwaith atgyweirio a chynnal a chadw rheolaidd mewn modd amserol. Mae gallu landlordiaid cymdeithasol i gynhyrchu ffrwd incwm dibynadwy hefyd yn bwysig o ran denu buddsoddiad ychwanegol. Mae cyllid ychwanegol yn galluogi landlordiaid cymdeithasol i sicrhau'r buddsoddiad mwyaf posibl i adeiladu rhagor o gartrefi newydd i ateb y galw am dai ac ôl-osod eiddo sy'n bodoli eisoes, gan eu gwneud yn fwy fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni i denantiaid. Mae benthycwyr yn ystyried rhagolygon ariannol hirdymor landlord cymdeithasol wrth wneud penderfyniadau am gyllid a buddsoddi.
Mae anwadalrwydd economaidd diweddar ynghyd ag amrywiadau mewn cyfraddau chwyddiant a chyfraddau llog uchel wedi arwain at gostau benthyca uwch, sy'n ei gwneud yn ddrutach i landlordiaid cymdeithasol ariannu datblygiadau newydd a buddsoddi mewn gwaith i wella'r stoc bresennol. Mae setliadau rhent blynyddol, y tu hwnt i'r amlen rhenti CPI+1%, wedi cyfyngu gallu landlordiaid i adennill costau cynyddol gwaith adeiladu, llafur ac ynni. Mae hyn wedi arwain at alwadau gan randdeiliaid i adolygu a yw'r fformiwla CPI+1% yn dal i fod yn briodol ar gyfer pennu rhenti, yn enwedig o ystyried pwysau chwyddiant a fesurir gan fynegeion gwahanol.
Mae landlordiaid cymdeithasol weithiau yn cyfeirio at y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) i ddangos y bwlch rhwng eu costau gweithredu uwch a'r uchafswm incwm y caniateir iddynt ei gynhyrchu o renti (a bennir drwy'r CPI). Mae'r RPI yn uwch na'r CPI, ac er mai dyma'r prif fesur chwyddiant ar un adeg, mae awdurdodau ystadegol wedi barnu ei fod yn fesur diffygiol ac nad yw'n feincnod swyddogol ar gyfer chwyddiant mwyach.
Mae'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn cynnwys Tai (CPIH) yn cynnwys costau tai perchen-feddianwyr fel taliadau llog morgeisi. Y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yw'r mesur chwyddiant safonol a ddefnyddir ym mholisi a phrosesau pennu rhenti'r llywodraeth. Nid yw'n cynnwys costau tai ond dyma'r dangosydd chwyddiant mwyaf cyson ac a dderbynnir yn fwyaf cyffredinol o hyd.
Siart 2: Cymharu'r CPI, CPIH a CPI+1%
Fel y gwelir yn Siart 2, mae'r CPIH yn debyg i'r CPI. Credwn fod yr amlen rhenti CPI+1% yn parhau i gynnig dull cyson, gan sicrhau bod rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy a'u bod yn galluogi landlordiaid cymdeithasol i adennill costau a chynnal gwasanaethau hanfodol ar yr un pryd. Mae'r fformiwla hon yn galluogi tenantiaid i ragweld costau, gan fod y CPI yn cael ei ddefnyddio'n gyson ar gyfer polisi'r llywodraeth, gan gynnwys gwaith cynllunio economaidd, cynyddu budd-daliadau nawdd cymdeithasol a rheoleiddio ariannol, gan ddiogelu tenantiaid rhag effaith anghymesur cynnydd sydyn ar sail chwyddiant.
Yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, rydym yn cynnig y dylid cadw'r amlen rhenti ar yr un gyfradd, sef CPI+1%. Mae hyn yn dilyn adolygiad trylwyr o rinweddau mynegeion gwahanol ac yn adlewyrchu rhagolygon economaidd tymor hwy ar gyfer chwyddiant gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr, sy'n awgrymu y bydd chwyddiant yn cynyddu i 3.7% yn 2025 cyn disgyn yn ôl i gyfradd darged Banc Lloegr, sef 2%.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrwydd hirdymor i landlordiaid cymdeithasol a'r goblygiadau o ran cynllunio busnes, rhaglenni cyfalaf a denu cyllid ychwanegol i fodloni amcanion tai. Gwnaethom drafod hyn, ynghyd â goblygiadau setliadau rhent blynyddol, yn helaeth â rhanddeiliaid. Y farn ar y pryd oedd na fyddai polisi rhenti cymdeithasol fyddai’n para llai na phum mlynedd yn rhoi’r sicrwydd a’r sefydlogrwydd y byddai eu hangen. Ond teimlwyd gan rai y byddai polisi 10 mlynedd yn rhy hir. Yn lle hynny, pwysleisiodd y rhanddeiliaid bod angen ‘hyblygrwydd’ a'r ‘gallu i addasu’. Fel ymateb i hynny, rydym yn cynnig gofyn i randdeiliaid beth fyddai’n well ganddynt, ai polisi rhent cymdeithasol sy’n para pum neu 10 mlynedd. Rydym hefyd yn cynnig y dylai’r setliad rhent fod yn gymwys i renti sy’n cael eu cynyddu o 1 Ebrill 2026, gan gynnal yr amlen rhenti ar gyfradd o CPI+1%.
Gwnaethon ni drafod â rhanddeiliaid hefyd a oes rhinwedd - yng ngoleuni’r tri setliad rhent blynyddol a gafwyd y tu allan i’r amlen rhenti rhwng 2021 a 2023 - i newid y paramedrau sy'n sbarduno ymyrraeth gan Weinidogion wrth bennu rhenti, hynny er mwyn rhoi mwy o sicrwydd. Ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Cymru yn ymyrryd i bennu'r cap uchaf ar renti pan fydd y CPI yn disgyn y tu hwnt i'r ystod o 0% i 3%. Cytunodd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid bod y trothwy uchaf sy’n sbarduno ymyrraeth Gweinidog yn briodol. Fodd bynnag, roedd rhai’n amheus a fyddai caniatáu i’r CPI gwympo i 0% - cyn cynnal unrhyw asesiad o hyfywedd ariannol a fforddiadwyedd – yn briodol o gofio’r rôl hanfodol y mae landlordiaid cymdeithasol yn ei chwarae wrth gyflawni uchelgeisiau polisi a rennir. Er na chafwyd ateb clir na chonsensws, cafwyd cydnabyddiaeth y gallai ymyrraeth gynnar – pan fydd setliad rhent yn is na’r disgwyl – helpu i asesu ei effaith ar gyflawni amcanion tai ac y gallai fod yn fuddiol.
Mae risgiau i newid y dull presennol o bennu rhenti mewn ffordd mor radical. Er na fydd risgiau o'r fath yn cael fawr ddim effaith mewn cyfnodau sefydlog, gallent darfu mwy yn dilyn cyfnod o anwadalrwydd economaidd. Felly, mae cynnal rhywfaint o gysondeb yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau sefydlogrwydd yn y system pennu rhenti, a fyddai'n cefnogi adferiad pwyllog. Fodd bynnag, byddem yn croesawu barn am y cynigion a amlinellir yma, gan gynnwys sut y gallem geisio cynnwys mesurau diogelu a/neu fwy o hyblygrwydd er mwyn helpu i ymateb i anwadalrwydd economaidd a chynnydd sydyn ar sail chwyddiant yn y dyfodol yn fwy effeithiol.
Mae landlordiaid cymdeithasol wedi nodi bod y ddibyniaeth ar CPI mis Medi, a gyhoeddir yng nghanol mis Hydref, i bennu cynnydd mewn rhenti ar gyfer y mis Ebrill canlynol yn broblematig—yn enwedig pan fydd angen i Weinidogion ymyrryd i bennu setliad rhent blynyddol. Mae'r ffenestr ar gyfer cynnal y gweithgareddau angenrheidiol i lywio a chadarnhau'r cynnydd mewn rhenti, gan sicrhau bod tenantiaid yn cael y rhybudd gofynnol, yn dynn iawn, gan olygu nad oes fawr ddim lle i hapddigwyddiadau.
