Bydd pobl yng Nghymru yn elwa ar safonau cliriach ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a hunan-niweidio ar draws y GIG a’r sector gofal cymdeithasol.
Mae dau ddatganiad ansawdd newydd yn cael eu cyhoeddi heddiw. Maent yn diffinio’r canlyniadau a’r safonau y mae rhaid i wasanaethau eu cyflawni, o gymorth mynediad agored ar yr un diwrnod i ofal sy’n ystyriol o drawma ar gyfer pobl sydd wedi hunan-niweidio.
Maent yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r camau gweithredu yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio uchelgeisiol a byddant yn helpu Cymru i ddod y genedl gyntaf i ddarparu gofal iechyd meddwl mynediad agored ar yr un diwrnod.
Mae tua 20 o gynlluniau peilot ledled Cymru wedi’u rhoi ar waith i ddarparu cymorth mynediad agored, gan helpu pobl i gael cymorth mawr ei angen yn gynt heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg. Bydd y rhain yn darparu’r sylfaen ar gyfer ehangu’r cymorth yn ehangach i ragor o wasanaethau a sefydliadau.
Mae’r “safleoedd arddangos” yn cynnwys gwasanaeth cyswllt iechyd meddwl y prifysgolion, sy’n darparu ymyrraeth gynnar a chymorth hawdd cael gafael arno i fyfyrwyr unrhyw un o’r 4 prifysgol yng Nghaerdydd:
- sef Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Prifysgol De Cymru
- Coleg Brenhinol Cerdd a Drama
Ers ei lansio yng Nghymru yn 2022, mae mwy na 240,000 o bobl wedi cysylltu â’r gwasanaeth 111 pwyso 2 am gymorth ar gyfer problem iechyd meddwl o natur frys.
Mae’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Meddwl yn 9 naw elfen graidd i ailgynllunio gwasanaethau sy’n cwmpasu’r nod o ofal mynediad agored, gan symud i ffwrdd o fodelau haenog traddodiadol tuag at system sy’n fwy hyblyg ac yn canolbwyntio ar adfer.
Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni sy’n cael eu cynllunio gyda phobl sydd ag ystod amrywiol o safbwyntiau a phrofiadau, dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma a gaiff eu hintegreiddio’n glir ac yn gyson i bob lefel o ofal, gwasanaethau sy’n hyblyg, yn seiliedig ar ddata ac yn gydweithredol a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae’r Datganiad Ansawdd Hunan-niweidio yn nodi 6 chonglfaen gofal o ansawdd uchel:
- sef triniaeth ar unwaith
- cymorth sy’n ystyriol o drawma
- parhad gofal
- cynllunio diogelwch
- cyfeirio holistaidd
- ymatebwyr medrus
Mae’n pwysleisio bod rhaid i ofal tosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fod ar gael i bawb sy’n hunan-niweidio, ni waeth beth fo’u bwriad.
Maent wedi eu datblygu gyda GIG Cymru, partneriaid y trydydd sector a phobl sydd â phrofiad bywyd.
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Bydd y safonau hyn yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl cyson, tosturiol ac effeithiol ble bynnag y maen nhw yng Nghymru.
Rydyn ni’n symud i ddyfodol newydd o wasanaethau mynediad agored yng Nghymru, fel y gall pobl gael yr help sydd ei angen arnyn nhw’n gynt a’u hatal rhag cyrraedd pwynt argyfwng. Bydd y safonau hyn yn ein helpu i wella gofal iechyd meddwl a chyflawni ein huchelgais.
