Neidio i'r prif gynnwy

O’r mis hwn ymlaen, gofynnir i feddygfeydd teulu yng Nghymru gofnodi anghenion gwybodaeth a chyfathrebu eu cleifion sydd â nam ar y synhwyrau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi datgelu gwelliannau i Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Pobl â Nam ar y Synhwyrau, sy'n helpu i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth am wasanaethau mewn modd hygyrch a dealladwy, yn ogystal ag unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt wrth gyfathrebu. 

O’r mis hwn ymlaen, gofynnir i feddygfeydd teulu yng Nghymru gofnodi anghenion gwybodaeth a chyfathrebu eu cleifion sydd â nam ar y synhwyrau. Bydd y system yn golygu bod gan staff meddygfeydd teulu y dulliau sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion claf, megis sut i lunio llythyron mewn print bras, a rhoi nodiadau atgoffa ar gofnodion cleifion.

Bydd yr ail gam yn sicrhau bod anghenion gwybodaeth a chyfathrebu claf yn cael eu hanfon yn awtomatig pan fydd meddyg teulu yn atgyfeirio claf i'r ysbyty. Bydd hyn yn golygu felly y bydd yn fwy tebygol bod yr anghenion hyn yn cael eu diwallu. 

Ar hyn o bryd, ychydig bach iawn o wybodaeth fel hon sy'n cael ei gofnodi fel mater o drefn mewn meddygfeydd teulu ac adrannau ysbytai. Mae hyn yn golygu y gall fod yn anodd rhannu gwybodaeth am anghenion cyfathrebu claf mewn ffordd ddiogel ac effeithiol rhwng meddygfeydd, adrannau ysbytai a gwasanaethau gofal iechyd eraill.

Mae nam ar y synhwyrau yn effeithio ar bobl o bob oed ac mae gan fwy na 600,000 o bobl yng Nghymru nam ar eu clyw neu eu golwg, neu gyfuniad o'r ddau. Mae'r problemau hyn yn arbennig o gyffredin ymhlith oedolion hŷn, gyda dros 70% o'r boblogaeth dros 70 oed yn dioddef o nam ar eu clyw, ac 1 ym mhob 3 o bobl dros 85 oed yn byw gyda nam ar eu golwg yng Nghymru.

Yn 2014, datgelodd arolwg gan Action on Hearing Loss Cymru, RNIB Cymru a Sense Cymru mai dim ond 1 ym mhob 5 o’r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg oedd wedi cael eu holi gan staff yr GIG am eu hanghenion gwybodaeth a chyfathrebu.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae anghydraddoldeb iechyd yn broblem rydw i wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hi yma yng Nghymru, drwy roi anghenion defnyddwyr gwasanaethau wrth galon y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd.

"Mae pobl sydd â  nam ar eu synhwyrau yn fwy tebygol o ddioddef cyflyrau iechyd, yn ogystal â lefelau uwch o salwch meddwl. Felly, mae angen iddynt fod yn gallu cael mynediad at bob math o ofal iechyd, nid dim ond gwasanaethau offthalmoleg ac awdioleg.

"Rwy'n falch ein bod yn arwain ar yr ymgyrch 'Gwneud Synnwyr' eleni, sy'n ein galluogi i addysgu ac atgoffa gweithwyr iechyd proffesiynol am eu rhwymedigaethau cyfreithiol, er mwyn sicrhau bod pobl sydd â nam ar eu synhwyrau yn gallu ymdrin â'u problemau iechyd yn yr un modd â'r rheini heb nam ar y synhwyrau. Bydd yn ofynnol i holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG weithredu'r Safon hon i sicrhau gwybodaeth hygyrch.”