Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi rownd cyllid newydd gwerth £10 miliwn dros ddwy flynedd (2023 i 2024 a 2024 i 2025) ar gyfer y rhaglen Sêr Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol i helpu i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol “gryf a deinamig” yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Gweinidog yr Economi yn cadarnhau buddsoddiad o £10 miliwn ar gyfer rhaglen Sêr Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol.
  • Lansiwyd Sêr Cymru i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol “gryf a deinamig” yng Nghymru.
  • Bydd Cam IV y rhaglen yn canolbwyntio ar ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a datblygu syniadau arloesi tarfol i helpu i ddatrys yr heriau economaidd-gymdeithasol sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach.
  • Mae’r rhaglen yn elfen hanfodol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gadw a denu talent, a datblygu ymhellach weithlu medrus iawn.

Sefydlwyd y rhaglen Sêr Cymru i sicrhau bod gwyddoniaeth yn chwarae ei rhan lawn wrth gefnogi datblygiad economaidd a chenedlaethol Cymru.

Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae rhaglen Sêr Cymru wedi addasu i gyd-fynd â newidiadau ym maes ymchwil, ac arweinwyr datblygu ac arloesi, sydd yn ei dro wedi ymateb i faterion economaidd ac iechyd megis canlyniadau ymadael â’rUE ac effeithiau pandemig COVID-19.  Mae’r rhaglen wedi cynhyrchu dros £252 miliwn mewn incwm ymchwil fel enillion drwy fuddsoddiad o £110 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gan lwyddo i adeiladu capasiti a gallu ym maes ymchwil Cymru.

Mae’r buddsoddiad wedi cynnwys:

  • Cam I a II a oedd yn cefnogi nifer o Gadeiryddion Ymchwil proffil uchel a sêr sy’n datblygu, 115 o Gymrodoriaethau Ymchwil, 340 o ysgoloriaethau ymchwil doethuriaeth ac ôl-ddoethuriaeth, a 9 seren sy’n datblygu ar gyfer prosiectau ymchwil a gefnogir.
  • Cam III a roddodd £2.5 miliwn o gyllid i Brifysgolion Cymru ar gyfer 40 o brosiectau ymchwil newydd a allai gyfrannu at ddatblygiad ymchwil sy’n effeithio ar COVID-19, neu ei gryfhau. Yn fwy diweddar rhoddwyd cyllid ychwanegol (£2.3 miliwn) i bum prifysgol yng Nghymru (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth) i brynu offer ar gyfer y meysydd ymchwil rhyngddisgyblaethol fel gofal iechyd, lled-ddargludyddion cyfansawdd a chynhyrchu hydrogen a charbon isel a niwclear.

Bydd lansiad cam IV newydd yn cefnogi’r cenadaethau yn Strategaeth Arloesi newydd Llywodraeth Cymru, sy’n sôn am y nod i Gymru fod yn genedl flaenllaw o ranr arloesedd. Mae Sêr Cymru yn elfen gyflawni bwysig o’r Strategaeth hon.

Er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i Gymru o’r rownd cyllid nesaf, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau canlynol:

  • Carbon isel
  • Gwyddorau bywyd
  • Peirianneg uwch
  • Cyfrifiadura uwch

Wrth ymgynghori’n agos â rhanddeiliaid, disgwylir i’r tri gweithgaredd gorau a gaiff eu hariannu gynnwys:

  • Ysgoloriaethau PhD
  • Dyfarniadau adeiladu capasiti
  • Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol

Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â Chenhadaeth Llywodraeth Cymru i Gryfhau ac Adeiladu’r Economi, gan gynnwys uchelgeisiau fel cadw talent, denu talent, uwchsgilio a gwella cysylltedd.

Wrth gyhoeddi Sêr Cymru IV, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae gan wyddoniaeth gyfraniad enfawr a hanfodol i’w wneud wrth ymateb i’r heriau amrywiol sy’n wynebu Cymru a gweddill y byd.

“Rwy’n falch iawn o’r cynnydd y mae Sêr Cymru eisoes wedi’i wneud. Diolch i Sêr Cymru, rydym wedi dod ag ymchwil ac ymchwilwyr gwirioneddol ragorol i Gymru.

“I’r perwyl hwn, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o barhau i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol gref a deinamig yma yng Nghymru. Bydd cadw, uwchsgilio a denu talent yn allweddol i gyflawni ein hamcanion fel y nodir yn ein Strategaeth Arloesi.

“Mae’r buddsoddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn dangos bod Cymru’n wlad flaengar, hyderus, sy’n croesawu busnes a chydweithio rhyngwladol.”

Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Jas Pal Badyal FRS:

Mae gwyddoniaeth yn ganolog i lwyddiant economaidd Cymru. Nod Sêr Cymru yw parhau i hyrwyddo a chefnogi’r gwaith o ddarparu ymchwil wyddonol sydd ar flaen y gad acsy’n cael effaith uchel ledled Cymru. Mae hyn yn hanfodol os ydym am ddatblygu’r syniadau arloesi tarfol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau economaidd-gymdeithasol a wynebir yng Nghymru a’r byd ehangach heddiw.

“Bydd ffocws ar ragoriaeth mewn gwyddoniaeth yn helpu i ysgogi cynnydd mewn ysbryd cystadleuol yn y sector ymchwil. Bydd hyn, yn ei dro, yn cefnogi’r gwaith o gryfhau gallu a chapasiti ymchwil yng Nghymru ac yn cynyddu ein trosoledd wrth gael gafael ar gyllid o ffynonellau’r DU a thramor.

“Nid yn unig bydd y buddsoddiad o £10 miliwn yng ngham nesaf Sêr Cymru yn helpu i wneud y mwyaf o gyfraniad y sector ymchwil addysg uwch yng Nghymru, ond bydd hefyd yn cefnogi ymyriadau eraill – yn enwedig y rhai i ysbrydoli a meithrin gwyddonwyr y dyfodol y bydd cymaint yn dibynnu arnynt.”

Mae cam blaenorol Sêr Cymru yn parhau i weithredu tan ddiwedd mis Mehefin 2023, pan ddaw cyllid Ewropeaidd ar gyfer y rhaglen i ben.