Neidio i'r prif gynnwy

Haint yw salmonela sy'n effeithio ar anifeiliaid (gan gynnwys da byw) ac adar. Mae'n cael ei achosi gan facteria.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae salmonela yn gallu cael ei drosglwyddo i bobl:

  • mewn bwyd wedi'i halogi
  • trwy gysylltiad â chynnyrch a rhannau cyrff anifeiliaid sydd wedi'u heintio
  • trwy gysylltiad â siediau a bwyd anifeiliaid sydd wedi'u heintio

Amheuon a chadarnhad

Os ydych yn meddwl bod eich haid neu'ch buches yn dioddef o salmonela, cysylltwch â'ch milfeddyg preifat.

Arwyddion clinigol        

Gall yr arwyddion amrywio rhwng rhywogaethau, ond maen nhw'n cynnwys:

  • dolur rhydd (gall fod â gwaed neu fwcws ynddo)
  • blinder
  • cyfogi a gwres

Mae llawer o anifeiliaid, er bod salmonela arnyn nhw, yn edrych yn iach.

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Mae salmonela'n bod yn naturiol ym mherfedd llawer o anifeiliaid gwahanol. Gall anifeiliaid gael eu heintio:

  • gan eu hamgylchedd
  • trwy fwyta bwyd wedi'i halogi
  • gan eu mamau cyn iddyn nhw gael eu geni neu ddeor

Mae anifeiliaid â salmonela arnyn nhw yn gollwng y bacteria yn eu tail Gall hynny halogi:

  • rhannau eraill y corff - ffwr, pluf neu gen
  • cartre a chynefin yr anifeiliaid, gan gynnwys eu bwyd

I helpu i atal  a rheoli salmonela:

  • cadwch at fesurau bioddiogelwch da a
  • rhaglenni rheoli cenedlaethol y llywodraeth sy'n ceisio gostwng lefelau'r haint mewn anifeiliaid sy'n fwyd i bobl, gan gynnwys ieir

Mae triniaeth yn gallu bod yn anodd ac ofer. Yn enwedig mewn heidiau dofednod pan fydd llawer o adar wedi'u heintio. Bydd angen ynysu dofednod sydd wedi'u heintio a'u difa. Mae modd rhoi gwrthfiotig i rai anifeiliaid. Dylech drafod hyn â'ch milfeddyg.