Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd safonau proffesiynol newydd ar gyfer staff yn y sectorau addysg bellach a dysgu’n seiliedig ar waith eu lansio heddiw yng Nghynhadledd ColegauCymru ar Addysg Ôl-16.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y safonau yn gosod disgwyliadau uchel ar bob ymarferwr, gan fod yn fwy eglur am swyddogaeth dysgu proffesiynol cydweithredol o safon uchel i gefnogi gwelliannau.  Maent yn adlewyrchu pwysigrwydd dysgu proffesiynol parhaus i staff a’r rhan y mae dysgu galwedigaethol yn ei chwarae wrth greu y gweithlu crefftus, arloesol a hyblyg y mae Cymru ei angen.

Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

"Mae dysgu galwedigaethol yr un mor bwysig ag addysg academaidd, ac os ydym am gael y gorau i’n dysgwyr galwedigaethol, mae’n rhaid cefnogi eu hathrawon, eu tiwtoriaid a’u haseswyr   yn eu gwaith.  Mae’r safonau newydd hyn yn gosod fframwaith clir, uchelgeisiol ar gyfer y sector.

"Prif egwyddor dysgu galwedigaethol yw bod y rhai sy’n gweithio o fewn y meysydd Addysg Bellach a Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn tueddu i weithredu fel gweithwyr proffesiynol deuol, sef arbenigwyr mewn ‘galwedigaeth’ ac fel ‘athrawon’.  Mae hyn wedi ei wneud yn haen ganolog drwy gydol y safonau.

"Dwi’n hyderus y bydd y safonau hyn yn cynnwys ac yn ysgogi ymarferwyr a’u cyflogwyr ymhellach, wrth iddynt geisio sicrhau rhagoriaeth a gwell canlyniadau i bawb."

Meddai Kelly Edwards, Pennaeth Dysgu’n Seiliedig ar Waith Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru:

"Roedd y sector Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn falch iawn o fod yn rhan o ddatblygu’r safonau newydd.  Bydd y safonau yn cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr Dysgu’n Seiliedig ar Waith, gan ganolbwyntio ar ddatblygu gweithwyr proffesiynol deuol.  Rydym yn croesawu’r safonau fel cam pwysig i wella cydnabyddiaeth broffesiynol i’r sector Dysgu’n Seiliedig ar Waith yng Nghymru."

Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru, elusen addysg ôl-orfodol Cymru:

"Mae datblygu safonau proffesiynol yn rhywbeth sy’n cael ei groesawu gan ColegauCymru. Mae Addysg Bellach yn rhoi’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth y mae cymunedau yn dibynnu arnynt, rydym yn cefnogi hyn yn llawn a byddwn yn hyrwyddo’r safonau fel ffordd o sicrhau bod y cyhoedd a’r proffesiwn fel ei gilydd yn deall yr hyn sydd ei angen i barhau i ddarparu sgiliau o safon byd-eang yn y byd gwaith sy’n newid yn barhaus."