Neidio i'r prif gynnwy

Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Mae ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yn un lle caiff diwydiannau cynaliadwy eu cadw yng Nghymru, gan gynnal gyrfaoedd a swyddi o ansawdd uchel a rhoi buddion eraill i’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Rydym eisiau i ddiwydiant a chynhyrchu ynni leihau’n fawr eu dibyniaeth ar danwyddau ffosil a chynhyrchu llawer llai o nwyon tŷ gwydr, ynghyd â chael cynlluniau credadwy ar gyfer pontio tuag at sero net.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd o’r farn bod yr holl lwybrau credadwy y gellir eu rhoi ar waith er mwyn galluogi Cymru i gyrraedd allyriadau sero net yn cynnwys rôl sylweddol i Ddal a Storio Carbon (CCS). Mae gan CCS botensial i ddatgarboneiddio sawl rhan o’r economi, yn cynnwys diwydiant, cynhyrchu ynni, gwresogi a thrafnidiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd CCS o ran cyrraedd sero net, ynghyd â’r cyfleoedd economaidd sylweddol y gall y dechnoleg eu cynnig i ddiwydiannau, busnesau a dinasyddion Cymru. Gwelwn rôl ar gyfer gweithredu seilwaith CCS mewn modd penodol, lle bydd yn cyflymu’r gostyngiad mewn allyriadau wrth bontio oddi wrth danwyddau ffosil. Pan na ellir osgoi defnyddio tanwyddau ffosil, dylai’r allyriadau gael eu dal a’u storio’n ddiogel ac yn barhaol mewn ffurfiannau daearegol diogel.

O’r herwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod CCS yn addas i’r diben, y bydd o fudd i ddinasyddion Cymru, ac y bydd yn cyfrannu at ein nod llesiant o ran cyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i annog defnydd o seilwaith CCS:

1. Pan mae’n gwneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaol at dargedau ac amcanion datgarboneiddio

Pan fo gofynion cydsynio, deddfwriaethol a pholisi presennol yn mynnu, dylai datblygwyr gyflwyno tystiolaeth o gyfraniad mesuradwy a pharhaol at ddatgarboneiddio a sero net trwy leihau allyriadau a gaiff eu rhyddhau i’r atmosffer ar y safle y gweithredant arno neu’r safle y bwriadant weithredu arno.

Mae’r polisi’n cydnabod y gall rhai cyfleusterau a sectorau gyfiawnhau’r angen i barhau i ddefnyddio tanwyddau ffosil, ac y gall fod yn briodol edrych y tu hwnt i ffiniau cyfleusterau, pan fo cyfundrefn gydsynio benodol yn caniatáu hynny, i ddarparu tystiolaeth o ddatgarboneiddio. Er enghraifft, gall pŵer y gellir ei anfon sy’n deillio o danwyddau ffosil ac a gaiff ei leihau gan CCS esgor ar enillion datgarboneiddio net lle mae’n helpu i gyflwyno ynni adnewyddadwy ychwanegol.

2. Pan mae CCS yn ategu ac yn cyflymu’r pontio oddi wrth danwyddau ffosil 

Un o bolisïau pendant Llywodraeth Cymru yw lleihau’n fawr ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ar draws economi Cymru. Law yn llaw â pholisïau a deddfwriaethau ehangach sy’n berthnasol i ynni a diwydiant yng Nghymru, mae ein polisi mewn perthynas â CCS yn cynnal amcan clir i bontio oddi wrth danwyddau ffosil, yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar CCS.

Ni fwriedir i CCS gymryd lle’r arfer o leihau allyriadau yn fwy cyffredinol. Ac ni ddylai CCS gyfiawnhau’r arfer o ddefnyddio tanwyddau ffosil ar lefelau anghynaliadwy, na llesteirio ein cynnydd o ran pontio tuag at sero net. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd bod yr holl lwybrau credadwy tuag at allyriadau sero net ar gyfer Cymru yn cynnwys rôl sylweddol i CCS.

Mae polisïau a deddfwriaethau presennol a datblygol yng Nghymru yn annog effeithlonrwydd ynni, lleihad mewn ynni, ac ynni adnewyddadwy. Dylid ystyried y polisi strategol hwn mewn perthynas â CCS ar y cyd â pholisïau a deddfwriaethau eraill sy’n ymwneud ag ynni, datgarboneiddio a sectorau penodol, ac sy’n berthnasol i ddatblygiadau CCS.

Yn arbennig, mae Polisi Cynllunio Cymru yn disgwyl i bob datblygiad newydd liniaru achosion newid hinsawdd yn unol â’r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn mynnu bod yn rhaid lleihau allyriadau yng Nghymru i lefel sydd o leiaf 100% islaw’r llinell sylfaen (sef lefelau 1990). Mae Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn gosod targedau heriol ar gyfer allyriadau mewn blynyddoedd interim, sef lleihad o 63% erbyn 2030 a lleihad o 89% erbyn 2040.ons in interim years to be reduced by 63% by 2030 and 89% by 2040.