Yn dilyn gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymchwiliad i'r mater hwn, credwn fod rhesymau dilys dros gadw'r cysylltiad â CPI mis Medi. Mae'n sicrhau bod modd cynnwys y data diweddaraf ar chwyddiant mewn gwaith cynllunio busnes sefydliadol, penderfyniadau ariannol y llywodraeth, a chylchoedd cyllidebol mewn pryd ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol newydd. Felly, mae CPI mis Medi yn cynrychioli'r data diweddaraf ar chwyddiant y gellir eu defnyddio i bennu rhenti, gan roi digon o amser i roi'r cynnydd mewn rhenti ar waith erbyn y mis Ebrill canlynol. At hynny, mae Llywodraeth y DU yn defnyddio CPI mis Medi i gynyddu pensiynau a budd-daliadau sydd hefyd yn ystyried gwaith cynllunio busnes, gan olygu ei fod yn bwynt cyfeirio sefydlog yn dilyn unrhyw amrywiadau dros fisoedd yr haf, a all fod yn fwy anwadal o ganlyniad i batrymau gwario tymhorol.
Fodd bynnag, mewn ymateb i bryderon rhanddeiliaid, rydym yn ceisio barn am yr opsiwn i ddefnyddio alldro CPI y mis Ebrill blaenorol fel pwynt cyfeirio arall ar gyfer cyfrifiadau cynnydd mewn rhenti. Byddai hyn yn golygu y byddai'r CPI ym mis Ebrill 2025 (a gyhoeddwyd ym mis Mai, sef 3.5%) yn llywio'r cap uchaf ar renti a fyddai'n gymwys o fis Medi 2026. Byddai'r opsiwn yn hwn yn cysoni'r broses o bennu rhenti yn agosach â'r flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, gall y CPI amrywio o fis i fis, sy'n golygu y byddai angen i landlordiaid cymdeithasol gydbwyso mantais mwy o amser i bennu rhenti a chynllunio busnes â'r risg bosibl o golli gwerth chwe mis o gynnydd mewn chwyddiant o ganlyniad i'r oedi wrth gofnodi newidiadau mwy diweddar mewn prisiau.
Ar hyn o bryd, mae gan landlordiaid cymdeithasol hyblygrwydd i bennu rhenti ar draws eu stoc dai o fewn yr amlen rhenti. Mae hyn yn golygu, er na all eu hincwm rhenti cyffredinol fod yn fwy na CPI+1%, nad oes rhaid iddynt gynyddu rhenti ar y gyfradd uchaf a ganiateir. Rhoddir hyblygrwydd ychwanegol hefyd drwy alluogi landlordiaid i rewi, gostwng neu gynyddu rhent tenant unigol hyd at £2 ychwanegol bob wythnos uwchlaw CPI+1%, ar yr amod nad yw eu hincwm rhenti cyffredinol o'u stoc dai yn cynyddu uwchlaw CPI+1%. Mae'r hyblygrwydd hwn wedi'i ddefnyddio'n eang i fynd i'r afael â heriau o ran fforddiadwyedd, gan alluogi landlordiaid i ostwng rhenti ar gyfer eiddo un ystafell wely a chynyddu rhenti ychydig ar gyfer cartrefi mwy er mwyn cynnal lefelau incwm cyffredinol. Mae hyn hefyd wedi helpu landlordiaid â rhenti isel hanesyddol i symud tuag at gydgyfeirio, gan gysoni eu taliadau â landlordiaid cymdeithasol eraill yn yr un ardal er mwyn sicrhau rhenti cydradd a mwy o degwch i denantiaid.
Er mwyn cefnogi gwaith ailstrwythuro rhenti parhaus i fodloni amcanion fforddiadwyedd, rydym yn cynnig cynnal yr hyblygrwydd hwn ac addasu'r cap o £2 a bennwyd yn 2019 ar gyfer chwyddiant, gan ei gynyddu i £2.55 yr wythnos. Fodd bynnag, cyn cymhwyso'r cynnydd hwn ar ben CPI+1%, rhaid i landlordiaid cymdeithasol sicrhau bod cyfanswm y cynnydd mewn rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy i denantiaid.
