Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddwyd i sicrhau'r cyfle hwn i fyfyrwyr o Gymru gyda diolch i ysgoloriaeth sy'n cael ei hariannu ar y cyd gan Yale Young Global Scholars (YYGS) a Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y disgyblion, sydd i gyd yn perthyn i Rwydwaith Seren, yn ymuno â dros 1500 o fyfyrwyr eraill o 126 o wledydd a 50 o daleithiau yn yr Unol Daleithiau ar Raglen Yale’s Young Global Scholars (YYGS) ar gampws New Haven Prifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau, yn rhan o'r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan yr ysgoloriaeth newydd drwy Rwydwaith Seren.

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn ymuno â'r grŵp cyntaf o ddisgyblion o Gymru i deithio i gampws New Haven wrth iddi edrych ar ffyrdd o adeiladu ymhellach ar y cyswllt sydd eisoes wedi'i wneud â'r brifysgol drwy Seren.

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd yn teithio i Brifysgol Havard a MIT yn Boston i drafod cyfleoedd newydd a ffyrdd o gydweithio.

Llwyddwyd i sicrhau'r cyfle hwn i fyfyrwyr o Gymru gyda diolch i ysgoloriaeth sy'n cael ei hariannu ar y cyd gan Yale Young Global Scholars (YYGS) a Llywodraeth Cymru. Talwyd am y costau hedfan drwy nawdd gan fusnesau yng Nghymru sydd i gyd yn cefnogi'r myfyrwyr o Gymru.

Bydd pob un o'r myfyrwyr yn treulio pythefnos ar gampws New Haven Yale lle byddant yn cymryd rhan mewn rhaglen academaidd fanwl iawn o dan arweiniad academyddion byd-eang mewn un o chwe maes sy'n cynnwys Materion Rhyngwladol a Diogelwch, Ffiniau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a Gwleidyddiaeth, Y Gyfraith ac Economeg.

Mae'r bartneriaeth wedi'i sefydlu i ehangu gorwelion academaidd myfyrwyr o Gymru er mwyn rhoi blas o fywyd mewn prifysgol yn yr Unol Daleithiau a'r cyfle i wneud ceisiadau cryf i brifysgolion pan fyddant wedi dychwelyd.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae'r ffaith ein bod wedi gallu sefydlu partneriaeth a fydd yn gweld rhaglen nodedig Yale, Young Global Scholars, yn cael ei chynnig i fyfyrwyr yng Nghymru yn llwyddiant mawr i Seren.

“Rwy'n falch iawn o'r cyfle i ymuno â'r grŵp cyntaf o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y rhaglen haf fythgofiadwy hon ac yn edrych ymlaen at greu cysylltiadau newydd gyda phrifysgolion eraill wrth i ni geisio agor drysau newydd i ragor o'n myfyrwyr.

“Rydw i am i bob disgybl ym mhob ysgol yng Nghymru wybod nad oes cyfyngiadau ar y cyfleoedd academaidd sydd ar gael os bydd yn gweithio'n galed. Dyma, yn fy marn i, enghraifft berffaith o'r hyn sy'n bosibl ac rydw i am ddiolch i bob un o'r noddwyr a wnaeth gyfraniad i wireddu hyn.”

Llwyddwyd i  greu'r bartneriaeth hon drwy gyfraniad Liam Raham, alumnus o Brifysgol Yale a aned ac a fagwyd yn Sir Gaerfyrddin. Ac yntau'n Gyd-gyfarwyddwr E-Qual Recruitment Education yng Nghaerdydd a Gorllewin Cymru, mae Liam yn gefnogwr brwd o Rwydwaith Seren ac wedi bod yn gwbl allweddol drwy gydol y broses o greu'r bartneriaeth. Mae E-Qual Recruitment Education yn un o brif noddwyr y bartneriaeth ac wedi codi dros £10,000 i dalu am gostau hedfan y myfyrwyr i'r Unol Daleithiau ac yn ôl.

Dywedodd Liam:

“Ers dychwelyd i Gymru y llynedd, mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda myfyrwyr o Gymru sydd â'r potential mwyaf drwy Rwydwaith Seren a hefyd i fod ar y panel cyfweld ar gyfer Swyddfa Derbyn Israddedigion Yale yng Nghymru drwy Bwyllgor Ysgolion Alumni Yale.

“Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi gweithio i sefydlu'r berthynas rhwng Young Global Scholars Yale a Rhwydwaith Seren a phen draw hynny yw gweld y bartneriaeth a'r cyfleoedd arbennig yma i gynnig ysgoloriaeth.

“Bydd yr ysgolion yn rhoi cyfleoedd bythgofiadwy i fyfyrwyr disgleiriaf Cymru sydd yn y chweched dosbarth ar hyn o bryd a bydd yn rhoi cyfle i Yale groesawu rhai o fyfyrwyr mwyaf dawnus Cymru.”