Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, wrth edrych ymlaen at Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth, mae Llywodraeth Cymru yn dathlu llwyddiannau genethod gan ailddatgan ei hymrwymiad i'w cadw'n ddiogel, i warchod eu hyder ac i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu gwerthfawrogi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae thema eleni, “The girl I am, the change I lead: Girls on the frontlines of crisis”, yn tynnu sylw at ddewrder ac arweiniad genethod dan amgylchiadau heriol.

Yn ôl ystadegau gan y Coleg Plismona, cynyddodd adroddiadau o drais yn erbyn menywod a genethod yng Nghymru a Lloegr gan 37% rhwng 2018 a 2023, gydag o leiaf un o bob deuddeg menyw yn profi trais gan ddyn bob blwyddyn - er bod y gwir niferoedd yn debygol o fod yn llawer uwch.

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn blaenoriaethu atal, ymyrraeth gynnar a chymorth i oroeswyr.

Gall unrhyw un sy'n profi aflonyddu rhywiol, ymddygiad bygythiol neu gam-drin domestig gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn, sy'n darparu cymorth 24 awr y dydd dros y ffôn, neges destun, sgwrs fyw neu e-bost.

Mae Mel Owen, digrifwr, awdur ac eiriolwr o Gymru, yn defnyddio ei phlatfform i godi ymwybyddiaeth o aflonyddu rhywiol cyhoeddus a thrais yn erbyn menywod. Yn gynharach eleni, rhannodd ei phrofiadau personol ochr yn ochr â'r cyflwynydd Jess Davies, lle tynnwyd sylw at gyffredinrwydd achosion o aflonyddu rhywiol a sut mae wedi effeithio arnynt hwy. Fe wnaethant bwysleisio pwysigrwydd defnyddio gwasanaethau cymorth fel Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, a reolir gan Cymorth i Ferched Cymru. Mae’r llinell hon yn cynnig cyngor cyfrinachol 24 awr y dydd ar faterion sy'n ymwneud â cham-drin domestig a thrais rhywiol.

Dywedodd Mel Owen

"Fel cynifer o fenywod ledled Cymru, mae gen i brofiad o deimlo'n fach neu'n anniogel wrth wneud dim ond bodoli mewn mannau cyhoeddus. Mae rhannu straeon personol ar y pwnc hwn yn gallu bod yn frawychus ond, o wneud hynny, rydw i wedi gweld y pŵer a ddaw pan fydd menywod yn cefnogi ei gilydd. Y mwyaf rydyn ni'n siarad am aflonyddu rhywiol, y mwyaf rydyn ni'n chwalu'r diwylliant sy'n caniatáu iddo barhau.”

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

"Does dim lle i aflonyddu, cam-drin na thrais yn ein cymdeithas. Rydyn ni'n gweithio i newid agweddau o oedran cynnar oherwydd mae pob geneth yn haeddu teimlo'n ddiogel, yn haeddu cael ei pharchu a'i chefnogi i gyrraedd ei photensial.

"Ddeng mlynedd yn ôl, gwnaethom gyflwyno'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sydd wedi gwella ymwybyddiaeth, hyfforddiant a mynediad at wasanaethau cymorth i ddioddefwyr trais a cham-drin ledled Cymru. Heddiw, rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein hymrwymiad i ddileu trais yn erbyn menywod a genethod, gan wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw neu'n eneth.

"Rydw i’n annog unrhyw un mewn sefyllfa anniogel i geisio cymorth drwy linell gymorth Byw Mewn Ofn."

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, am gymorth a chyngor:

Os ydych mewn perygl uniongyrchol ac os nad yw'n ddiogel ichi siarad, ffoniwch 999 ac yna 55 i dynnu sylw'r heddlu.