Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r cyllid i adeiladu pum ysgol gynradd newydd yn nalgylch Gwernyfed ym Mhowys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyllid ar gael fel rhan o'r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.  Mae'r rhaglen hon, sy’n werth £1.4 biliwn, yn ffrwyth cydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol, gyda'r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yng Nghymru.

Mae Cyngor Sir Powys wedi cael £11.8 miliwn i gyfrannu at gyfanswm cost y prosiect o £23.8 miliwn. Bydd hyn yn caniatáu i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y prosiectau canlynol:

  • Ysgol Gynradd Gymunedol y Gelli Gandryll
    Bydd ysgol gynradd gymunedol newydd gyda lle i 210 o blant yn disodli'r ysgol bresennol sydd â 161 o ddisgyblion yn y dosbarthau derbyn i flwyddyn 6. Bydd cyfleusterau yn yr ysgol newydd ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â chyfleusterau ieuenctid / cymunedol a llyfrgell gyhoeddus. Bydd hyn yn paratoi ar gyfer y cynnydd yn niferoedd y disgyblion a welir yn sgil sawl datblygiad tai newydd y bwriedir eu hadeiladu yn y dyfodol yn y Gelli Gandryll.
  • Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru yng Nghleirwy
    Bydd ysgol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghleirwy gyda lle i 120 o blant yn disodli'r ysgol bresennol sydd ag 85 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Bydd yr ysgol hon hefyd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar. Diben yr ysgol newydd yw ateb y galw a ragamcenir am leoedd yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yng ngogledd y dalgylch.
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Bronllys/Talgarth
    Bydd ysgol gynradd gymunedol gyda lle i 150 o blant a gaiff ei hadeiladu ar safle maes glas yn Nhalgarth yn disodli dwy ysgol bresennol – Ysgol Gynradd Gymunedol Talgarth sydd â 56 o ddisgyblion, ac Ysgol Gynradd Gymunedol Bronllys sydd â 32 o ddisgyblion. Bydd cyfleusterau ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chyfleusterau ieuenctid a chymunedol ar gael yn yr ysgol newydd hon hefyd. Bydd y datblygiad hwn yn paratoi ar gyfer y cynnydd yn niferoedd y disgyblion yn Nhalgarth a'r ardal ehangach yn sgil nifer o ddatblygiadau tai newydd dros y blynyddoedd nesaf.
  • Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru yn Llan-gors
    Bydd ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru yn Llan-gors gyda lle i 150 o blant yn disodli'r ysgol bresennol sydd â lle ar gyfer 146 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys lle ar gyfer disgyblion y blynyddoedd cynnar, ac yn ateb y galw am leoedd yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yn ne'r dalgylch.
  • Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru - yr Archddiacon Griffiths, Llys-wen
    Bydd ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru gyda lle i 150 o blant yn disodli'r ysgol bresennol sydd â lle ar gyfer 129 o ddisgyblion. Bydd yr ysgol hon yn ateb y galw am leoedd yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yng ngorllewin y dalgylch. Bydd gan yr ysgol hon hefyd gyfleusterau ar gyfer y blynyddoedd cynnar.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies:

“Mae sicrhau buddsoddiad cyfalaf yn ystod y cyfnod economaidd anodd ar hyn o bryd yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer deilliannau addysgol gwell ond hefyd i barhau i gefnogi ein diwydiant adeiladu ac ar gyfer twf yr economi.

“Mae hyn yn newyddion gwych i bobl leol ac ar gyfer dyfodol addysg yn yr ardal hon.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Ysgolion, y Cynghorydd Arwel Jones:

“Rydym wrth ein bodd bod y cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer pum ysgol gynradd newydd yn nalgylch Gwernyfed wedi cael eu cymeradwyo'n derfynol gan Lywodraeth Cymru, fel y gall y gwaith adeiladu ddechrau mor fuan â phosibl.

“Rhyngddyn nhw, bydd yr ysgolion yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf lle y gall dysgwyr ifanc gael eu haddysgu, gan ddangos ymrwymiad y cyngor i addysg ym Mhowys.”