Mae Bil mentrus ac uchelgeisiol sy'n anelu at drawsnewid ein hymateb i ddigartrefedd wedi cael ei basio gan y Senedd heddiw.
Bydd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn newid ein system ddigartrefedd yn sylfaenol, felly mae'n canolbwyntio ar atal a darparu mwy o ddulliau o gefnogi pobl i gael cartrefi tymor hwy.
Ymhlith prif elfennau'r Bil mae:
- Trawsnewid y system ddigartrefedd yng Nghymru fel ei bod yn canolbwyntio ar adnabod ac atal yn gynharach.
- Targedu gweithredu at y rhai sydd mewn perygl fwyaf.
- Canolbwyntio ar ymateb aml-asiantaeth i ddigartrefedd, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus Cymru at ei gilydd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrywiol digartrefedd.
Yn dilyn y bleidlais lwyddiannus yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
"Mae'r Bil hwn yn unigryw. Mae wedi'i wreiddio yn y profiad byw o ddigartrefedd ac mae pob rhan o'r Bil yn ymateb i brofiadau go iawn o'r system.
Mae heddiw yn drobwynt gwirioneddol i Gymru. Bydd y Bil yn trawsnewid ein system ddigartrefedd, gan symud i ffwrdd o un sy'n ymateb i argyfwng a thuag at un sy'n canolbwyntio'n gadarn ar atal, oherwydd mae pawb yn haeddu lle diogel i'w alw'n gartref.
"Mae'r Bil mentrus ac uchelgeisiol hwn – yn rhoi'r dulliau i ni greu system decach, atal digartrefedd, cefnogi pobl i gartrefi parhaol, a symud yn agosach at ein huchelgais hirdymor o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru."
