Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Rhagfyr 2023.

Cyfnod ymgynghori:
11 Hydref 2023 i 31 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem gael eich barn am y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi’r broses o bontio i sero net ar gyfer pob sector allyriadau yng Nghymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar y canlynol:

  • canfyddiadau Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net a'r 8 sector allyriadau (fel y nodwyd yn Sero Net Cymru)
  • sefyllfa bresennol sectorau yng Nghymru, gan gynnwys unrhyw grwpiau sgiliau sydd eisoes yn bodoli neu adroddiadau ymchwil / tystiolaeth i helpu i lywio camau gweithredu
  • anghenion sgiliau'r dyfodol a thystiolaeth o'r galw sy'n gysylltiedig â cherrig milltir allweddol (gan gynnwys llwybrau newid hinsawdd, buddsoddiadau allweddol neu gyfleoedd buddsoddi, newidiadau mewn arferion diwydiant sy'n cyd-fynd â lleihau carbon, technolegau newydd, datblygiadau allweddol, polisïau, gweithgareddau pontio ac ati
  • themâu trawsbynciol, sy’n cynnwys digidol, caffael, y Gymraeg ac arloesi, er mwyn nodi’r hyn sy’n gyson a’r anghenion sgiliau  
  • yr heriau a’r rhwystrau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu i uwchsgilio a chreu gweithlu medrus

Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu mapiau ffyrdd ar gyfer sgiliau pob sector.

Dogfennau ymgynghori

Atodiad A: map ffordd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 35 KB

PDF
35 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.