Neidio i'r prif gynnwy

Pwnc: eiriolaeth dros safonau golwg llymach i yrwyr yng Nghymru

Mae Pwyllgor Optometrig Cymru wedi adolygu'r adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol [troednodyn 1] a gyflwynwyd gan y crwner Dr James Adeley, dyddiedig 17 Ebrill 2025, yn ymwneud â phedair marwolaeth a ddigwyddodd oherwydd gyrwyr yr oedd eu golwg yn is na safonau cyfreithiol y DU ar gyfer cerbydau Dosbarth I ar adeg eu gwrthdrawiadau traffig ffyrdd.

Yn anffodus, nid yw'r digwyddiadau ofnadwy hyn yn unigryw ac maent yn tynnu sylw at yr angen brys i ailwampio safonau gyrru i ddod â'r DU yn unol â safonau ledled Ewrop a'r byd ehangach. Nid yw deddfwriaeth sy'n ymwneud â safonau gyrru wedi'i datganoli, ac mae angen newid gan lywodraeth ganolog y DU. Fodd bynnag, mae gan Gymru gyfle i osod cynsail yn y Deyrnas Unedig drwy gymryd safbwynt pendant ar y mater hwn o ddiogelwch y cyhoedd.

Mae gyrru yn parhau i fod yn rhan annatod o fywyd bob dydd i lawer, yn enwedig mewn gwlad fel Cymru sydd â chynifer o ardaloedd gwledig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i sicrhau diogelwch pob defnyddiwr ffordd barhau i fod yn flaenoriaeth hollbwysig. Barn Pwyllgor Optometrig Cymru yw y bydd cyflwyno gofynion profi golwg a gorfodi mwy trylwyr a dibynadwy yn gwella diogelwch ar y ffyrdd yn sylweddol ac yn lleihau'r risgiau a achosir gan yrwyr sydd â golwg annigonol.

Daeth adroddiad Dr Adeley i'r casgliad bod y marwolaethau hyn dim ond oherwydd golwg gwael y gyrwyr oedd ar fai. Mewn ymateb, dywedodd Gweinidog Dyfodol Ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth [troednodyn 2] eu bod yn credu ei bod yn “hanfodol i yrwyr flaenoriaethu archwiliadau llygaid rheolaidd a chymryd mesurau cywiro i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau golwg angenrheidiol ar gyfer gyrru.”

Nid yw gyrwyr y DU yn cael mesur gwrthrychol o olwg ac asesiad o iechyd y llygaid: Nid yw Deddf Traffig Ffyrdd 1937 yn addas i'r diben mwyach.

Mae'r gofynion golwg presennol i wneud cais am drwydded gan y DVLA yn dibynnu ar brawf sgrinio o graffter golwg yn y pellter ar adeg y prawf gyrru (heb brawf maes golwg), a hunanardystio wrth adnewyddu.  Mae llawer o fodurwyr yn gallu ac yn mynd dros 50 mlynedd o'u bywydau heb unrhyw gwestiwn ynghylch eu golwg. Nid yw hyn yn ddigonol i werthuso addasrwydd gyrrwr i lywio ein ffyrdd yn ddiogel, gan beryglu cerddwyr, defnyddwyr eraill y ffordd, a'r gyrrwr ei hun.

Efallai na fydd gyrwyr ag amhariad ar y golwg heb ei gywiro (neu sydd heb gael diagnosis) yn gallu ymateb yn brydlon i beryglon, mae ganddynt risg uwch o gael damwain [troednodyn 3] ac efallai na fyddant yn ymwybodol o'u hamhariad. Yn fwy pryderus, mae ymchwil [troednodyn 4] yn y DU yn dangos y gallai modurwyr amau eu hamhariad, ac efallai eu bod hyd yn oed wedi cael gwybod nad ydynt bellach yn gyfreithlon i yrru, ac yn dewis parhau er gwaethaf cyngor gan eu hoptometrydd, optegydd, neu feddyg.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Coleg yr Optometryddion a Chymdeithas yr Optometryddion eu hymateb i'r digwyddiadau hyn [troednodyn 5], gyda llythyr agored at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a phwysleisiodd nad yw dull y DU yn gydnaws ag arfer gorau yn rhyngwladol.

Mae Pwyllgor Optometrig Cymru yn cefnogi'r argymhellion fel y'u nodir yn y llythyr hwn yn llawn a byddai'n mynd ymhellach ac: argymell archwiliadau llygaid diogelwch gyrru gorfodol ar adeg cyhoeddi trwydded yrru Dosbarth I, gydag isafswm ailbrofi gorfodol ar gyfnodau penodol o fywyd.

Yn Ewrop, dim ond pum gwlad sydd ar ôl sy'n dal i ddefnyddio prawf plât trwydded ar gyfer profion craffter golwg, a dim ond tair gwlad sydd ar ôl sy'n dibynnu ar hunanadrodd cyflwr golwg gan y gyrrwr. Y cyfnod posibl rhwng gwiriadau yn y DU yw'r hiraf yn Ewrop (hyd at 53 mlynedd), heb unrhyw wiriad cadarn o gwbl.

Noder fel enghreifftiau ledled y byd:

  • mae Awstralia yn ei gwneud yn ofynnol ailbrofi bob 5 mlynedd ar ôl 50 oed, gan gynyddu i bob 3 i 5 mlynedd ar ôl 65 oed, a bob 1 i 2 flynedd ar ôl 75 oed (yn amrywio yn ôl talaith)
  • bob 10 mlynedd (bob 5 mlynedd ar ôl 50 oed) yn yr Eidal
  • bob 4 i 10 mlynedd yn UDA (yn amrywio yn ôl talaith)

Dylai'r rhai sy'n gwneud cais/ailymgeisio am drwydded yn y DU wynebu mesurau diogelu cyfnodol y tu hwnt i'r prawf "plât rhif" sylfaenol.

