Neidio i'r prif gynnwy

Datgelwyd heddiw y bydd swm o dros £4 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn sefydlu rhwydwaith cenedlaethol newydd er rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i godi safonau mewn ysgolion yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y bydd y rhwydwaith newydd yn targedu gwelliannau mewn sgiliau athrawon mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn gwella profiadau disgyblion yn y pynciau hynny tra byddant yn yr ysgol.


Bydd hefyd yn golygu y bydd ysgolion yn gweithio gydag adrannau gwyddoniaeth a thechnoleg prifysgolion, consortia addysg, addysg bellach ac arbenigwyr eraill i ddysgu a manteisio ar yr arferion gorau sydd ar gael.


Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi dros £1.6 miliwn yn 2016-17 er mwyn cefnogi pynciau STEM a newid y pwyslais o wyddoniaeth BTEC i wyddoniaeth TGAU mewn ysgolion a bydd y rhwydwaith yn adeiladu ar y mesurau hyn.

Bydd y rhwydwaith newydd er rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gwneud y canlynol:

  • dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf ym maes ymarfer addysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i ddysgwyr 3 i 18 oed.
  • cydlynu’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno datblygiad proffesiynol cydnabyddedig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i athrawon yn seiliedig ar dystiolaeth fyd-eang a lleol o’r hyn sy’n gweithio.
  • gwella profiadau disgyblion o wyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgolion ledled Cymru.
  • galluogi ysgolion i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu cyrsiau, adnoddau addysgu ac ymchwil yn seiliedig ar waith ddosbarth.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae dealltwriaeth o wyddoniaeth yn hanfodol i’n pobl ifanc, o’r dechnoleg maent yn ei defnyddio a’r ffordd maent yn cyfathrebu i’r ynni maent yn ei ddefnyddio mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae hefyd yn hanfodol i Gymru a sut rydyn ni’n datblygu ein heconomi.

“Mae ein nod mewn gwyddoniaeth yn fwy na’r gallu i ymgymryd ag arbrofion syml neu gofio cysyniadau sylfaenol. Yn hytrach rydyn ni am weld ein pobl ifanc yn gallu rhesymu’n wyddonol a deall gwerth dulliau gwyddonol o weithredu. Mae hyn yn allweddol yn yr unfed ganrif ar hugain a hefyd yn destun profion PISA. Mae ein cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio er mwyn integreiddio’n well y dulliau hyn o fynd ati i addysgu a dysgu a bydd y rhwydwaith hwn er rhagoriaeth yn ein helpu ni i wella sgiliau a gwybodaeth ein gweithlu addysg er lles ein disgyblion oll.

“Roedd canlyniadau PISA mewn gwyddoniaeth yn ategu ein dealltwriaeth ni ein hunain nad ydyn ni yn y man lle rydyn ni am fod. Bydd y rhwydwaith newydd hwn er rhagoriaeth yn rhan o’n cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg i godi safonau