Datblygwyd y pecyn o ddiwygiadau a gynigir yma mewn perthynas â'r amlen rhenti ar sail adborth uniongyrchol gan randdeiliaid. Rydym yn awyddus i glywed a yw'r cynigion hyn yn cyd-fynd â'n hegwyddor sylfaenol sy'n ymrwymo i gydbwyso fforddiadwyedd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid, a cheisio bodloni'r amcan i gynnig sicrwydd a sefydlogrwydd tymor hwy.
Bandiau rhent targed
Cyflwynwyd bandiau rhent targed dros ddegawd yn ôl er mwyn mynd i'r afael ag anwadalrwydd rhenti ledled Cymru, gan gynnwys amrywiadau yn yr un ardal ddaearyddol. Y prif nod oedd hyrwyddo tegwch drwy annog landlordiaid cymdeithasol i bennu rhentu o fewn bandiau dynodedig, gan sicrhau tegwch i denantiaid.
Yn ôl gwaith dadansoddi yn seiliedig ar ddata cyfartalog bandiau rhent targed dros eu cyfnod gweithredol, cafodd rhenti cymdeithasol ledled Cymru eu huno'n llwyddiannus gan sicrhau nad oedd yr un landlord cymdeithasol yn codi rhentu uwchlaw'r trothwy uchaf (yn seiliedig ar ddadansoddiad 209 ar gyfer 2020). Yn hyn o beth, mae'r bandiau rhent targed wedi cyflawni eu diben bwriadedig i raddau helaeth.
Fodd bynnag, cafodd pandemig COVID-19 effaith fawr ar brosesau casglu data arferol, gan arwain at y penderfyniad i atal bandiau rhent targed wrth bennu rhenti yn ystod 2021-22. Yn dilyn trafodaethau â rhanddeiliaid, mae'n amlwg mai'r amlen rhenti (CPI+1%) yw'r prif ddull o sicrhau rhenti teg a fforddiadwy erbyn hyn. At hynny, mae landlordiaid cymdeithasol wedi sefydlu eu systemau eu hunain gan ymgorffori amrywiaeth eang o ffynonellau data—gan gynnwys costau rhenti preifat a chyfraddau lwfans tai lleol—i lywio penderfyniadau am bennu rhenti a modelau fforddiadwyedd.
Byddem yn croesawu barn am ein safbwynt y byddai ailgyflwyno'r polisi bandiau rhent targed a gorfodi cydymffurfiaeth a thablau data Llywodraeth Cymru ar fandiau rhent targed yn cyflwyno cymhlethdod diangen ac yn lleihau tryloywder wrth bennu rhenti cymdeithasol. Mae hefyd yn dal i fod yn anghyson â galwadau rhanddeiliaid am hyblygrwydd, yn enwedig o ystyried arbenigedd y sector wrth gynnal asesiadau cynhwysfawr o fforddiadwyedd.
Darpariaethau eraill
Mae'r Safon Rhenti bresennol yn gymwys i'r holl dai anghenion cyffredinol a gwarchod a ariennir drwy raglenni Llywodraeth Cymru neu a ddarperir o adnoddau landlordiaid cymdeithasol eu hunain. Mae Atodiad A i'r Safon Rhenti bresennol yn rhestri eiddo sydd wedi’u heithrio o’r Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth. Rydym wedi adolygu'r rhestr hon ar y cyd â rhanddeiliaid ac yn cynnig cynnal yr eithriadau rhag y polisi rhenti cymdeithasol a restrir ar hyn o bryd.
Problem arall a godwyd yn ystod y broses ymgysylltu oedd y ffaith bod 53 wythnos dalu mewn blwyddyn o bryd i'w gilydd. Mae hyn yn digwydd bob pum i chwe blynedd ac, yn fwyaf diweddar, effeithiodd hyn ar flwyddyn rhenti 2024-25. Mae hyn yn debygol o ddod yn fwy o broblem wrth gyflwyno credyd cynhwysol ac mae'n cyflwyno heriau i denantiaid o ran fforddiadwyedd. Y rheswm dros hyn yw bod credyd cynhwysol yn cael ei gyfrifo'n fisol ar sail blwyddyn 52 wythnos, gan olygu bod tenantiaid sy'n talu rhent bob wythnos yn atebol i dalu wythnos ychwanegol o rent—o bosibl heb daliadau budd-daliadau ychwanegol i ariannu'r gost.