3. Pan mae creu allyriadau’n cael ei osgoi yn gyntaf

Dylid rhoi blaenoriaeth i osgoi allyriadau, er mwyn annog yr arfer o bontio oddi wrth gloddio a defnyddio tanwyddau ffosil, ond hefyd er mwyn sicrhau bod seilwaith CCS datblygol, a chyfyngedig ar hyn o bryd, yn cael ei dargedu at y mannau lle gall esgor ar y canlyniadau economaidd a datgarboneiddio mwyaf.

Mae’r polisi’n cydnabod na fydd newid tanwydd ac enillion effeithlonrwydd bob amser yn dechnegol nac yn economaidd hyfyw ac mae’n cefnogi CCS yn yr achosion hynny. Ond ym mhob achos, dylai datblygwyr ddangos tystiolaeth eu bod yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg CCS a’r seilwaith sydd ar gael, o gofio natur benodol eu cyfleusterau, er mwyn cyflawni datgarboneiddio ac amcanion ehangach yn ymwneud â llesiant a’r economi.

4. Pan mae CCS yn cyfrannu at economi gynaliadwy sy’n tyfu

Dylai datblygwyr ddangos y modd y bydd defnyddio CCS yn cyfrannu at economi gynaliadwy ac yn cyflawni pontio teg oddi wrth danwyddau ffosil.

Trwy ddefnyddio CCS yn effeithiol, gellir creu a diogelu diwydiannau cynaliadwy a swyddi o ansawdd uchel, ynghyd ag arwain at fuddion eraill i’r cymunedau perthnasol. Hefyd, bydd pontio tuag at economi carbon isel yn esgor ar fuddion ehangach, megis mannau gwell i fyw a gweithio ynddynt, gyda dŵr ac aer glân a chanlyniadau iechyd gwell.

Dylai datblygwyr ystyried cynyddu’r buddion a’r cyfleoedd i ddinasyddion ledled Cymru, gan feithrin ymddiriedaeth a derbyniad ar gyfer eu prosiectau ymhlith rhanddeiliaid.

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn mynnu bod yn rhaid i bob datblygiad fynd i’r afael â datblygu cynaliadwy yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan sicrhau bod yr arfer o ddatblygu a defnyddio tir yn cyfrannu at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Gofynion tystiolaeth

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd strategol CCS ac maent wedi derbyn barn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, sef bod CCS yn hanfodol os ydym am gyflawni a chynnal sero net. Fodd bynnag, bydd seilwaith CCS yn ddarostyngedig i wahanol gyfundrefnau cydsynio, ynghyd â fframwaith polisi a chymorth esblygol, sy’n anelu at ddiogelu dinasyddion a’r amgylchedd, a chyflawni rhwymedigaethau statudol mewn perthynas â llesiant a datgarboneiddio.

O’r herwydd, yn unol â chyfundrefnau cynllunio presennol, trefniadau trwyddedu amgylcheddol a gofynion trwyddedu, mae’r cyfrifoldeb dros ddangos bod CCS yn cyfrannu at ddatgarboneiddio yn yr hirdymor, a dangos ei fod yn adeiladu economi wyrddach a chryfach, yn gorwedd ar ysgwyddau datblygwyr.

Nid yw’r polisi hwn yn cyflwyno gofynion tystiolaeth newydd; yn hytrach, mae’n cynnig cyd-destun ychwanegol ar gyfer gofynion cyfundrefnau cydsynio sy’n bodoli eisoes (cynllunio, trwyddedu amgylcheddol ac ati).

Yr unig beth mae datblygwyr yn gyfrifol amdano yw dangos tystiolaeth o’r lleihad mewn allyriadau yn eu cyfleusterau (yn unol â gofynion cydsynio presennol). Nid yw’r polisi’n mynnu bod yn rhaid i ddatblygwyr gyflwyno tystiolaeth o’r lleihad byd-eang net mewn allyriadau. Nod y polisi hwn yw annog CCS pan fo’n lleihau allyriadau a gaiff eu rhyddhau i atmosffer Cymru, sef rhywbeth a fydd, yn ei dro, yn cyfrannu at ymdrechion datgarboneiddio’r DU a’r byd.

Bydd canllawiau ychwanegol ar ofynion tystiolaeth, a’r modd mae’r polisi hwn yn integreiddio â chyfundrefnau cydsynio presennol, yn cael eu llunio maes o law er mwyn cynorthwyo datblygwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau cydsynio.

Dim ond i ystyriaethau dal a storio carbon y mae’r polisi hwn yn berthnasol. Ymdrinnir â defnyddio CO2 fel polisi ar wahân.