Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â cheisiadau am gyllid a gyflwynir i Lywodraeth Cymru o dan raglen Sêr Cymru, Dyfarnu Offer Gwella Cystadleurwydd 2022/23.

Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth am y rhai sy'n gwneud cais i Ddyfarnu Offer Gwella Cystadleurwydd Sêr Cymru 2022/23 fel rhan o'i thasg gyhoeddus i weinyddu'r cyllid.

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data unrhyw ddata personol a ddarperir fel rhan o'r broses gwneud cais. 

Bydd y data hyn yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad gwaith, a'ch cyfeiriad e-bost gwaith a ddarperir ar y ffurflen gais, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych yn dewis ei chynnwys fel rhan o'ch curriculum vitae (CV).

Byddwn yn prosesu eich data personol er mwyn gweinyddu'r broses gwneud cais, cadarnhau eich bod yn gymwys, llywio penderfyniadau cyllido a chyflawni rhwymedigaethau archwilio. Mewn rhai achosion, gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth i fonitro perfformiad ac effaith y rhaglen.

Os bydd angen, byddwn yn rhannu eich data â swyddogion o Lywodraeth Cymru, Gweinidogion Cymru, swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a/neu Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru at ddibenion archwilio a gydag asiantaethau anllywodraethol ac ymchwilwyr, ond dim ond at ddibenion ystadegol neu ymchwil, fel monitro a gwerthuso rhaglen Sêr Cymru. Gall y data a ddarperir gennych, neu'r data a gasglwn o ffynonellau cyhoeddus, gael eu rhannu ag asiantaethau atal twyll os byddwn yn amau neu'n canfod twyll.  

Rydym hefyd yn annog pob ymgeisydd i ddefnyddio'r ddolen yn y pecyn cais er mwyn rhoi gwybodaeth ddemograffig i ni a fydd yn ein helpu i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'r arolwg hwn yn wirfoddol ac yn ddienw ac ni fydd yn gysylltiedig â'ch cais.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw data yn unol ag amserlenni yn ei pholisïau ei hun ac, yn achos y cynllun grant hwn, mae hyn yn golygu:

Ar gyfer ceisiadau a fu'n llwyddiannus o dan yr alwad gyllido, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw data am 10 mlynedd ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau ac yna caiff y data eu dileu. Mae'r cyfnod cwblhau yn cynnwys yr amserlenni ar gyfer unrhyw ofynion monitro parhaus.

Ar gyfer ceisiadau aflwyddiannus, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw data am flwyddyn ac yna caiff y data eu dileu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu dal amdanoch;
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i ofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data     
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: SwyddogDiogeluData@wales.gsi.gov.uk 

Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch yr hysbysiad hwn, cysylltwch â'r blwch post isod: sercymru@llyw.cymru