Mae taliadau credyd cynhwysol yn fater a gadwyd yn ôl, a dywed yr Adran Gwaith a Phensiynau y gall landlordiaid liniaru'r broblem drwy godi rhent yn fisol. Ateb arall gan Lywodraeth y DU yw y gall landlordiaid cymdeithasol drosi rhenti wythnosol yn daliadau misol drwy luosi rhenti wythnosol â 52.18 a'u rhannu â 12 i gyfrifo'r tâl misol. Cynghorir landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i ddilyn y dull hwn, neu ddatrys y broblem o 52 wythnos dalu drwy arferion cyfrifo dyddiol.
Cartrefi gwell
Bydd angen buddsoddi mewn gwelliannau i dai cymdeithasol sy'n bodoli eisoes er mwyn bodloni gofynion datgarboneiddio a gwella effeithlonrwydd ynni i denantiaid. Mae cryn drafod yn y sector ynghylch sut y gellid ariannu gofynion o'r fath ac a allai model rhenti cynnes chwarae rôl.
Mae ‘rhenti cynnes’ fel arfer yn cyfeirio at y model rhenti lle y caiff rhenti uwch eu codi ar denantiaid lle mae effeithlonrwydd ynni wedi arwain at filiau cyfleustodau is ar gyfer y cartref. Mae'n seiliedig ar yr egwyddor na fyddai tenantiaid yn gweld unrhyw gynnydd yn eu costau byw ac y byddai landlordiaid yn gallu sicrhau'r elw mwyaf posibl i ailfuddsoddi mewn gwaith i wneud mwy o gartrefi yn effeithlon o ran ynni. Fodd bynnag, mae'r model hwn wedi'i gyfyngu gan newidiadau diffiniol mewn biliau sy'n anodd eu rhagweld mewn marchnad ynni sy'n newid yn barhaus.
Mae effaith buddsoddiad landlordiaid mewn technoleg carbon isel ar renti yn ansicr ar hyn o bryd ac mae angen rhagor o waith i bennu a phrofi sut y gallai model weithio yn y dyfodol. Felly, rydym yn cynnig y dylid dechrau gwaith archwiliadol gyda rhanddeiliaid, ochr yn ochr â'r safon rhenti, ar sut y gellid cynnwys darpariaeth ‘rhenti cynnes’ yn ein polisi rhenti cymdeithasol ehangach yn y dyfodol. Byddai'n rhaid i ddarpariaeth o'r fath fodloni meini prawf llym er mwyn sicrhau bod rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy.
Cynyddu cyfranogiad tenantiaid
Ar hyn o bryd, mae landlordiaid cymdeithasol yn cynnal arolwg boddhad tenantiaid safonol, y caiff ei ganlyniadau ei gyhoeddi. Mae tystiolaeth o'r arolygon hyn ac arolygon landlordiaid eu hunain o denantiaid yn dangos efallai nad yw tenantiaid yn cael gwybodaeth hygyrch sy'n esbonio sut y caiff eu rhent ei ddefnyddio i gynnal a chadw cartrefi sy'n bodoli eisoes a'u gwella.
Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hefyd yn cyflwyno ffurflenni data chwarterol mewn perthynas ag agweddau allweddol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, e.e. cydymffurfiaeth â gofynion o ran diogelwch tenantiaid, ôl-ddyledion rhent, eiddo gwag ac achosion o droi pobl allan. Rydym yn cynnig gweithio gyda'r sector i sicrhau mwy o gysondeb a thryloywder o ran yr hyn a gesglir ac a gyhoeddir er mwyn cefnogi gwelliant parhaus a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth tenantiaid o'r gwaith yn y sector.
Mae'r setliadau rhent ehangach wedi ein galluogi i egluro ble a sut mae landlordiaid cymdeithasol yn cymryd camau i fodloni amcanion polisi a rennir. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys cefnogi gwaith i olrhain digartrefedd a bodloni gofynion o ran ansawdd a safonau tai, ymhlith pethau eraill.
