Neidio i'r prif gynnwy

Bydd digwyddiad am ddim yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (TDdA) yn cael ei gynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ddydd Iau 20 Tachwedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y digwyddiad, a drefnir gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn lansio galwad ledled y DU i ymarferwyr TDdA, yn dod â sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol ac ymarferwyr treftadaeth ynghyd i ddathlu'r traddodiadau byw sydd wedi'u hymgorffori mewn cymunedau ledled Cymru.

Bydd y dathliad undydd yn arddangos tapestri cyfoethog o dreftadaeth fyw, yn amrywio o grefftau a sgiliau traddodiadol i fynegiannau diwylliannol cyfoes.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys ystod amrywiol o weithgareddau trwy gydol y dydd. Bydd crefftwyr traddodiadol, gan gynnwys seiri maen, seiri coed ac eraill yn arddangos sgiliau treftadaeth yn Y Gweithdy. Yn yr Atriwm, bydd stondinwyr yn cynnwys y Ganolfan Gyryglau Genedlaethol a fydd yn arddangos amrywiaeth o gyryglau traddodiadol Cymru.

Mae uchafbwyntiau o ran y perfformiadau yn cynnwys cerddoriaeth a dawns o Gymru, adrodd straeon, dawns llew Tsieineaidd, Côr Meibion Rhisga, QWERIN, cerddwyr stilt Danceblast, a Chôr Ptasie Radio Cymru. Bydd catgorn eiconig Cymru, sef corn siâp S metelaidd anferth yn seiliedig ar yr hyn a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid hynafol wrth iddynt fynd i'r gad, hefyd yn cael ei arddangos ac ar waith.

Ar yr un pryd, bydd cyfres o sgyrsiau yn y ddarlithfa yn archwilio treftadaeth fyw o sawl persbectif:

  • pwysigrwydd treftadaeth fyw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru
  • sut mae treftadaeth fyw yn ymddangos mewn cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol
  • mynegi treftadaeth fyw drwy'r celfyddydau a sgiliau treftadaeth

Mae'r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael yn y ddarlithfa.