Dylai'r profion hyn gynnwys asesiadau o graffter golwg ar y pwynt cyhoeddi ac o leiaf bob 10 mlynedd ar ôl hynny, a phrofion ychwanegol (fel golwg perifferol a sensitifrwydd i gyferbyniad) ar y pwynt cyhoeddi ac yn rheolaidd dros oedran wedi'i ddiffinio ymlaen llaw.

Dylai'r profion hyn gael eu gweinyddu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol rheoleiddiedig priodol, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (optometrydd, optegydd, neu feddyg) a gellir eu hystyried ar wahân neu yn atodol i archwiliadau llygaid arferol.

Mae rhoi hyn yng ngofal gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn darparu atebolrwydd, llywodraethu ac yn cynnal safonau proffesiynol. Maent mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi'r safonau hyn ac eisoes yn gwneud hynny yn rheolaidd [troednodyn 6]. Dylai pasio safonau o'r fath gael ei adrodd gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn hytrach na'i hunanddatgan gan y claf a dylai'r gofyniad am gywiriad barhau i gael ei nodi ar drwyddedau a gyhoeddir.

Mae gyrwyr wedi arfer â chostau defnyddiwr ffordd (fel treth ffordd, MOT, atgyweiriadau) ac felly, er budd eu diogelwch nhw a'r cyhoedd dylent fod yn barod i sicrhau eu bod yn parhau i fod mor addas i'r ffordd fawr â'u cerbyd.

Yn ogystal â gwella diogelwch cyffredinol y boblogaeth, mae cyfle sylweddol hefyd i ganfod a thrin patholeg ociwlar a systemig yn gynharach yn ei chwrs, mewn cyfran uwch o'r boblogaeth, tra hefyd yn rhoi cyngor hanfodol ‘gwneud i bob cyswllt gyfrif’. Yng Nghymru, nid yw ~1 o bob 5 [troednodyn 7] unigolyn yn cael mynediad at ofal llygaid rheolaidd. Mae patrwm cymdeithasol strwythuredig ynghylch safonau golwg hefyd yn gyfle i addysg gyhoeddus ar y safonau [troednodyn 8], ac ar gyfer mecanwaith wedi'i egluro lle gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol uwchgyfeirio pryderon ynghylch cleifion o dan ei ofal. Mae archwiliadau llygaid ar gael ar draws mwy na thri chant o bractisau a thros dri deg o ddarparwyr yn y cartref ledled Cymru.

Byddai gweithredu mesurau cynhwysfawr nid yn unig yn amddiffyn bywydau gyrwyr, ond hefyd yn diogelu cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr eraill y ffordd. Mae gan wledydd sydd wedi mabwysiadu safonau golwg llymach yn llwyddiannus welliannau amlwg mewn diogelwch ar y ffyrdd [troednodyn 9].

Gall Cymru eirioli dros newid.

Mae Pwyllgor Optometrig Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried sefyllfa'r proffesiwn, ac i gymryd camau i adolygu a chryfhau'r safonau golwg ar gyfer gyrwyr. Edrychwn ymlaen at eich ymateb ac at weld Cymru yn arwain y ffordd o ran blaenoriaethu diogelwch ar y ffyrdd.

Yn gywir,

Nkosi Yearwood (ef/ei)
Optometrydd | Cadeirydd, ar ran Pwyllgor Optometrig Cymru.

Darllen pellach

[1]. Adroddiad gan Dr James Adely: Adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol ynghylch Peter Westwell, Mary Cunningham, Grace Foulds, and Anne Ferguson ar wefan Judiciary.UK [Fel ym mis Mehefin 2025]
[2]. Ymateb gan Weinidog Dyfodol Ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth: Ymateb Adran Trafnidiaeth ar wefan Judiciary.UK [Fel ym mis Mehefin 2025]
[3]. Nguyen, H., Di Tanna, G.L., Coxon K., et al (2023) Associations between vision impairment and vision-related interventions on crash risk and driving cessation: systematic review and meta-analysis. British Medical Journal (BMJ) Open doi:10.1136/bmjopen-2022-065210
[4]. 2024 Ymchwil gan Gymdeithas yr Optometryddion yn 2024: 'One in four concerned about someone they know driving with poor vision new figures reveal' ar wefan Cymdeithas yr Optometryddion [Fel ym mis Mehefin 2025]
[5]. Llythyr ar y cyd gan Goleg yr Optometryddion a Chymdeithas yr Optometryddion at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth: 'Joint response calls on transport secretary to review the vision laws for drivers' ar wefan Cymdeithas yr Optometryddion [Fel ym mis Mehefin 2025]
[6]. Visual impairment and road safety among older road users: Medi 2022 adroddiad ar y cyd rhwng yr Adran Drafnidiaeth a Choleg yr Optometryddion 
ar wefan Coleg Optometryddion [Fel ym mis Mehefin 2025]
[7]. Derbyn Archwiliadau Llygaid, 2019 i 2021 Data pellach gan StatsCymru [Fel ym mis Mehefin 2025]
[8]. Taflen ffeithiau'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau: Safonau golwg a gyrru ar wefan y Cymdeithas Brenhinol ar gyfer Atal Damweiniau [Fel ym mis Mehefin 2025]
[9]. Arsyllfa Diogelwch ar y Ffyrdd Ewrop, marwolaethau ar y ffyrdd yn ôl gwlad Ewropeaidd 2010 i 2023, ar wefan Y Comisiwn Ewropeaidd [Fel ym mis Mehefin 2025]