Caiff ein 'mentrau y cytunwyd arnynt ar y cyd' eu hadolygu a'u diweddaru er mwyn gwella'r ffordd rydym yn casglu ac yn adlewyrchu'r gwaith pwysig a gwerthfawr y mae landlordiaid yn ei wneud i gefnogi cydlyniant cymunedol, cynhwysiant a llesiant tenantiaid. Bydd hyn yn egluro'r disgwyliadau ar landlordiaid i hyrwyddo hawliau tenantiaid yn ogystal ag esbonio cyfrifoldebau tenantiaid.
Drwy ein holl waith ymgysylltu, mae rhanddeiliaid—landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid—wedi galw am i fwy o wybodaeth gael ei rhannu a'i chyhoeddi. Mae'r Safon Rhenti bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gyflwyno ffurflen hunanardystio flynyddol erbyn 28 Chwefror, i ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Safon Rhenti. Rydym yn cynnig gweithio gyda rhanddeiliaid a mynd ar drywydd y ceisiadau hyn, drwy ailddylunio'r ffurflen hunanardystio flynyddol a'r gwaith pellach a amlinellir uchod. Er mwyn llywio ein trafodaethau parhaus a gwaith pellach yn y maes hwn, rydym yn ceisio eich barn am ba wybodaeth ychwanegol yr hoffech inni ei chasglu a'i chyhoeddi.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Nodwch a ydych yn ymateb fel aelod unigol o'r cyhoedd neu ar ran sefydliad.
Cwestiwn 2
Cred Llywodraeth Cymru fod yr egwyddor bod fforddiadwyedd yn gofyn am gydbwyso anghenion landlordiaid cymdeithasol a'u tenantiaid, gan sicrhau bod rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy i denantiaid presennol a rhai newydd ac yn galluogi landlordiaid cymdeithasol i ddiwallu anghenion tai tenantiaid yn ymgorffori ein hymrwymiad i sicrhau fforddiadwyedd, ac y dylai fod yn sail i'n dull o bennu rhenti yng Nghymru.
A ydych yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r egwyddor hon?
(Ydw/Nac ydw/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 3
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r sector tai cymdeithasol i sicrhau bod taliadau gwasanaeth yn fwy tryloyw a chyson, ond mae wedi amlinellu cynigion i atgyfnerthu'r canllawiau presennol ar daliadau gwasanaeth.
A ydych yn cytuno bod y cynigion hyn yn helpu i atgyfnerthu'r canllawiau presennol ar daliadau gwasanaeth drwy sicrhau mwy o dryloywder, tegwch ac atebolrwydd wrth reoli taliadau gwasanaeth?
(Ydw/Nac ydw/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 4
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y dylai’r polisi rhent gymdeithasol newydd fod yn gymwys o 1 Ebrill 2026. Yn eich barn chi, a ddylai’r polisi bara am bum neu 10 mlynedd?
(5 mlynedd / 10 mlynedd / Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 5
A ydych yn cytuno â'r cynnig y dylid caniatáu i renti gynnydd hyd at CPI+1% y flwyddyn?
(Ydw/Nac ydw/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 6
A oes gennych farn ynghylch a ddylid newid y paramedrau sy'n sbarduno ymyrraeth gan Weinidogion Cymru wrth bennu rhenti. Y sbardun hwnnw ar hyn o bryd yw pan fydd y CPI yn cynyddu neu'n gostwng y tu hwnt i'r paramedrau o 0% - 3%.
(Na/Oes – esboniwch/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 7
Cred Llywodraeth Cymru fod rhesymau da dros barhau i ddefnyddio CPI mis Medi i lywio'r cynnydd mewn rhenti ar gyfer y mis Ebrill canlynol, ond mae'n cydnabod y gall hyn roi pwysau sylweddol ar landlordiaid i gynnal yr holl weithgareddau angenrheidiol cyn i'r newidiadau mewn rhenti gael eu rhoi ar waith o fis Ebrill. Rydym wedi asesu opsiynau ac yn cynnig y dylid defnyddio mesur CPI y mis Ebrill blaenorol i lywio'r cynnydd mewn rhenti ar gyfer y flwyddyn ganlynol (h.y. defnyddio CPI mis Ebrill 2025 i lywio'r cynnydd mewn rhenti i'w gymhwyso o fis Ebrill 2026).
