Sarah Johns Prif Swyddog Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol
Sarah Johns yw'r Prif Swyddog Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol.
Mae hi'n eiriolwr dros broffesiynau iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.
Mae Sarah Johns yn darparu arweinyddiaeth strategol ar faterion iechyd cyhoeddus amgylcheddol. Mae hi'n rhoi cyngor arbenigol i Weinidogion Cymru, swyddogion y llywodraeth a phartneriaid allanol.
Mae hi'n ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd cyhoeddus amgylcheddol, megis:
- parodrwydd, gwytnwch a'r gallu i ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol
- pryderon iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â chemegau, ymbelydredd, ac ansawdd aer, tir a dŵr
- diogelwch bwyd a chlefydau sy'n cael eu cario mewn bwyd dŵr, tai, iechyd a diogelwch, ac iechyd porthladdoedd
- risgiau iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd
- penderfynyddion amgylcheddol ehangach iechyd
Mae hi'n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru a chydag adrannau Llywodraeth y DU. Mae hi hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol, asiantaethau GIG Cymru a phartneriaid system eraill.
Mae gan Sarah Johns gefndir ym maes iechyd amgylcheddol. Mae hi'n Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd Siartredig, yn Gymrawd o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ac yn aelod o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd. Yn meddu ar dros 25 mlynedd o brofiad, mae hi wedi ymgymryd â rolau amrywiol ar draws llywodraeth leol.
