Mae pobl ar eu gwyliau yng Nghymru yn mynd i elwa o Fil newydd gyda'r nod o ddatblygu twristiaeth yng Nghymru a chynyddu faint o lety ymwelwyr o ansawdd uchel sydd ar gael.
Bydd angen trwydded ar ddarparwyr llety gwyliau a bydd rhaid iddynt fodloni set o safonau sy'n dangos bod y llety yn addas ar gyfer ymwelwyr. Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn berthnasol i lety hunangynhwysol, hunanarlwyo fel bythynnod gwyliau a fflatiau. Bydd angen i ddarparwyr fodloni safon 'addasrwydd ar gyfer llety ymwelwyr' i gael trwydded, a hynny drwy ddangos bod ganddynt dystysgrifau diogelwch nwy a thrydanol ac yswiriant, ynghyd â larymau mwg a charbon monocsid.
Mae ymchwil yn dangos nad yw bron i ddau o bob tri o bobl sy'n cynllunio teithiau yn y DU yn gwybod nad oes angen trwydded ar berchnogion llety gwyliau ar hyn o bryd. Byddai dros 80% o bobl sy'n cynllunio teithiau yn y DU yn fwy tebygol o drefnu llety gwyliau pe bai cynllun trwyddedu yn bodoli.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
"Mae ymwelwyr wrth wraidd y Bil hwn. Drwy roi sicrwydd iddynt fod llety ymwelwyr yng Nghymru yn bodloni'r safonau y byddent yn eu disgwyl, gallwn fagu hyder yn y diwydiant a chefnogi ein sector twristiaeth hanfodol hyd yn oed ymhellach.
"Mae llawer o fusnesau eisoes yn gwneud y pethau cywir. Trwy ei gwneud yn ofynnol i bob busnes ddangos eu bod yn bodloni'r un safonau, rydym yn creu cystadleuaeth deg sy'n amddiffyn ymwelwyr a busnesau cyfrifol."
Mae'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn caniatáu i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol ymestyn trwyddedu i fathau eraill o lety.