A oes gennych unrhyw sylwadau ar b'un a ddylem gadw'r cysylltiad â CPI y mis Medi blaenorol neu ddiwygio hyn i CPI y mis Ebrill blaenorol ar gyfer cynnydd mewn rhenti i'w cymhwyso o'r mis Ebrill canlynol?
(Oes/Nac oes/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 8
A ydych yn cytuno â'r cynnig i barhau i roi'r hyblygrwydd i landlordiaid cymdeithasol ddiwygio rhenti unigol hyd at £2.55 ychwanegol (wedi'i addasu yn unol i chwyddiant) er mwyn helpu i sicrhau bod rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy?
(Ydw/Nac ydw/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 9
A oes gennych unrhyw safbwyntiau pellach ar sut y gallem geisio cynnwys mesurau diogelu a/neu fwy o hyblygrwydd er mwyn helpu i ymateb i anwadalrwydd economaidd a chynnydd sydyn ar sail chwyddiant yn y dyfodol yn fwy?
(Oes/Nac oes/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 10
A ydych yn cytuno â'r safbwynt bod ailgyflwyno'r polisi bandiau rhent targed a gorfodi cydymffurfiaeth a thablau data Llywodraeth Cymru ar fandiau rhent targed yn tanseilio galwadau'r sector am hyblygrwydd ac ymreolaeth, ac y byddai'n cyflwyno cymhlethdod diangen ac yn lleihau tryloywder wrth bennu rhenti cymdeithasol?
(Ydw/Nac ydw/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 11
A ydych yn cytuno â'r cynnig y dylai polisi rhenti cymdeithasol ar gyfer y dyfodol barhau i fod yn gymwys i'r holl dai anghenion cyffredinol a gwarchod a ariennir drwy raglenni Llywodraeth Cymru neu a ddarperir o adnoddau landlordiaid eu hunain (h.y. cadw'r rhestr bresennol o eiddo sydd wedi’u heithrio fel y'i nodir yn yr Atodiad i'r Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth bresennol)?
(Ydw/Nac ydw/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 12
Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o drafodaethau parhaus ar fodel ‘rhenti cynnes’. Rydym yn rhagweld y bydd y sylfaen dystiolaeth ar y pwnc hwn yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf. Rydym am ddechrau ystyried a ellid cynnwys darpariaeth ‘rhenti cynnes’ mewn polisi rhenti byw ar gyfer y dyfodol. Sut rydych yn rhagweld y byddai hyn yn gweithio? (Esboniwch)
Cwestiwn 13
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi'r sector i ddysgu o arferion presennol ac ysgogi gwelliant parhaus. Byddwn yn adolygu ac yn gwella'r ffordd rydym yn casglu data er mwyn cyhoeddi gwybodaeth i gefnogi landlordiaid a sicrhau mwy o atebolrwydd i denantiaid.
Yn eich barn chi, pa wybodaeth ychwanegol y dylai Llywodraeth Cymru ei chasglu a'i chyhoeddi er mwyn bodloni'r amcan hwn ac ateb y galwadau am fwy o ddata cyhoeddus? (Esboniwch)
Cwestiwn 14
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y polisi rhenti cymdeithasol ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?
(Oes/Nac oes/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 15
Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y polisi rhenti cymdeithasol er mwyn iddo:
- gael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
(Gellid/Na ellid/Ddim yn Siŵr – esboniwch pam)
Cwestiwn 16
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma. (Esboniwch)
Mae ymatebion i ymgyngoriadau yn debygol o gael eu gwneud yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.
Y camau nesaf
Mae'r ymgynghoriad ar agor am gyfnod o chwe mis tan 12 Awst 2025. Datblygwyd y cynigion polisi a amlinellir yn y ddogfen hon drwy fewnbwn uniongyrchol gan amrywiaeth eang o randdeiliaid o bob rhan o'r sector tai cymdeithasol, gan gynnwys cynrychiolwyr tenantiaid. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn pennu a fydd Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r cynigion a amlinellir yn y ddogfen hon yn y Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth nesaf i Gymru, ac os felly, sut y bydd yn gwneud hynny.
